Melin wynt: nodiadau o’r cyfarfod cyhoeddus

Cwestiynau a sylwadau yn y Cyfarfod cyhoeddus, Chwefror 17 2012

  • Pellter o dai a sŵn
  • Pa mor effeithlon ydyn nhw – erthygl diweddar yn y Daily Post yn dweud ‘dydyn nhw ddim?
  • Potensial ar gyfer paneli PV – defnyddio’r arian i roi rhai ar bob tŷ yn lle ei wario ar dyrbein gwynt
  • Effaith ar dwristiaeth
  • Perthynas efo Glasfryn – angen siarad efo nhw
  • Copi o’r briff ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb i fod ar gael i bawb
  • Cael safle we ar gyfer y prosiect ar gyfer newyddion, ac i bobl roi sylwadau a holi cwestiynau
  • ‘Subterranean vibrations’ – cryndod trwy’r ddaear hyd at 1/2 cilomedr i ffwrdd (yn gwneud i organau mewnol y corff grynu)
  • Potensial geothermal
  • Cyfle cael canolfan ddehongli Tre’r Ceiri a nodweddion eraill yr ardal
  • Ystyried cael tyrbein llai er mwyn cael llai o wrthwynebiad yn lleol
  • Pleidlais gymunedol rwan (gwrthodwyd o’r gadair oherwydd does dim digon o ffeithiau ar gael eto i fedru penderfynu)
  • Effaith ar werth eiddo
  • Sŵn cynyddol o’r ffordd fawr yn fwy o broblem na sŵn tyrbein
  • Angen cyfathrebu gwell am y cynllun
  • ‘Dydy’r tyrbein ddim yn wyrdd – yn cymryd mwy o ynni i’w wneud/adeiladu
  • Mi ddylai’r pwyllgor wedi bod yn 50/50 dros ac yn erbyn
  • Effaith coed ar dyrbeini
  • Pryder y bydd caniatau un tyrbein yn agor y drws i ragor
  • Pa ganran o’r incwm bydd ar gael i’r gymuned?
  • Pwy fydd piau’r tyrbein?

Dogfennau o diddordeb