Yn ystod Haf 2020 daeth cyfle i gymeryd rhan yn y cynllun yma oedd yn fenter ar y cyd rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Menter Mon. Y briff oedd i weithio gyda phobol ifanc rhwyng 18 a 25 i weld be oedd eu gweledigaeth hwy am ddyfodiad eu cymunedau, ac os yn bosib trio datrys y problemau roeddynt yn eu gwynebu.Riedd arian ar gael i dalu am swyddog i weithio am 8 wythnos.
Hysbyswyd y swydd a daeth 4 cais dryf iawn i law. Ar ol y cyfweliadau penderfynwyd penodi Cian Ireland o Lanaelhaearn a Tomos Williams o Lithfaen.
Ydych chi rhwng 18-25 oed ac yn byw (neu wedi byw) yn Llanaelhaearn neu Trefor?? Os ydych, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am eich cymuned trwy lenwi’r holiadur hwn (Dim ond tua 5 munud y bydd yn ei gymryd)
Yr Adroddiad
Gellir lawrlwyddo yr adroddiad yma neu sgrolio lawr i’w ddarllen
_Prosiect Byw a Bod Llanaelhaearn Amodau Bobl Ifanc yn Llanaelhaearn37574 CYWIRIADAU (1)
Prosiect Byw a Bod Llanaelhaearn – Amodau Bobl Ifanc yn Llanaelhaearn: Problemau a sut i’w Datrys
Cian Ireland a Tomos Williams
Cynnwys Pecyn
Diffiniadau
Cyflwyniad
Ystadegau gan Sefydliadau
Adborth
Problemau Wedi’u Nodi
Adnoddau Llanaelhaearn a Trefor
Datrys Problemau Sy’n Wynebu Pobl Ifanc Lleol
Casgliadau
Diffiniadau
Bobl Ifanc – Bydd ‘bobl ifanc’ yn cael ei diffinio fel unigolion sy’n 18-25 blwydd oed.
Ardal Llanaelhaearn – Bydd ‘Ardal Llanaelhaearn’ yn cael eu diffinio fel plwyf Llanaelhaearn.
ONS – Office for National Statistics
Cyflwyniad
Fel rhan o’r prosiect Byw a Bod yn Llanaelhaearn a Trefor rydym wedi casglu gwybodaeth i ddeall beth yw’r problemau mae pobl ifanc yn ardal Llanaelhaearn yn wynebu, yn canolbwyntio ar y pwyntiau yma:
– Datblygu cyfleoedd gwaith, yn arbennig swyddi mewn technoleg, yr amgylchedd a llesiant a gofal.
– Gwella’r amgylchedd a chyfrannu tuag at yr ymdrech i atal cynhesu byd eang.
– Gwella safon tai a chynyddu argaeledd tai i drigolion y gymuned.
– Gwella ein cysylltiad â’r byd trwy wneud y mwyaf o’r we a chynllun trafnidiaeth amgen.
Pwrpas y ddogfen yma yw casglu’r wybodaeth wnaethom ddarganfod yn ystod ein hymchwiliad. Wedi gwneud hyn byddwn yn dod i gasgliadau ynglŷn â’r prif broblemau mae pobl ifanc ardal Llanaelhaearn yn eu hwynebu a sut i’w datrys. Bydd dulliau ar sut mae’r wybodaeth wedi’u casglu yn cael ei egluro drwy gydol y ddogfen, gyda ffynonellau wedi’u casglu’n allanol wedi’u dyfynnu gyda throednodiadau.
Cyn dechrau rydym eisiau dweud diolch wrth Antur Aelhaearn am eu cefnogaeth a help trwy gydol y prosiect yma, yn enwedig Llyr ap Rhisiart. Na fyddem wedi medru cwblhau’r prosiect yma heb eu cymorth.
Ystadegau gan Sefydliadau
Trwy ofyn i sefydliadau a defnyddio ceisiadau rhyddid wybodaeth wnaethom gasglu nifer o ystadegau fel man cychwyn i’r prosiect. Byddem yn defnyddio’r wybodaeth yma er mwyn dechrau deall amodau bobl ifanc yr ardal. Mae bob tabl gwybodaeth efo label ‘fig’ a rhif er mwyn hwyluso dyfynnu bellach ymlaen yn yr adroddiad.
Ystadegau nifer o bobl ifanc yn yr ardal
Fig 1.
Niferoedd o bobl ifanc yn ardal Llanaelhaearn
Oed |
Nifer o Unigolion 2001 |
Nifer o Unigolion 2011 |
Nifer o Unigolion 2018 (Efo Plwyf Pistyll) |
18 |
17 |
15 |
22 |
19 |
– |
18 |
13 |
20 |
38 |
20 |
12 |
21 |
– |
19 |
19 |
22 |
– |
14 |
13 |
23 |
– |
14 |
20 |
24 |
– |
9 |
31 |
25 |
Data anghyflawn |
10 |
32 |
Cyfanswm |
55 (Ddim yn cynnwys pobl 25 blwyddyn oed) |
119 |
162 |
Fig 2.
Data Cyfrifiad 2001 a 2011 ar gyfer Cyngor Cymuned Llanaelhaearn
Band Oed |
2001 (Nifer o unigolion mewn band oed) |
2001 (% o boblogaeth mewn band oed) |
2011 (Nifer o unigolion mewn band oed) |
2011 (% o boblogaeth mewn band oed) |
Newidiadau mewn % |
0-17 |
269 |
25.2% |
236 |
21.1% |
-12.3% |
18-24 |
55 |
5.2% |
109 |
9.8% |
98.2% |
25-64 |
527 |
49.4% |
565 |
50.6% |
7.2% |
65+ |
216 |
20.2% |
207 |
18.5% |
-4.2% |
Pob Oedran |
1,067 |
|
1,117 |
|
4.7% |
Fig 3.
Amcangyfrifon Poblogaeth Ganol 2018 ar gyfer AGEI Llanaelhaearn (sy’n cynnwys Cyngor Cymuned Llanaelhaearn a Phistyll efo’i gilydd)
Band Oed |
Nifer o unigolion mewn band oed 2018 (Llanaelhaearn) |
% o unigolion mewn band oed 2018 (Llanaelhaearn) |
Nifer o unigolion mewn band oed (Gwynedd) |
% o unigolion mewn band oed (Gwynedd) |
0-17 |
354 |
20.5% |
23,421 |
18.9% |
18-24 |
130 |
7.5% |
14,167 |
11.4% |
25-64 |
880 |
51% |
58,419 |
47% |
65+ |
362 |
21% |
28,171 |
22.7% |
Pob Oedran |
1,762 |
|
124,178 |
|
Ystadegau gwaith a diweithdra
Fig 4.
Canran o boblogaeth 18-64 Gwynedd yn hawlwyr credyd cyffredinol dros y 2 blwyddyn ddiwethaf
Dyddiad |
% o boblogaeth oed 18-64 Llanaelhaearn ar Gredyd Cyffredinol |
Mehefin 2018 |
1.43 |
Gorffennaf 2018 |
1.43 |
Awst 2018 |
1.43 |
Medi 2018 |
1.43 |
Hydref 2018 |
1.43 |
Tachwedd 2018 |
1.43 |
Rhagfur 2018 |
1.91 |
Ionawr 2019 |
1.91 |
Chwefror 2019 |
1.91 |
Mawrth 2019 |
1.91 |
Ebrill 2019 |
1.43 |
Mai 2019 |
1.43 |
Mehefin 2019 |
1.91 |
Gorffennaf 2019 |
1.91 |
Awst 2019 |
1.91 |
Medi 2019 |
1.91 |
Hydref 2019 |
1.91 |
Tachwedd 2019 |
2.39 |
Rhagfur 2019 |
2.39 |
Ionawr 2020 |
2.87 |
Chwefror 2020 |
2.39 |
Mawrth 2020 |
2.39 |
Ebrill 2020 |
3.82 |
Mai 2020 |
4.78 |
Mehefin 2020 |
4.78 |
Fig 5.
Tal fesul awr gweithwyr llawn amser cyfartaledd (heb gyfri oriau goramser) Gwynedd, Cymru a’r Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf
Blwyddyn |
Gwynedd (£) |
Cymru (£) |
Deyrnas Unedig (£) |
2009 |
9.87 |
11.20 |
12.40 |
2010 |
10.90 |
11.45 |
12.56 |
2011 |
11.26 |
11.50 |
12.62 |
2012 |
11.15 |
11.53 |
12.80 |
2013 |
11.11 |
11.98 |
13.08 |
2014 |
10.55 |
12.04 |
13.15 |
2015 |
10.36 |
12.30 |
13.33 |
2016 |
10.83 |
12.67 |
13.65 |
2017 |
10.96 |
12.75 |
13.99 |
2018 |
12.11 |
13.00 |
14.35 |
2019 |
12.49 |
13.64 |
14.88 |
Fig 6.
Tal fesul awr gweithwyr llawn amser cyfartaledd (heb cyfri oriau goramser) Gwynedd dros y degawd diwethaf wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant[1]
Blwyddyn |
Gwynedd (£ 2019) |
2009 |
13.39 |
2010 |
14.08 |
2011 |
13.83 |
2012 |
13.27 |
2013 |
12.83 |
2014 |
11.90 |
2015 |
11.57 |
2016 |
11.89 |
2017 |
11.62 |
2018 |
12.42 |
2019 |
12.49 |
Ystadegau troseddau
Fig 7.
Cyfradd troseddu fesul 1000 o’r boblogaeth dros 16 yn Llanaelhaearn yn 2019
Math o drosedd |
Cyfradd fesul 1,000 boblogaeth 16+ Llanaelhaearn |
Cyfradd fesul 1,000 boblogaeth 16+ Gwynedd |
Ymddygiad gwrthgymdeithasol |
15.61 |
22.77 |
Lladrad beic |
0.00 |
0.78 |
Byrgleriaeth |
4.97 |
4.97 |
Difrod troseddol a llosgi bwriadol |
9.23 |
11.53 |
Cyffuriau |
0.00 |
2.33 |
Troseddau eraill |
1.42 |
1.82 |
Lladrad eraill |
5.68 |
8.10 |
Meddiannu arfau |
0.00 |
0.42 |
Trefn Gyhoeddus |
6.39 |
9.31 |
Lladradau |
0.00 |
0.25 |
Dwyn o siopau |
0.00 |
6.04 |
Dwyn oddi wrth y person |
0.00 |
0.35 |
Drosedd cerbyd |
0.71 |
2.30 |
Trais a throseddau rhywiol |
34.78 |
40.15 |
Cyfanswm |
78.78 |
111.13 |
Fig 8.
Cyfradd troseddu fesul 1000 o’r boblogaeth dros 16 yn Llanaelhaearn yn 2020 (6 mis cyntaf)
Math o drosedd Cyfradd fesul 1,000 boblogaeth 16+ Llanaelhaearn Cyfradd fesul 1,000 boblogaeth 16+ Gwynedd |
|
|
Ymddygiad gwrthgymdeithasol |
12.07 |
13.04 |
Lladrad beic |
0.00 |
0.24 |
Byrgleriaeth |
0.71 |
1.71 |
Difrod troseddol a llosgi bwriadol |
2.84 |
5.18 |
Cyffuriau |
1.42 |
1.35 |
Troseddau eraill |
0.00 |
0.76 |
Lladrad eraill |
2.13 |
2.74 |
Meddiannu arfau |
0.00 |
0.27 |
Trefn Gyhoeddus |
4.97 |
4.63 |
Lladradau |
0.00 |
0.12 |
Dwyn o siopau |
0.00 |
2.21 |
Dwyn oddi wrth y person |
0.00 |
0.09 |
Drosedd cerbyd |
1.42 |
1.09 |
Trais a throseddau rhywiol |
18.45 |
17.93 |
Cyfanswm |
44.00 |
51.36 |
Cyfradd troseddu yn Llanaelhaearn yn waeth na chyfradd troseddu Gwynedd
Ystadegau Iaith
Fig 9
Canran o fand oed yn siarad Cymraeg yn Llanaelhaearn, Gwynedd a’r Deyrnas Unedig yn 2001 ac 2011
Band oed |
% o boblogaeth Llanaelhaearn sy’n siarad Cymraeg (2001) |
% o boblogaeth Gwynedd sy’n siarad Cymraeg (2001) |
% o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg (2001) |
% o boblogaeth Llanaelhaearn sy’n siarad Cymraeg (2011) |
% o boblogaeth Gwynedd sy’n siarad Cymraeg (2011) |
% o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg (2011) |
Pob oedran 3+ |
80.2% |
69.0% |
20.8% |
76.3% |
65.4% |
19.0% |
3-15 |
92.3% |
88.6% |
37.7% |
89.5% |
89.1% |
37.6% |
16-24 |
88.8% |
67.0% |
22.2% |
75.7% |
58.6% |
21.6% |
25-49 |
80.1% |
68.9% |
15.1% |
79.5% |
67.5% |
14.6% |
50-64 |
70.1% |
59.7% |
15.9% |
69.2% |
57.9% |
13.3% |
65+ |
74.8% |
63.5% |
19.5% |
69.6% |
58.0% |
16.2% |
Sefyllfa bobl ifanc Llanaelhaearn yn ôl yr ystadegau
Gan ddefnyddio’r wybodaeth uchod dechreuom ffurfio darlun o sefyllfa bobl ifanc yr ardal a dechrau adnabod problemau maent yn eu hwynebu yn y gymuned. Mae’n bwysig pwysleisio mae pwrpas edrych ar yr ystadegau yma oedd creu amlinelliad o’r sefyllfa ac i’n llywio wrth ystyried pa gwestiynau i ofyn i’r bobl ifanc wrth fynd ati i ymgynghori’n uniongyrchol a nhw.
Mae fig 1 yn dangos tyfiant ym mhoblogaeth Llanaelhaearn ers 2001. Roedd y tyfiant fwyaf yn y band oed 18-24, efo tyfiant o 98% yn ôl ystadegau fig 2. Hynny yw, mae’r nifer o bobl ifanc wedi bron iawn dyblu mewn degawd. Mae’n anodd dweud os oes lawer o newid wedi bod yn y niferoedd yma ers 2011 gan fod y wybodaeth oedd ar gael yn ychwanegu plwyf Pistyll a hynny yn ei wneud nesa peth at amhosib i ddatgan os oes newid wedi bod ai beidio. Gan ystyried y mater o ychwanegiad boblogaeth Pistyll mae’n debygol fod y boblogaeth wedi aros tua’r un maint. Bydd rhaid aros am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 i gadarnhau hyn.
Mae fig 3 yn dangos fod canran llai o boblogaeth plwyfi Llanaelhaearn a Phistyll yn y band oed 18-24 na’ sydd ar draws Gwynedd. Mae hyn yn awgrymu fod pobl ifanc yr ardal yn fwy tebygol o adael, yn enwedig gan ystyried fod y canran o unigolion yn y band oedran 0-17 yn uwch na’r canran ar draws Gwynedd. Un cwestiwn sy’n codi o’r dadansoddiad hyn yw, pam mae pobl ifanc Llanaelhaearn yn gadael yr ardal?
Mae’r ystadegau ar waith a chyflogaeth yn bwysig i ddeall sefyllfa bobl ifanc yn yr ardal ac, yn bosib, yn awgrymu ateb i’r cwestiwn ‘Pam fod pobl ifanc yn gadael?’. Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r wybodaeth yma wedi ei gategoreiddio fesul oedran ac fel canlyniad mae’n anodd gweld yn union beth yw sefyllfa gwaith bobl ifanc yr ardal. Pwysleisiwn hefyd fod y sefyllfa gwaith yn yr ardal yn gallu newid yn sydyn. Mae fig 4 yn dangos cynnydd sydyn, ers Mawrth 2020, yn y nifer sy’n hawlio credyd cyffredinol fel canlyniad i bandemig Covid 19.
Serch hyn, dros y blynyddoedd diwethaf nid yw diweithdra wedi bod yn broblem yn yr ardal. Yn lle hynny gwelwn fod tal gwael o fewn gwaith yn broblem fawr. Yn fig 5 gwelwn fod gweithwyr llawn amser yng Ngwynedd yn cael eu talu, ar gyfartaledd, £1.15 yr awr yn llai na gweithwyr llawn amser ar draws Cymru a £2.39 yn llai’r awr na gweithwyr llawn amser ar draws y DU. Ymhellach, mae fig 6 yn dangos fod tal mewn termau go iawn (gan ystyried chwyddiant rhwng 2009 ac 2019) wedi gostwng 90c yr awr rhwng 2009 ac 2019.
Gan fod pobl ifanc yn fwy tebygol o weithio mewn diwydiannau fel twristiaeth lle mae tal yn isel mae’n debygol fod bobl ifanc yn cael tal isel iawn am eu gwaith. Mae’r ystadegau’n awgrymu nad yw bobl ifanc yr ardal yn cael tal mor dda ag sy’n bosib mewn ardaloedd eraill yng Nghymru neu’r DU.
Mae’r ystadegau troseddu yn fig 7 a fig 8 yn dangos cyferbyniad rhwng ystadegau o 2019 a 2020. Mae’n rhaid cofio mae dim ond am 6 mis cynta’r flwyddyn mae ystadegau 2020 ac felly mae’n debygol nad ydynt yn cynrychioli’r sefyllfa’n llawn. Er hyn, mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod yna mwy o droseddu yn 2020 i gymharu â 2019, yn enwedig problemau trefn gyhoeddus. Mae’r ystadegau hefyd yn dangos fod, ar y cyfan, mae troseddu yn llai o broblem yn ardal Llanaelhaearn i gymharu â gweddill Gwynedd.
Mae’r ystadegau iaith Gymraeg yn fig 9 yn dangos fod y nifer o bobl ifanc ardal Llanaelhaearn sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng rhwng 2001 ac 2011. Nid oes wybodaeth fwy diweddar i weld os yw’r niferoedd wedi gostwng yn bellach ond mae’r gostyngiad yn y niferoedd yn syfrdanol. Mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y band oed 18-24 wedi gostwng 13.1% yn ystod y cyfnod. Hyd yn oed os yw ffigurau Cyfrifiad 2021 yn dangos fod y tuedd yma wedi dod i ben mae angen gofyn ‘Sut gall y gymuned codi’r niferoedd yn nôl?’.
Mae’n amlwg o’r ystadegau fod yna nifer o broblemau posib bydd bobl ifanc yn ardal Llanaelhaearn yn eu hwynebu. Mewn gwaith maent, ar gyfartaledd, yn cael eu talu’n llai na gweithwyr Cymru ar y cyfan, maent yn cael llai o dal fesul awr i gymharu â gweithwyr yn 2009, mae llai yn siarad Cymraeg, ac mae diweithdra’n codi wrth i bandemig Covid-19 effeithio’r economi leol. Dengys ystadegau fod pobl ifanc yn symud i ffwrdd ac yn awgrymu hefyd paham eu bod yn gwneud hyn. Er bod yr ystadegau yma’n bwysig i ddeall amodau bobl ifanc yr ardal, mae hefyd yn bwysig cyfathrebu’n uniongyrchol gyda nhw er mwyn creu darlun llawn o’r sefyllfa.
Adborth Bobl
Wedi edrych ar yr ystadegau, mae angen clywed gan bobl ifanc lleol eu hunain er mwyn dod i ddealltwriaeth gyflawn o’r sefyllfa. At y diben hwn cynhaliwyd arolwg o bobl ifanc 18-25 sy’n byw yn Llanaelhaearn a Trefor, arolwg o bobl ifanc 18-25 sydd wedi symud o’r ardal a sesiynau ‘Drop in’ lle’r oedd bobl ifanc lleol yn rhydd i ddod i mewn a siarad gyda ni. Y gobaith oedd, drwy’r ymdrechion hyn, medru deall teimladau bobl ifanc yr ardal a chlywed eu syniadau nhw ar sut i wella’r ardal.
Barn Bobl Ifanc mewn Sesiynau ‘Drop In’
Dros ddau sesiwn siaradom gyda phobl ifanc o wahanol oedrannau a chefndiroedd, gan ofyn nifer o gwestiynau tebyg i’r rhai yn yr holiaduron. Cyson yw’r ffordd orau i ddisgrifio’r ymatebion a gawsom i’r cwestiynau, gyda’r teimlad fod diffyg llefydd i bobl ifanc gymdeithasu ynghlwm a bron iawn pob ymateb. Y teimlad gan rai o’r bobl ifanc oedd bod y diffyg yma’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Fu parhad yn y thema pan ofynnom am awgrymiadau am sut i wella’r pentref i bobl ifanc, gyda llawer yn awgrymu creu lle i bobl ifanc cael cymdeithasu. Yn yr ymatebion cafodd caffi a/neu dafarn eu cynnig fel esiamplau ar sut i ddatrys y broblem.
Cyfraniad cyson arall gan bobl ifanc oedd y diffyg gwasanaethau yn y pentref, gyda diffyg siop yn y pentref yn brif enghraifft.
Roedd creu campfa yn awgrymiad arall a gododd nifer o weithiau.
Ar ben hynny roedd nifer o’r ymatebwyr yn teimlo nad oedd ganddynt gysylltiad gyda’r Antur, a hynny’n dangos yr angen i ymgysylltu pobl ifanc efo’r Antur.
Ymatebion Holiadur Bobl Ifanc 18-25 sy’n Byw yn yr Ardal
Fu’r ymatebion i’r holiadur hwn yn ddefnyddiol iawn wrth inni geisio canfod beth yw blaenoriaethau bobl ifanc yn yr ardal.
Prif flaenoriaeth bobl ifanc yr ardal oedd yr amgylchedd, efo pob ymatebwr yn dweud fod hyn yn bwysig iawn neu’n bwysig. Nododd 77.8% o ymatebwyr fod cymorth iechyd meddwl yn bwysig iawn, gan awgrymu fod nifer o bobl ifanc lleol yn teimlo fod angen gwell cefnogaeth. Roedd cartrefi, trafnidiaeth, hyfforddiant a gwaith, cyfleusterau hamdden, a pherthynas rhwng cenedlaethau i gyd yn bwysig iawn neu’n bwysig i dros hanner o’r ymatebwyr. Dengys hyn fod pobl ifanc isio gweld gwelliant mewn nifer eang o flaenoriaethau a hynny’n awgrymu fod angen creu cynllun eang i daclo’r wahanol agweddau a amlygir.
Wrth nodi beth oedd y problemau a oedd yn eu hwynebu yn ar ardal nododd nifer o ymatebwyr nad oedd digon o dai. Hefyd, yn debyg i’r ymateb yn ystod y sesiynnau ‘drop in’, roedd colli gwasanaethau yn y pentref yn bwnc a gafodd ei godi sawl gwaith.
Gofynnom hefyd am farn yr ymatebwyr ar rai syniadau ar gyfer prosiectau i ddatblygu’r pentref, gyda’r ymatebwyr yn dewis rhwng 5 (cefnogi’n gryf) ac 1 (gwrthod yn gryf) ar gyfer bob un o’r syniadau. Cafodd prosiect egni adnewyddadwy, fforwm cyflogwyr, cyfleoedd profiad gwaith, a gardd gymunedol eu cefnogi neu gefnogi’n gryf gan yr ymatebwyr.
Awgrymir yr ymatebion hyn fod cefnogaeth ar gyfer nifer eang o brosiectau yn yr ardal, gan bobl ifanc sy’n deall y problemau maent yn eu hwynebu
Ymatebion Holiadur Bobl Ifanc 18-25 Sydd Wedi Gadael yr Ardal
Roedd yr holiadur yma yn fyrrach na’r ddau arall, ond roedd yna dal gwybodaeth ddefnyddiol yn yr ymatebion. Mae ‘tai’ yn dod i fynnu mewn nifer o achosion fel rheswm pam wnaeth yr ymatebwyr gadael yr ardal, gan awgrymu fod diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal ar gyfer pobl ifanc.
Pwynt arall o’r ymatebion sy’n codi pryder yw bod pob ymatebwr yn ‘rhugl’ neu’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Dangosir hyn fod y gostyngiad yn yr iaith Gymraeg yn yr ardal yn debygol o fod yn gysylltiedig efo bobl ifanc yn gadael yr ardal. Yn fwy positif nododd hanner o’r ymatebwyr eu bod yn cynllunio dychwelyd i’r ardal.
Canlyniadau’r Ymchwil
Drwy’r ymchwil yma rydym wedi medru adnabod y prif broblemau sy’n wynebu pobl ifanc yr ardal:
– Diffyg gwaith sy’n talu’n dda
– Diffyg llefydd i gymdeithasu
– Diffyg gwasanaethau lleol e.e. siop
Mae’r problemau sylfaenol yma’n arwain at broblemau pellach yn yr ardal, gyda phobl ifanc yn gadael yr ardal am ardaloedd eraill lle mae’r problemau yma’n llai hollbresennol. Dirywiad yn yr iaith Gymraeg yw canlyniad hyn, problem arall mae’r ystadegau wedi amlygu.
Mae’r problemau uchod yn gysylltiedig a bydd unrhyw gynllun i ddatrys y problemau yma angen ystyried nhw i gyd.
Yn anffodus ni dderbyniwyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol gan y Cyngor ar ystadegau cartrefi yn yr ardal, ond mae’r ymatebion i’r holiaduron yn dangos fod tai hefyd yn broblem. Os ydym yn datrys y problemau a amlygir uchod ond ddim yn darparu tai rhad ac o safon dda, bydd bobl ifanc yn dal i adael yr ardal.
Diddorol yw gweld sut mae’r ystadegau a’r ymatebion gan bobl ifanc eu hunain yn amlygu problemau gwahanol ond cysylltiedig. Yn amlwg mae angen ystyried yr holl broblemau hyn, ac wrth symud ymlaen i greu cynllun defnyddiom yr holl wybodaeth a gasglwyd i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r camau nesaf.
Wedi cwblhau’r ymchwil uchod dros y pedair wythnos gyntaf o’r prosiect, aethom ymlaen i ddechrau creu cynllun ar gyfer y pentref. Y cam cyntaf oedd edrych ar yr holl adnoddau sy’n bodoli yn yr ardal yn barod.
Adnoddau Llanaelhaearn a Trefor
Er mwyn dechrau casglu syniadau ar sut i ddatrys y problemau hyn, mae angen edrych ar ba adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned. Bydd hyn yn galluogi ni i wneud yn siŵr bod adnoddau sy’n bydoli yn y gymuned yn barod yn cael eu defnyddio fel sylfaen i adeiladau cynllun arno.
Llanaelhaearn
Antur Aelhaearn – Co-op cymunedol sy’n berchen ar eiddo ar draws y pentref gan gynnwys y Babell, y Ganolfan ac adeilad efo swyddfa a gofod i wneud gwaith pren. Mae’r adeilad yma ar ganol gael ei atgyweirio. Mae’r adeilad hefyd gyda maes parcio wedi’u rhannu a’r feddygfa. Maent efo’r adnoddau a’r gallu i ddenu grantiau sydd, yn y gorffennol, wedi arwain at lawer o’r adnoddau sydd yn y pentref yn barod fel e.e. y maes chwarae, y Babell, y Ganolfan a’r Ardd gymunedol. Mae yna gyfle yma i ddefnyddio prosiect Byw a Bod i wneud yn siŵr fod anghenion bobl ifanc yn rhan ganolig o ymdrechion yr Antur wrth symud ymlaen a datblygu’r ystod eiddo.
Ysgol Llanaelhaearn – Ysgol gynradd yn y pentref sydd newydd gau. Mae’r adeilad efo gegin, nifer o ystafelloedd mawr ac mae yna le chwarae/gardd tŷ allan. Mae yna gyfle yma i’w ail ddatblygu mewn i rywbeth arall.
Maes Chwarae Llanaelhaearn – Mae maes chwarae yn ganol y pentref sy’n eiddo i’r gymuned. Mae yna gost uchel i’w rhedeg gan fod angen yswiriant a chostau trwsio. Mae yna dipyn o dir ar waelod y maes sydd ddim yn cael ei ddefnyddio. Mae yna gyfle yma i’w ddatblygu.Cae Chwarae Llanaelhaearn – Cau chwarae pêl-droed yn ganol Maes Glas efo pyst pêl-droed a ffens o gwmpas y gwair.
Ganolfan Llanaelhaearn – Adeilad ar lease i’r Antur am 99 blwyddyn. Efo gegin, toiled a neuadd efo seti a byrddau sy’n medru cael ei defnyddio ar gyfer nifer o anghenion e.e. Eisteddfod Llanaelhaearn, cyfarfod Merched y Wawr a phartiâu pen blwydd.
Gardd Gymunedol Llanaelhaearn – Gardd sydd yn perthyn i’r gymuned trwy’r Antur, cyfleoedd i gael pobl ifanc yn garddio.
Becws/Siop Llanaelhaearn – Becws sy’n cyflogi nifer o bobl yn yr ardal. Roedd y becws gyda siop sydd wedi cau ers degawd bellach. Mae yna gyfle fan hyn i ail agor y siop ar gyfer y gymuned a chreu gwaith. Mae’r Becws wedi cytuno i ail agor y siop pe bai’r Antur yn llwyddo i ganfod rhywun i’w redeg. Buasai’n bosib ail edrych ar hyn.
Garej Ceiri – Garej sy’n cyflogi nifer o bobl leol, hefyd yn dosbarthu llefrith yn yr ardal. Mae nifer o bobl yn prynu a derbyn papurau newydd a chylchgronau ganddynt.
Meddygfa Llanaelhaearn – Meddygfa sydd gyda nifer o feddygon a’r gallu i ragnodi.
Babell Llanaelhaearn – Hen gapel Babell sydd ddim wedi’u defnyddio ers tro. Y gymuned sy’n berchen ar yr adeilad yma drwy’r Antur. Mae gan yr Antur gynlluniau i’w ddatblygu i fod yn adeilad deulawr. Mae cyfle fan hyn i ddatblygu adnoddau a gwasanaethau i bobl ifanc yno.
Trefor
Mae Trefor yn bentref sydd a siop, swyddfa bost, Tafarn (Tafarn y Twr), neuadd bentref, cae chwarae gan gynnwys cael pel droed artiffisial, ysgol gynradd a llwybrau cerdded o gwmpas glan y mor.
Ardaloedd Gwledig o Amgylch Llanaelhaearn a Trefor
- Coedwig Elernion – Coedwig cyhoeddus rhwng Llanaelhaearn a Trefor, yn lle da i bobl mynd am dro. Cyfleon i ddod a twristiaeth i mewn.
- Tre’r Ceiri – Mynydd efo nifer o lwybrau cyhoeddus a hen tref Celtaidd ar y pen. Nifer o gyfleon efo twristiaid yn dod i’w weld.
- Llwybrau cyhoeddus – Nifer o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal, cyfle i hysbysebu nhw’n well a datblygu twristiaeth ymhellach. Cyfleon i bobl leol cael wneud ymarfer corff yn ogystal
Datrys Problemau Sy’n Wynebu Pobl Ifanc Lleol
Wedi cwblhau’r holl baratoadau ar gyfer creu cynllun, penderfynom ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel fframwaith. Mae’r graffig isod yn dangos sut rydym wedi gwneud hyn:
Er mwyn egluro pob prosiect unigol, sut maent yn cysylltu efo’i gilydd fel un cynllun, a sut maent yn taclo’r problemau canfyddom yn ein hymchwiliadau rydym am edrych arnynt mewn mwy o fanylder.
Clwb Gwaith a Fforwm Cyflogwyr
Disgrifiad o’r prosiect:
Creu Clwb Gwaith i bobl ifanc, fel bod hyfforddiant ar gyfer gwaith a gwybodaeth am waith sydd ar gael yn lleol. Bydd y clwb yma’n cyd-weithio gyda Fforwm Cyflogwyr yn yr ardal drwy hysbysu b sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr yr ardal ac i greu cyfleoedd brofiad gwaith i aelodau’r Clwb Gwaith. Byddwn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu’r wybodaeth yma.
Problemau mae’n taclo:
Mae tal isel yn yr ardal a chynnydd mewn diweithdra yn amlygu’r angen i ddarparu mwy o gefnogaeth i bobl ifanc ym myd gwaith. Bydd y prosiect yma’n cynnig hyfforddiant i bobl ifanc fel eu bod yn fwy tebygol o sicrhau gwaith a datblygu sgiliau fel eu bod nhw’n medru sicrhau gwaith sy’n talu’n well. Bydd y fforwm cyflogwyr hefyd yn helpu taclo’r broblem yma trwy wneud yn siŵr fod pobl ifanc lleol efo’r wybodaeth fwyaf diweddar a’r gwaith sydd ar gael yn yr ardal.
Camau wedi eu cymryd i’w weithredu:
Rydym wedi cyfarfod a Gyrfa Cymru. Derbyniom gadarnhad eu bod yn hapus i helpu trefnu hyfforddiant i bobl ifanc, os allwn sicrhau gofod i gynnal yr hyfforddiant.
Rydym wedi hel manylion nifer o gyflogwyr yr ardal er mwyn cysylltu gyda nhw i ffurfio’r Fforwm Cyflogwyr. Rydym angen mynd i weld llawer o gyflogwyr mewn person gan nad oes ganddynt bresenoldeb ar y we.
Camau nesaf:
Angen trefnu cyfarfod sefydlu o’r Fforwm Cyflogwyr.
Unwaith mae’r Antur Ieuenctid wedi ffurfio bydd angen gweithio efo’r aelodau i ddatblygu sut i strwythuro’r Clwb Gwaith mewn ffordd fydd o fudd i bobl ifanc.
Prosiect Perllan
Disgrifiad o’r prosiect:
Prynu tir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ganol y pentref i greu perllan gymunedol gyda gwahanol fathau o goed ffrwyth.
Bydd datblygu adeilad yr Antur yn helpu taclo nifer o broblemau a gododd yn ystof ein hymchwil. Mi fydd siop yn creu gwasanaeth wnaeth nifer o ymatebwyr godi fel problem yn yr ardal. Problem arall fydd y prosiect yma’n taclo bydd diweithdra, gyda chaffi yn creu gwaith yn y gymuned, yn ogystal â chreu lle i gymdeithasu.
Camau wedi eu cymryd i’w weithredu:
Wedi cael grant i ddatblygu siop yn ganol yr adeilad gyda ffenestri mwy er mwyn dangos y cynnyrch lleol sydd ar werth.
Wedi cyfarfod gyda Chwmni ‘byrgyrs’ ynglŷn ag agor caffi yn adeilad yr Antur.
Mae Dyfed wedi dechrau’r gwaith o adnewyddu’r adeilad.
Camau nesaf
Parhau i gwblhau’r gwaith ar yr adeilad.
Datblygu’r siop unwaith fydd yr adeilad yn barod.
Car Cymunedol
Disgrifiad o’r prosiect:
Car trydanol cymunedol bydd pobl leol yn medru bwcio i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith, addysg, llesiant a.y.b.
Problemau mae’n taclo:
Bydd y car cymunedol yn helpu pobl ifanc cael mynediad at fwy o lefydd gwaith, yn enwedig i bobl ifanc lleol sydd a dim ond trafnidiaeth gyhoeddus anghyson fel opsiwn. Mi fydd hefyd yn helpu taclo rhai o’r problemau efo diffyg gwasanaethau yn y gymuned drwy alluogi pobl ifanc i deithio’n rhad er mwyn gael mynediad at y gwasanaethau yma mewn llefydd eraill.
Camau wedi eu cymryd i’w weithredu:
Rydym wedi cwblhau’r camau angenrheidiol i weithredu’r prosiect yma. Mae car cymunedol bellach yn y gymuned ar ôl cwblhau cais am un gan Menter Môn.
Digwyddiadau yn y gymuned
Disgrifiad o’r prosiect:
Er ei fod yn anodd cynnal digwyddiadau ar hyn o bryd gyda’r pandemig yn ei wneud o’n amhosib rhedeg digwyddiadau mewn person, rydym dal eisiau edrych ar sut fath o ddigwyddiadau fuasai’n llesol i’r gymuned ar ôl i’r pandemig dod i ben. Ar ben cefnogi digwyddiadau sy’n digwydd eisoes fel Eisteddfod Llanaelhaearn, byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau eraill fel dosbarthiadau Cymraeg a digwyddiadau rhyng-cenhedlaethau.
Problemau mae’n taclo:
Roedd yr ymatebion i’n holiaduron yn dangos fod angen gwell perthynas rhwng y cenedlaethau yn y pentref. Bydd cynnal mwy o ddigwyddiadau yn rhoi cyfleoedd i gyfeillion o wahanol genedlaethau cymysgu a chymdeithasu. Nododd nifer o ymatebwyr yn ystod ein sesiynau ‘drop in’ fod yna diffyg digwyddiadau yn yr ardal, bydd trefnu mwy ohonynt yn helpu taclo’r ymdeimlad yma.
Camau wedi eu cymryd i’w weithredu:
Dim wedi gallu trefnu oherwydd y pandemig.
Camau nesaf:
Wedi i’r pandemig pasio bydd angen dechrau trefnu gwersi Cymraeg.
Gweithio efo Antur Ieuenctid Llanaelhaearn i drefnu digwyddiadau bydd o ddiddordeb i bobl ifanc.
Canlyniad
Credwn fod gweithredu Cynllun Adfywio Llanaelhaearn yn gam pwysig tuag at ddatblygu cymuned sy’n cyfarfod anghenion bobl ifanc ac anghenion holl aelodau’r gymuned . Bydd yn llawer o waith ond bydd yn taclo allfudiad o’r ardal, yn grymuso pobl leol i wella amodau eu bywydau. Er bod ein hymchwil wedi dangos nifer o heriau yn yr ardal, mae’r ymchwil hefyd wedi dangos fod yna obaith, a bod nifer o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ardal eisiau dychwelyd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut fydd y cynllun yn cyfrannu at ddyfodol ffyniannus i’r ardal.
[1] Arolwg blynyddol y ONS o oriau ac enillion – dadansoddiad preswylwyr. http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/la/1946157384/subreports/asher_time_series/report.aspx?
Wedi defnyddio cyfrifiannell chwyddiant Bank Lloegr. https://www.bankofengland.co.uk/monetary-policy/inflation/inflation-calculator