Antur Ynni Aelhaearn

2013

Mast Mesur Gwynt Egni Aelhaearn

Ym mis Gorffennaf rhoddwyd caniatad cynllunio i Antur Aelhaearn osod mast mesur cyflymder gwynt ar dir Moelfre Bach. Codwyd y mast mis Tachwedd yn agos i safle sydd wedi ei ddewis i godi un tybein gwynt. Fe fydd y mast yn aros yn ei le am ddeuddeg mis , ac yna bydd yn cael ei dynnu lawr. Mae’n bwysig fod y wybodaeth yn cael ei gasglu am ddueddeg mis i weld a fydd y prosiect yn hyfyw. Mae’r Antur yn gobeithio gwerthu’r mast a buddsoddi yr arian yn ol yn y prosiect ar ddiwedd y cyfnod.

Archebwyd y mast gan gwmni Solar Wheel o Dde Cymru, ac fe dalwyd amdano trwy grant gan Ynni’r Fro. Mae Ynni’r Fro yn cael ei noddi gan Llywodraeth Cymru a’r “Energy Saving Trust”. Mae Antur Aelhaearn wedi bod yn gweithio’n glos gyda Ynni’r Fro ers misoedd, ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei cymorth.

*************************************************************************************************

Ffilm am Ynni Cymunedol yr Alban yn anffodus mae’r ffilm yn Saesneg ond mae’n werth ei wylio

http://www.youtube.com/watch?v=5QtvyrQHJQE

Ymddiheuriadau mae’r wybodaeth yn y ddwy linc sy’n dilyn yn Saesneg.

 

Onshore wind energy: what are the pros and cons? – http://www.guardian.co.uk/environment/2012/sep/25/climate-change-windpower

*********************************************************************************

 

One of the more comprehensive (and well referenced) documents on wind turbines, which seeks to address common concerns and issues raised is produced the Centre for Sustainable Energy and is available here: http://www.cse.org.uk/downloads/file/common_concerns_about_wind_power.pdf
Because people are concerned about the objectivity of these reports information on CSE’s funders is available here: http://www.cse.org.uk/pages/about-us/clients-and-funders

**********************************************************************************

Mae’r mast mesuregol gwynt bellach wedi ei godi ac mae Antur Aelhaearn yn disgwyl am yr Adroddiad Dicholondeb sydd ar y gweill gan Dulas.

*********************************************************************************

Mae mwy o wybodaeth ar y safle Saesneg ar ol sesiwn fwy ar y we yn ddiweddar

Polisi Ynni a Chynllunnio yng Nghymru

Adroddiad Mehefin 2012

 

 

Cylchlythyr at Dridolion Llanaelhaearn

Pentref Gwyrdd Llanaelhaearn :Tyrbin Gwynt

Mai 2012

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Chwefror, mae nifer o bethau wedi digwydd i yrru’r prosiect yma yn ei flaen.

  • Penderfynodd yr Antur yn unfrydol i gynnal astudiaethau dichonoldeb ac fe sefydlwyd Gweithgor arbennig ar gyfer llywio’r prosiect. Ni fydd unrhyw aelod o Senedd yr Antur, sydd gyda budd ariannol posib yn aelodau o’r Gweithgor hwn. Felly aelodau’r Gweithgor sydd yn cael ei gadeirio gan Dr Carl Clowes yw:

Mrs Lynda Cox, Mrs Valerie Massey,Mr Ifan Hughes, Mr Emrys Williams, Dr Sioned Enlli Morgan, Mr Elgan Ab Owen, Mrs Gwenan Griffiths a Mrs Bea Kelsall.

  • Cafwyd cyfarfod gyda swyddog profiadol o Ganolfan Gydweithredol Cymru, pryd y trafodwyd sut fath o gwmni fydd yn gyfrifol. Penderfynwyd ymchwilio ymhellach i sefydlu Cwmni Cydweithredol o dan y ddeddf “Industrial &Provident Societies” . Yn fras bydd cwmni o’r fath yn agored i bawb yn y pentref i brynu siar a buddsoddi hyd at uchafswm o £20,000. Bydd gan y sawl sydd yn buddsoddi un bleidlais.
  • Rhennir yr elw yn flynyddol yn unol â phenderfyniad y cwmni cydweithredol gyda chanran o`r elw yn mynd at brosiectau cymunedol er sicrhau adfywiad pellach i`r fro
  • Mae Cais cynllunio ar gyfer gosod Mast gydag offer i fesur cryfder y gwynt wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd. Gellir gweld y cais ar wefan y Cyngor. Rhif y cais ydi C12/0316/37/LL.
  • Mae Astudiaethau Natur a Bywyd Gwyllt wedi cychwyn ac mae cwmni annibynnol Dulas yn gyfrifol am hyn.
  • Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos nad oes unrhyw beryg i neb golli signal ffôn neu signal teledu, ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn hapus na fydd yn effeithio ar unrhyw radar.
  • Derbyniwyd nawdd ariannol trwy gynllun Ynni’r Fro gan Lywodraeth Cymru. Mae ceisiadau eraill am nawdd yn barod i`w cyflwyno.
  • Rydym wedi cysylltu gyda landlordiaid Tai Cymdeithasol i weld a oes bosib iddynt hwy fuddsoddi ar ran eu tenantiaid.

 

Mae trefniadau wedi ei wneud gydag Ifan Hughes, i ymweld â `Thyrbin Gwynt Cymunedol Bro Ddyfi` gyda`r nos ar 12fed Mehefin gan gychwyn am 5 o`r gloch. I`r rhai sydd â ddiddordeb neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch â Mrs Lynda Cox, ysgrifennydd yr Antur lynda.cox@llanaelhaearn.com

Mae gwybodaeth am y cais cynllunio eisioes ar y wefan hon

 

Ynni Gwynt a gwyliau yn yr Alban

O Wefan VisitScotland.org

Wind farms and tourism – new research published today

 

The presence of a wind farm would have little impact on a decision to holiday in Scotland, new independent research revealed today.

 

Investigating the latest consumer attitudes to wind farms and their effect on tourism, the omnibus study incorporated the views of some 3000 interviewees and was carried out as part of VisitScotland’s ongoing consumer insight activity.

 

Highlighting the fact that 83% of Scotland respondents stated their decision to holiday in the UK would not be affected by the presence of a wind farm; the research also reported that the majority (80%) of Scotland respondents disagreed, or felt neutral, that wind farms spoil the look of the Scottish countryside.

 

VisitScotland Chief Executive, Malcolm Roughead, said: “We sell Scotland to the world, bringing millions of visitors to the country and boosting the economy by billions of pounds. The visitor experience is therefore a huge priority for us – we know visitors come here for the scenery and landscapes and our marketing activity works hard to promote those aspects.

 

“And so we are both reassured and encouraged by the findings of this survey which suggest that, at the current time, the overwhelming majority of consumers do not feel wind farms spoil the look of the countryside.”

 

The research also demonstrated that a high proportion, some 83%, of Scotland respondents wouldn’t tend to avoid an area if there was a wind farm present. In fact, almost half of all those surveyed expressed an interest in visiting a wind farm development if it included a visitor centre.

 

The full report is available here at 06.00 April 24 2012: www.visitscotland.org/research_and_statistics/tourism_topics.asp

Pentref Gwyrdd Llanaelhaearn.

 

 

 

Cynllun Ynni Gwynt Aelhaearn:

 

 

 

Mae Antur Aelhaearn mewn partneriaeth a ffermwyr lleol ( Moefre Bach, Moelfre Fawr, Llechdaran a Llechdran Uchaf) wedi bod yn gweithio yn ystod y misoedd diwethaf i lunio cynllun Ynni Gwynt i bentref Llanaelhaearn. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi clywed am y fenter yma’n barod ac wedi mynychu’r diwrnod agored a gafwyd yn y neuadd ym Mis Mehefin 2011. Rydym yn awyddus i gael cyfle eto i drafod gyda chi fel pentrefwyr (mae dyddiad a gwahoddiad ar waelod y llythyr hwn,) ond yn gyntaf rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â’r cynllun gyda chi.

 

Beth yw’r cynllun yn fras?

 

Mae’r cynllun yn argymell codi 1 tyrbin Gwynt 500kw 67 medr o uchder ar safle’r Foel.

 

Bydd lluniau yn cael eu dylunio yn fuan ar gyfrifiadur i ddangos sut y byddai’r tyrbin yn edrych yn ei le o wahannol safbwyntiau. Bydd y lluniau yma ar gael i’w gweld yn ystod y noson agored.

 

Bydd cyfran o’r incwm blynddol y tyrbin gwynt yn cael ei ddyrannu i’r Antur ac wrth gwrs i brojectau a sefydliadau o fewn y pentref mae’r Antur yn ei gefnogi’n flynyddol. Y mae’r Antur yn awyddus i ddatblygu projectau newydd fel datblygu capel y Babell yn fuan. Gobeithir hefyd datblygu cynllun newydd i droi y pentref yn “Bentref Gwyrdd” fydd yn gostwng ol troed carbon ac yn arbed ynni ac arian i ni drigolion.Bydd y prosiect yn rhoi sicrwydd incwm tymor hir i’r Antur mewn cyfnod ple mae gwariant cyhoeddus yn cael ei gwtogi.

 

Pam y safle yma?

 

Yn dilyn yr ymgynhori a fu ym Mis Mehefin rydym wedi penderfynnu ar y maint o felin wynt a’r lleoliad.

 

Mae twrbein bwriedig wedi ei leoli dros y Foel rhyw 150 meter o adeiladau amaethyddol Moelfre Bach, a cyn agosed ac fedrir i’r llinellau trydan presennol.

 

Fe ddewiswyd y safle yma oherwydd ei fod yn cael ei gydnabod yn ôl astudiaethau bras yn safle da iawn ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt.

 

Er fod yr astudiaeth yn dangos y byddai yn bosib lleoli twrbein mawr 120 meter o uchder yn y safle yma, penderfynwyd nad dyna farn trigolion a fynychodd y sesiwn galw i mewn, ac y dylid cyfyngu y maint i hanner hynny sef tua 67meter i flaen y llafn.

 

Faint mae’n mynd i gostio?

 

Mae prosiectau fel hyn yn gallu bod yn gostus iawn. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar amcangyfri bydd y prosiect cyfan yn costio hyd at £1.2miliwn. Mae’r astudiaethau hefyd yn dangos y bydd yn talu amdano ei hun o fewn wyth mlynedd, gan ddod ac incwm gros blynyddol o £250 mil.

 

Y camau nesaf:

 

 

 

  1. Ceisiadau Cymorthdal gan Llywodraeth Cymru a’r Uned Ewropeaidd

 

Bydd yr Antur yn gwneud ceisiadau am grantiau i ddatblygu y prosiect i’r camau nesaf.

 

  1. Astudiaeth Bellach

 

Er mwyn denu grantiau a sicrhau benthyciadau gan y banc bydd rhaid cynnal astudiaeth dichonoldeb o’r safle a mesur yn ofalus potensial y safle i gynhyrchu trydan. Bydd hyn yn cynnwys gosod mast y agos i’r safle a ddynodwyd er mwyn mesur cyflymder a pha mor amyl y mae’r gwynt yn chwythu.

 

  1. Casglu barn pawb yn y pentref a’r ardal

 

Ymgynghori:

 

‘Rydym yn awyddus i gynnal cyfarfodydd gyda chwi trwy gydol y broses. Bydd y cyfarfod cyntaf i’w gynnal ar nos Wener 17/2/12 am 7:00 yng Nghanolfan y Babell. Bydd fideo yn cael ei dangos ynghyd a nifer o ddarluniau i roi syniad da sut y byddai y twrbein yn edrych o wahnnol fannau o gwmpas y pentref.Dewch yn llu.

 

Fe fydd cyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal pan fydd mwy o wybodaeth ar gael

 

 

Tyrbein Bro Dyfi uwchben Machynlleth

 

Tyrbein o’r un maint a sydd gan yr Antur o dan sylw yma yn Llanaelhaearn, ond rhaid pwysleisio nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar hyn o bryd, rhaid disgwyl am ganlyniadau’r astudiaethau i gyd.

x