Robert Lambert Gapper (1897-1984)

 

 

 

Un arall o deulu dawnus Uwchlawffynnon. Aeth i ysgol fach y pentref ac yna mynd ar ei feic yn ddyddiol i Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn mynd yn 16 oed i Goldsmiths College yn Llundain i astudio celf wedi i’w ddawn ddisglair yn y pwnc ddod yn fuan i’r amlwg.

Ymunodd a’r fyddin ar ddechrau’r rhyfel byd cyntaf a chafodd ei anrhydeddu ddwywaith am ei ddewder ar faes y gâd. Yno fe wynebodd erchyllterau na fynnai sôn amdanynt. Anafodd ei ddwylo yn ystod y rhyfel ac ni allai fynd yn ôl i fod yn arlunydd na cherflunydd am beth amser. Am 4 blynedd gweithiodd fel peirianydd trydanol yn Rugby.

Yn 1922 graddiodd ym Mhrifysgol Bangor. Roedd hefyd yn disgleirio ym myd chwaraeon ac ennilliodd y Victor Ludorum yn 1920 am redeg a neidio. Tra yn Rugby death yn ysgrifennydd y Gymdeithas Gymraeg, a death yn ddirprwy bennaeth Ysgol Gelf Rugby yn 1923 i 1927, lle y rhoddodd wersi mewn arlunio a cherflunio.

Aeth i Lundain pan oedd yn 29 oed i ddatblygu ei ddawn ymhellach a mynd yn fyfyriwr yn y Coleg Brenhinol o 1927 i 1930. Ennilliodd lawer o wobrau yn yr Eisteddgod Genedlaethol, a nifer o anrhydeddau pwysig eraill ym myd Celf a Chrefft.

Aeth drwy Ewrop i’r Eidal ar ôl ennill ysgoloriaeth o Lundain. Yno ysbrydolwyd ef i gerflunio gan ddefnyddio carreg Ithfaen galed ei fro enedigol. Dychwelodd i Gymru yn 1931 lle y bu yn cerfio delwau o enwigion fel Syr John Morris Jones. Symudodd i Aberystwyth yn 1934 fel dirprwy ddarlithydd, ac i fod yn gyfryfol am yr Adran Celf a Chrefft ac yn guradur yn 1936. Brwydrodd yn galed i gadw’r adran hon yn agored yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth. Bu yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig Florence a’i pedwar plentyn.

Ef a ddyluniodd clawr llyfr ei gefnder Syr David Hughes Parry “O Bentref Llanaelhaearn i dref Llundain ac yn 1944 dyluniodd bathodyn adnabyddus yr Urdd.