Aelhaearn (7fed g.), nawdd-sant. Yn ôl rhestrau’r saint yr oedd yn fab Hygwrfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan (Moel Feliarth yn awr) ym mhlwyf Llangadfan, sir Drefaldwyn. Iddo ef y priodolir sefydlu Cegidfa, Llanael-haearn, a chapel arall o’r un enw nad ydyw mewn bod yn awr ond a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Cofir am ei enw, a geir yn aml ar y ffurf Elhaearn, yn Ffynnon Aelhaearn, Ffynnon sanctaidd y credid gynt fod rhinwedd gwella yn ei dyfroedd yn enwedig i’r traed pan fo’r dwfr yn cynhyrfu. Os ydych am ymweld a’r ffynnon rhaid gofyn i Mr J Capon, Bryn Iddon am gael agor y drws. Tachwedd 1 yw dydd gwyl Aelhaearn. Ni wyddys ddim o’i hanes, eithr y mae’r cyflwyniadau eglwysig yn ein tueddu i gredu’r farn ei fod yn un o ddisgyblion Beuno.
Chwedl Aelhaearn
Bob nos arferai Beuno fynd allan i’r coed i weddio a myfyrio, lle y byddai’r anifeiliad gwyllt yn gwylio trosto rhag ofn i neb wneud niwed iddo. Yn byw yn y mynachdy roedd mynach hynod o fusneslyd ac un noson dywyll penderfynodd ddilyn Beuno i weld lle yr ai a beth a wnai yno. Ond truan ohonno disgynnodd y bwystfilod arno a’i falu yn ddarnau man, gan feddwl ei fod am newidio Beuno. Ar ei ffordd yn ol gartref death y sant o hyd i’r corf a chan dosturi wrtho fe osododd y darnau yn ol wrth ei gilydd. Bob un ond tamaid bach o’i ael. Ar ol chwilio amdano am peth amser defnyddiodd Beuno gwaled haearn ei ffon i gau y twll. O hyn ymlaen enw’r mynach oedd Aelhaearn.