Polisiau y Cyngor

Polisi Iaith Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

  1. Amcanion sylfaenol y Cyngor yw 

1.1       Hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg ym mywyd ardal y Cyngor gan fad yn angor i’r iaith yn ei hadfywiad ledled Cymru.

1.2       Hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus eraill sy’n ymwneud a’r Cyngor a chefnogi a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg gan gyrff a busnesau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn ardal y Cyngor Cymuned.

1.3       Sefydlu’r Gymraeg fel iaith swyddogol gweinyddiad mewnol y Cyngor.

  1. Cyfarfodydd y Cyngor

Bydd y Cyngor yn trafod materion yn ei gyfarfodydd trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Gall person nad ydyw yn siarad

Cymraeg annerch y Cyngor yn y Saesneg, and bydd disgwyl iddynt ddarparu gwasanaeth cyfieithydd (ar eu cost euhunain) pe dymunant wrando ar drafodaethau’r Cyngor.

Pe byddai ymwelwyr swyddogol i’r Cyngor yn cynrychioli corff neu fudiad yng Nghymru sydd a pholisi iaith gyfredol, yn yGymraeg y cynhelir y drafodaeth. Dylai’r Clerc hysbysu’r ymwelwyr o bolisi’r Cyngor ymlaen llaw. Petai’r corff yn dewisanfon cynrychiolydd nad yw’n siarad Cymraeg, cyfrifoldeb y Corff hwnnw yw sicrhau fad offer cyfieithu ar gael i’w ddefnyddio.

Yn y Gymraeg y cedwir pob cofnod o drafodaeth y Cyngor. Ond os yw etholwr yn gofyn am gopi o’r cofnodion yn yr iaithSaesneg, yna gellir cyfieithu’r cofnod sydd dan sylw yn unig. Ni fydd y Cyngor yn darparu fersiynau Saesneg o’r cofnodionllawn. Petai aelodau di-Gymraeg yn cael eu hethol byddai’r sefyllfa’n cael ei esbonio iddynt.

  1. Gohebiaeth ysgrifenedig

3.1       Gall unrhyw un ohebu a’r Cyngor naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac atebir pob gohebiaeth bersonol yn yr iaith y mae’n cael ei hanfon.

3.2       Bydd unrhyw ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbynnir oddi wrth gyrff stadudol yng Nghymru yn cael ei gydnabod ynGymraeg gan y Clerc gyda’r troad, neu mar fuan ag sy’n ymarferol, yn gofyn am fersiwn Gymraeg neu ddwyieithog o’r cyfryw lythyr ar fryder

3.3       Dylai pob gohebiaeth agoriadol fod yn Gymraeg. Dylid ysgrifennu at bob corff cyhoeddus, pob cyngor a chorff enwebedigsydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth Brydeinig trwy gyfrwng y Gymraeg.

3.4       Dymuniad y Cyngor yw gohebu yn Gymraeg ag unrhyw sefydliad arall neu unrhyw gwmni sydd a phencadlys yng Nghymru. Bydd y Cyngor yn ceisio gohebu a hwy yn Gymraeg cyn defnyddio’r Saesneg. Nodir dymuniad y Cyngor i ohebu yn Gymraeg ar unrhyw ohebiaeth Saesneg.

3.5       Pan fyddwn yn defnyddio dwy neu ragor o ieithoedd, bydd blaenoriaeth bendant i’r Gymraeg. Os oes amheuaeth ynghylchcyfieithiad cymerir y fersiwn Cymraeg fel yr un cywir.

  1. Cyfarfodydd cyhoeddus

Mewn cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan y Cyngor gall unrhyw un siarad naill ai yn y Cymraeg neu yn y Saesneg yn ol eu dymuniad. Ni fydd y Cyngor wedi darparu unrhyw wasanaeth cyfieithu os na chafwyd rhybudd priodol o leiaf wythnos cyny cyfarfod.

  1. Hysbysiadau cyhoeddus ac yn y Wasg 

Os bydd y Cyngor yn hysbysebu yn y wasg, bydd yr hysbysebion naill ai yn Gymraeg neu yn ddwyieithog, gydablaenoriaeth bendant i’r Gymraeg.

  1. Arwyddion a phosteri 

6.1       Bydd pob arwydd a godir gan y Cyngor, neu ar ei ran, naill ai yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Pan ymddengys y Gymraega’r Saesneg ynghyd byddant yn gyfartal o ran ffurf a bydd y Gymraeg naill ai uwchben y Saesneg neu os ydyw’r ddwy iaithyn gyfochrog, ar y chwith.

6.2       Bydd Posteri yn hysbysebu Cyfarfodydd Cyhoeddus ar ran y Cyngor i’w llunio yn Gymraeg, gyda thalfyriad o’r cynnwys yny Saesneg.

  1. Byddai’n ddymunol i unrhyw gytundeb ar ran y Cyngor fod yn y Gymraeg.
  2. Os bydd y Cyngor yn cyflogi unrhyw weithiwr, bydd y Gymraeg yn gymhwyster manteisiol.
  3. Bydd y Cyngor yn ddieithriad yn rhoi ystyriaeth i effeithiau ieithyddol a diwylliannol ar unrhyw gais cynllunio.

Mabwysiadwyd yn llawn: 4ydd Medi 2017 . Bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn, neu ynghynt na hynny yn sgil rheoliadau newydd neu newid mewn deddfwriaeth. Bydd angen mwyafrif o ddeuparth o’r holl Gynghorwyr i newid y polisi

 

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol  Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

Cyflwyniad 

Mae chwyldro yn digwydd yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu. Mae’r byd yn profi’r newid mwyaf erioed yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei chreu a’i pherchnogi, ynghyd â pha mor gyflym y gellir ei rhannu. Mae hyn yn newid y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a hyd yn oed sut rydym yn siarad a meddwl.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn derm cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer nifer o arfau aml-gyfryngol ar-lein a ddefnyddir i greu cynnwys a chyfathrebu dwyffordd. Gellir cael mynediad atynt o’ch ffôn clyfar, cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu deledu clyfar. Mae’r holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim a gellir eu trefnu’n gyflym a rhwydd o dudalen Rhyngrwyd.

Datganiad polisi

  • Pwrpas y polisi hwn yw helpu gweithwyr ac aelodau etholedig i wneud penderfyniadau priodol ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol megis gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, fforymau, byrddau negeseuon, blogiau neu sylwadau ar we-erthyglau, megis Twitter, Facebook a LinkedIn.
  • Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r safonau y mae’r Cyngor yn disgwyl i weithwyr ac aelodau etholedig eu cadw wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, o dan ba amgylchiadau y caiff eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol ei fonitro a’r camau a gymerir os gwelir fod amodau’r polisi wedi cael eu torri.  

Cwmpas y polisi

  • Mae disgwyl i bob gweithiwr ac aelod etholedig gydymffurfio â’r polisi hwn yn ddiwahân i warchod preifatrwydd, cyfrinachedd a buddiannau’r Cyngor.
  • Os yw gweithwyr yn torri amodau’r polisi hwn gellir ymdrin â hynny o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu ac mewn achosion difrifol gallai gael ei ystyried yn gamymddwyn difrifol yn arwain at ddiswyddiad diannod.
  • Os yw aelodau etholedig yn torri amodau’r polisi hwn ymdrinnir â hynny yn unol â’r Cod Ymddygiad.
  • Cyfrifoldeb am weithredu’r polisi
  • Gan y Cyngor y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau gweithrediad effeithiol y polisi hwn.Mae’r Clerc yn gyfrifol am fonitro ac adolygu gweithrediad y polisi hwn ac am wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i leihau’r risgiau i’n gwaith.
  • Dylai pob gweithiwr ac aelod etholedig sicrhau eu bod yn cymryd yr amser i ddarllen a deall y polisi hwn. Dylai unrhyw enghreifftiau o dorri amodau’r polisi hwn gael eu hysbysu i Glerc neu Gadeirydd y Cyngor.
  • Dylai cwestiynau am gynnwys neu weithredu’r polisi hwn gael eu cyfeirio at y Clerc.   
  •  Defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn enw’r cyngor
    1. Caniateir i’r holl staff/y Clerc (dileër yn ôl y gofyn) ac aelodau etholedig bostio deunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol yn enw’r Cyngor ac ar ei ran yn unol â rheolau a chwmpas y polisi hwn.
    2. Os nad ydych yn sicr a yw eich sylwadau yn briodol peidiwch â’u postio cyn gwirio hynny gyda’r Clerc/Cadeirydd.
    3.   Defnyddio cyfryngau cymdeithasol
      1. Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y rhyngrwyd wrth ddylanwadu ar y ffordd y mae’r cyhoedd yn meddwl am y Cyngor a’r gefnogaeth a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i’r gymuned. Mae’n cydnabod hefyd pa mor bwysig ydyw fod ein gweithwyr ac aelodau etholedig yn ymuno yn hynny o beth ac yn helpu meithrin sgwrs gymunedol a’r cyfeiriad a gymer trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.  
      2. Cyn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar unrhyw fater allai effeithio buddiannau’r Cyngor mae’n bwysig eich bod wedi darllen a deall y polisi hwn
      3. a
      4. Bod gweithwyr wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i wneud hynny gan y Clerc

Rheolau ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Pryd bynnag y caniateir ichi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unol â’r polisi hwn, mae’n rhaid ichi gadw at y rheolau cyffredinol canlynol:

  •  Peidiwch ag uwchlwytho, postio na danfon ymlaen ddolen at unrhyw gynnwys anweddus, ffiaidd, wahaniaethol, aflonyddus, bychanol neu ddifenwol.
  •  Dylai unrhyw weithiwr/aelod etholedig sy’n teimlo y cawsant eu haflonyddu neu fwlïo, neu a dramgwyddwyd gan ddeunydd a bostiwyd neu a uwch lwythwyd gan gydweithiwr ar wefan cyfryngau cymdeithasol, roi gwybod i’r Clerc/Cadeirydd.

Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth fasnachol sensitif, bersonol, breifat neu gyfrinachol. Os nad ydych yn siŵr a yw’r wybodaeth yr hoffech ei rhannu yn perthyn i un o’r categorïau hyn, dylech drafod hynny gyda’r Clerc/Cadeirydd..

  • Peidiwch â llwytho, postio na danfon ymlaen unrhyw gynnwys sy’n eiddo i drydydd parti onid oes gennych gydsyniad y trydydd parti dan sylw.
  •  Cyn ichi gynnwys dolen i wefan trydydd parti, gwiriwch fod amodau a thelerau’r wefan honno yn caniatáu ichi wneud dolen iddi.
  •  Wrth ddefnyddio unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid ichi ddarllen a chydymffurfio ag amodau ei ddefnyddio.
  • Byddwch yn onest ac agored, ond byddwch yn ystyriol o’r effaith y gallai eich cyfraniadau ei chael ar ganfyddiadau pobl o’r Cyngor. 
  •  Rydych yn bersonol gyfrifol am gynnwys a gyhoeddwch ar declynnau cyfryngau cymdeithasol.
  • Peidiwch â dwysáu trafodaethau tanbaid, ceisiwch fod yn gymodlon
  • barchus a chyfeiriwch at ffeithiau er mwyn gwneud y trafod yn llai blin a chywiro anwireddau.
  • Peidiwch â thrafod cydweithwyr heb gael eu cydsyniad ymlaen llaw.
  • Dylech bob tro ystyried preifatrwydd pobl eraill a pheidiwch a thrafod materion allai fod yn ymfflamychol e.e. gwleidyddiaeth a chrefydd. Cofiwch, er ei body n dderbyniol gwneud pwyntiau gwleidyddol neu ganfasio am bleidleisiau trwy eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hunain, na fydd hynny’n dderbyniol os ydych yn cynnig barn ar ran y Cyngor
  •  Peidiwch â chyhoeddi eich manylion cyswllt os all pobl nad oeddech yn bwriadu iddynt eu gweld gael gafael arnynt a gwneud defnydd helaeth ohonynt, a pheidiwch byth a chyhoeddi manylion cyswllt unrhyw un arall..

Monitro’r defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol

  1. Dylai gweithwyr ac aelodau etholedig fod yn ymwybodol y gall unrhyw ddefnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol (os ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion y Cyngor ai peidio) gael ei fonitro a, phan ddarganfyddir enghreifftiau o dorri’r polisi hwn, y gellir cymryd camau yn erbyn gweithwyr o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu a chynghorwyr o dan y Cod Ymddygiad.
  2. Mewn rhai amgylchiadau, gall camddefnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol, fod yn drosedd droseddol neu gall roi bod i rwymedigaeth gyfreithiol yn eich erbyn chi a’r Cyngor.
  3. Yn benodol, mae’n debyg y bydd achos difrifol o uwch lwytho, postio, danfon ymlaen neu bostio dolen at unrhyw un o’r mathau canlynol o ddeunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol, boed yn broffesiynol neu’n bersonol, yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol/torri amodau’r Cod Ymddygiad (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol):- 
  4. deunydd pornograffig (hynny yw, ysgrifennu, lluniau, ffilmiau a chlipiau fideo o natur amlwg rywiol neu rywiol gynhyrfol);
  5. datganiad anwir neu ddifenwol am unrhyw berson neu sefydliad;
  6. deunydd sy’n dramgwyddus, ffiaidd, troseddol, gwahaniaethol, bychanol neu allai beri embaras i’r Cyngor, ein cynghorwyr neu ein gweithwyr;
  7. gwybodaeth gyfrinachol am y Cyngor neu unrhyw un arall;
  8. unrhyw ddatganiad arall sy’n debygol o greu unrhyw gyfrifoldeb (boed droseddol neu sifil, boed ichi neu’r sefydliad); neu
  9. ddeunydd sy’n torri hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill, neu sy’n tarfu ar breifatrwydd unrhyw berson.

Eir i’r afael ag unrhyw weithredu o’r fath o dan y Weithdrefn Ddisgyblu/Cod Ymddygiad.

Pan ddarganfyddir tystiolaeth o gamddefnyddio gall y Cyngor gynnal ymchwiliad manylach fyddai’n cynnwys archwilio a datgelu cofnodion monitro i’r sawl a enwebwyd i gynnal yr ymchwiliad ac unrhyw dystion neu reolwyr sy’n rhan o’r ymchwiliad. Os oes angen, gellir rhoi gwybodaeth o’r fath i’r heddlu fel rhan o ymchwiliad troseddol.

Os sylwch fod unrhyw ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gan weithwyr eraill/aelodau etholedig yn torri’r polisi hwn dylech roi gwybod i’r Clerc/Cadeirydd yn unol â Pholisi Chwythu’r Chwiban y Cyngor.

Monitro ac adolygu’r polisi

Bydd y Cyngor yn gyfrifol am adolygu’r polisi hwn bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion cymdeithasol ac yn adlewyrchu arfer gorau.Mabwysiadwyd yn llawn 4 Medi 2017.