Mae Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn yn gyfrifol am weinyddu Canolfan y Babell.
Cadeirydd: Cynghorydd W. A. Evans, 01758 750629.
Ysgrifennydd: Mrs Lynda Cox, 01758 750474.
Trysorydd: Ms Hefina Evans 01758750661.
Ffurfiwyd Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn yn 1998 ac aethwyd ati i gesio sicrhau hen festri Capel y Babell yn Ganolfan i’r pentref. Yn Hydref 2005 cafwyd agoriad swyddogol i’r Ganolfan.
Bu’r Pwyllgor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cyngor Gwynedd, Cyngor Cymuned Llanaelhaearn, Antur Aelhaearn a’r Cynulliad i arianu’r prosiect.
Cyn dechrau ar y gwaith anfonwyd holiadur i bob ty yn y pentref i gael barn y pentrefwyr ar pa fath o gyfleusterau a fuasent yn hoffi eu gweld yn y Ganolfan newydd.
Cafwyd £1,000 gan y Co-op Dividend Fund. Ffordd arall o godi arian oedd trwy ofyn i unigolion a busnesau noddi brics a llwyddwyd i godi bron £2,000. Rhai o’r noddwyr oedd Cwmni Sain, Bryn Terfel a Lesley, Dafydd Iwan a Wynford Ellis Owen.
Cawsom gefnogaeth gref gan swyddogion adfywio bro y Cyngor ac hefyd gan Mantell Gwynedd.
Yng nghyntedd y Ganolfan mae murlun, er cof am deulu Uwchlawffynnon. Daeth Geraint Jones hanesydd lleol i roi darlith ar y teulu enwog yma Roedd creu y murlun yn brosiect o fewn y prosiect mwy ac arianwyd hwn gan grant o dan adain AHNE Yr artistiaid oeddBeverlya Terry Bell Hughes ac yn dylunio y ffigyrau roedd disgyblion ysgol y pentref. Yn helpu gyda’r gwaith ymchwil roedd Ioan Mai Evans hanesydd lleol. Yn y neuadd mae copiau o lynniau o’r tri cawsom gopi o lun o Lambert Gapper gan ei deulu. Roedd y llun o Robert Hughes yn arfer body n y capel a cawson lun drwy e bost o Syr David gan Prifysgol Llundain. Mae nam ganBeverlyar ei golwg, ac mae pawb wedi synnu at ei gwaith.
Mae’r Ganolfan yn brysur. Mae’r ysgol yn ei defnyddio ddwy waith yr wythnos ynghyd a :-
Merched y Wawr
Cyngor Cymuned Llanaelhaearn
Dosbarth Cymraeg
Gweithdai Roc/Pop
Kick Boxing
Ti a Fi
Capel y Babell yn cynnal gwasanaethau
Eglwys St Aelhaearn-noson goffi a bwyd ar ol gwasanaeth confirmasiwn
Cyfarfod a Hywel Williams
Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn
Cyngherddau
Darlith
Cawsom wythnos o ddathliadau pryd yr agorwyd y Ganolfan, y gwr gwadd oedd Carl Clowes. Rhoddwyd plac llechan i gofio am yr achlysur gan un o hogiau’r pentref sef Mr Fred Evans.
Cawsom 8 sesiwn gyda Dawns i Bawb i blant. Roedd y grwp hyn yn gweithio ar ddawns fodern yn delio a bwlio
Bydd partion penblwydd yn cael eu cynnal
Te Dydd Gwyl Dewi gan yr Ysgol
Ocsiwn Addewidion.
Bingo
Parti Body Shop
.