Croeso i Lanaelhaearn

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Llanaelhaearn.

Saif ar y briffordd A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, lle mae ffordd y B4417 yn fforchio o’r briffordd i gyfeiriad Nefyn. Daeth y pentref yn adnabyddus pan oedd Antur Aelhaearn yn yn ei anterth. Roedd hwn yn gynllun a anelai at adfywio economi’r pentref ac felly warchod ei ddiwylliant. Cynhelir eisteddfod flynyddol, yn awr yn festri Capel y Babell, sydd wedi ei addasu i fod yn ganolfan gymdeithasol. Mae nifer o enwgion yn gyn-enillwyr yma, yn cynnwys Bryn Terfel.

Mae nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref. Ar gopa dwyreiniol Yr Eifl uwchben y pentref mae Tre’r Ceiri, bryngaer o Oes yr Haearn a ystyrir yn un o’r bryngaerau mwyaf tarawiadol yn Nghymru. Yn Eglwys Sant Aelhaearn mae dwy garreg ac arysgrifau Lladin arnynt. Y mwyaf diddorol yw carreg sy’n dyddio o tua diwedd y 5ed ganrif, gyda’r arysgrif ALIORTUS ELMETIACO(S) / HIC IACET (“Aliortus, gŵr o Elmet, sy’n gorwedd yma”). Elmet (“Elfed” mewn Cymraeg Diweddar) yw’r hen deyrnas Frythonig yn ardal Leeds heddiw, felly mae’n ymddangos fod Aliortus wedi marw ymhell o gartref. Efallai ei fod ar bererindod i Ynys Enlli. Mae’r ail garreg yn rhoi enw, Melitus, ond dim manylion pellach.

Cysylltiadau defnyddiol