Gydag arddangosfa o dreftadaeth yr Ardal, gan gynnwys Tre`r Ceiri. Gobeithir sefydlu y ganolfan ddehongli mewn partneriaeth gyda Cadw ac Archeoleg Gwynedd. Bydd hwn yn adnodd addysg pwysig.
Bydd hanes yr Antur ei hun hefyd yn bwysig i eraill sydd am efelychu ei llwyddiant.
Bydd yno ofod i enwogion y fro, Syr David Hughes Parry, John Baum a’r Super Furry Animals!
Arddangosfa o’r Felin Wynt , gan ddangos faint o drydan mae yn ei gynhyrchu a faint o garbon diocsid mae wedi ei arbed.
Siop crefftau a chynnyrch lleol, nwyddau twristiaeth.
Mae’r prosiect yma yn cynnig cyfleon cyflogaeth sylweddol.