Ganwyd Robert Hughes ar y 25 o Fedi 1811 yn Bodgared, Llanwnda. Roedd ei dad yn ffermwr a bu yn denant ar amryw o dyddynod yn y cylch hwn yn ystod blynyddoed cynnar Robert, cyn setlo ym Moelfre Fawr, Llanaelhaearn lle bu yn byw nes oedd yn 95 oed. Ni chafodd Robert fawr o ysgol heblaw yr hyn a ddysgwyd iddo gan Dafydd Ddu Eryri, ond death yn adnabyddus yn lleol am ei ddawn o gerfio coed.
Yn 1830 cerddodd yr holl ffordd i Lundain gyda’r porthmyn yn y gobaith o gael cefnogaeth Griffith Davies, y mathemategydd (perthynas i’w fam) i’w helpu i gael gwaith. Ymaelododd yng nghapel Jewin (protestaniaid) lle y bu (Syr) Huw Owen yn athro Ysgol Sul arno. Dychwelodd i Lanaelhaearn yn 1833 a rhoddodd ei dad fferm Uwchlawffynnon iddo. Gweithiodd yn galed ond hefyd gwnaeth amser iddo ei hun i ddarllen llawer, a dysgodd ddarllen Groeg, Lladin a Hebraeg.
Daeth yn ffrindiau ac Ellis Owen, Cefn y Meysydd, Ebeb Fardd a dennodd sylw J. H. Cotton oherwydd ei ddoniau creadigol a’i allu amlwg. Er i’w gyfeillion geisio ei berswadio i fynd i Brifysgol Llundain, ni allai adael ei wraig a’i blant, serch hynny buy n brysur datblygu a meithrin ei ddoniau, yn arlunio, cerfio coed a barddoni-ennilliodd amryw o wobrau eisteddfodol. Byddai yn mynd o gwmpas gyda Tal y Sarn yn gwrando arno yn pregethu.
Dechreuodd bregethu ei hun yn 1838, y flwyddyn a briododd a Catherine Hughes o Gelli, Deneio. Cafodd ei ordeinio yn 1848, a bu yn weinidog di-dal ar Gapel y Babell,y Capel a adeiladodd yn1857. Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 1893 ynghyd a rhai o’i bregethau.
Bu farw yn 1892 yn 81 mlwydd oed.