Morfudd Jones

Bu i’r pentref golli un o’i chonolfaeni wedi marwolaeth Morfudd Jones. Bu i Morfudd fod yn weithgar iawn yn ei chymuned dros y blynyddoedd ac yr ydym i gyd yn ddiolchgar iawn iddi am ei gwaith. Dyma enghreifftiau o’i gwaith wrth iddi ddisgrifio ‘Llanhuar’:

Llanhuar

Felly fydd y bobl leol yn galw’r pentref. Ardal o ffermydd a tyddynod bychain gyda ychydig o dir oedd Llanaelhaearn tan ddyfodiad y chwareli. Roedd teulu Lynda yr ysgrifennydd y Pwyllgor Llywio yn byw ym Mhen Bwlch tyddyn ar odre Gyrn Ddu ond mae’n debyg i rai o’r meibion a’r marched symyd i lawr i waelod y pentref i fyw ac i weithio yn y chwarel.(erbyn tua 1850) gannwyd nain Lynda yn 1896 a bryd hynny roedd y teulu yn byw yn 5 Ty’n y Ffridd ac hefyd 4 Ty’n y Ffridd.

Wrth edrych ar censws 1901 mae patrwm newydd yn ymddangos, mae bob pen teulu bron yn y pentref ei hun yn chwarelwyr. Pan oedd Edith nain Lynda wedi cyrraed oed i briodi cyrfarfu hi a bachgen o’r enw Robert Williams, brodor o Laniestyn ym Mhen Llyn a ddaeth i weithio i’r chwarel.Adeiladwyd mwy o dai Rhes Tan y Fynwent, Erw Sant Rhes Ceiri yna yn y 1930 Cae Llyn ac yn y 1940 Maes Glas.

Buom yn siarad ac amryw o bobol yn eu plith Mair Jones Gerallt bu ei thad, ewythyr a’i brodyr yn chwarelwyr er yn ddiddorol iawn ym Melin Penllechog y trigai ei thaid a’i nhain. Mae Mair yn cofio ei thad yn cerdded i’r gwaith yng nghanol bob tywydd. Mae hi’n cofio y ddamwain pan fu farw tad Hedd Wyn (nid y bardd), roedd hi tua 7 oed ar y pryd, ac mae’n dal i gofio’r corff yn cyrraedd y ty wedi ei guddio a tarpwlin. Roedd gan lawer o’r chwarelwyr erddi bychain yma ac acw (rhyw fath o allotments) a ‘r arferiad oedd i blannu tatws yn ystod y Pasg. Un o ffrindiau Mair oedd Jane Williams 6 Rhes Ceiri, aeth tad Jane sef Cemlyn Williams i Padstow i weithio am gyfnod mae Gwilym Owen yn son am hyn yn ei lyfr (gweler Llanaelhaearn a’r Llyfrau).

Mae Gareth Cox, gwr Lynda yn cofio ei fam yn dweud sut y bu i’w thad fynd i Penrhyn i weithio ar un adeg pan oedd gwaith yn brin yn y Gwaith Mawr. Roedd yn aros yna yn ystod yr wythnos a dod adref ar y penwythnos. Os fyddai’r tywydd yn rhy ddrwg iddynt weithio yna nid oedd tal i’w gael.

Symudodd tad Ron Foster Evans i Lerpwl i weithio fel trwsiwr setts ar y lon. Byddai Ron yn dod i aros at ei daid Huw Meinar adeg gwyliau’r ysgol a bu yn evacuee yma yn ystod y rhyfel. Mae’n cofio sut oedd ei ewythyr Sam yn fachgen 14 wedi dechrau gweithio yn chwarel Tan y Graig, un diwrnod death y newydd i’r bonc fod y Titanic wedi mynd i lawr.Bu Ron mewn datlith am y chwarel sbel yn ol a cafodd wybodaeth yno na wnaeth Chwarel yr Eifl yr un ddime goch allan o’r gwaith a dyna pam yr oedd y Cwmni yn rhoi tystysgrifau am weithio yno am hiramser yn lle watch aur.

Roedd Lynda yn ddisgybl yn yr ysgol yn y pentref rhwng 1958 a1964 ac mai hi yn cofio clywed corn y gwaith yn chwythu hefyd y swn pan oeddynt yn chwythu yn y chwarel rhyw fath o “thud” mawr yn hytrach na “bang”.

Yn olaf aethom i siarad a Robin Williams Gyrn Goch neu Robin Band fel mae pawb yn ei adnabod. Gannwyd Robin yn Llanaelhaearn ac roedd yn gweithio yn y chwarel. Mae wedi rhoi i ni restr o enwau o ddynion a oedd yn gweithio gydag ef yn ystod y 1940 ar 1950.

Nid oedd pentref Trefor yn bod cyn dyfodiad y chwareli, adeiladwyd y pentref fell le i’r gweithwyr fyw ac yn sgil hynny death eglwys St Sior y capeli-Gosen(methodistiaiad), Maes y Neuadd (annibynnwyr) a Bethania (baptistiaid). Pan ddaeth y gweithwyr o Loegar yma i fyw fel y Coxs, Sharpes, Langs, Japheths, Baums, Mclellands daethant gyda hwy ei traddodiad o fandiau pres. Cychwynwyd band, Band Llanaelhaearn a byddai’r band yn mynd i dafarn y Waterloo ar ol ymarfer ond newidwyd enw’r band i Fand Trefor ac felly mae hyd heddiw sef Seindorf Trefor. Mae gan blant Lynda gysylltiadau a’r band yn mynd yn ol i ddechrau’r ganrif ddiwethaf pan oedd Tommi Meinar perthynas i’w tad Gareth yn chwarae yn y band a buont hwythau yn y band am flynyddoedd.

Morfudd Lloyd Jones

Llanaelhaearn

Dywedodd archeolegydd wrthyf ychydig yn ol mai Llanaelhaearn oedd y safle cymunedol sefydlog cyntaf ym Mhrydain gyfan. Sefydlwyd y Gymuned yma wrth droed yr Eifl ynghanol mynyddoedd o garreg ithfaen caled. Amgylchynwyd y pentref gan bump o chwareli ar un adeg, pan oedd y chwareli yn eu bri yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Deuai dynion yma i weithio o bob man a dod a’u teuluoedd yma gyda nhw i fyw, a deil yr enwau o hyd fel Cox, Baum, Japheth yn enwau teuluol amryw o Gymry glan sydd yn byw yn yr ardal. Heblaw am y Gwaith Mawr fel y gelwid y chwarel rhwng Llanaelhaearn a Trefor, roedd chwareli llai fel Caer Nant (Nant Gwrtheyrn Llithfaen), Carreg Llam (Llithfaen), ar un ochor i Llanhuar a Tan y Graig, Tyddyn Hywel a’r Black Sod ar yr ochor arall, gyda cannoedd o ddynion yn gweithio ynddynt. Yn wir byddai bywydau pob teulu yn y pentref yn troi o gwmpas yr hyn a ddygwyddai yn y chwarel, gan fod y corn gwaith yn taranu tros y fro ar yr un adeg bob dydd a byddai’r plant yn gwybod yn union pryd i roi gorau i’w chwarae a rhedeg adref am eu bwyd. Byddai y merchaid hefyd ac athrawon yr ysgol yn gwybod pan gannai corn hanner dydd ei bod yn amser cinio. Yn wir roedd pawb ar wahan i’r meddyg, y siopwyr, y gof, y publican a’r ffermwyr yn yr ardal yn gweithio yn y chwarel, ac yr oedd eu bywoliaeth hwythau i raddau helaeth yn ddibynnol ar y Gwaith Mawr, heb anghofio am y gweinidog a’r ficer. Ar y Sul a nosweithiau yr wythnos y byddai Capel a’r dafarn yn brysur (ar un adeg tua 1890 roedd wyth ia wyth tafarn yn y pentref a’r mwy poblogaidd oedd y Waterloo a oedd ar y ffordd allan o’r pentref wrth Tyddyn Drain) gan y byddai oedfaon a chyfarfodydd yn cael eu cynnal sawl noswaith ar ol diwrnod caled o waith.

Byddai cymdogaeth glos a phawb yn adnabod eu gilydd yn y pentref yr adeg honno, ac er fod llawer o ddieithriaid wedi symud yma i fyw ers hynny deil disgunyddion y chwarelwyr yn y pentref o hyd a chofiant am hanesion am berthnasau a ffrindiau a gafodd ei lladd wrth eu gwaith. Un o’r rhain oedd Robin Jones a gafodd ei ladd pan yn gweithio shift yn lle ei frawd er mwyn iddo gael mynd ar drip yr ysgol Sul gyda’i wraig a’i blant. Cofiant hefyd am Robert Roberts yn cael ei gario adref o’r chwarel ar elor , dim ond pump oed oedd ei fab Hedd Wyn ar y pryd. Bu tad, taid a hen daid Lynda (ein hysgrifennyddes ar yCyngor Plwyfol Eglwysig) a fy nhad yng nghyfraith innau a’i ewythyr yn chwarelwyr a chofiwm amdanynt yn cerdded filltiroedd i’r gwaith drwy bob tywydd a sachau am eu pennau weithiau pan fyddai’n glawio, am gyflog bycham iawn. Er eu tlodi fe lwyddon nhw i godi Capel y Babell, Capel Cwm Coryn a Capel Saron o’u harian prin ac mae darn o dy dros ffordd i gapel y Babell wedi ei adeiadu o weddill y cerrig ithfaen oedd dros ben ar ol codi’r Capel. Gwelir amryw o olion y defnydd a waned o gerrig y chwarel o amgylch y pentref hyd heddiw

Pan ddaeth gwaith pennaf y chwareli i ben ym mhumpdegau y ganrif ddiwethaf. Bu son am gau yr ysgol hefyd o achos fod teuluoedd yn symud oddiyma i chwilio am waith. Aeth tri teulu o stad Maes Glas sef Bert Cox, Jim Kelly a Ned Owen, tua’r un amser-stad o dim ond dwsin o dai. Yn y 1970au o dan arweiniad y Meddyg Carl Clowes bu ymgyrch frwd i gadw’r ysgol yn agored yn llwyddiant ag aed ati i greu gwaith i bobol leol trwy ddechrau Antur Aelhaearn-sef menter busnes gydweithredol, ac mae’r adeilad hwnnw wedi cael ei gymeyd drosodd bellach gan Gyngor Sir Gwynedd i hyfforddi pobol ifanc i wneud gwaith coed a metel a dysgu trin cyfrifiaduron.

Mae St Aelhaearn yn bwysig iawn i ni yn yr ardal, hon yw unig le swyddogol i gynnal gwasanaethau ar y Sul, ac yn fuan yr unig eglwys yn y plwwyf lle y gellid cynnal phriodasau a chrebrynnau. Daw pobol i addoli o ardal eang ac mae cynulleidfa dda yn bresennol bob Sul. Mae cryn dipyn ddefnydd ar gerrig o’r chwarel wedi ei wneud o gwmpas yr eglwys.

Pwysig iawn yw gallu symud ymalen gyda’r gwaith mwenol i sicrhau dyfodol ein heglwys. Daw llawer o ymwelwyr i weld carreg Aliortus ac yn wir yr eglwys gyfan.

Morfudd Lloyd Jones