Y Meddyg Carl Clowes
18/3/22
Coedlan cymunedol Llanaelhaearn ar ei ffordd!
Mae Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974) wedi derbyn grant gwerth £174,000 ar gyfer creu coedlan gymunedol yng nghanol y pentref. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan gynllun Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd hyn yn ein galluogi i greu coedlan gymunedol newydd ar ddwy acer o dir amaethyddol ger adeilad grŵp cymunedol Antur Aelhaearn. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn mynd at i blannu cyfuniad o 1,000 o goed cynhenid a 200 o goed perllan. Bydd y goedlan yn creu adnodd ar gyfer trigolion lleol, lle i fyfyrio, atyniad ar gyfer ymwelwyr, ac yn cynnig cyfleoedd addysgiadol i alluogi pobl leol i ddysgu am hen grefftau gyda’r nod, hefyd, o greu gwaith lleol cynaliadwy.
Gyda bryn gaer Oes Haearn Tre’r Ceiri gerllaw, byddwn yn plannu coed brodorol oedd yn bwysig i’r Celtiaid sef y dderwen, criafolen, helyg, coed cnau, afal a ffrwythau eraill Cymreig. Bydd prif fynediad i’r goedlan yn arwain trwy dwnnel o helyg byw, gyda boardwalk a llwybr ar ffurf patrwm Celtaidd yn ymlwybro trwy’r goedlan. Bob hyn a hyn ar hyd y llwybr lleolir cerfluniau gan artistiaid lleol o anifeiliaid coll oes y Celtaidd a mytholeg y Mabinogion. I gyd-fynd a’r cerfluniau gosodir blychau gwybodaeth clywadwy wedi eu pweru gydag egni llaw fydd yn adrodd hanes yr anifeiliaid.
Dywedodd Llŷr ap Rhisiart, Cadeirydd Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)
“Rydym yn hynod falch o dderbyn y gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Edrychwn ymlaen at ddechrau gwireddu’r freuddwyd o weld coedlan yn y gymuned. Gwyddom am fuddion mawr cysylltu â byd natur a’r amgylchedd naturiol a byddwn yn gallu gwneud hynny maes o law ar stepen y drws. Bydd creu’r goedlan yn waddol ac etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol. Bydd hefyd yn gyfraniad pentref Llanaelhaearn i daclo effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i weld mwy o goedlannau a choedwigoedd yn ôl yng Nghymru.”
Diwedd 2021 derbyniom y newydd trist iawn am farwolaeth sylfaenydd Antur Aelhaearn sef y Meddyg Carl Clowes. Fel teyrnged a choffadwriaeth arbennig iddo rwy’n hynod o falch o gyhoeddi mai enw swyddogol y datblygiad newydd hwn fydd ‘Coedlan Carl’.”
Mae’r cynllun Coetiroedd Cymunedol yn rhan o fenter unigryw Coedwig Genedlaethol Cymru o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac o dan reolaeth o ansawdd uchel.