5/12/21
Gwerth edrych ar hwn y rhaglen Look Stranger
Dr Carl Clowes
Derbyniwyd y newyddion tu hwnt o drist ddoe fod y Meddyg Carl Clowes wedi marw yn dilyn cyfnod byr o salwch. Estynwn ein cyd ymdeimlad dwysaf i’r teulu cyfan. Bydd gweledigaeth Carl yn byw am byth yn Antur Aelhaearn a’r sefydliadau cyffelyb a sefydlwyd ar draws Cymru ers hynny.
Diwrnod Cyflwyno y Murlun/Diwrnod Agored yn yr Ardd Gymunedol.
Chwefror
Elfed Morgan yn mynd a moddion o gwmpas y gymuned yn Carwyn
Ionawr
Gardd Pontio’r Cenedlaethau/Dementia
Mae’r gwaith ar yr ardd wedi ail ddechrau ac mae cryn dipyn wedi ei wneud. Rydym yn gobeithio adeiladu’r ty gwydr a dau gwt yn y misoedd nesaf i fod yn barod am y Gwanwyn.
Carwyn y Car Trydan
Efallai fod rhai ohonoch wedi sylwi ar y car lliwgar sydd wedi ei barcio ger adeilad Antur Aelhaearn yn ddiweddar. Carwyn y car trydan ydi hwn a mi fydd yma yn Llanaelhaearn am flwyddyn. Bu i Antur Aelhaearn gynnal gwaith ymchwil ymusg pobl ifanc yr ardal yn ystod yr haf fel rhan o broject Byw a Bod. Arianwyd y project gan Menter Mon ac Arloesi Gwynedd. Penodwyd Cian Ireland a Tomos Williams, dau fachgen lleol yn swyddogion Byw a Bod a buont yn brysur yn ystod yr haf yn cynnal yr ymgynghoriad.
Un or prif ganfyddiadau’r ymchwil oedd bod pobol yn teimlo fod teithio yn anodd yn arebennig o gofio fod trafnidiaeth gyhoeddus wedi dioddef gan doriadau a bod costau rhedeg car mor ddrud. Fe benderfynoedd senedd yr Antur i wneud cais am y car trydan.
Mae’n gar sydd yn eithaf hawdd iw yrru gyda gyrraint awtomatig. Mae y trydan or adeilad yn llenwir batri mewn 7awr a mae’n ddigon i fynd am siwrna o 120 milltir heb orfod ail wefru’r batri. Mae Carwyn yn cael ei llnau gyda sylwedd arbennig gan gwmni arbenigol. Mae y sylwedd yma yn lladd y firws am gyfnod o fis. Mae cyfarpar llnau yn y car hefyd.
Yn ystod y mis daeth newyddion trist fod Beti Hughes wedi ein gadael roedd Beti wedi bod yn un o hoelion wyth ein cymuned, yn barod bob amser i gefnogi pob ymgyrch. Bu yn drysorydd yr Antur am flynyddoedd lawer, yn gaderiydd Corff Llywodraethol Ysgol Llanaelhaearn a chadair Cyngor Cymuned Llanaelhaearn. Dim on i enwi ychydig
Protestio yn erbyn cay ysgol y pentref 1972. Beti yn y canol
Beti a Megan Baum c.1976
Cyn y Nadolig fe fu gwirfoddolwyr ar ran yr Antur o amgylch y pentref yn rhannu anrhegion Nadolig i’r plant. Rhywbeth bach i godi calon.