Cau yr Ysgol 2020

Erbyn 2017 pan benodwyd Richard Derwyn Jones yn bennaeth roedd nifer y disgyblion wedi lleihau yn sylweddol. Roedd rhieni yn anfon eu plant i ysgolion eraill am amryw. o resymau. Fe fu’r llywodraethwyr yn cwffio yn galed i drio wrthdroi y lleihad yma ond yn ofer. Yn 2019 fe fu rhaid gwynebu ffeithiau called iawn. Roedd 38 o blant yn nhalgylch yr ysgol a dim ond 11 yn mynychu ysgol y pentref.

Yn y 1970s fe gwffiodd rhieni y pentref i gadw’r ysgol yn agored, yn 2020 mae’r rhieni wedi ei chau

E bost gan Modereiddio Addysg Cyngor Gwynedd

Annwyl Lywodraethwr,

Yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 24.06.19 yng Nghanolfan y Babell, atodaf gopi o’r cyflwyniad.

Unwaith eto, hoffwn ategu pa mor bwysig ydyw ein bod yn derbyn eich mewnbwn chi, rhan-ddeiliaid yr ysgol boed yn Lywodraethwr, rhiant neu aelod o staff.

Rydym wedi nodi’r hyn gyflwynwyd i ni gennych ar y noson a byddwn yn ymateb ac ymchwilio i’r rhain gan adrodd yn ôl ym mis Medi.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gynigion eraill yr hoffwch i ni eu hystyried, gallwch eu rhannu gyda ni drwy e-bostio ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru erbyn y 1af o Orffennaf.

Yn gywir,

Ffion