2017
Y Ffair Haf
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi. Y tywydd wedi dal yn sych.
Parch Lloyd Jones a’r Parch Casi Jones
Canon Peter James-gemau plant
Mrs Edwina Lloyd Hughes a Mrs Rose Williams yn gofalu am y raffyl
Dant melys gan rhywun!
Castell nedio dan ofal Mrs Sianelen Pleming
BBQ-Mr Kelvin Pleming yn ffrio heno
Mrs Christine Jenkins a Mrs Kit Ellis cecs o fri
Paratoi y tombola Mrs Lynda Cox, Mrs Bethan Pritchard, Mrs Caren Humphreys a Llinos Jones
Ffair Haf
Cynhelir y Ffair ar nos Fawrth 18 o Orffenaf ar y Cae Chwarae/Canolfan y Babell. Tal mynediad £1. Fe fydd BBQ, Gemau, Raffyl, Tombola a mwy. Hwyl i’r teulu oll dewcg draw i fwynhau
Cyfarfod Blynyddol
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar ol y Boreol Weddi. Diolchwyd i bawb gan y ficer y Parch Lloyd Jones, sydd wedi gweithio i gynnal ein heglwys tros y flwyddyn diwethaf mewn unrhyw ffordd. A diolch arbennig i Mrs Edwina Lloyd Hughes sydd am adael ei swydd fel trysorydd ar ol tros 50 o flynyddoedd. Fe fydd Mrs Helen Williams Ellis yn ymgymeryd a’r sewyyd at diwedd y flwyddyn. Fe fydd y swyddogion eraill fel o’r blaen.
Mae’r eglwys yn agored ar ddydd sadwrn yn ystod tymor yr Haf o 10:00 tan 4:00 os bydd rhywun am ymweld a hi.
*************************************************************************
2013
Cyfarfod
Fe fydd Esgob Bangor yn cyfarfod gyda Cyngor Plwyfol Eglwysi Sant Aelhaearn, Sant Beuno, Llanwnda, Llandwrog a Dyffryn Nantlle( yr eglwysi yn ein grwp ni) ar 31/5/12 i drafod y ffordd ymlaen
Yn ystod 2010/2011 fe wariwyd o ddetu £200,000 ar adnewyddu’r eglwys gyfan. Mae’n debyg mai hwn oedd y gwaith mwyaf erioed i’w wneud i’r adeilad. Y pensaer oedd Alun Meirion Jones o Bartneriaeth ap Thomas, Bangor a’r adeiladwyr oedd L. Sturrs a’i Fab, Bethesda. Wrth weithio ar y llwybr o gwmpas yr eglwys darganfuwyd llawer o esgyrn a bu’n rhaid anfon rhai i ffwrdd i gynnal profion. fe ddaeth yn amlwg fod rhai dros 100 mlwydd oed. Ail gladdwyd yr esgyrn mewn gwasanaeth syml a luniwyd gan y rheithor y Canon Idris Thomas.
Ymddeol
Ar dydd Sul 25ed Medi daeth dyrfa fawr ynghyd i ddiolch am weinidogaeth y Canon Idris Thomas. Gyda tristwch mawr yr oedd yr amser wedi dod i ffarwelio a Canon Thomas ar ol trideg chwech a hanner o flynyddoedd yn y plwyf, cyflwnwyd tysteb teilwng iawn iddo ar ran y gyneulleidfa. Wedyn aeth pawb i Ganolfan y Babell am luniaeth ysgafn.
Ch i Dde Mrs Rose Williams, Mrs Ann THomas, Canon Idris Thomas, Mr Mike Atkin
Canon a Mrs Thomas gyda’r darlun a gyflwynwyd iddynt gan yr arlynudd lleol enwog Mr John Baum
Interregnum
Yn ystod y cyfnod yma bydd y Deon Bro y Parch Lloyd Jones yn gyfrifol am y plwyf. Dylai unrhyw un sy’n dymuno priodi yn yr eglwys, bedyddio neu ar gyfer angladd cysylltu ag ef ar 01248 670212 neu trwy gysylltu â’c ysgrifennydd yr eglwys Mrs Lynda Cox 01758 750474 neu un o’r wardeniaid-Mr Mike Atkin neu Mrs Rose Williams
Yn ystod cyfarfod gyda Archddeacon Bangor, yr Hybarch Paul Davies cafodd y Cyngor Plwyfol Eglwysig gwybod na fydd ficer newydd yn cael ei benodi i blwyf Llanaelhaearn. Mae’r esgobaeth yn edrych ar grwpiau o eglwysi ymuno â’i gilydd. Bydd ein grŵp yn ôl pob tebyg yn cynnwys Clynnog Fawr, Llanwnda, Llandwrog a Dyffryn Nantlle ac wrth sgwrs Llanaelhaearn . Mae’r CPE wedi cael sicrwydd gan yr Esgob y bydd y rheithor newydd yn gallu siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ni yma gan ein bod o fewn, un o’r ardaloedd mwyaf Cymreig yng Ngwynedd. Mae’r Cyngor Plwyfol Eglwysig wedi bod yn gweithio ar y Proffil y Plwyf fydd yn cael ei rhoi at ei gilydd gyda’r eglwysi eraill yn y grŵp a’i anfon at unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb ar gyfer y plwyf newydd a fydd yn cael ei alw yn Plwyf Clynnog Fawr.