Saif y gaer ar ben y mwyaf dwyreinol o dri copa’r Eifl, mae hon yn un ô’r bryngaerau mwyaf yng ngwledydd Ewrop. Yn wir mae hon yn un o henebion mwyaf trawiadol yng ngwledydd Prydain, ac yn gysylltiedig a hanes Gwrtheyrn.
Daeth î’r amlwg yn 1813 yn Pennant’s Tours of Wales. Mae’r rhagfyr mewnol ô’i hamgylch tua 3m o uchel gyda tua 150 o gytiau cerrig crwn y tu mewn iddi. Mae nifer ô’r cytiau gyda waliau sydd tua 1m o uchel.
Gwnaed ymchwiliad archeolegol yn 1956. Mae’n debyg fod pobl yn byw ar y safle yn y cyfnod Rhufeinig ond y tebygrwydd yw fod y safle yn dyddio rhwng 140oc a 400oc.
Mae Cadw yn gyfrifol am y safle a gwnaed rhywfaint o waith cynnal a chadw arni. Gellir dringo î’r gaer wrth ddilyn y llwybr cyhoeddus oddiar y B4417 (am Nefyn). Mae lle parcio yn brin ac yn ystod yr haf mae’r ffordd yma yn brysur.
[google-map-v3 width=”600″ height=”400″ zoom=”14″ maptype=”HYBRID” mapalign=”center” directionhint=”false” addmarkermashupbubble=”false” addmarkermashupbubble=”false” addmarkerlist=”52.973992, -4.424483{}1-default.png” maptypecontrol=”true” pancontrol=”true” zoomcontrol=”true” scalecontrol=”true” streetviewcontrol=”true” scrollwheelcontrol=”true” bubbleautopan=”true” showbike=”false” showtraffic=”false” showpanoramio=”false”]