Carreg Aliortus

Daethpwyd o hyd i’r gaarreg yn 1865 mewn cae gyferbyn â’r eglwys o’r enw Gardd Sant (Erw Sant heddiw). Gellir ei gweld ar y wal yr asgell ogleddol o fewn yr eglwys. Mae’n dyddio o’r 5ed neu’r 6ed ganrif.
Ystyr y geiriau Lladin yw-“yma y gorwedd Aliortus dyn o Elmet” Yn ystod y cyfnod hwn Elmet oedd un o deyrnasoedd Prydain yng ngorllewin Swydd Efrog (o gwmpas lle y dinas Leeds heddiw). Dengys hyn fod Cristnogaeth yn yr ardal yma ers llawer dydd..