Ysgol Gynradd Llanaelhaearn

 

 

 

 

 

 

2017

Croeso mawr i Mr Richard Jones pennaeth newydd yr ysgol. Mae Mr Jones hefyd yn bennaeth ar ysgol Garndolbenmaen felly fe fydd y ddwy ysgol yn cydweithio.

20/7/17

Diwrnod o hwyl a sbri i orffen y tymor ac i ffarwelio a Mr Elfed Williams ac i ddiolch iddo am ei waith yn ystod y flwyddyn

19/7/17

Cychwyn ar eu taith gerdded, rhai o’r mamau am gerdded hefyd. Gallwch gyfrannu at y daith drwy law unrhyw un o’r rhieni neu drwy gysylltu a Ms Lowri Edwards ar 01758 750263.

16/6/17

   

Ser yr Wythnos

Liam, Mari ac Arwel-Gwych

 

9/6/17

Seren yr Wythnos

Alaw- da iawn chdi

 

2/5/17

Ymweld a bad achub Porthdinllaen

 

7/4/17

Ser yr Wythnos

Eban a Chloe-gwych

 

 

17/3/17

Ser yr Wythnos

Eban a Liam-da wan hogia

 

3/3/17

Seren yr Wythnos

Nanw-ardderchog

 

1/3/17

Dathlu Dydd Gwyl Dewi

 

16/2/17

Dysgu can Pared Pwllheli gyda Dewi Pws

 

10/2/17

Ser yr Wythnos

Arwel ac Ilan-da iawn hogia

 

3/2/17

Ser yr wythnos

Indi a Lewis-Ardderchog

 

6/1/17

Ser yr wythnos

Nanw ac Eban-da iawn chi

 

 

Diwrnod braf o Ionawr, cychwyn am ben y Foel.

A dyma ni wedi cyrraedd, golygfeydd bendigedig

 

 

 

Hen Ysgol Fach y Llan

Ysgrifennwyd i goffau y frwydyr i gadw’r ysgol yn agored

Mae llawer son a siarad ‘nawram gau’r ysgolion bach,

Ond O! bydd colled ar eu hol na fu erioed eibath,

Fe gauwyd ysgol Bryncroes Llyn, er ymladd ar ei rhan,

A’r nesaf ar y rhestr, yw hen ysgol fach y llan

************************************************

Cytgan

O! O! hen ysgol fach y Llan’huar

Hen ysgol fach Llan’huar,

Hen ysgol fach Llan’huar ydyw’r orau i gyd,

Hen ysgol fach Llan’huar,

Hen ysgol fach Llan’huar,

Hen ysgol facg Llan’huar ydyw’r orau ar y ddaear

******************************************

Fe godwyd ynddi lawer un a ddaeth a bri i’r fro,

Meddygon, gweinyddesau glan, cerflunydd yn ei dro,

Athrawon, a chantorion lu, arlunydd hawddgar llon,

Ond nid yw hyn yn cyfrif dim-rhaid cau yr ysgol hon.

**************************************************

Diolchwn fod brwdfrydedd mawr yn aros yn y Llan,

Fe ddaw goleuni’n siwr i chwi, a gobaith yn y man,

Rhaid sefyll gyda’n gilydd nawr a phenderfynnu’n llwyr,

Na cheuir yr hen ysgol fach-cyn iddi fynd rhy hwyr.

Di enw

 

Yn gynnar ym 1970 derbyniodd rheolwyr ysgol gynradd Llanaelhaearn lythyr gan Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, a awgrymai y byddai’r ysgol yn cau yn y dyfodol agos. Ym mis Medi roedd cyfarfod cyntaf o’r Gymdeithas Rieni. Roeddd yr ysgol tan ei sang gyda rheithor y plwyf y Parchedig William Roberts yn y gadair. Cafwyd penderiad unfrydol, rhaid oedd ymladd i gadw’r ysgol yn agored.

Trefnwyd deiseb yn gofyn i’r Pwyllgor Addysg ail feddwl, fe’i harwyddwyd gang an bron pawb yn yr ardal. Daeth y gorchymyn cau ffurfiol ym Mawrth 1972, roedd gan y pentrefwyr chwech wythnos i wrthwynebu yn ffurfiol. Daeth cefnogaeth i’r ymgyrch o lawer man yn cynnwys y diweddar Arglwydd Goronwy Roberts.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chyn feddyg y pentref Donald Kiff. Dyma ran o lythyr a anfonodd at y Pwyllgor Addysg “The school has served generations of children, moulded them and sent many on to academic and business heights.”

Ym mis Gorffenaf 1972 trefnwyd rali fawr ar Faes Caernarfon i bwsleisio’r angen am barhad addysdgu yn y Gymru wledig. Ar ddydd Sadwrn braf, gyda’r plant yn eu crysau T ysgol Llanaelhaearn a Seindorf Trefor yn arwain, gorymdeithiodd tyrfa fawr drwy strydoedd Caernarfon. Ond nid protest oedd, ond gorymdaith i ddathlu a llawenhau cans ar y dydd Iau blaenorol fe fu i’r Pwyllgor Addysg benderfynnu gadw’r ysgol yn agored.

Plant yr ysgol yn barod i orymdeithio yng Nghaernarfon-The schoolchildren getting ready to march through Caernarfon