Cofnodion y Cyngor

CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

Cadeirydd

Cyng  Lynda M Cox

Clerc

Mary C Jones

Merbwll

Penlon

Trefor

Caernarfon

LL54 5AB

01286 660 768/07879825459

mary.jones17@btinternet.com

2019

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS  LUN, Gorffennaf 1af  2019 am 7.30 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU.
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.
  3. DATGAN DIDDORDEB.
  4. COFNODION CYFARFOD Mehefin 10fed 2019

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO
  2. Bryn Suntur, Trefor, Caernarfon, Gwynedd.

Dymchwel ystafell haul bresennol a chodi ystafell haul Newydd.        

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANNOL

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. CYLLID

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                             

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Gorffennaf) …………………….…… 300.00
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Medi 2ail  2019 am 7.30 y.h.

Yng Nganolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEDI 2019

             (Dydd Gwener, Awst 23ain 2019).

 

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS  LUN, Mehefin 10fed 2019 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  3. DATGAN DIDDORDEB
  1. COFNODION CYFARFOD Mai 13eg 2019

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.          

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANNOL

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD TENDRAU GWAITH MYNWENTYDD Y PLWYF
  2. CYLLID

Derbyniadau

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                     

            Taliadau

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mehefin) …………………….…… 300.00
  2. Osian Williams, Pistyll (Gwagio Biniau Mynwentydd) …… 170.00
  3. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) ……………….   63.00
  4. Ashley Hughes Cyf, Nefyn (Papur Gwyn) ………………….   16.79
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Gorffennaf 1af  2019 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD GORFFENNAF 2019

             (Dydd Gwener, Mehefin 21ain 2019).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A’R CWRDD PLWYF

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Mai 13eg  2019 am 7.30 y.h.               

 Neb o’r Cyhoedd wedi dangos dim diddordeb yn y Cwrdd Plwyf

            YN BRESENNOL 

 Cynghorwyr; Lynda M. Cox; Jina Gwyrfai; Meirwen Cullen; Helen Pritchard; Trystan Humphreys; Aled W.Jones; Iwan W. Taylor; Llion Jones; John Pritchard;

Gwyneth Jones a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr Llyr ap Rhisiart; Sioned A. Braniff

9.581. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Diolchodd i’r Aelodau a’r Clerc am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

9.582. DEWIS IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2019/20. 

Cadeirydd     – Cynghorydd Lynda M. Cox, Llanaelhaearn.

Is-Gadeirydd  – Cynghorydd Jina Gwyrfai, Trefor.

9.583.  DATGAN DIDDORDEB.

Neb

9.584. COFNODION CYFARFOD Ebrill 1af  2019.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Helen Pritchard.

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion 

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc  i gysylltu gyda Mr Euryn Williams, Uwch Swyddog Hawliau Tramwy,    Cyngor Gwynedd i gael trafodaeth a’r y ffordd ymlaen yn awr i gofrestru y       llwybr.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn..

9.564   MYNWENTYDD Y PLWYF. 

 Y Clerc wedi gwneud rhestr o’r gwaith sydd angen ei wneud ym Mynwentydd y   Plwyf.

Pendefynwyd i anfon y rhestr allan i gontractwyr i ofyn am brisiau.

9.576.  CYSGODFAN BWS PINDWR TREFOR.

Y Cyngor wedi derbyn cwynion bod llechi ar dô yr adeilad yn rhydd.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i gael rhywun i edrych ar y safle.

9.577.  CAIS CYNLLUNIO MORFA, TREFOR.

Yr Adran Gynllunio ym Mhwllheli wedi anfon ebost i’r Clerc ynglyn a’r uchod.

Mae’r ymgeiswyd meddent wedi tynnu y cais cynllunio yn o lar 30 Ebrill 2019 ac             felly ni fydd gweithrediad pellach ar y cais cynllunio yma.

Deallir fod y perchnogion wedi derbyn tystysgrif eithriedig gan y Greener Camping Club i leoli 15 uned ar y tir.  Gan eu bod yn gweithredu drwy’r Greener     Camping Club nid ydynt angen caniatad cynllunio i leoli’r unedau ar y tir.

Mae Swyddogion o’r Uned gorfodaeth wedi ymweld a’r safle ynglyn a materion   eraill sydd wedi cael eu codi am strwythurau ac ati ar y tir a byddent yn cysylltu      ymhellach gyda’r perchnogion am yr agweddau yma o safbwynt os oes angen        caniatad cynllunio neu beidio ar eu cyfer.

            Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.585. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn y mis yma.

9.586. GOHEBIAETH.

  1. Owen Owens, Uwch Reolwr Ysgolion

Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd

Derbyniwyd llythyr gan yr Adran ynglyn a Panel Apel Mynediad A Phanel Apel Gwaharddiad Disgyblion.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau..

9.587.  CEISIADAU ARIANNOL.

Trafodwyd y ceisiadau ariannol  am y flwyddyn a phenderfynwyd fel a ganlyn :

  1.         Y Ganolfan / Cae Chwarae, Trefor ……………………        500.00
  2. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn ……………….      400.00
  3.         Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn, Llanaelhaearn ……….      400.00
  4.         Pwyllgor Cae Chwarae Llanaelhaearn …………………      400.00
  5.         Canolfan Y Babell, Llanaelhaearn ……………………..      300.00
  6.         Cylch Meithrin yr Eifl, Trefor ………………………….      300.00

7         Ambiwlans Awyr Cymru ………………………………      200.00

Clwb Ffermwyr Ifanc Godre’r Eifl …………………….       200.00

9         Cof y Cwmwd (Canolfan Uwchgwyrfai) ………………      200.00

10        Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor ……………………..        100.00

9.588.  LWFAN CYNGHORWYR.

Bydd cynghorwyr yn derbyn lwfans blynyddol o hyd at £150.00 i dalu costau a     ysgwyddwyd megis rhai’n ymwneud ag argraffu dogfennau, galwadau ffon a     nwyddau traul cyffredinol.

Nid oes rhaid gwneud cais am y lwfans a chaiff ei dalu’n awtomatig ar ddiwedd y             flwyddyn ariannol oni bai eu bod yn dewis tynnu allan o dderbyn y taliad.

Y Clerc wedi argraffu y ffurlenni i’r rhai oedd yn dewis tynnu allan o derbyn y      lwfans.

12 o’r aelodau wedi arwyddo i dynnu allan o dderbyn y taliad.

9.589.  ARCHWILIAD 2017 / 18

 Y Clerc wedi derbyn adroddiad gan Archwilwyr, roeddyn yn tynnu sylw y             Cyngor Cymuned at rai pwyntiau.

Y Clerc wedi rhoi copi i bob un o’r Aelodau.

Trafodwyd y pwyntiau a gwneud y pethau angenrheidiol erbyn archwiliad nesaf.

9.590.  ARCHWILIAD 2018 / 19.

  Adroddodd y Clerc bod y llyfrau a.y.y.b yn barod i fynd i’r Archwilwyr  Mewnol, Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon.

Cafodd yr Aelodau gopi o fantolen y Cyngor Cymuned am y flwyddyn.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.591.  DIWEDDARIAD HENDRAGARREG, TREFOR.

Derbyniwyd gwybodaeth gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai nad oedd prosiect          Hendragarreg o droi y toiledau ar y traeth yn Nhrefor yn amgueddfa yn mynd yn            ei flaen, mae hyn meddai oherwydd diffyg cefnogaeth yn y pentref.  Nid oeddynt           wedi arwyddo derbyn y les gan Gyngor Gwynedd.

            Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.592.  TOILEDAU TRAETH TREFOR.

Gan nad yw Hendragarreg yn cario ymlaen gyda eu prosiect, trafodwyd hwyrach y gallai y Cyngor Cymuned ystyried cymeryd y les i agor yr adeilad fel toiledau         eto.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Swyddog yng Ngyngor Gwynedd ynglyn a hyn.

9.593.  TRAETH TREFOR.

  1. Derbyniwyd gwybodaeth bod ‘Jet Skies’ yn mynd allan i’r mor o draeth Trefor.   Maent yn gallu mynd ar y traeth heibio i’r cerrig mawr sydd wedi eu lleoli ddim     yn bell o waelod y maes parcio.  Mae gerbydau 4×4 a thractorau yn gallu mynd y   ffordd yma hefyd.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Mr Barry Davies,           Swyddog Morwrol Cyngor Gwynedd ym Mhwllheli am hyn, a gofyn iddo gael             rhywun i symud y cerrig yn nes at eu gilydd.

  1. Derbyniwyd gwybodaeth hefyd bod baw cwn ar y traeth ac hefyd ar ben doc bach lle mae y meinciau i bobl eistedd.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Mr Alan Hughes,           Swyddog Gorfodaeth Stryd, Cyngor Gwynedd ym Mhwllheli am hyn, a gofyn iddo am fwy o finiau cwn, neu a fuasai yn bosibl i’r Cyngor Cymuned brynu rhai ein hunain.

9.594.  CYLLID.                           

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

  1. Cyngor Gwynedd (Praesept Rhan 1) ………………………….. 12,500.00

            Taliadau.

  1. Zurick municipal (Yswiriant 2019 / 20) ………………………      764.95
  2. Swyddfa Archwilio Cymru (Archwiliad 2017 / 18) …………..      302.30
  3. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mai) ………………………..……      300.00

Rhoddion Ariannol 2019.

 

  1. Y Ganolfan / Cae Chwarae, Trefor ……………………            500.00
  2. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn ……………….     400.00
  3. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn, Llanaelhaearn ……….          400.00
  4. Pwyllgor Cae Chwarae Llanaelhaearn …………………          400.00
  5. Canolfan Y Babell, Llanaelhaearn ……………………..          300.00
  6. Cylch Meithrin yr Eifl, Trefor ………………………….          300.00

7          Ambiwlans Awyr Cymru ………………………………          200.00

  1. Clwb Ffermwyr Ifanc Godre’r Eifl …………………….           200.00

9          Cof y Cwmwd (Canolfan Uwchgwyrfai) ………………          200.00

10        Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor ……………………..            100.00

  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mehefin 10fed  2019 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.596.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEHEFIN 2019

           

            (Dydd Gwener, Mai 31ain  2019).

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CWRDD PLWYF

A CHYFARFOD O’R CYNGOR I DDILYN.

YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS  LUN, Mai 13eg   2019 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD

2a        DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN                                    2019/20

  1. DATGAN DIDDORD
  2. COFNODION CYFARFOD Ebrill 1af 2019

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion.

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.  

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn          

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANN

Ceisiadau Ariannol am y flwyddyn.

(Copiau amgaeedig)

  1. LWFANS CYNGHORYDD.

            (Ffurflen tynnu allan o dderbyn y lwfans)

  1. TRAFOD ARCHWILIAD 2017 / 18 
  2. TRAFOD ARCHWILIAD 2018 / 19
  3. TRAFOD DIWEDDARIAD HENDRAGARREG, TREFOR
  4. TRAFOD TOILEDAU TRAETH TREFOR
  5. CYLLID

Derbyniadau. 

  1. Cyngor Gwynedd (Praesept Rhan 1) …………………………….. 12,500.00.                                             

            Taliadau.

  1. Zurich Municipal (Yswiriant 2019/20) ………………………….      764.95
  2. Swyddfa Archwilio Cymru (Archwiliad 2017/18) ……………….      302.30
  3. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mai £300.00 – HMRC £0.00) ………………       300.00
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mehefin 3ydd  2019 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEHEFIN 2019

             (Dydd Gwener, Mai  24ain  2019).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Ebrill 1af  2019 am 7.30 y.h. 

YN BRESENNOL

  Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox;       Trystan Humphreys; Sioned A. Braniff; Aled W.Jones

a’r  Clerc Mary C. Jones

YMDDIHEURIADAU.

  Cynghorwyr Llyr ap Rhisiart; Iwan W. Taylor; Llion Jones; John Pritchard

a Gwyneth Jones;

9.569. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Llongyfarchwyd Plant / Pobl Ifanc y Plwyf ar eu llwyddiant yn Eisteddfodau Sir

yr  Urdd.

9.570.  DATGAN DIDDORDEB.

Neb

9.571. COFNODION CYFARFOD Mawrth  4ydd  2019.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox.

ac eilwyd gan y Cynghorydd Helen Pritchard..

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion 

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc  i gysylltu gyda Mr Euryn Williams, Uwch Swyddog Hawliau Tramwy,    Cyngor Gwynedd i gael trafodaeth a’r y ffordd ymlaen yn awr i gofrestru y llwybr.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn..

9.530. GOHEBIAETH.

  1. Bea Kelsall,

            Tanllan, Llanaelhaearn, Caernarfon, Gwynedd.

            Coeden ger Frondeg, Llanaelhaearn.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Ms Lea Connelly, Swyddog Coed, Cyngor Gwynedd        ynglyn  a’r goeden ger Frondeg, Llanaelhaearn. ‘Roedd wedi ymweld a’r goeden         ffawydd sydd ger Frondeg i asesu’r goeden ar gyfer cael gorchymyn gwarchod (TPO)    arno.  Mae system TEMPO Forbes-Laird yn cael ei ddefnyddio i asesu os yw coeden     yn haeddiannol o gael gorchymyn gwachod arnynt meddai.  Mae’r system yma yn           edrych ar bof elfin o’r goeden – cyflwr, lleoliad, iechyd, ffurf a.y.y.b i roi dyfarniad             ar y goeden..  Er bod y goeden yn fawr ac hefo bonnyn diddorol iawn mae’r patrwm       tyfu wedi rhoi 3 prif gangen – beth a elwir yn co-dominant stems.  Mae’r ffyrf yma o           dyfu yn gallu creu gwendidau yn strwythur y goeden lle maent yn tyfu i fewn i’w        gilydd a yn rhwbio – mae tystiolaeth o hyn ar y goeden yn barod lle mae’r rhisyl wedi    rhwygo ac wedi creu craith – beth a elwir yn included bark.  Yn anffodus oherwydd     nifer o ffactorau nid oedd y goeden yn sgorio digon uchel i gael gorchymyn gwarchod      wedi ei rhoi arni.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau, ond nid oeddynt yn hapus am y canlyniad. 

9.564   MYNWENTYDD Y PLWYF.

  Trafodwyd bod angen gwaith clirio a lefelu pridd a.y.y.b ym Mynwent Newydd

Llanaelhaearn ac hefyd ym Mynwent Gyhoeddus Trefor.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Pwyllgor Mynwentydd gwrdd nos Fercher, 10fed o Ebrill am 6.30 ym maes parcio Mynwent Lanaelhaearn i drafod

y gwaith sydd angen ei wneud.  Byddai croeso hefyd i Aelodau nad oeddynt ar      bwyllgor y mynwentydd i fod yn presennol

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.565.  ‘DROP KERB’ GER SWYDDFA BOST TREFOR.

Derbyniodd y Cler ebost gan Dylan Wynn Jones, Rheolwr Uned Traffig, Prosiectau a      Gwaith Strydd, Cyngor Gwynedd yn hysbysu y Cyngor Cymuned ei fod yn trefnu bod llinell wen bur yn cael ei osod lle mae’r ‘drop kerb’, fodd bynnag meddai rhaid  nodi nad oes unrhyw sail cyfreithiol ar gyfer hwn ac felly bydd yn anodd gorfodi rhai rhag parcio ar y safle.

Erbyn hyn mae llinell wen wedi ei pheintio tu allan i’r swyddfa bos yn Nhrefor, a gall       rhai sydd gyda anabledd cerdded fynychu yr adeilad.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.572. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Tan y Bwlch, Trefor, Caernarfon.

Dymchwel toiled allanol a chodi estyniad unllawr ochr yn ei le.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd nad oedd gan yr Aelodau unrhyw wrthwynebiad          i’r cais, gan eu bod yn deulu ifanc ac yn lleol.

9.573. GOHEBIAETH.

  1. Lyn Cadwaladr, Prif Weithredwr

            UN LLAIS CYMRU

            24, Stryd y Coleg, Rhydaman, Caerfyrddin.

Derbyniwyd ffurflen i ail-ymaelodi gyda Un Llais Cymru.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i ymaelodi am y flwyddyn 2019 / 2020.

Tal Aelodaeth yn £179.00, yn seiliedig ar 561 o anheddau trethadwy yn ôl

£0.320p yr annedd. (Yn seiliedig ar Restr Brisio, nid Cofrestr Etholiadol)..

9.574.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn y mis yma.

9.575.  MAES PARCIO MYNWENT LLANAELHAERN.

Adroddodd y Clerc bod car wedi ei parcio / adael yng nghongl y maes parcio ers rhai      wythnosau, roedd MOT arno ond dim trwydded – SORN.  Y Clerc wedi cysylltu a’r     Heddlu ac hefyd gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd,  Y Clerc wedi derbyn ebost

gan Mr Phillip Pritchard o Gyngor Gwynedd yn datgan ei fod wedi cysylltu a        pherchennog y car a bod wedi rhai dyddiau i’w symud.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.576.  CYSGODFAN BWS PINDWR TREFOR.

Y Cyngor wedi derbyn cwynion bod llechi ar dô yr adeilad yn rhydd.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i gael rhywun i edrych ar y safle.

9.577.  CAIS CYNLLUNIO MORFA, TREFOR.

Rhai o’r Aelodau yn bryderus nad oeddem wedi cael unrhyw ymateb ynglyn a chais       cynllunio Morfa i sefydlu safle glampio i 6 uned (pabell).

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc cysylltu a’r Adran Gynllunio ym         Mhwllheli i holi.  

9.578.  CYLLID.                           

 Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

Dim  wedi ei dderbyn i mewn..

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Ebrill £300.00 – HMRC £0.00) …………     300.00
  2. Cyngor Gwynedd (treth Mynwent Trefor) …………………… 234.07
  3. Un Llais Cymru (Aelodaeth 2019-20) …………………………. 179.00
  4. Dwr Cymru (Mynwent Gyhoeddus Trefor) …………………… 142.84
  5. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mai 13eg  2019 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.580.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAI 2019

           

            (Dydd Gwener, Mawrth  22ain  2019). 

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

——– Original Message ——–
Subject: C18/0694/37/LL – FFERM MORF, TREFOR
From: Cynllunio/Planning <CYNLLUNIO@gwynedd.llyw.cymru>
Sent: 3:11pm, Friday, 3 May 2019
To: “‘mary.jones17@btinternet.com'” <mary.jones17@btinternet.com>
CC:

Prynhawn da, 

Gallaf gadarnhau fod y Cyngor Cymuned wedi cael eu gwybyddu yn y ffordd arferol am y cais cynllunio uchod a derbyniwyd ymateb gennych trwy e-bost dyddiedig 14 Hydref 2018.  Atodaf gopi o’r ymateb dderbyniwyd gennych

Mae’r ymgeiswyr wedi tynnu’r cais cynllunio uchod yn ôl ar 30 Ebrill 2019 ac felly ni fydd gweithrediad pellach ar y cais cynllunio yma.

Deallir fod perchnogion Fferm Morfa wedi derbyn tystysgrif eithriedig gan y Greener Camping Club i leoli 15 uned ar y tir.  Gan eu bod yn gweithredu drwy’r Greener Camping Club nid ydynt angen caniatad cynllunio i leoli’r unedau ar y tir.

Mae swyddogion o’r Uned Gorfodaeth wedi ymweld gyda’r safle ynglyn a materion eraill sydd wedi cael eu codi am strwythurau ac ati ar y tir a byddent hwy yn cysylltu ymhellach gyda’r perchnogion am yr agweddau yma o safbwynt os oes angen caniatad cynllunio neu beidio ar eu cyfer. 

Gobeithio fod yr uchod yn eich diweddaru ar y sefyllfa.

Gwenan Jones

Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu /

Senior Development Control Officer

Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd /

Planning and Public Protection Service

Adran Amgylchedd/ Environment Department

Cyngor Gwynedd Council
01766 771000

CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN.

CEISIADAU ARIANNOL MAI 2019                                                         

                                    Mai 2018        Mai 2019                   

  1. MYNWENT EGLWYS LLANAELHAEARN.        400.00
  2. EISTEDDFOD GADEIRIOL AELHAEARN.         400.00
  3. CANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN    300.0
  4. PWYLLGOR CAE CHWARAE AELHAEARN     400.00
  5. CYMDEITHAS CYLCH YR EIFL,TREFOR.         100.00
  6. Y GANOLFAN, TREFOR / CAE CHWARAE        500.00
  7. CYLCH MEITHRIN YR EIFL                                 300.
  8. AMBIWLANS AWYR CYMRU (Llanelli)               200.
  9. CLWB FFERMWYR IFANC GODRE’R EIFL
  10. CLWB FFERMWYR IFANC ERYRI
  11. DAWNS I BAWB
  12. THEATR BARA CAWS
  13. PROSIECT PLAS CARMEL

ANELOG ABERDARON

DIM MANTOLEN

  1. COF Y CWMWD (Canolfan Uwchgwyrfai
  2. BOBARTH CYMRU

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS  LUN, Ebrill 1af  2019 am 7.30 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIAU
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  3. DATGAN DIDDORDE
  4. COFNODION CYFARFOD Mwrth 4ydd 2019

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion     

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLL
  2. Tan y Bwlch, Trefor, Caernarfon

Dymchwel toiled allanol a chodi estyniadau unllawr ochr yn ei le         

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

  1. Lyn Cadwaladr, Prif Weithredwr

Un Llais Cymru, 24c Stryd Y Coleg, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

Aelodaeth Un Llais Cymru 2019-2020

  1. CEISIADAU ARIANNOL

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn..

  1. CYLLID

Derbyniadau

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                         

            Taliadau

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Ebrill £300.00 – HMRC £0.00) ………………           300.00
  2. Cyngor Gwynedd (treth Mynwent Trefor) ………………………… 234.07
  3. Un Llais Cymru (Aelodaeth 2019-20) …………………………….. 179.00
  4. Dwr Cymru (Mynwent Gyhoeddus Trefor) ……………………….. 142.84
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mai 6ed  2019 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor..

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAI 2019

             (Dydd Gwener, Ebrill  26ain  2019).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Mawrth  4ydd 2019 am 7.30 y.h. 

            YN BRESENNOL.

 Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox; Iwan W. Taylor; Llion Jones; Aled W.Jones a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

  Cynghorydd Llyr ap Rhisiart;. Trystan Humphreys; Sioned A. Braniff;

John Pritchard; Gwyneth Jones;

9.558. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Llongyfarchwyd Cynghorydd John Pritchard a’i briod Bethan ar ddod yn Daid a Nain

am y tro cyntaf.

9.559.  DATGAN DIDDORDEB.

Neb

9.560. COFNODION CYFARFOD Chwefror 4ydd  2019.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox.

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.468. GOHEBIAETH

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Wedi derbyn ebost gan Mr Merfyn Griffith, Archwiliwr Gwaith Stryd Dwyfor ynglyn  a sylwadau y Cyngor Cymuned am gyflwr y terfynau.  Mae wedi gwneud archwiliad        o’r safle gyda ei reolwr Mr Gary Hughes ac wedi penderfynu i Gyngor Gwynedd          cymryd cammau gorfodaeth yn erbyn y tirfeddianwr cyfrifol I orfodi nhw dorri nol ar         y gwrychoedd sydd yn creu pryder.  Bydd llythyrau yn cael eu anfon allan o few y     dyddiau nesaf, ac roedd yn fyddiog y byddai y gordyfiant yn cael ei dorri nol o fdwn  yr wythnosau nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc  i gysylltu gyda Mr Euryn Williams, Uwch Swyddog Hawliau Tramwy,    Cyngor Gwynedd i gael trafodaeth a’r y ffordd ymlaen yn awr i gofrestru y llwybr.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn..

9.530. GOHEBIAETH.

  1. Bea Kelsall,

            Tanllan, Llanaelhaearn, Caernarfon, Gwynedd.

Y Clerc wedi gysylltu a Ms Lea Connelly, Swyddog Coed, Cyngor Gwynedd ynglyn        a’r goeden ger Frondeg, Llanaelhaearn. Mae y Swyddog Coed wedi bod yn ei archwilio a bydd yn anfon yr adroddiad i ni yn ystod yr wythnosau nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.531SWYDDFA BOST SYMUDOL LLANAELHAEARN                   

 Y Clerc a’r Cynghorydd Lynda M. Cox wedi cyfarfod perchennog y swyddfa bost            symudol, ac roedd ef o’r un farn y dylid symud o Cae Glas i faes parcio yr Ysgol           Gynradd.

Erbyn hyn mae y swyddfa bost wedi symud i’r maes parcio.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.(Parhad).

9.542.  TRAFOD TENDRAU

            Trafodwyd y tendrau fel a ganlyn :

            (a)        CYNNAL A CHADW LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020).(Blwyddyn).

Mr Osian Williams, Pistyll.

(b)       GWACAU BINIAU.

                        MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

                        MYNWENT GYHOEDDUS TREFOR.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020)(Blwyddyn).

Mr Osian Williams, Pistyll

9.543.  BIN GRAEN – FFORDD O’R PENTREF HEIBIO TAFARN YR EIFL,             LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi anfon cais i’r Adran am gael bin graen newydd ar y ffordd uchod, ond         heb dderbyn unrhyw ymateb.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu eto gyda hwy 

9.561. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn y mis yma.

9.562. GOHEBIAETH.

            Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn y mis yma.. 

9.563.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn y mis yma.

9.564   MYNWENTYDD Y PLWYF.

 Trafodwyd bod angen gwaith clirio a lefelu pridd a.y.y.b ym Mynwent Newydd

Llanaelhaearn ac hefyd ym Mynwent Gyhoeddus Trefor.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Pwyllgor Mynwentydd gwrdd i drafod

y gwaith sydd angen ei wneud.

9.565.  ‘DROP KERB’ GER SWYDDFA BOST TREFOR.

Y Clerc wedi derbyn gwyn bod cerbydau yn parcio wrth ymyl y ‘drop kerb’ ac felly         yn ei gwneud yn amhosibl i bobl / plant gyda anabledd fynd i’r swyddfa bost yn             Nhrefor.

Wedi anfon ebost i’r Adran Briffyrdd ac wedi cysylltu a’r Heddlu ynglyn a hyn.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.          

9.566.  CYLLID.                           

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau

  1. Cyngor Gwynedd (Ad-daliad Llwybrau Cyhoeddus) ………. 378.25

            Taliadau.

  1. The Community Heartbeat Trust ……………………………. 302.40
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mawrth £300.00 – HMRC £0.00) …….          300.00
  3. Mary C Jones (Defnydd o swyddfa gartref 2016/17

pasiwyd 7.983 Mawrth 2007 – £250.00 y flwyddyn) ……..     250.00

  1. Canolfan Y Babell, Llanelhaearn

Cyfarfodydd Mai; Gorffennaf; Hydref; Rhagfyr a Chwefror) .    60.00

  1. Y Ganolfan, Trefor

Cyfarfodydd Medi;Tachwedd ; Ionawr a Mawrth) ………       60.00

  1. Ashley Hughes Cyf, Nefyn (Printing Calculator – inv 23430 ) ..    45.60
  2. Cyngor Gwynedd (Les Maes Parcio Hen Ysgol, Trefor) ……… 1.00

9.567.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ebrill 1af  2019 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn..

9.568.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD EBRILL 2019

            (Dydd Gwener, Mawrth  22ain  2019).

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS  LUN, Mawrth 4ydd  2019 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  3. DATGAN DIDDORDEB
  4. COFNODION CYFARFOD Chwefror 4ydd 2019

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion       

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNI

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.         

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn.

  1. CEISIADAU ARIANNOL

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn..

  1. TRAFOD MYNWENTYDD Y PLWYF
  2. CYLLID

Derbyniadau

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                         

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mawrth £300.00 – HMRC £0.00) ……………          300.00
  2. Mary C Jones (Defnydd o swyddfa gartref 2016/17

pasiwyd 7.983 Mawrth 2007 – £250.00 y flwyddyn) ………………     250.00

3          Canolfan Y Babell, Llanelhaearn

Cyfarfodydd Mai; Gorffennaf; Hydref; Rhagfyr a Chwefror) …….         60.00

  1. Y Ganolfan, Trefor

Cyfarfodydd Medi;Tachwedd ; Ionawr a Mawrth) …………….         60.00

  1. Cyngor Gwynedd (Les Maes Parcio Hen Ysgol, Trefor) …………….…. 1.00
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ebrill 1af  2019 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, LLanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD EBRILL 2019

             (Dydd Gwener, Mawrth 22ain  2019).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Chwefror 4ydd 2019 am 7.30 y.h 

            YN BRESENNOL 

 Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox; Trystan Humphreys; Iwan W. Taylor; Sioned A. Braniff; Llion Jones;

John Pritchard; Gwyneth Jones; Aled W.Jones a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

 Cynghorydd Llyr ap Rhisiart;.

9.548. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Aled W. Jones yn dilyn llawdriniaeth ar ei      lygaid yn ddiweddar.

Llongyfarchwyd Cynghorydd Lynda M. Cox a’i Phriod Gareth ar ddod yn hen Nain a       Taid unwaith yn rhagor.

9.549.  DATGAN DIDDORDEB.

Neb

9.550. COFNODION CYFARFOD Ionawr 7fed 2019.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox.

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.468. GOHEBIAETH. 

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Wedi derbyn llythyr ganddo ynglyn a sylwadau y Cyngor Cymuned am gyflwr y   terfynau.  Mae wedi eu cyfeirio at y Gwasanaeth Trafnidiaeth yng Nghaernarfon.  Yr     Adran honno sydd wedi eu dirprwyo o fewn Cyngor Gwynedd gyda’r dyletswyddau        cyfiawnhau ac ymarfer pwerau gorfodaeth torri gwrychoedd.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Wedi derbyn ebost gan Mr Euryn Williams, Uwch Swyddog Hawliau Tramwy,     Cyngor Gwynedd ynglyn a’r llwybr uchod.  Mae wedi ymchwilio i’r mater a   cadarnhawyd ganddo bod cais wedi ei wneud yn y gorffennol i gofrestru y llwybr           troed.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Mr Euryn Williams i gael          trafodaeth a’r y ffordd ymlaen yn awr i gofrestru y llwybr.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn..

9.508.  PALMANT GER GOSEN, TREFOR..

Wedi derbyn ebost gan Dylan Wynn Hones, Rheolwr Uned Traffig, Prosiectau a   Gwaith Stryd, Cyngor Gwynedd ynglyn a chael ‘drop kerb’ ger Gosen, Trefor.  Yn           anffodus meddai nid oes gan Gyngor Gwynedd y cyllid penodol ar gyfer addasu   palmentydd, ac felly bydd yn anodd iawn iddynt gernogi ein cais o fewn y sefyllfa        ariannol presenol Cyngor Gwynedd.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.522.  PARCIO GER BWLCYN / FFORDD YR EIFL, TREFOR.

Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones bod y broblem parcio o Ffordd yr Eifl (ger y siop) tuag at Bwlcyn yn dal i greu problem i’r bysiau a’r cerbydau mawr.   Erbyn hyn meddai mae llythyrau a copi o fab wedi mynd allan i bob             perchennog  ty yn yr ardal dan sylw.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.530. GOHEBIAETH.

  1. Bea Kelsall,

            Tanllan, Llanaelhaearn, Caernarfon, Gwynedd.

Y Clerc wedi gysylltu a Ms Lea Connelly, Swyddog Coed, Cyngor Gwynedd ynglyn        a’r goeden ger Frondeg, Llanaelhaearn.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.(Parhad)

9.531SWYDDFA BOST SYMUDOL LLANAELHAEARN.                  

 Y Clerc wedi anfon llythyr, ond heb dderbyn unrhyw ymateb.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc ddal i gysylltu a hwy.

9.542.  TRAFOD TENDRAU

            (a)        CYNNAL A CHADW LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020).(Blwyddyn)

(b)       GWACAU BINIAU.

                        MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

                        MYNWENT GYHOEDDUS TREFOR.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020)(Blwyddyn).

Y Clerc wedi anfon y llythyrau a’r mapiau angenrheidiol i gontractwyr i ofyn iddynt        am dentrau am wneud y gwaith.

Trafod  y prisiau yng nghyfarfod mis Mawrth.

9.543.  BIN GRAEN – FFORDD O’R PENTREF HEIBIO TAFARN YR EIFL,             LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi anfon cais i’r Adran am gael bin graen newydd ar y ffordd uchod, ond         heb dderbyn unrhyw ymateb.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu eto gyda hwy

9.551. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Garage tu ôl i Plas yr Eifl, Lon Plas yr Eifl, Trefor, Caernarfon, Gwynedd.

Dymchwel modurdy presennol ac adeiladu ty.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd nad oeddynt yn cefnogi y cais         ac felly yn ei wrthod am y rhesymau :

  • Am ei fod tu allan i’r cynllun pentref.
  • Ol troed yn fwy nag oedd maint y modurdy oedd yno ar hyn o bryd.
  • Gallai cefnogi hwn fod yn gynsail.
  • Mae llawer o dai a’r werth yn y pentref yn barod, ac yn y cais cynllunio, mae y perchennog yn son bod yno ‘hamlet’ yn barod.  Dim ond 2 dy yn unig sydd yno ar hyn o bryd nid ‘hamlet’
  • Byddai y ty newydd i’w weld o’r llwybr yr Arfordir, a bod llawer o gerdded ar hyd y llwybr yma.  Nid yw y modurdy i’w gweld gan fod tu ol i wal uchel.
  • Byddai y ty hefyd yn llawer uwch na’r modurdy gan ei fod yn ddeulawr.
  • Mae y ffordd yn gul sydd yn arwain i’r safle o’r pentref.
  • Byddai yn rhaid rhoi amod 106 – Ty Fforddiadwy,  Person Lleol.
  1. Planwydd, Llanaelhaearn, Caernarfon, Gwynedd.

Estyniad i’r ty presennol.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais.

Ond eu bod yn bryderus o faint yr estyniad.

Dim gwrthwynebiad i’w ehangu o fewn rheswm 

9.552. GOHEBIAETH.

  1. Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian

            Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Dinas Dinlle, Caernarfon 

Derbyniwyd ebost ganddi yn gwahodd yr Aelodau i Swyddfa Ambiwlans Awyr.   Cymru yn Dinas Dinlle, Chwefror 20fed rhwng 10yb – 12 yp neu 1yp – 3yp.  Byddai           cyfle I weld lleoliad newydd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

  1. Ieuan Wyn, Ysgrifennydd Cylch yr Iaith.

            Talgarreg, Ffordd Carneddi, Bethesda, Gwynedd.

Derbyniwyd ebost ganddo ynglyn ac Ail-strwythuro Canolfannau Iaith Gwynedd,             roedd wedi amgau hefyd gopi o lythyr a anfonodd ef ynglyn a hyn.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Clerc anfon cefnogaeth yr Aelodau hefyd.

9.553.  CEISIADAU ARIANNOL.

  1. Cof y Cwmwd, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnogfawr.

Penderfynwyd ei gadw gyda’r gweddill a’u trafod ym mis Mai

9.554.  HENDRAGARREG, TREFOR.

 Derbyniwyd gwybodaeth gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai bod taflenni wedi eu     rhannu yn Nhrefor gyda hanes y fenter ac apel am roddion ariannol.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.           

9.555.  CYLLID.                           

 Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau 

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.

           Taliadau.

  1. Osian Williams, Pistyll (Cynnal a Chadw Llwybrau Cyhoeddus) …… 670.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Chwefror £300.00 – HMRC £0.00) …..….     300.00
  3. Osian Williams, Pistyll (Gwagio biniau mynwentydd) ……….. 150.00
  4. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) …………………   63.00

9.556.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mawrth  4ydd 2019 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.557.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAWRTH 2019

            (Dydd Gwener, Chwefror 22ain  2019). 

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS  LUN, Ionawr 7fed 2019 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  3. DATGAN DIDDORDEB
  4. COFNODION CYFARFOD Rhagfyr 3ydd 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion      

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.  
  1. Toiledau Maes Parcio, Traeth Gwydir, Trefor, Caernarfon

Trosi’r toiledau i ffurfio canolfan           

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

  1. Rhian Hughes-Jones, Clerc Cyngor Tref Nefyn

Craig y Mor, Ffprdd Dewi Sant, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd.

Gwasanaeth Llyfrgell Ne

  1. Nia Haf Davies, Rheolwr Cynlunio (Polisi)

Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd – Gwynedd a Mon

Cyngor Gwynedd,  Stryd y Jel, Caernarfon.

Ymgynghori cyhoeddus Canllawiau Cynllunio Atodol :

  • Tai Fforddiadwy
  • Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy
  • Cyfleusterau a Llety i drwistiaid – Ymgynghoriad Pellach
  1. CEISIADAU ARIANNOL.

            Dim Cais y mis yma.

  1. TRAFOD TENDRAU

            (a)        CYNNAL A CHADW LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020).(Blwyddyn)

(b)        GWACAU BINIAU.

                        MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

                        MYNWENT GYHOEDDUS TREFOR.

(1af Ebrill 2019 i 31ain Mawrth 2020)(Blwyddyn). 

  1. CYLLID

Derbyniadau. 

  1. Miss A. Schlachter, Narberth, Sir Benfro (Rhodd Mynwent Gyhoedus, Trefor). 20.00                                               

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Ionawr £300.00 – HMRC £0.00) …..….         300.
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Chwefror 4ydd 2019 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD CHWEFROR 2019

             (Dydd Gwener, Ionawr 25ain  2019).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Rhagfyr 3ydd  2018 am 7.30 y.h. 

            YN BRESENNOL. 

 Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox;Trystan Humphreys; Iwan W. Taylor; John Pritchard; Aled W.Jones

a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr : Llion Jones a Sioned A. Braniff.

YN ABSENNOL 

Cynghorwyr  Gwyneth Jones  a  Llyr ap Rhisiart.

9.526. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Llongyfarchwyd pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn ar gael Eisteddfod       lwyddiannus iawn ddiwedd Tachwedd.

9.527.  DATGAN DIDDORDEB.

Cynghorydd Trystan Humphreys yng nghais cynllunio

9.528. COFNODION CYFARFOD Tachwedd 5ed 2018.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.468. GOHEBIAETH 

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Yr Aelodau ddim yn hapus nad oes Gorfodaeth yn cael ei roi ar y perchnnog tir, i farbio y ffordd o Ysgubor Wen i lawr am Elernion.

Penderfynwyd i’r Clerc a’r Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones gysylltu a’r    Adran gyda sylwadau y Cyngor Cymuned.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc heb dderbyn unrhyw ohebiaeth gan  Mr Eurun Williams, ynglyn a’r llwybr.

Penderfynwyd i’r Clerc anfon ebost eto i’r Swyddog Llwybrau i ofyn iddo am fanylion Mr Eurun Williams

Y Clerc i anfon gair i’r Swyddog Llwybrau eto ynglyn a  giat Uwchfoty sydd yn dal         gyda chlo arni, i ofyn am ei sylwadau.

Penderfynwyd i’r Clerc cysylltu a’r Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn 

9.498.  ‘JAPANEZE KNOTWEED’ YN LLANAELHAEARN.

Llythyr oddiwrth Mr A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor, Cyngor Gwynedd yn            hysbysu y Cyngor Cymuned bod y llecynnau dan sylw yn wybyddus iddynt ac wedi eu cynnwys ar raglan waith y Cyngor.  Nid yw’r cylch gwaith hydrefol eleni wedi             cymeryd lle eto meddai.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran i ofyn pryd fydd hyn yn cael ei wneud.

9.508.  PALMANT GER GOSEN, TREFOR..

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Priffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r mater ond heb            dderbyn unrhyw sylw ganddynt.

Penderfynwyd i’r Clerc anfon ebost eto atynt yn gofyn am eu sylwadau.

MATERION YN CODI O’R COFNODION 

9.517. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Eglwys Sant Sior, Trefor, Caernarfon.

Newid defnydd eglwys ac addasiadau mewnol ac allanol I drosi eglwys yn ddefnydd      gwely a brecwast  ynghyd a bwyty yn rhannol ar y llawr daear.

Trafodwyd y mater uchod a derbyniwyd gwybodaeth nad oedd rhai o’r trigolion    cyfagos wedi derbyn unrhyw wybodaeth / llythyr bod cais cynllunio yn bodoli.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Gynllunio ynglyn a hyn 

9.521.  CARAFAN AR Y FFORDD GER ISALLT, LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran ym Mhwllheli, ac wedi derbyn ebost i hysbysu eu            bod wedi derbyn yr ebost.

9.522.  PARCIO GER BWLCYN / FFORDD YR EIFL, TREFOR.

Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones bod y broblem parcio  Ffordd yr Eifl (ger y siop) tuag at Bwlcyn yn dal i greu problem i’r bysiau a’r cerbydau mawr.  Yr Aelod Lleol wedi cael gair gyda perchenno un o’r cwmni bysiauac hefyd gyda Mr Dylan Jones, Swyddog yng Nghaernarfon.

Trafodwyd y mater a chynigwyd i edrych i mewn i beipio yr afon bach er mwyn gwneud safle parcio, ond roedd y syniad yna a cynlluniau wedi eu gwneud ar gyfer         gwneud  maes parcio, ond roedd gormod yn erbyn y datblygiad

9.529. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Bryn Meddyg, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Estyniad unllawr i’r blaen i greu lolfa fwy ac estyniad cefn i greu storfa i’r gegin.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad, gan fod y cartref yn cyflogi llawer o            bobl lleol i weithio iddynt 

9.530. GOHEBIAETH.

  1. Bea Kelsall,

            Tanllan, Llanaelhaearn, Caernarfon, Gwynedd.

Derbyniwyd ebost ganddi ynglyn a choeden fawr sydd yn tyfu ger mynefa i Frondeg,       Llanaelhaearn.  ‘Roedd a’r ddeall bod perchennog ty yn y stryd tai gyfagos yn       aniddig iawn gyda’r goeden ers pan mae wedi symyd i fyw i’r pentref.  Mae Bea            Kelsall wedi gweld lluniau o’r flwyddyn 1932 sydd yn dangos y goeden fawr yma.     Mae yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor Cymuned i drio cadw y coed hardd yma.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i anfon copi o’r ebost ymlaen i’r Adran Gynllunio        a’r Swyddog Coed i ofyn am eu sylwadau ynglyn a’r mater ac hefyd syt gall y    Cyngor Cymuned gael Gorfodaeth I Gadw y Goeden yn Llanaelhaearn.

9.531SWYDDFA BOST SYMUDOL LLANAELHAEARN                   

   Ar hyn o bryd mae y Swyddfa Bost Symudol yn parcio yn yr arosfan ger Cae Glas,         Cynghorydd Lynda M. Cox o’r farn y buasai yn hawsach i lawer o drigolion hynaf         pentref Llanaelhaearn os buasai yn parcio ym maes parcio ger Ysgol Llanaelhaearn.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu i ofyn iddynt ystyried parcio ger        yr Ysgol.

9.532.  CEISIADAU ARIANNOL

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn y mis ym         

9.533.  CYLLID                           

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau 

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn.

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Rhagfyr £300.00 – HMRC  £0.00) ……….…..….        300.00

9.534.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ionawr 7fed 2019 am 7.30 y.h

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.535.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD IONAWR 2019

             (Dydd Gwener, Rhagfyr  28ain  2018).

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

*****************************************************************

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS  LUN, Rhagfyr 3ydd  2018 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD. 
  1. DATGAN DIDDORDEB. 
  1. COFNODION CYFARFOD Tachwedd 5ed 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO
  2. Bryn Meddyg, Llanaelhaearn, Caernarfon

Estyniad unllawr i’r blaen i greu lolfa fwy ac estyniad cefn i greu storfa i’r gegin.            

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig)

  1. Bea Kelsall, Tanllan, Llanaelhaearn

Amddiffyn Coeden.

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

            Dim Cais y mis yma

  1. TRAFOD SWYDDFA BOST SYMUDOL LLANAELHAEARN.

            (Cynghorydd Lynda M. Cox)

  1. CYLLID

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                              

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Rhagfyr £300.00 – HMRC £0.00) …..….       300.00
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ionawr 7fed 2-19 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD IONAWR 2019

             (Dydd Gwener, Rhagfyr 28ain  2018).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Tachwedd 5ed  2018 am 7.30 y.h

            YN BRESENNOL 

 Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox;

Llion Jones; Sioned A. Braniff; Aled W.Jones a’r  Clerc Mary C. Jones

YMDDIHEURIADAU

 Cynghorwyr : Trystan Humphreys; Iwan W. Taylor; Gwyneth Jones.

YN ABSENNOL

Cynghorwyr John Pritchard a  Llyr ap Rhisiart.

9.514. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen

Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Garreg Goffa yn Llanaelhaearn ar 11/11/18 am

10.50 y bore.

9.515.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod

9.516. COFNODION CYFARFOD Hydref 8fed 2018.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.468. GOHEBIAETH

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Cadarnhawyd ganddo bod ymweliad ar y cyd gydag Archwiliwr Gorfodaeth y       Gwasanaeth Trafnidiaeth wedi ei drefnu hyd Hen Lôn, Trefor.  Y Gwasanaeth   Trafnidiaeth sydd wedi ei dirprwyo o fewn y Cyngor I ymarfer a chyflwyno        rhybuddion torri gordyfiant Adran 154 y Ddeddf Priffyrdd 1980.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc heb dderbyn unrhyw ohebiaeth gan  Mr Eurun Williams, ynglyn a’r llwybr.

Penderfynwyd i’r Clerc anfon ebost eto i’r Swyddog Llwybrau i ofyn iddo am fanylion Mr Eurun Williams

Y Clerc i anfon gair i’r Swyddog Llwybrau eto ynglyn a  giat Uwchfoty sydd yn dal         gyda chlo arni, i ofyn am ei sylwadau.

Penderfynwyd i’r Clerc cysylltu a’r Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn 

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn.

9.498.  ‘JAPANEZE KNOTWEED’ YN LLANAELHAEARN.

Llythyr oddiwrth Mr A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor, Cyngor Gwynedd yn            hysbysu y Cyngor Cymuned bod y llecynnau dan sylw yn wybyddus iddynt ac wedi eu cynnwys ar raglan waith y Cyngor.  Nid yw’r cylch gwaith hydrefol eleni wedi             cymeryd lle eto meddai.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.505. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Fferm Morfa, Ffordd yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Sefydlu safle glampio i 6 uned (Pabell) a codi siediau cyfleusterau cawod

a thoiled compostio.

Trafodwyd bod Adeiladau ar y safle yn barod ac ddim ar y cynlluniau, penderfynwyd       gofyn i’r Adran Gynllunio ymweld a’r safle ynglyn a’r mater.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.508.  PALMANT GER GOSEN, TREFOR..

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Priffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r mater ond heb            dderbyn unrhyw sylw ganddynt.

Penderfynwyd i’r Clerc anfon ebost eto atynt yn gofyn am eu sylwadau.

9.509.  GOR-YRRU – TREM Y MOR (SEA VIEW), TREFOR.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Priffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r mater ond heb            dderbyn unrhyw sylw ganddynt.

Penderfynwyd i’r Clerc anfon ebost eto atynt yn gofyn am eu sylwadau 

9.517. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Eglwys Sant Sior, Trefor, Caernarfon.

Newid defnydd eglwys ac addasiadau mewnol ac allanol I drosi eglwys yn ddefnydd      gwely a brecwast  ynghyd a bwyty yn rhannol ar y llawr daear.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod  yn croesawu y fenter          ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt, ond pryderon am y mater o barcio cerbydau          fyddai yn defnyddio y bwyty gan nad oes lle addas i parcio cerbydau yn y  rhan yna        o’r pentref.  Yr Aelodau yn bryderus hefyd bod llwybr cerdded ger yr Eglwys sydd yn    arwain o’r pentref tuag at y Fynwent, ac hefyd bod llwybr cyhoeddus yn rhedeg wrth      ochr yr adeilad.

9.518. GOHEBIAETH.

  1. Mrs Glenda Burke, Clerc Cyngor Tref Porthmadog

44, Maes Gerddi, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LE.

Derbyniwyd llythyr yn hysbysu y Cyngor Cymuned bod Cyngor Tref Porthmadog yn       dymuno gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Lŷn ac Eifionydd yn 2021 neu 2025.        Erbyn hyny bydd bron i 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Eisteddfod           Genedlaethol ymweld a’r ardal ddiwethaf ym Mro Madog.  Mae brwdfrydedd yn sicr     meddai wedi ei ddangos yn lleol ym Mhorthmadog ynglŷn a gwahodd yr Eisteddfod      i’r Ardal unwaith eto.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i gefnogi eu cais i gael yr Eisteddfod Genedlaethol      i’r Ardal 

9.519.  CEISIADAU ARIANNOL. 

  1. Prosiect Plas Carmel yn Anelog ger Aberdaron.

Penderfynwyd i drafod y cais gyda’r gweddill ym mis Mai 2019.

Y Clerc i anfon llythyr i adael iddynt wybod.

  1. Ti a Fi Cangen Llanaelhaearn.

Derbyniwyd gwybodaeth gan y Cynghorydd Lynda M. Cox nad oes clwb Ti a Fi yn y       Pentref a’r hyn o bryd, a derbyniwyd y siec o £100 (rhodd ariannol) yn ôl.  Y Clerc i   gael gwared a’r siec.

9.520.  MYNWENT EGLWYS LLANAELHAEARN.

Adroddodd y Clerc ei bod yn derbyn cwynion ynglyn a chyflwr y gwair ym Mynwent       yr Eglwys yn Llanaelhaearn.  Y Clerc wedi egluro i’r rhai sy’n cwyno nad y Cyngor Cymuned sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw y fynwent, a dylent gysylltu gyda’r Parchedig Lloyd Jones yng Nghlynnog neu Aelod o’r Eglwys.

Trafodwyd y mater a cafwyd a’r ddeall gan y Cynghorydd Lynda M. Cox bod       tradodaeth wedi bod yn yr eglwys ynglyn a chyflwr y fynwent.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau. 

9.521.  CARAFAN AR Y FFORDD GER ISALLT, LLANAELHAEARN.

Derbyniwyd gwybodaeth bod carafan wedi ei pharcio ger Isallt, Llanaelhaearn ers           rhai wythnosau bellach, ac nad oedd plat rhif cerbyd ar y cefn.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Briffyrdd i ofyn am eu       sylwadau.

9.522.  PARCIO GER BWLCYN / FFORDD YR EIFL, TREFOR.

Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones bod y broblem parcio o Ffordd yr Eifl (ger y siop) tuag at Bwlcyn yn dal i greu problem i’r bysiau a’r cerbydau mawr.  Yr Aelod Lleol wedi cael gair gyda perchenno un o’r cwmni bysiau  ac hefyd gyda Mr Dylan Jones, Swyddog yng Nghaernarfon.

Trafodwyd y mater a chynigwyd i edrych i mewn i beipio yr afon bach er mwyn   gwneud safle parcio, ond roedd y syniad yna a cynlluniau wedi eu gwneud ar gyfer         gwneud  maes parcio, ond roedd gormod yn erbyn y datblygiad.           

9.523.  CYLLID                            

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

  1. Ifan M. Hughes, Llanaelhaearn, (Claddu M. Thomas) …………………   185.00 

          Taliadau.

  1. Steven W. Lewis, Trefor (Mynwentydd y Plwyf) ……………………… 2,840.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £0.00) ……….…..….      300.00
  3. Cyngor Gwynedd, Caernarfon (Archwiliad Mewnol 2017/18) …..………………    180.00
  4. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) ………………………..……      63.00

9.524.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Rhagfyr 3ydd  2018 am 7.30 y.h

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn..

9.525.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD RHAGFYR  2018

             (Dydd Gwener, Tachwedd  23ain  2018).

Daeth y cyfarfod i ben 9.00 y.h.

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS  LUN, Tachwedd 5ed  2018 am 7.30 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  1. DATGAN DIDDORDEB.
  1. COFNODION CYFARFOD Hydref 8fed 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodi   

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO
  2. Eglwys Sant Sior, Trefor, Caernarfon

Newid defnydd eglwys i ddefnydd gwely a brecwast, ynghyd a bwyty yn

rhannol ar y llawr daear.

  1. Eglwys Sant Sior, Trefor, Caernarfon

Addasiadau mewnol ac allanol I drosi eglwys yn defnydd gwely a brecwast

Ynghyd a bwyty yn rhannol ar y llawr daear.         

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

  1. Mrs Glenda Burke, Clerc Cyngor Tref Porthmadog

Gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol I Lyn ac Eifionydd yn 2021 neu 2015

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

            (Copi  amgaeedig).

  1. Prosiect Plas Carmel yn Anelog ger Aberdaron
  2. CYLLID

Derbyniadau. 

1          Ifan M. Hughes, Llanaelhaearn (Claddu M. Thomas) …………..     185.00                                               

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Hydref £300.00 – HMRC £0.00) …..….         300.00
  2. Cyngor Gwynedd, Caernarfon (Archwiliad Mewnol 2017/18) ……… 180.00
  3. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) …………………   63.00
  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Rhagfyr 3ydd  2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD RHAGFYR 2018

             (Dydd Gwener, Tachwedd 24ain 2018).

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Hydref 8fed  2018 am 7.30 y.h.

            YN BRESENNOL

Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox;

Trystan Humphreys; Iwan W. Taylor; Gwyneth Jones;  Aled W.Jones

a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU. Cynghorwyr : Llyr ap Rhisiart; Llion Jones a Sioned Braniff.

YN ABSENNOL 

Cynghorydd John Pritchard.

9.502. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Croesawyd hefyd nifer o’r cyhoedd.

Llongyfarchwyd ysgol Gynradd Llanaelhaearn ar wneud elw o £254 mewn bore coffi       tuag at Macmillan.

9.503.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.504. COFNODION CYFARFOD Medi 3ydd 2018.

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Trystan Humphreys

ac eilwyd gan y Cynghorydd Lynda M. Cox.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion  

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.468. GOHEBIAETH. 

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Mr Adrian Williams, Swyddog o’r Adran Briffyrdd wedi ymweld a’r Clerc ynglyn a’r      gwaith barbio i lawr am bentref Trefor.  ‘Roedd wedi cael gair a’r tirfeddianwr, ond         hwnnw braidd yn ben stiff ynglyn a gwneud y gwaith.  Yn awr byddai raid i Swyddog o’r Adran Gorfodaeth ymweld a’r safle gyda’r Swyddog Priffyrdd gyn y gall dim byd          arall ei wneud.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Mr Dewi Wyn Owen, Swyddog Llwybrau yn hysbysu       y Cyngor Cymuned ei fod wedi anfon ein ebost ynglyn a’r llwybr i Mr Eurun            Williams, gan mai ef sydd yn delio gyda holl faterion o’r math yma, a bydd ef yn           cysylltu a’r Clerc.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

Derbyniwyd gwybdoaeth hefyd bod giat Uwchfoty yn dal gyda chlo arni.

Penderfynwyd i’r Clerc cysylltu a’r Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Y  Clerc wedi cysylltu a Siwrna Saff drwy ebost a gofyn iddynt ymweld a’r pentref           yn amlach.

Penderfynwyd dal i bwyso arnynt i ddod i ymlweld a Llanaelhaearn 

9.497.  WAL HEN YSGOL TREFOR.

 Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones fod y gwaith o adnewyddu y         wal wedi ei ddechrau.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.498.  ‘JAPANEZE KNOTWEED’ YN LLANAELHAEARN.

Adroddodd y Clerc bod Swyddogion o’r Adran Briffyrdd – Mr Adrian Williams a

Mr Glyn T. Hughes wedi ymweld a’r llefydd lle roedd y ‘Japaneze Knotweed’ yn tyfu, er mwyn cael penderfynu beth i’w wneud nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.505. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. 29-31, Ffordd yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Newid defnydd un ty i ffurfio 2 dy.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.

  1. 6, Llain Fain, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Tynny cytundeb 106 (angen lleol).

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.

  1. Fferm Morfa, Ffordd yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Sefydlu safle glampio i 6 uned (Pabell) a codi siediau cyfleusterau cawod

a thoiled compostio.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad yr Aelodau oedd i wrthod y cais am y rhesymau             canlynol :

  • Dim digon o fanylion ar y cais / cynlluniau
  • Disgrifiad o’r safle yn anghywir.
  • Dim manylion am y fynedfa.
  • Dim manylion parcio yn yr iard.
  • Dwr ar wyneb i lifo i lyn, dim dangosiad o’r llyn ar y cynllun.
  • Gwastraff dynol – lle mae yn mynd ?
  • Dangosir fod dwr gwastraff o’r cawodydd yn llifo i ‘soakaway’ mewn cors ?
  • Y safle mewn A.H.N.E.
  • Pryderon yr Aelodau rhan maint y cynllun.
  • Tir Amaethyddol ar hyn o bryd – angen newid defnydd.
  • Adeiladau / cynwysyddion (containers) ar y safle yn barod, sydd ddim i’w gweld

ar y cynlluniau

  • Y safle yn amlwg oddi ar rannau o Lwybr yr Arfordir.
  • Tir Morfa yn ffinio a Llwybr yr Arfordir a thir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
  • Yr Aelodau yn awyddus i’r cais fynd o flaen y Pwyllgor Cynllunio.

9.506. GOHEBIAETH.

.1.        A.Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd mis Hydref 2018.

Trefor – Draeniad – yn ystod yr hanner tymor.

Y Clerc ar ddeall hefyd gan Swyddog o’r Adran bod gwaith yn cael ei wneud        ganddynt rhwng Trem y Môr (Sea View) a’r gwaith brics..

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

  1. Ms Nia Haf Davies, Rheolwr Cynllunio (Polisi)

Adran Amgylchedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon.

Derbyniwyd llythyr a llyfryn ynglyn ac Ymgynghori Cyhoedus Canllawiau

Cynllunio Atodol :

  • Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd.
  • Tai Marchnad Lleol.

Cynghorydd Jina Gwyrfai wedi mynd a’r llyfryn i’w ddarllen.

9.507.  CEISIADAU ARIANNOL 

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

9.508.  PALMANT GER GOSEN, TREFOR..

Y Clerc wedi derbyn cwynion bod rhai a cadair olwyn / cerbyd anabledd yn methu            mynd i ben y palmant ger Gosen, Trefor, a bod angen ‘drop kerb’ yno.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a’r Adran ym Mhwllheli.

9.509.  GOR-YRRU – TREM Y MOR (SEA VIEW), TREFOR.

Rhai o’r Aelodau wedi derbyn cwynion bod ceir / bysiau yn gor-yrru i lawr o Ben             Hendre tuag at Trem y Mor yn Nhrefor.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a’r Adran ym Mhwllheli i ofyn          am eu sylwadau ac edrych i mewn i beth gall ei wneud.

9.510.  DATBLYGIAD PLAS PISTYLL, PISTYLL.

Yr Aelodau yn anhapus iawn ynglyn a’r datblygiad newydd sydd erbyn hyn wedi troi       yn bentref ar ben ei hun.  Ni oes tebygrwydd i’r cynllun gwreiddiol.

Y cais cynllunio wedi bod o flaen y pwyllgor llaw a’i ganiatau gyda amodau llyfn yn        2011.

Y cwmni Natural Retreats wedi rhoi ceisiadau i mewn i newid yr amodau, ond dim un      o’r ceisiadau yma wedi bod o flaen y Pwyllgor Cynllunio ond wedi eu caniatau gan y     Swyddogion yn unig.

Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones bod yr Aelod Cabinet,       Cynghorydd Dafydd Meurig yn cynnal ymchwiliad i mewn i’r mater.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth hir, i’r Clerc anfon ebost i’r Aelod Cabinet ac   hefyd copi i’r Prif Weithredwr ynglyn a’r mater.                           

9.511.  CYLLID.                           

 Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

  1. Ifan M. Hughes, Llanaelhaearn, (claddu Llwch R.D.Evans) …………… 155.0

            Taliadau.

  1. Ashley Hughes Cyf, Nefyn (Laptop a Meddalwedd – £466.79)

(Ink x 2 – £275.97) ………………………..      742.76

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Hydref £300.00 – HMRC £0.00) ……..…………      300.00

(Mae y taliadau yma i Ashley Hughes ers Ionawr / Chwefror

            2018, pan aeth y laptop yn ol iddo am nad oedd yn gweithio,

            Laptop newydd wedi cyrraedd yn ystod mis Medi).

9.512.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Tachwedd 5ed  2018 am 7.30 y.h

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.513.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD TACHWEDD 2018

             (Dydd Gwener, Hydref  26ain  2018) 

Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

CYNHELIR  CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS  LUN, Hydref 8fed 2018 am 7.30 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD
  3. DATGAN DIDDORDEB
  4. COFNODION CYFARFOD Medi 3ydd 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnod      

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO
  2. 29-31, Ffordd yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Newid defnydd un ty I ffurfio 2 dy.

  1. Fferm Morfa, Ffordd yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Sefydlu safle glampio I 6 uned (Pabell) a codi siediau cyfleuterau cawod

a thoiled compostio.

  1. 6, Llain Fain, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Tynny cytundeb 106 (angen lleol)         

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

  1. A.Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

            Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd Mis Hydref 2018

Trefor  –   Draenoad – yn ystod yr hanner tymor.

  1. CEISIADAU ARIANN
  2. TRAFOD DATBLYGIAD PLAS PISTYLL.

            (Pryder rhai o Aelodau’r Cyngor Cymuned).

  1. CYLLID

Derbyniadau.

  1. Ifan M. Hughes, Llanaelhaearn (Claddu llwch R.D.Evans) …    155.00          .                                              

            Taliadau.

  1. Ashley Hughes, Nefyn ( Laptop a Meddalwedd – £466.79

((Ink – £275.97) ………………………           742.76

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Hydref £300.00 – HMRC £0.00) …..….             300.0

(Mae y taliadau yma i Ashley Hughes ers Ionawr / Chwefror

            2018, pan aeth y laptop yn ol iddo am nad oedd yn gweithio,

            Laptop newydd wedi cyrraedd yn ystod mis Medi).

  1. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Tachwedd 5ed / 12fed  2018 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD TACHWEDD 2018

             (Dydd Gwener, Hydref 26ain / Tachwedd 2ail  2018).

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR..

NOS LUN, Medi 3ydd  2018 am 7.30 y.h.

            YN BRESENNOL 

Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Lynda M. Cox;

Trystan Humphreys; Iwan W. Taylor; Aled W.Jones: Llyr ap Rhisiart; John Pritchard

a’r  Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

  Cynghorwyr Llion Jones; Sioned Braniff a Gwyneth Jones

9.490. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Llion Jones a’i briod Carys ar enedigaeth mab bach          Cadan

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Aled W. Jones a’i briod Erlys ar ddod yn daid a nain        unwaith yn rhagor.

9.491.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.492. COFNODION CYFARFOD Gorffennaf 9fed  2018

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Diolch i’r Cynghorydd Helen Pritchard am drefu noson yr hyfforddiant yn Y         Ganolfan yn Nhrefor, ‘roedd yn noson boddhaol iawn.  Cynghorydd Lynda M. Cox       wedi trefnu noson hyfforddiant yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn, nos Lun,         17eg o Fedi am 7.30 

9.468. GOHEBIAETH.

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Penderfynwyd i adael iddynt wybod eto bod angen iddynt ofyn i berchnogion y tir            farbio lawr yr hen lôn ac hefyd lawr y lôn newydd i lawr i bentref Trefor.

Y Clerc i gysylltu a’r Adran Briffyrdd unwaith yn rhagor.

9.483.  CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Y Clerc wedi anfon y cyfrifon yn awr i’r Archwilwyr

9.484.  LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Trafodwyd y llwybrau gan yr Aelodau a phenderfynwyd fel Cyngor Cymuned i ofyn i      Gyngor Gwynedd ystyried gwneud y llwybr o Glwb y Twr i’r Traeth yn lwybr       cyhoeddus.  Y Clerc i anfon i’r Adran i ofyn am eu sylwadau ynglyn a’r mater.

Derbyniwyd gwybodaeth hefyd lwybr Uwchfoty – bod y giat wedi cloi.

Y Clerc i ofyn am sylwadau y Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn hefyd.  

9.493. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn y mis hwn

9.494. GOHEBIAETH

.1.        A.Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd mis Mehefin 2016.

Trefor – Gwaith Slyri a’r droedffordd.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.495.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

9.496.  GOR-YRRU DRWY BENTREF LLANAELHAEARN.

Yn dilyn trafodaeth am y gor-yrru drwy’r pentref, penderfynwyd i’r Clerc cysylltu a         Siwrna Saff a gofyn iddynt ymweld a’r pentref yn amlach.

9.497.  WAL HEN YSGOL TREFOR

 Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones fod wal ger yr Hen Ysgol yn         disgyn i’r afon, a bod Swyddogion Cyngor Gwynedd yn disgwyl tendrau i mewn er   mwyn cael dechrau y gwaith.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.498.  ‘JAPANEZE KNOTWEED’ YN LLANAELHAEARN.

Derbyniwyd gwybodaeth gan y Cynghorydd John Pritchard bod ‘Japaneze             Knotweed’ yn tyfu ar y ffordd i fyny o’r pentref tuag at y gwaith dwr ger Llechdara     Uchaf yn Llanaelhaearn,

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r mater,       ac hefyd i’w atgoffa o’r un peth ar lwybr bach yn Nhrefor.                           

9.499.  CYLLID.                          

  Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau 

  1. Cyngor Gwynedd, Caernarfon (Presept rhan 2) …………..……… 12,500.00

            Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Awst £300.00 – HMRC £0.00) ………….…..                 300.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Medi £300.00 – HMRC £0.00) ……..………                  300.00
  3. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) …………….…………         63.00
  4. Y Ganolfan, Trefor (Cyfarfodydd Ebrill a Mehefin  – £30.00)

(Hyfforddiant Diffibulator 2/7/18 – £20.00) …………….…                         50.00

9.500.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Hydref 8fed  2018 am 7.30 y.h

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.501.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD HYDREF 2018

             (Dydd Gwener, Medi 28ain  2018) 

Daeth y cyfarfod i ben 8.30 y.     

 

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Gorffennaf 9fed 2018 am 7.30 yh

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU.
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD. 
  3. DATGAN DIDDORDEB.
  4. COFNODION CYFARFOD Mehefin 4ydd 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion 

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO
  2. Rose Cottage, 24, Rhesdai Croeshigol, Trefor..

Codi ty ha far wahan i gefn yr annedd.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

            (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANNOL.
  2. ARWYDDO CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Cyn iddynt fynd i’r Archwiliwr

9          LLWYBR MORFA A LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF

            (Cynghorydd Jina Gwyrfai)

  1. CYLLID.

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                                      

            Taliadau

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Gorffennaf £300.00 – HMRC £0.00) ..      300.00
  2. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Gorffennaf 2ail  2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, LLanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD GORFFENNAF 2018

            (Dydd Gwener, Mehefin 22ain 2018)

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A’R CWRDD PLWYF

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Mehefin 4ydd 2018 am 7.00 y             

Neb o’r Cyhoedd wedi dangos dim diddordeb yn y Cwrdd Plwyf

 YN BRESENNOL

Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard; Gwyneth Jones;

Lynda M. Cox; Llion Jones; Trystan Humphreys; Aled W.Jones a’r

Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU 

Cynghorwyr John Pritchard a Sioned Braniff.

YN ABSENNOL.

 Cynghorwyr Llyr ap Rhisiart; Iwan W. Taylor

9.463. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Dymunwyd gwellhad buan i Llyr Humphreys – Mab Cynghorydd Trystan Humphreys      a Caren Humphreys, Llanaelhaearn.

Llongyfarchwyd y rhai o’r Plwyf yn eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd.

9.464. DEWIS IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2018/19.

Cadeirydd     – Cynghorydd Meirwen Cullen, Trefor.

Is-Gadeirydd  – Cynghorydd Lynda M. Cox, Llanaelhaearn.

9.465.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.466. COFNODION CYFARFOD Mai 14eg 201

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Gwyneth Jones

ac eilwyd gan y Cynghorydd Helen Pritchard.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Cynghorydd Helen Pritchard am drefnu hyfforddiant yn Nhrefor.

Cynghorydd Lynda M. Cox am drefnu hyfforddiant yn Llanaelhaearn           

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDU Y PLWYF

(a)        LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Swyddog Llwybrau wedi apwyntio contractiwr i ddechrau y gwaith (cam cyntaf) o          dorri 3m o led o giat bren y goedwig am oddeutu 100 medr mewn cyfeiriad deheuol

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES  SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI.

 Mr Barry Davies wedi anfon ebost ynglyn a threfniadau rheolaeth y Traeth am 2018   Yn unol a phenderfyniad a wnaethpwyd i reoli Traethau Baner Las Gwynedd yn unig cadarnhaf ein bod wedi cymryd mesurau er ceisio lleihau rist ar y traeth gan na fydd warden traeth ar y safle am 2018.

Bolardiau pren wedi eu gosod mewn socedi wedi eu gosod mewn concrid.ac wedi eu    cloi. Bydd gan bysgotws lleol allwedd ac fe fydd gan y Gymdeithas Bysgota allweddi ar   gyfer eu holl aelodau.. Er bod rhwystr ar y ramp nid yw yn bosibl cloi’r rhwystr (yn hytrach na defnyddio  bollardiau) gan na fod y bwlch rhwng postyn derbyn y rhwyst a’r wal ddigon llydan i gerddwyr a pram. Pe byddech fel Cyngor yn derbyn unrhyw adroddiad ynglyn a chyflwr y bolardiau  neu bryder ynglyn a lansio neu ddiogelwch yna fe fyddai yn gwerthfawrogi unrhyw  wybodaeth.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

Adroddodd Cyngorydd Helen Pritchard bod darn o beipen yn peryglus a’r y llwybr I       fynd i’r Cei, a’i body n bwysig bod toiledau a’r y traeth yn Nhrefor.

9.426.  CROESFAN GER GLANRHYD, LLANAELHAEARN.

Swyddog Priffyrdd Mr Glyn Titus Hughes am osod darn newydd i’r bolard.

9.428.  CYFLWR Y FFORDD O PENRHIWROEN I MOELFRE FAWR.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a chyflwr y ffordd ac hefyd wedi anfon rhai lluniau iddynt

9.448.  MYNWENTYDD Y PLWYF.

 Adroddodd y Clerc nad oedd wedi gwneud y gwaith angenrheidiol ynglyn a’r      Mynwentydd yn dilyn salwch..

9.453.  DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2018/19.

Cadeirydd     –  Cynghorydd Meirwen Cullen, Trefor.

Is-Gadeirydd – Cynghorydd Lynda M. Cox, Llanaelhaearn 

9.467. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim Cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.468. GOHEBIAETH. 

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

         Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

        Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd mis Mehefin 2018.

Cymuned Llanaelhaearn  –   Prif doriad gwledig ffyrdd sirol I’w ymgymryd yn ei dro

Rhwng yr wythnos olaf yn Mehefin a chanol Gorffennaf.

A499 Cylchdro Llanaelhaearn –    Toriad gwelededd I’w ymgymryd yn ei dro

Cychwyn Mehefin.

Trefor  – Gwaith slyri ar droedffyrdd.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

  1. Ms Caryl Lloyd, Bwthyn Rhyd y Berw, Llanaelhaearn.

Derbyniwyd ebost ganddi ynglyn a cerbydau yn gyrru drwy’r pentref.  Mae yn amlwg meddai bod rhan fwyaf o’r traffig yn teithio ar gyflymder uwch na 30 milltir yr awr drwy’r pentref. ‘Roedd o’r farn mai y ffordd i arafu y traffig fyddai i roi arwydd 40 mya o’r gylchfan. Gofynnodd hefyd a fuasai yn bosibl rhoi twmpathau ar hyd y pentref.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i anfon copi o’r ebost ymlaen i Adran Traffig, Cyngor Gwynedd ac hefyd i sylw yr Heddlu.

9.469.  CEISIADAU ARIANNOL.

Trafodwyd 2 gais ariannol  a phenderfynwyd fel a ganlyn :

  1. Y Ganolfan, Trefor ………………….. ……………………….     500.00
  2. Cylch Meithrin Yr Eifl ………. …………………………………      300

9.470.  CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Adroddodd y Clerc bod y cyfrifon yn mynd i’r Archwilwyr Mewnol, Cyngor        Gwynedd cyn diwedd y mis.

Bu i’r Aelodau dderbyn copi o’r cyfrifon gan y Clerc.

9.471.  CAE’R FYNWENT, LLANAELHAEARN.

Adroddodd y Clerc bod Mr Richard Japheth wedi cysylltu a hi ynglyn a gwair Cae’r        Fynwent.  ‘Roedd ef yn barod i’w dorri am ddim i’r Cyngor, os buasai yr Aelodau yn        fodlon iddo ei gael yn fwyd i’w anifeiliaid.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i Mr Japheth gael y gwair am ei dorri. 

9.472.  GWAITH A’R LWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

Llwybr Maes Glas.

Yr Aelodau yn anfodlon a’r y gwaith oedd wedi ei wneud ar y llwybr hwn, rhannau         ohono heb ei dorri o gwbl.

Llwybr Ty’n Gors, Trefor. 

Yr Aelodau yn anfodlon a’r y gwaith oedd wedi ei wneud ar y llwybr hwn, roedd             wedi taflu y gwellt oedd wedi ei dorri i’r afon.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a Mr Osian Williams ynglyn a            safon y gwaith.

9.473.  FFERM Y LLYN, LLANAELHAEARN.

Derbyniwyd cwyn gan un o’r Aelodau bod rhywun yn byw mewn carafan ar y safle uchod.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Gynllunio o ofyn am eu sylwadau.

9.474 CYLLID.                         

 Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

  Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn. 

  Taliad

Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mehefin) ………………………….                  300.00

Rhoddion Ariannol 2018. 

  1. Y Ganolfan, Trefor ………………….. ……………………….     500.00
  2. Cylch Meithrin Yr Eifl ………. …………………………………      300.00

9.475.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Gorffennaf 2ail  2018 am 7.30 y.h

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.476.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD GORFFENNAF 2018

            (Dydd Gwener, Mehefin 22ain  2018).

            Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

 

 

 

 

 

 

 

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR A’R CWRDD PLWYF

YN Y GANOLFAN, TREFOR

NOS LUN, Mehefin 4ydd  2018 am 7.00 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD

            2a        DEWIS IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2018/19.

  1. DATGAN DIDDORDEB. 
  2. COFNODION CYFARFOD Mai 14eg 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

                        Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

                        (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANNOL.
  2. Cylch Meirthin yr Eifl, Trefor
  3. Y Ganolfan, Trefor
  4. CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.
  5. TRAFOD COR-YRRU – PENTREF LLANAELHAEARN

(Cynghorydd Lynda M. Cox).

  1. CYLLID

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.                               

                        Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mehefin £300.00 – HMRC £0.00) ..         300.00
  2. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Gorffennaf 2ail  2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, LLanaelhaearn.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD GORFFENNAF 2018

                        (Dydd Gwener, Mehefin 22ain 2018).

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Mai 14eg 2018 am 7.30 y.h.             

 YN BRESENNOL.  Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Sioned Braniff; Helen Pritchard; Gwyneth Jones; Iwan W. Taylor; Aled W.Jones a’r Clerc Mary C. Jones

YMDDIHEURIADAU.

  Cynghorwyr Lynda M. Cox; Trystan Humphreys a Llion Jones

YN ABSENNOL.

 Cynghorwyr Llyr ap Rhisiart a John Pritchard

9.452. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Dymunwyd gwellhad buan i Llyr Humphreys – Mab Cynghorydd Trystan Humphreys      oedd yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Diolchwyd i’r Cynghorydd Trystan Humphreys am osod tap newydd ym Mynwent          Gyhoeddus Trefor yn ddi dal.

9.453. DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN 2018/19.  

Cadeirydd     – Cynghorydd Meirwen Cullen, Trefor.

Is-Gadeirydd  –

Penderfynwyd gan nad oedd unrhyw Aelod o Lanaelhaearn yn bresennol yn y      cyfarfod, i ddewis Is-Gadeirydd yng nghyfarfod mis Mehefin o’r Cyngor.

9.454.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.455. COFNODION CYFARFOD Ebrill 9fed 2018

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Aled W. Jones

ac eilwyd gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai.

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion 

MATERION YN CODI O’R COFNODIOn

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Disgwyl yn awr am ddyddiad yr hyfforddiant.            

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDU Y PLWYF

(a)        LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Dim wedi ei dderbyn yn ôl gan y Swyddog Llwybrau.

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

            SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI.

 Y Clerc i gysylltu eto gyda Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol, Cyngor Gwynedd.

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Y twll, lle oedd y bolard wedi ei lenwi i mewn gan yr Adran Briffyrdd.

9.426.  CROESFAN GER GLANRHYD, LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli.

9.428.  CYFLWR Y FFORDD O PENRHIWROEN I MOELFRE FAWR.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a chyflwr y ffordd  ac hefyd wedi anfon rhai lluniau iddynt.

9.447.RHEOLAU CYNLLUNIO. 

 24 Ffordd Croeshigol, Trefor.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Mr Gwyn Lloyd Evans, Swydog Gorfodaeth         Cynllunio, Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, yn cadarnhau bod archwiliad o’r safle wedi bod gan Swyddogion yr Adran yn ddiweddar ac o ganlyniad mae’r perchennog wedi ei hysbysu fod angen caniatad cynllunio ar gyfer y datblygiad sydd  yn yr ardd gefn.

Uwch Hafoty, Trefor

Yn yr un ebost cafwyd cadarnhad nad oes hanes cynllunio diweddar, ond cafodd cais cynllunio a apel ei wrthod yn 2008.  Deallir o’r hanes fod y defnydd fel annedd wedi dod i ben.  Byddent yn trefnu i archwilio y safle yn sgil ein cwyn.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.448.  MYNWENTYDD Y PLWYF.

 Adroddodd y Clerc nad oedd wedi gwneud y gwaith angenrheidiol ynglyn a’r      Mynwentydd yn dilyn salwch 

9.456. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim Cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.457. GOHEBIAETH

  1. Mr Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwastraff a Chomisiynu

            Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.

Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Adran yn hysbysu bod Llywodraeth Cymru yn    ddiweddar wedi cynuno i fabwysiadu dull teg a chyson drwy Gymru ar gyfer y        ffioedd a godir gan lywodraeth leol i gladdu ac amlosgi plant.

Ni fydd Awdurdodau Claddu yng Nghymru yn codi unrhyw ffioedd mewn perthynas     a chalddu neu amlosgi safonol plentyd a ddiffinwyd i’r dibenion yma fel person dan 18 oed.  Mae’r ymrwymiad yma yn gymwys i’r ffioedd safonol a godir gan  awdurdodau claddu sy’n ymwenud a :

  • Amlosgi unigolyn dan 18 oed (yn cynnwys baban marwanedig a gweddillion ffetws).
  • Claddu unigolyn dan 18 oed (yn cynnwys babal marwanedig a gweddillion ffetws).
  • Hawl Claddu Cynyngedig lle bydd angen.
  • Unrhyw ffi arall sy’n unionyrchol yn ymwneud a chaddu neu amlosgi unigolyn neu weddillion amlosgedig unigolyn dan 18 oed (er enghraifft y ffioedd a’r taliadau am ganiatad i godi cofeb).

Bydd y Cyngor Cymuned yn gallu ad-ennill costau claddu gan Gyngor Gwynedd fel a ganlyn :

  • Nifer y claddedigaethau / amlosgiadau yn ystod y chwarter perthnasol
  • Dyddiadau claddedigaethau / amlosgiadau yn ystod y chwarter perthnasol.
  • Oed yr unigolyn a gladdwyd / amlosgwyd yn ystod y chwarter perthnasol
  • Gwerth y ffi a hepgorwyd I bob claddedigaeth / amlosgiad.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.458.  CEISIADAU ARIANNOL.

Trafodwyd y ceisiadau ariannol a phenderfynwyd fel a ganlyn :

  1. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn ……………………….   400.00
  2. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn …………………………………     400.00
  3. Pwyllgor Cae Chwarae Llanaelhaearn ………………………..      400.00
  4. Pwyllgor Llywio Canolfan Y Babell, Llanaelhaearn ………..  300.00
  5. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ………………………………..     200.00
  6. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor ………………………………..    100.00
  7. Ti a Fi, Llanaelhaearn ……………………………………     100.00
  8. Clwb Hoci Pwllheli ……………………………………..      100.00
  9. Grwp Mynediad Dwyfor ……………………………….      100.00

9.459.  CWRDD PLWYF (CYFARFOD BLYNYDDOL Y CYNGOR CYMUNED) 

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i gynnal y Cwrdd Plwyf ar ddechrau cyfarfod             Mehefin o’r Cyngor Cymuned, a dechrau am 7.00 o’r gloch 

9.460 CYLLID                        

Cadarnhawyd y talidau canlynol

            Derbyniadau

  1. Cyngor Gwynedd (Presept rhan 1) …………………..……………….. 12,500.00
  2. Mr Robert G. Owen, Llanystumdwy

(Rhodd i Fynwent Newydd Llanaelhaearn)…….             50.00

            Taliadau 

  1. Zurich Municipal (Yswiriant y Cyngor 2018/19) ………………….     763.53
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mai) …………………………. …………….                  300.00
  3. Osian Williams, Pistyll (Gwagio Biniau Mynwentydd) …………..      150.00
  4. Gwyn Thomas & Co Ltd (Re Cyflog Clerc) ………………………        84.00

Rhoddion Ariannol 2018

  1. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn ……………………….     400.00
  2. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn …………………………………      400.00
  3. Pwyllgor Cae Chwarae Llanaelhaearn ………………………..      400.00
  4. Pwyllgor Llywio Canolfan Y Babell, Llanaelhaearn ………..     300.00
  5. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ………………………………..       200.00
  6. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor ………………………………..      100.00
  7. Ti a Fi, Llanaelhaearn ……………………………………          100.00
  8. Clwb Hoci Pwllheli ……………………………………..             100.00
  9. Grwp Mynediad Dwyfor ……………………………….             100.00

9.461.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mehefin 4ydd  2018 am 7.00 y.h – Cwrdd Plwyf

Cyngor Cymuned i ddilyn.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.462.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEHEFIN  2018

            (Dydd Gwener, Mai 27ain  2018).

            Daeth y cyfarfod i ben 8.45 y.h.

          

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Mai 14eg  2018 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

            2a        DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD AM Y FLWYDDYN                                  2018/19.

  1. DATGAN DIDDORDEB.
  2. COFNODION CYFARFOD Ebrill 9fed  2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion.

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

                        Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

                        (Copiau amgaeedig).

Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

     Ceisiadau Ariannol am y flwyddyn.

  1. TRAFOD DYDDIAD CWRDD PLWYF

(Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cymuned)

  1. CYLLID.

Derbyniadau.

  1. Cyngor Gwynedd (Presept rhan 1) ………………….           12,500.00
  2. Mr Robert G. Owen, Llanystumdwy

(Rhodd I Fynwent Newydd Llanaelhaearn) .               50.00               

  Taliadau.

  1. Zurich Municipal (Yswiriant y Cyngor 2018/19) ……               763.53
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mai £300.00 – HMRC £0.00) ..               300.00
  3. Gwyn Thomas & Co, Ltd (Re Cyflog Clerc ) ………..                84.00

  10..      DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mehefin 4ydd  2018 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor..

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEHEFIN 2018

                        (Dydd Gwener, Mai  27ain 2018) 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR

NOS LUN, Ebrill 9fed 2018 am 7.30 y.h              

 YN BRESENNOL.

 Cynghorwyr; Trystan Humphreys; Meirwen Cullen; Lynda M. Cox; Jina Gwyrfai;             Sioned Braniff; John Pritchard; Helen Pritchard; Gwyneth Jones; Llion Jones;

Aled W.Jones  a’r Clerc Mary C. Jones

YMDDIHEURIADAU.

 Cynghorwyr Llyr ap Rhisiart a Iwan W. Taylor

9.441. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Trystan Humphreys

Diolochwyd i’r Cynghorydd Llion Jones, am dorri a chlirio y goeden oedd wedi

syrthio ym Mynwent Gyhoeddus Trefor.

9.442.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.443. COFNODION CYFARFOD Mawrth 5ed 2018

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones…

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.            

MATERION YN CODI O’R COFNODION

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Y Defibillators wedi eu gosod yn y Plwyf.

Disgwyl yn awr am ddyddiad yr hyfforddiant.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc ofyn iddynt am y cyfarwyddiadau

yn ddwyieithog. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDU Y PLWYF

(a)        LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Dim wedi ei dderbyn yn ôl gan y Swyddog Llwybrau.

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

            SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI. 

  Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol wedi hysbysu y Clerc y buasai Mr Bryn Jones   o’r swyddfa yn anfon assessiad risc newydd i ni.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Adran.

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Y Clerc cysylltu eto gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli..

9.426.  CROESFAN GER GLANRHYD, LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli.

9.428.  CYFLWR Y FFORDD O PENRHIWROEN I MOELFRE FAWR.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a chyflwr y ffordd ac hefyd wedi anfon rhai lluniau iddynt 

9.444. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim Cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.445. GOHEBIAETH

Lyn Cadwaladr, Prif Weithredwr

            UN LLAIS CYMRU

            24, Stryd y Coleg, Rhydaman, Caerfyrddin.

Derbyniwyd ffurflen i ail-ymaelodi gyda Un Llais Cymru.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i ymaelodi am y flwyddyn 2018 / 2019.

Tal Aelodaeth yn £170.00, yn seiliedig ar 559 o anheddau trethadwy yn ôl

£0.305p yr annedd. (Yn seiliedig ar Restr Brisio, nid Cofrestr Etholiadol).

9.446.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn.

9.447RHEOLAU CYNLLUNIO.

Y Clerc a rhai o’r Aelodau wedi derbyn cwynion bod siale (chalet) yn cael ei adeiladu yng nghardd 24, Croeshigol yn Nhrefor.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth gan nad oedd y Cyngor Cymuned heb dderbyn           unrhyw gais cynllunio am y safle i’r Clerc gysylltu a’r Adran Gynllunio ym Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau.

9.448.  MYNWENTYDD Y PLWYF. 

            Trafodwyd y gwaith sydd angen ei wneud ym Mynwent Gyhoeddus Trefor ac      hefyd Mynwent Newydd Llanaelhaearn.

Penderfynwyd i’r Clerc wneud rhest o’r gwaith angenrheidiol. 

9.449 CYLLID.                         

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn. 

            Taliadau. 

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Ebrill) £300.00 – HMRC £2.00) ……………. 298.00
  2. Cyngor Gwynedd (Treth Mynwent Trefor) ………………………… 228.73
  3. Un Llais Cymru (Aelodaeth 2018/19) ………………………………. 170.00
  4. Dwr Cymru (Mynwent Trefor ) ……………………………………… 137.16
  5. Lynda Cox, Llanaelhaearn (Tudalennau A4 ar gyfer lamineiddio) ….. 13.75

9.450.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mai 14eg  2018 am 7.30 y.h.(Mai 7fed yn Wyl y Banc)

Yng Nghanolfan Y Babell, LLanaelhaearn

9.451.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAI  2018

            (Dydd Gwener, Mai 4ydd  2018).

            Daeth y cyfarfod i ben 9.00 y.h.

           

           

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN

NOS LUN, Mawrth 5ed 2018 am 7.30 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD. 
  3. DATGAN DIDDORDEB. 
  4. COFNODION CYFARFOD Chwefror 5ed 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion  

  1. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.  

    Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

          (Copiau amgaeedig). 

  1. Mr Dylan W. Jones, Uwch Reolwr – Trafnidiaeth a Chefn Gwlad

Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.

Parcio Anystyriol

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

                         Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. BINIAU HALEN Y PLWYF.

                        (Cynghorydd Lynda M. Cox)

  1. CYLLID.

Derbyniadau. 

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn. 

                        Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Chwefror £300.00 – HMRC £2.20) ….         297.80
  2. Mary C Jones (Defnydd o swyddfa gartref 2016/17

pasiwyd 7.983 Mawrth 2007 – £250.00 y flwyddyn) ………………     250.00

3          Canolfan Y Babell, Llanelhaearn

Cyfarfodydd Ebrill;Mehefin;Medi;Tachwedd ; Ionawr a Mawrth) …….               72.00

  1. Cyngor Gwynedd (Les Maes Parcio Hen Ysgol, Trefor) ……….        1.00
  2. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ebrill 2ail 2018 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor..

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD EBRILL 2018

                        (Dydd Gwener, Mawrth 23ain 2018).

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR,

NOS LUN, Chwefror 5ed 2018 am 7.30 y.h 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD. 
  3. DATGAN DIDDORDEB. 
  4. COFNODION CYFARFOD Ionawr 8fed 2018

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion.  

TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

 Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.

TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

(Copiau amgaeedig). 

  1. Mr John D. Roberts

31, Ffordd Eryri, Caernarfon

Archwiliwr Mewnol

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

.           Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd Chwefror 2018

  1. Trefor – Creu troedffordd o Trefor i’r A499
  2. Pentref Llanaelhaearn – Gwaith.ar golofnau golau stryd – goleuadau traffig

12/02 tan 16/02 a hwyrach penwythnos 17 a 18/02

  1. Mr Steve Halsall, Prif Weithredwr

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Ty Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd.

Arolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd – Cynigion Drafft

  1. Trwy ebost -Wyn Williams, Rheolwr Cefn Gwlad

Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad, Cyngor Gwynedd.

Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor.

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

 Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD MYNWENTYDD Y PLWYF
  2.  (Cynghorydd Lynda M. Cox)
  3.  
  4. CYLLID.

Derbyniadau

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn.

   Taliadau.

  1. The Community Heartbeat Trust (2 x Defibilator) ………           5,606.40
  2. Ashley Hughes Cyf, Nefyn (Lenoco Laptop a Meddalwedd) …….                            466.79
  3. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Chwefror £300.00 – HMRC £2.20) ….         297.80

4          Y Ganolfan, Trefor (25/4/17 – New Street,

Cyfarfodydd Mai;Gorffennaf;Hudref;Rhagfyr a Chwefror) …….          90.00

  1. John D. Roberts, Caernarfon (Archwiliad Mewnol 2016/17) ……. 75.00
  2. Gwyn Thomas & Co, Cyfrifwyr Pwllheli (Re Cyflog Clerc ) ……          63.00
  3. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mawrth 5ed 2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn

9.423(1)

Gohebiaeth

Luned Evans <luned.evans@onevoicewales.org.uk>

To

MARY JONES

CC

Wendi Huggett Lyn Cadwallader

Today at 12:51

Annwyl Mary,

Y peth cyntaf y dyliwn ei wneud ydi sicrhau eich bod chi’n ymwybodol fod yr adroddiad terfynnol wedi dod gan yr IRPW ddoe ac nad ydi cynghorau efo incwm neu drosiant o £30,000 neu lai yn gorfod cynnig y lwfans erbyn hyn. Dewisol ydyw i gynghorau dan y trothwy yma, a dylid dangos drwy’r cofnodion fod y Cyngor yn trafod a phenderfynu ar hyn os ydych dan y trothwy. Gwn mai £25,000 oedd eich praesept y llynedd, felly rwy’n ymwybodol y gallech fod o dan y trothwy yma.

Rhag ofn eich praesept wedi codi i £30,000 neu fwy at 2018/19 neu rhag ofn fod eich trosiant yn hynny neu fwy dyma atebion i’ch cwestiynau

1) Ydi, mae’r lwfans yn drethadwy, ac ar y funud, ein dealltwriaeth ni ydi fod yn rhaid iddo fynd drwy’r system PAYE. Rydym yn aros am ddyfarniad terfynnol yr HMRC ar hyn cyn gadael i bawb wybod yn swyddogol beth yw’r drefn.

2) Rhaid i’r lwfans fod ar gael i bob aelod, ond mae hawl gan unrhyw aelod i’w wrthod. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig i’r Clerc.

3) Byddem yn awgrymu i’r taliad gael ei wneud yn flynyddol – gallwch benderfynu fel cyngor pa bryd fyddai’n addas gwneud y taliad.

Gobeithio fod hyn yn ateb eich cwestiynau yn llawn. Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.

Cofion,

Luned

Luned Evans

Swyddog Datblygu Gogledd Cymru /
North Wales Development Officer

Un Llais Cymru        One Voice Wales
24c Stryd y Coleg     24c College Street
Rhydaman              Ammanford
Sir Gaerfyrddin       Carmarthenshire
SA18 3AF              SA18 3AF

Ffon/Tel 01269 595400
Ffacs/Fax 01269 598510
Gwefan: www.unllaiscymru.org.uk / Website: www.onevoicewales.org.uk

Llais Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru – The Voice of Community and Town Councils in Wales

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAWRTH 2018

                        (Dydd Gwener, Chwefror 23ain 2018).

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Chwefror 5ed 2018 am 7.30 y.h               

            YN BRESENNOL. 

            Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Lynda M. Cox; Helen Pritchard; Jina Gwyrfai;       Gwyneth Jones; Trystan Humphreys; Llyr ap Rhisiart; Llion Jones; Aled W.Jones

a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.  

            Cynghorwyr John Pritchard; Sioned Braniff a Iwan W. Taylor.

9.419. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Trystan Humphreys.

Cydymdeimlwyd gyda Cynghorydd Llyr ap Rhisiart ar farwolaeth ei Daid.

9.420.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.421. COFNODION CYFARFOD Ionawr 8fed 2018

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones…

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones ynglyn a           bod y goleuadau a’r y cynllun gwreiddiol o wneud y ffordd newydd, ond bod yr            Adran A.H.N.E. ym Mhwllheli yn erbyn.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones wedi trafod y sefyllfa gyda Swyddogion /     Cynghorwyr Cyngor Gwynedd, a bydd y wybodaeth yn mynd o flaen cyfarfod o’r        Cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Adroddodd y Clerc bydd y Defibilators yn cael eu danfon i’r Plwyf pan fyddant wedi     derbyn y siec amdanynt.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda Alys Jones, Cyngor             Gwynedd i holi ynglyn a chwilio am         grantiau.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF

(a)        LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc i anfon yr holl ohebiaeth mae wedi ei anfon / derbyn i’r Swyddog Llwybrau         yn Nolgellau i’r Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones, a bydd ef yn cysylltu gyda’r Swyddog i edrych beth sydd yn mynd ymlaen.

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

            SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI.

            Derbyniwyd copi o’r assessiad risc i draeth Trefor gan Mr Barry Davies.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth bod yr assessiad risc wedi ei gwneud ers          18/11/2013, ac yn eu barn hwy bod angen assessiad risc newydd.  Gofynwyd

i’r  Clerc gysylltu eto gyda Mr Barry Davies i ofyn am un mwy diweddar.

9.391.  TOILEDAU TRAETH TREFOR.

Derbyniwyd llythyr o ddiolch gan Mr Sion Amlyn, Cadeirydd Hendragarreg am y            rhodd o £1,000

MATERION YN CODI O’R COFNODION (Parhad)

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r bolard pren          sydd wedi ei leoli a’r y llwybr cerdded / beics ger Tai Newyddion, i rwystro cerbydau    rhag mynd a’r y lôn, wedi ei torri.. 

9.404.  GOLEUADAU GER MYNEDFA ELERNION, TREFOR.

            Yr Aelodau yn meddwl bod y goleuadau wedi eu symud i lawr y polyn, gan nad   ydynt mor lachar pan mae cerbydau yn trafeilio i lawr yr Hen Lon i Drefor.

Penderfynwyd i gadw llygaid a’r y sefyllfa.

9.414.  MYNEDFA NEWYDD GER ELERNION.

Derbyniwyd llythyr trwy ebost gan Mr Dylan Wynn Jones, Rheolwr Uned Traffig,            Cyngor Gwynedd, Caernarfon, yn hysbysu y Cyngor Cymuned ei fod wedi cael gair         gyda’r tirfeddiannwr ynglyn a’r fynedfa.  Mae y giat yn cael ei defnyddio fwy fel           ffens yn hytrach na giat.  Mae wedi cynghori y tirfeddiannwr i beidio defnyddio’r          man yma fel mynedfa a bydd rhaid mynd trwy’r prosesau cywir os yw yn awyddus i      greu mynedfa o’r newydd.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.415.  TRAFOD TENDRAU

            (a)        CYNNAL A CHADW LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2018 i 31ain Mawrth 2019).(Blwyddyn)

(b)       GWACAU BINIAU.

                        MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

                        MYNWENT GYHOEDDUS TREFOR.

(1af Ebrill 2018 i 31ain Mawrth 2019)(Blwyddyn).

Y Tendrau i’w trafod yng nghyfarfod Mawrth o’r Cyngor Cymuned 

9.422. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim Cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.423. GOHEBIAETH. 

  1. Mr John D. Roberts (Archwiliwr Mewnol)

            31, Ffordd Eryri, Caernarfon. 

            Derbyniwyd llythyr ganddo yn hysbysu y Cyngor Cymuned ei fod wedi penderfynu  rhoi’r gorau i weithredu fel arhwiliwr mewnol Cynghorau Tref a Chymuned.  Mae wedi bod mewn cyswllt gyda Uwch Swyddog o Uned Archwilio Mewnol Cyngor Gwynedd, a cafadd a’r ddeall y gallant ymgymryd a pheth o’r gwaith.

Y Clerc wedi anfon gair o ddiolch iddo am ei waith am yr holl flynyddoedd.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Ms Luned Fon Jones o’r           uned ynglyn a chael archwilio llyfrau y Cyngor  Cymuned am y flwyddyn 2017/18.

  1. A. Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor

            Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Swyddfa Ardal Dwyfor, Pwllheli.

. Rhaglen Waith Trafnidiaeth a Priffyrdd Chwefror 2018

  1. Trefor – Creu troedffordd o Trefor i’r A499
  2. Pentref Llanaelhaearn – Gwaith.ar golofnau golau stryd – goleuadau traffig

12/02 tan 16/02 a hwyrach penwythnos 17 a 18/02.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

  1. Mr Steve Halsall, Prif Weithredwr

            Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

            Ty Hasting, Llys Fitzalan, Caerdydd.

Derbyniwyd llythyr ganddo ynglyn ac Arolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Sir         Gwynedd – Cynigion Drafft.  Mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru    wedi cwblhau rhan gyntaf eu harolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Sir          Gwynedd.

Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones, bod                 cynlluniau ganddynt i ostwng y nifer o seddau Cynghorwyr Gwynedd o 75 i 69, a bod          Ward Llanaelhaearn i gael ei ail enwi yn Ward yr Eifl.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.423. GOHEBIAETH (Parhad).

  1. Mr Wyn Williams, Rheolwr Cefn Gwlad

            Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad, Cyngor Gwynedd.

Derbyniwyd trwy Ebost lythyr ganddo yn tynnu sylw yr Aelodau i’r cyfle sy’n agored     i’r Aelodau fod yn aelod o Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor.  Mae’r Fforwm           Mynediad Lleol yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill        perthnasol o ran gwella llwybrau a mynediad cyhoeddus i diroedd yn y sir gyda’r nod    o hyrwyddo gwethgareddau awyr agored.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth nad oedd neb o’r Aelodau am fod yn aelod o’r            fforwm.

9.424.  CEISIADAU ARIANNOL. 

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn.

9.425.  MYNWENTYDD Y PLWYF.

Mynwent Newydd Llanaelhaearn

Trafodwyd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw fel a ganlyn :

  1. Barbio y coed.
  2. Creu llwybrau newydd yn y darn newydd o’r fynwent.
  3. Archwilio y ffens yng ngwaelod Cae’r Fynwent.
  4. Chwalu y pridd sydd wedi ei adael yng ngwaelod y Cae.

Mynwent Gyhoeddus Trefor.

  1. Clirio / chwalu y pridd sydd yng ngwaelod y fynwent.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Aelodau gyfarfod ym Maes Parcio Mynwent             Llanaelhaearn, bore Sadwrn, Mawrth 3ydd am 11.y.b.

9.426.  CROESFAN GER GLANRHYD, LLANAELHAEARN.

Derbyniwyd gwybodaeth bod angen atgyweirio yr arwydd sydd a’r y groesfan.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mwhllheli.

9.427.  LWFANSAU CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Mr David Roberts, Clerc Cyngor Cymuned            Llandwrog (roedd wedi anfon i bob Cyngor Cymuned) ynglyn a talu lwfansau i           Aelodau Cynghorau Cymuned / Tref o Ebrill 2018.  Byddai y lwfans tua £150 y       flwyddyn i bob Aelod.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Clerc gysylltu gyda Un Llais Cymru i ofyn iddynt am arweiniad, ac hefyd i wybod os buasai y lwfans yn drethadwy.  Yr Aelodau          o’r farn y buasai yn well ganddynt i’r arian gael ei wario yn y Gymune

9.428.  CYFLWR Y FFORDD O PENRHIWROEN I MOELFRE FAWR.

Derbyniwyd cwyn bod cyflwr y ffordd / ffos angen archwiliad yn dilyn y loriau mawr      oedd wedi bod yn trafeilio ar ei hyd yn ddiweddar.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ym   Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau. 

9.429 CYLLID.

            Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.

            Taliadau.

  1. The Community Heartbeat Trust (2 x Defibilator) ………                5,606.40
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Chwefror £300.00 – HMRC £2.20) ……      297.80

3          Y Ganolfan, Trefor (25/4/17 – New Street,

Cyfarfodydd Mai;Gorffennaf;Hudref;Rhagfyr a Chwefror) …….                  90.00

  1. John D. Roberts, Caernarfon (Archwiliad Mewnol 2016/17) ……. 75.00
  2. Gwyn Thomas & Co, Cyfrifwyr Pwllheli (Re Cyflog Clerc ) ……                 63.00

9.430   DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Mawrth 5ed 2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.431.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MAWRTH 2018

            (Dydd Gwener, Chwefror 23ain 2018

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Ionawr 8fed 2018 am 7.00 y.h.               

 YN BRESENNOL.

Cynghorwyr; Meirwen Cullen; Lynda M. Cox; Helen Pritchard; Jina Gwyrfai;       Gwyneth Jones, Sioned Braniff; Iwan W. Taylor; Aled W.Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr Trystan Humphreys; Llion Jones; Llyr ap Rhisiart a John Pritchard.

9.408. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan yr Is- Gadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen

Croesawyd hefyd Mr H. Emlyn Cullen a Mr Geraint Jones, Ysgrifennydd a           Chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.

9.409.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y cyfarfod.

9.410. COFNODION CYFARFOD Rhagfyr 6ed 201

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cox ac eilwyd gan y Cynghorydd Aled W. Jones…

Yr Is-Gadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.243.  ESTYNIAD MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Penderfynwyd hefyd i osod arwydd gyda rheolau parcio arno.

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones ynglyn a           bod y goleuadau a’r y cynllun gwreiddiol o wneud y ffordd newydd, ond bod yr  Adran A.H.N.E. ym Mhwllheli yn erbyn.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones wedi trafod y sefyllfa gyda Swyddogion /     Cynghorwyr Cyngor Gwynedd, a bydd y wybodaeth yn mynd o flaen cyfarfod o’r        Cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBRILLATOR I’R PLWYF.

Adroddodd y Clerc bod y Cyngor Cymuned wedi derbyn £3,315.00 o arian y grant,         sydd y nein galluogi i brynu dau (2) beiriant, sydd i’w leoli yn Bryn Meddyg,    Llanaelhaearn a’r llall ger Siop Glandwr yn Nhrefor.  Bydd angen anfon lluniau   iddynt o’r ddau leoliad.

.Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda Alys Jones, Cyngor             Gwynedd i holi ynglyn a chwilio am grantiau.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF

(a)   LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a’r llwybr uchod.  Mae perchnogion Moelfre Bach yn cael ymwelwyr yno yn gofyn am ffordd y llwybr yn aml iawn.  Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda’r   Swyddog Llwybrau hefyd ynglyn a hyn. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION 

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

 SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI.

Croesawyd Mr Geraint Jones a Mr H. Emlyn Cullen, Cadeirydd ac Ysgrifennydd             Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.Trafodwyd gyda hwy beth oedd Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol, Cyngor Gwynedd wedi ei drafod gyda’r Aelodau yng nghyfarfod o’r Cyngor Cymuned. Gan na fuasai warden yn goruchwilio y traeth yr haf yma, dymuniad y Gymdeithas fyddai cau y ‘slipway’, ond bod gan y rhai oedd gyda angorfeydd yn cael mynediad at eu cychod.

Penderfynwyd yn dilyn y drafodaeth i’r Clerc cysylltugyda Mr Barry Davies a gofyn        iddo beth yw penderfyniad Swyddogion Cyngor Gwynedd am y ‘slipway’ a thraeth       Trefor.  Penderfynwyd hefyd i ofyn iddo am weld copi o assessiad risc y traeth, a         chopi o gynnwys y  llythyrau sydd yn mynd allan i’r rhai sydd yn talu yn flynyddol   am drwydded i gael pysgota yn Ngwynedd. 

9.391.  TOILEDAU TRAETH TREFOR.

Derbyniwyd llythyr gan Sion Amlyn, Cadeirydd Hendragarreg, yn egluro i’r Aelodau       beth oedd y diweddara gyda’r fenter, a’u bod mewn trafodaethau gyda Cyngor            Gwynedd a bod eu syniad i fedru ail-ddefnyddio’r hen doiledau a’t y traeth yn argoeli     yn dda. Maent angen cynnal astudiaeth er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i geisio am grantiau a.y.y.b.  Byddai astudiaeth o’r fath yn costio tua £2,000 iddynt, a buasent yn gwerthfawrogi yn fawr os buasai y Cyngor Cymuned yn ystyried cyfrannu at gost yr astudiaeth hanfodol hyn.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth gan yr Aelodau bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi    y fenter ac i gyfrannu rhodd o £1,000 tuag at yr astudiaeth hon.  Bydd y Clerc yn         anfon y siec gyda llythyr o gefnogaeth i Sion Amlyn.

Cynghorwyr Jina Gwyrfai a Aled W. Jones heb gymeryd rhan yn y drafodaeth.

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r bolard pren          sydd wedi ei leoli a’r y llwybr cerdded / beics ger Tai Newyddion, i rwystro cerbydau rhag mynd a’r y lôn, wedi ei torri.

9.403.  FFOS GER MYNEDFA LLWYBR CYMUNEDOL YN LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Mr Alun Williams, Adran y Cyhoedd, Cyngor       Gwynedd yn egluro mai cyfrifoldeb y perchennog tir yw clirio y ffôs.Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc anfon copi o’r ebost i Mr Michael Cox. 

9.404.  GOLEUADAU GER MYNEDFA ELERNION, TREFOR.

 Y Clerc yn dal i dderbyn cwynion ynglyn a goleuadau sydd ger mynedfa i Elernion,         Trefor.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Mr Bleddyn Jones, Adran         A.H.N.E. Cyngor Gwynedd ym Mhwllheli i ofyn am ei sylwadau. 

9.411. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. 3, New Street, Trefor, Caernarfon

Dymchwel estyniad unllawr cefn presennol a codi estyniad cefn deulawr

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd gan yr Aelodau nad oedd ganddynt unrhyw                wrthwynebiad i’r cais cynllunio, ond bod angen tynnu sylw yr Adran nad oes             mynedfa gefn i’r adeilad.

  1. Plas yr Eifl, Trefor, Caernarfon
  2. Angen caniatad ol-weithredol am linell drydan oherwydd fod ail gyflenwad          tanddaearol yn cysylltu iddi.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd gan yr Aelodau nad oedd ganddynt unrhyw                wrthwynebiad i’r cais cynllunio.

9.412. GOHEBIAETH. 

  1. PENNAETH CYLLID

    SWYDDF’R CYNGOR, CAERNARFON

Derbyniwyd llythyr a ffurflen gan yr Adran ynglyn a Praesept y Cyngor Cymuned

am y flwyddyn 2018/ 2019.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i ofyn am £25,000.00  eleni eto.  

9.413.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn.

9.414.  MYNEDFA NEWYDD GER ELERNION.

Y Clerc wedi derbyn cwyn bod mynedfa newydd wedi ei agor ger y sied sydd wedi ei     lleoli dros y ffordd i fynedfa Elernion yn Nhrefor.  Yn ôl y gwyn roedd y safle             gwyrdd ger arwydd Trefor a’r box blodau wedi ei falurio gan fod tractorau a cherbydau eraill yn ei ddefnyddio, ac yn cario y mwd ar hyd y ffordd, oedd yn ei gwneud yn berygl i gerddwyr a cherbydau.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ym   Mhwllheli a gofyn am eu sylwadau ynglyn a’r mater.

9.415.  TRAFOD TENDRAU 

            (a)        CYNNAL A CHADW LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2018 i 31ain Mawrth 2019).(Blwyddyn)

(b)       GWACAU BINIAU.

                        MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

                        MYNWENT GYHOEDDUS TREFOR.

(1af Ebrill 2018 i 31ain Mawrth 2019)(Blwyddyn).

Penderfynwyd i’r Clerc anfon y ffurflenni angenrheidiol allan i ofyn am dendrau i             wneud  y gwaith uchod o fewn y Plwyf.  Dyddiad cau, Mawrth 1af..

Trafod  y prisiau yng nghyfarfod mis Mawrth. 

9.416 CYLLID. 

Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

Derbyniadau. 

  1. Ms A. Schlachter, Llundain (Rhodd at Fynwent Trefor) …..,,.           20.00

 Taliadau.

  1. Steven Lewis, Trefor – Torri Mynwentydd

(Mynwent Llanaelhaearn – £1,125.00

Chwyn Laddwr – £75.00

Gwagio Biniau – £320.00

Mynwent Trefor – £1,665.00

Chwyn Laddwr – £75.00)

Gwagio Biniau – £320.00 )  ……………      3,580.00

  1. Jason Worsley, Llithfaen (Llwybrau Cyhoeddus) ………………..          675.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £2.20) ………….       297.80
  3. Swyddfa Archwilio Cymru (Archwiliad 2016/17) …………….……    284.25
  4. H.M.R.C. (Hydref, Tachwedd a Rhagfyr) …………………………………… 6.60

9.417   DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Chwefror 5ed 2018 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.418   DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD CHWEFROR 2018

            (Dydd Gwener, Ionawr 26ain 2018) 

Daeth y cyfarfod i ben 9.15 y.h

      

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Ionawr 8fed 2018 am 7.00 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU.
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

            2b        CROESAWU MR EMLYN CULLEN A MR GERAINT JONES

                        YSGRIFENNYDD A CHADEIRYDD CYMDEITHAS

                        PYSGOTWYR TREFOR

  1. DATGAN DIDDORDEB.
  2. COFNODION CYFARFOD Rhagfyr 6ed  2017

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion.

 TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

  1. 3, New  Street, Trefor, Caernarfo
  2.  Dymchwel estyniad unllawn cefn presennol a codi estyniad cefn deulaw
  3. Plas yr Eifl, Trefor, Caernarfon. Angen caniatad ol-weithredol am linell drydan oherwydd fod ail gyflenwad tanddaearol yn cysylltu iddi
  4. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

                        (Copiau amgaeedig). 

  1. Pennaeth Cyllid

Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon

Praesept 2018/19 (2017/18 = £25,000.00).

  1. Sion Amlyn, Cadeirydd Hendragarreg

Maes Teg, Trefor.

  1. CEISIADAU ARIANNOL. 

                        Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD ANGEN CLIRIO / GWASGARU PRIDD WRTH CEFN

                        YN CAE’R FYNWENT, LLANAELHAEARN        

  1. CYLLID.                     Derbyniadau.

 

  1. Ms A. Schlachter, Llundain (Rhodd at Fynwent Trefor) ……                       20.00

                        Taliadau.

  1. Steven Lewis, Trefor – Torri Mynwentydd

(Mynwent Llanaelhaearn – £1,125.00

Chwyn Laddwr – £75.00

Gwagio Biniau – £320.00

Mynwent Trefor – £1,665.00

Chwyn Laddwr – £75.00)

Gwagio Biniau – £320.00 )  ……………      3,580.00

  1. Jason Worsley, Llithfaen (Llwybrau Cyhoeddus) …………          675.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £2.20) ….       297.80
  3. Swyddfa Archwilio Cymru (Archwiliad 2026/17) …………        284.25
  4. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Chwefror 5ed 2018 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD CHWEFROR 2018

                        (Dydd Gwener, Ionawr 26ain 2018)..

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD Y GANOLFAN, TREFOR.

NOS LUN, Rhagfyr 6ed 2017 am 7.30 y.h.               

YN BRESENNOL.

 Cynghorwyr Trystan Humphreys; Meirwen Cullen; Lynda M. Cox;

Helen   Pritchard; Llyr ap Rhisiart; Jina Gwyrfai; Gwyneth Jones,

John Pritchard; Llion Jones; Aled W.Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr ; Sioned Braniff a Iwan W. Taylor.

9.397. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Trystan Humphreys

Llongyfarchwyd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn am gynnal Eisteddfod            lwyddianus ddiwedd Tachwedd.

9.398.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y cyfarfod.

9.399. COFNODION CYFARFOD Tachwedd 6ed 2017

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Helen Pritchard..

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.                   

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.243.  ESTYNIAD MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Penderfynwyd hefyd i osod arwydd gyda rheolau parcio arno.

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Derbyniwyd gwybodaeth gan yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones ynglyn a           bod y goleuadau a’r y cynllun gwreiddiol o wneud y ffordd newydd, ond bod yr Adran A.H.N.E. ym Mhwllheli yn erbyn.Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones wedi trafod y sefyllfa gyda Swyddogion / Cynghorwyr Cyngor Gwynedd, a bydd y wybodaeth yn mynd o flaen cyfarfod o’r Cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Adroddodd y Clerc bod y Cyngor Cymuned wedi derbyn £3,315.00 o arian y grant,         sydd y nein galluogi i brynu dau (2) beiriant, sydd i’w leoli yn Bryn Meddyg,    Llanaelhaearn a’r llall ger Siop Glandwr yn Nhrefor.  Bydd angen anfon lluniau   iddynt o’r ddau leoliad.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones wedi cyfarfod a thrigolion y stryd, a’i fod yn awr am gysylltu gyda Alys Jones, Cyngor Gwynedd i holi ynglyn a chwilio am        grantiau.

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF 

  1. LLWYBR HENDRE FAWR, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r  Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a      chael arwydd newydd a’r y safle.

  1. LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a’r llwybr uchod.  Mae perchnogion Moelfre Bach yn cael ymwelwyr yno yn gofyn am ffordd y llwybr yn aml iawn.  Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda’r Swyddog Llwybrau hefyd ynglyn a hyn 

9.378.  SEFYLLFA PARCIO YN NHREFOR.

 Yn dilyn cyfarfod a’r y safle gyda Dylan Wynn Jones o’r Adran Briffyrdd yng    Nghaernafon, Cynghorwyr Aled W. Jones, Llion Jones, Gwyneth Jones, Lynda M.          Cox a’r Clerc.  Derbyniwyd ebost gan Dylan W. Jones yn cadarnhau mai ffordd y   Cyngor yw y ffordd Bron Hendre ac hefyd mae’n debyg fod y clawdd yn gyfrifoldeb  y Cyngor hefyd.  ‘Roedd wedi edrych ar y syniad o tynnu’r clawdd er mwyn creu             mwy o lefyd parcio, fodd bynnag gan nad oes gan Gyngor Gwynedd arian i ddatblygu     unrhyw gynllun ar hyn o bryd.  Gofynnodd os oes modd newid y trefniadau

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau. 

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

            SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI. 

            Trafodwyd rheolaeth Traeth Trefor eto y mis yma gan yr Aelodau.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i wahodd Mr Emlyn Cullen, Ysgrifennydd       Cymdeithas Pysgotwyr Trefor ac un cynrychiolydd o’r Gymdeithas i gyfarfod mis   Ionawr o’r Cyngor Cymuned.  Y Clerc  i wneud y trefniadau angenrehidiol.

9.391.  TOILEDAU TRAETH TREFOR.

Trafodwyd toiledau y traeth gan yr Aelodau.

Gan fod Hendra Garreg wedi cael addewid gan  Gyngor Gwynedd ynglyn a chael Les / prynu yr adeilad, a bod Cyngor Gwynedd yn ymwybodol o’r broblem           carthffosiaeth.

Penderfynwyd os na fuasai Hendra Garreg yn defnyddio yr adeilad, yna y buasem yn trafod y mater eto.  Dymunwyd yn dda i Hendra Garreg yn eu menter newydd.

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli ynglyn a’r bolard pren           sydd wedi ei leoli a’r y llwybr cerdded / beics ger Tai Newyddion, i rwystro cerbydau rhag mynd a’r y lôn, wedi ei torri 

9.400. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim Cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.401. GOHEBIAETH.

 Dim Gohebiaeth wedi ei dderbyn. 

9.402.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn.

9.403.  FFOS GER MYNEDFA LLWYBR CYMUNEDOL YN LLANAELHAEARN.

Mr Michael Cox, Planwydd Bach, Llanaelhaearn wedi cysylltu a’r Clerc ynglyn nad oedd wedi derbyn atebiad i lythyr a anfonodd i’r Cyngor Cymuned ym mis Mai. Roedd angen gwybod pryd oedd y Cyngor Cymuned am wneud y gwaith o lanhau y ffôs. Eglurodd y Clerc iddo beth oedd ymateb yr Aelodau a beth oedd yn y llythyr a  anfonwyd iddo.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc anfon llythyr iddo i Trigfa, Llanaelhaearn       a chael tystysgrif postio, a buasai yn rhaid iddo arwyddo amdano.  Y Clerc i gysylltu  ac Adran Gwarchod y Cyhoedd ym Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau hefyd.

9.404.  GOLEUADAU GER MYNEDFA ELERNION, TREFOR.

 Y Clerc yn dal i dderbyn cwynion ynglyn a goleuadau sydd ger mynedfa i Elernion,         Trefor.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda Mr Bleddyn Jones, Adran         A.H.N.E. Cyngor Gwynedd ym Mhwllheli i ofyn am ei sylwadau.

9.405 CYLLID.

Cadarnhawyd y talidau canlynol :

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn.

Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Rhagfyr £300.00 – HMRC £2.20) ………..      297.80

9.406   DYDDIAD CYFARFOD NESAF 

Nos Lun, Ionawr 8fed  am 7.00 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.407.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD IONAWR 2018

            (Dydd Gwener, Rhagfyr 29ain 2017).

 

Daeth y cyfarfod i ben 9.15 y.h.

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YN Y GANOLFAN, TREFOR

NOS LUN, Rhagfyr 4ydd  2017 am 7.30 y.h.

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU. 
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.
  3. DATGAN DIDDORDEB.
  4. COFNODION CYFARFOD Tachwedd 6ed  2017

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

5. TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

Dim cais cynllunio wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

                        (Copiau amgaeedig).

                        Dim gohebiaeth wedi ei dderbyn 

  1. CEISIADAU ARIANNOL. 

           Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.

  1. TRAFOD FFOES GER MYNEDFA LLWYBR BACH

          YN LLANAELHAEARN          

  1. CYLLID.

Derbyniadau. 

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn. 

                        Taliadau.

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £2.20) …….       297.80
  2. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Ionawr  8fed 2018 am 7.30 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn…

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD IONAWR 2018

                        (Dydd Gwener, Rhagfyr 29ain 2017).

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Tachwedd 6ed  2017 am 7.00 y.h               

            YN BRESENNOL. 

 Cynghorwyr Meirwen Cullen; Lynda M. Cox; Helen Pritchard;  Iwan W. Taylor; Llion Jones;  Aled W.Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU. 

 Cynghorwyr Jina Gwyrfai; Gwyneth Jones; Sioned Braniff; Llyr ap Rhisiart;        John Pritchard a Trystan Humphreys;

9.384. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd Cynghorydd Meirwen Culle

Croesawyd Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol, Cyngor Gwynedd i’r cyfarfod.            .

9.385.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y cyfarfod

9.386. COFNODION CYFARFOD Hydref 2ail 201

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Lynda M. Cac eilwyd gan y Cynghorydd Iwan Taylor

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.243.  ESTYNIAD MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Y gwaith wedi ei wneud a’r y maes parcio, penderfynwyd i’r Clerc gysylltu eto     gyda Pennaeth Tai Cymunedol i ofyn iddynt ystyried rhoi cyfraniad tuag at y   gwaith, gan y bydd rhai o’u tenantiaid yn cael parcio ar y safle, Penderfynwyd hefyd i osod arwydd gyda rheolau parcio arno.

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda Swyddogion a         Chynghorwyr Cyngor Gwynedd..  Roedd am fynd a’r ddeiseb iddynt hefydm

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Y Clerc a’r Cynghorydd Lynda M. Cox derbyn gwybodaeth bod y Cyngor            Cymuned am dderbyn y grant.  .

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Dal i ddisgwyl gair gan Gyngor Gwynedd ynglyn a’r cyfarfod nesaf. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF 

LLWYBR HENDRE FAWR, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r  Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a chael arwydd newydd a’r y safle.

  1. LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a’r  llwybr uchod.  Mae perchnogion Moelfre Bach yn cael ymwelwyr yno yn gofyn am ffordd y llwybr yn aml iawn.  Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda’r  Swyddog Llwybrau hefyd ynglyn a hyn.

9.378.  SEFYLLFA PARCIO YN NHREFOR.

  Cynghorydd Iwan Taylor wedi derbyn cwynion bod ceir yn parcio yn Ffordd yr

Eifl o’r Siop i fyny tuag at Bwlcyn ac hefyd ger Bwlcyn a bod y bysiau a cherbydau mawr yn methu a pasio. Trafodwyd y mater a phenderfynwyd i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd i ofyn am eu  sylwadau ynglyn a’r mater, ac hefyd i gael cyfarfod gyda rhai o’r  Swyddogion ynglyn a trio cael safle parcio yn Nhrefor.

9.387. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. 3, River Terrace, Trefor, Caernarfon.

Estyniad llawr cyntaf.

Trafodwyd y mater gan yr Aelodau.

Penderfynwyd –

9.388. GOHEBIAETH. 

  1. Gareth a Rona Williams,

       Noddfa, Trefor, Caernarfon, Gwynedd.

  1. Derbyniwyd llythyr ganddynt ynglyn a bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu rhoi llinellau melyn ger mynediad Bron Hendre.  ‘Roeddynt yn teimlo bod y

penderfyniad wedi ei wneud heb drafod gyda thrigolion Bron Hendre na’r            strydoedd cyfagos.Maent o’r farn, gan fod y llinellau melyn wedi eu rhoi, bod safle i oddeutu 4 cerbyn wedi ei golli.

Penderfynwyd yn dilyn  trafodaeth i anfon copi o’r llythyr i’r Adran Briffyrdd a

gofyn i swyddogion yr Adran gyfarfod ac Aelodau y Cyngor Cymuned ar y safle.

  1. Derbyniwyd hefyd ail ran i’r llythyr ynglyn ac ansawdd y gwasanaeth maent yn ei dderbyn gan yr Adran Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd..  Maent yn          gorfod cysylltu a’r Adran ynglyn a diffyg casglu bin brown gwastraff gwyrdd sydd yn costio £30 y flwyddyn yn ychwanegol i’r dreth.  Mae y biniau yn cael eu

taflu yn ôl yn fler a biniau yn cael eu gaael yn y lôn, a honno yn lôn brysur

Penderfynwyd yn dilyn  trafodaeth i anfon copi o’r llythyr i’r Adran Gwastraff ac            Ailgylchu, Cyngor Gwynedd  a gofyn iddynt am eu sylwadau ar y mater.

  1. Un Llais Cymru (Trwy Ebost) 
  2.  Derbyniwyd llythyr ganddynt ynglyn ac ymgrymiad y Prif Weinidog i ‘wneud yn      siwr na fydd taliadau claddu ar gyfer plant bellach yn gymwys yng nghymunedau  Cymru’.Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi goblygiadau ariannol peidio   a chodi tal, ac felly pan ddaw cytundeb, ac mae cyfres gyffredin o safonau ar        waith, bydd swm priodol o gyllid ar gael fel cydnabyddiaeth.  Maent wedi            cysylltu gyda pob awdurdol lleol yng Nghymru ac y byddwn fel Cyngor         Cymuned yn cael cais pellach am wybodaeth trwy ein Awdurdod Lleol.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth ei fod yn syniad da i beidio a chodi tal am        gladdu / amlosgi plentyn hyd at 18 oed.

9.388. GOHEBIAETH. (Parhad) 

  1. Einir Ellis

            Moelfre Bach, Llanaelhaearn.

 

 Derbyniwyd ebost gan Einir Ellis ynglyn a safon y ffordd gefn o Moelfre Bach i’r

Pentref.  Ar hyn o bryd mae loriau mawr yn cario coed o’r winllan gyfagos, a bod mwd a’r y ffordd, ac hefyd am fod y loriau yn lletach na’r ffordd, maent yn crafu    ochr y cloddiau ac yn gwneud pob man yn fwdlyd.  Mae Einir Ellis ofn I ddamwain ddifrifol ddigwydd, un ai wrth i gerddwyr ddefnyddio y ffordd, neu i  geir lithro. Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd, Cyngor Gwynedd, ac hefyd Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda Swyddogion yr Adran.

  1. Steve Halsall, Ysgrifennydd

Comisiwn Ffiniau i Gymru

Ty Hastings, Caerdydd

Derbyniwyd llythyr ganddynt ynglyn ac Arolwg 2018 o Etholaethau SwneddolYng Nghymru – Cynigion Diwygiedig.  Cyhoeddwyd Adroddiad Cynigion Diwygiedig y Comisiwn ar 17 Hydref 2017 ac ma ear gael ar wefan y Comisiwn (www.comffim-cymru.gov.uk) neu mewn 54 o leoliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i dderbyn y wybodaeth.           

  1. Linda Thomas

            Oakley Cottage, Porthmadog.

 

 Derbyniwyd llythyr ganddi ar ran Mynediad Ceffylau Gogledd Cymru, ynglyn a llwybr ceffylau (Bridalways) yn y Plwyf. Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a Linda Thomas.  Mae llwybr ceffylau o Bron Miod i Cwm Cilio yn Llanaelhaearn, ac mae’r llwybr yma yn dal yn agored. 

9.389.  CEISIADAU ARIANNOL.

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn. 

9.390.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR – MR BARRY DAVIES

            SWYDDOG MORWROL, CYNGOR GWYNEDD, PWLLHELI.

 Croesawyd Mr Barry Davies i’r cyfarfod. Eglurodd yn dilyn toriadau Cyngor       Gwynedd, ni chaniateir o 2018 lansio cychod yn nghraeth Trefor, Dinas Dinlle,           Llanbedrog nac Aberdaron.  Ac felly ni fydd Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am draeth Trefor.  Ac hefyd ni fuasai yn bosibl i’r Cyngor Cymuned gyflogi Warden ein hunain.Eglurodd hefyd gan na fu i’r Warden fod yn foddhaol am haf 2017, na fuasai yr   Adran Forwrol yn codi tal gan y Cyngor Cymuned am gyflog a.y.y.b i’r warden. Eglurodd bod gwaith angen ei wneud a’r y Traeth – tynnu y twyni tywod a.y.y.b ac y bydd ychydig o’r gwaith yn cael ei wneud yn flynyddol. Trafodwyd ddigwyddiadau y Traeth yn fanwl gan yr Aelodau a Mr Barry Davies.a sonwyd am fwriad sydd gan Hendra Garreg i greu Canolfan Dreftadaeth yn  toiledau sydd erbyn hyn a’r gau.  Er mwyn codi arian trafodwyd hefyd i gael  peiriant talu am barcio yn y maes parcio.Penderfynwyd yn dilyn yr holl drafodaeth i greu holiadur i’w anfon i drigolion  y Plwyf ynglyn a phenderfyniadau sydd yn ymwneud a’r lansio a’r traeth yn Nhrefor, ac yna cael cyfarfod cyhoeddus yn dilyn derbyn yr holiadur yn ôl.

9.391.  TOILEDAU TRAETH TREFOR.

Trafodwyd toiledau y traeth gan yr Aelodau.  Gan nad ydym yn gorfod talu am    swydd Warden ar y traeth, hwyrach y gallem fel Cyngor Cymuned roi cyfraniad wedi’r cwbl tuag at gadw y toiledau yn agored.  Yn ôl rhai o’r Aelodau, bod angen toiledau yn agored yn Nhrefor.

Penderfynwyd yn dilyn y drafodaeth i’r Aelodau feddwl o ddifrif  am y toiledau ac adrodd yn ôl i gyfarfod Rhagfyr, lle byddwn yn ei drafod eto. 

9.392.  GWAGIO BIN MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cael ymweliad gan Mr Steven Lewis, Trefor, ynglyn a bod cerrig a    pridd a.y.y.b yn y bin blodau yn Llanaelhaearn.  Eglurodd y Clerc iddo bod M Gordon Hughes wedi twtio llwybrau y fynwent yn wirfoddol, ac wedi rhoi y gwastraff yn y bin blodau.  ‘Roeddd Steven Lewis wedi cario y cerrig man a’r  pridd i waelod y cae, lle mae y torrwr beddau yn gadael pridd gwastraff.  Ym marn Steven Lewis, roedd tua 4 awr o waith iddo wagio y bin, ac felly angen gwybod sut y dylai ei roi a’r yr infois gwagio biniau i’r Cyngor Cymuned dalu am y gwaith.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth, mai pris am wagio bin un unig y buasai y

Cyngor  Cymuned yn dalu iddo.

9.393.  LLWYBR CERDDED / BEICS GER TAI NEWYDDION, TREFOR.

Derbyniwyd gwybodaeth bod bolard pren sydd wedi ei leoli a’r y llwybr cerdded beics ger Tai Newyddion, i rwystro cerbydau rhag mynd a’r y lôn, wedi ei torri.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli.

9.394 CYLLID.

 Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

Derbyniadau.

Ifan M. Hughes, Llanaelhaearn (Claddu R.F.Evans) …………………..      150.00

 Taliadau.

 

  1. Noel Williams, Gydrhos, Y Ffor

(Maes parcio Mynwent Llanaelhaearn) ……………….     5,623.80

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £2.20) ……..      297.80
  2. Gwyn Thomas & Co, Cyfrifwyr, Pwllheli (Re Cyflog Clerc) …       93.00

9.395   DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Rhagfyr 4ydd  2017 am 7.30 y.h.

Yn Y Ganolfan, Trefor.

9.396   DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD RHAGFYR  2017

            (Dydd Gwener, Tachwedd 24ain 2017).

         

Daeth y cyfarfod i ben 9.15 y.h.

 

CYNHELIR CYFARFOD  O’R  CYNGOR

YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Tachwedd 6ed 2017 am 7.00 y.h. 

RHAGLEN

  1. YMDDIHEURIADAU.
  2. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD 

            2b.       CROESAWU MR BARRY DAVIES

                        SWYDDOG MORWROL CYNGOR GWYNEDD. 

  1. DATGAN DIDDORDEB.
  2. COFNODION CYFARFOD Hydref 2ail 2017

a).        Cyflwyno a mabwysiadu’r cofnodion.

b).        Materion yn codi o’r cofnodion

TRAFOD UNRHYW GAIS CYNLLUNIO.

  1. 3, River Terrace, Trefor, Caernarfon.

Estyniad llawr cyntaf.

  1. TRAFOD UNRHYW OHEBIAETH.

                        (Copiau amgaeedig).

  1. Gareth a Rona Williams, Noddfa, Trefor.

Llinellau melyn / Parcio ger Bron Hendre Trefor.

  1. Un Llais Cymru, 24c Stryd y Coleg, Rhydaman

Taliadau Claddu Plant hyd at 18 oed.

  1. Einir Ellis, Moelfre Bach, Llanaelhaearn

Copi o ebost mae wedi ei anfon i’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli.

  1. Comisiwn Ffiniau i Gymru, Ty Hastings, Caerdydd.

Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru

Cynigion Diwygiedig ar gael ar wefan y Comisiwn

  1. Linda Thomas, Oakley Cottagem Porthmadog.

Mynediad Ceffylau Gogledd Cymru

  1. CEISIADAU ARIANNOL.

                        Dim cais ariannol wedi ei dderbyn.          

  1. CYLLID.

Derbyniadau. 

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn. 

                        Taliadau

  1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Tachwedd £300.00 – HMRC £2.20) …….       297.80
  2. Gwyn Thomas & Co, Cyfrifwyr Pwllheli (Re Cyflog Clerc ) ……          93.00
  3. DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Rhagfyr 4ydd 2017 am 7.30 y.h.

yn Y Ganolfan, Trefor.

  1. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD RHAGFYR 2017

                        (Dydd Gwener, Tachwedd  24ain 2017).

Fe fydd cofnodion cyfarfod 2/10/17 yn ymddangos yma ar ol eu derbyn gan y Cyngor yng ngyfarfod 6/11/17

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR..

NOS LUN, Hydref 2ail 2017 am 7.30 y.h.               

            YN BRESENNOL. 

            Cynghorwyr Meirwen Cullen; Lynda M. Cox; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard;

            Gwyneth Jones; Sioned Braniff; Iwan W. Taylor; John Pritchard; Llion Jones;

            Trystan Humphreys; Aled W.Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.  

            Cynghorydd Llyr ap Rhisiart.

9.371. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Trystan Humphreys

Dymunwyd penblwydd hapus i’r Cynghorydd Trystan Humphreys ar ddathlu ei    benblwydd yn 40 yn ddiweddar.            .

9.372.  DATGAN DIDDORDEB.

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan diddordeb yn y materion oedd i’w trafod yn y

cyfarfod.

9.373. COFNODION CYFARFOD Medi 4ydd 2017

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Gwyneth Jones

ac eilwyd gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

Y Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.243.  ESTYNIAD MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Y gwaith wedi ei wneud a’r y maes parcio, penderfynwyd i’r Clerc gysylltu eto     gyda Pennaeth Tai Cymunedol i ofyn iddynt ystyried rhoi cyfraniad tuag at y   gwaith, gan y bydd rhai o’u tenantiaid yn cael parcio ar y safle,

Penderfynwyd hefyd i osod arwydd gyda rheolau parcio arno.

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Yr Aelod Lleol Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda Swyddogion a         Chynghorwyr Cyngor Gwynedd..  Roedd am fynd a’r ddeiseb iddynt hefyd.

9.278.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR.

Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol Cyngor Gwynedd yn dod i gyfarfod mis      Tachwedd o’r Cyngor Cymuned.  Felly penderfynwyd dechrau y cyfarfod am 7.

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Y Clerc a’r Cynghorydd Lynda M. Cox derbyn gwybodaeth bod y Cyngor            Cymuned am dderbyn y grant.  .

Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

9.311.  CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Y Clerc wedi derbyn adroddiad gan yr Archwilwyr, roeddynt yn tynnu sylw y      Cyngor Cymuned at rai pwyntiau.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu gyda hwy ynglyn a’r pwyntiau hyn.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Dal i ddisgwyl gair gan Gyngor Gwynedd ynglyn a’r cyfarfod nesaf.

 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF 

  1. LLWYBR HENDRE FAWR, TREFOR.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r  Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a      chael arwydd newydd a’r y safle.

  1. LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd ynglyn a’r     llwybr uchod.  Mae perchnogion Moelfre Bach yn cael ymwelwyr yno yn gofyn             am ffordd y llwybr yn aml iawn.  Cynghorydd Aled W. Jones am gysylltu gyda’r      Swyddog Llwybrau hefyd ynglyn a hyn. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

9.345.  WAL RHWNG GLANRHYD A BRYN ARLAIS YN LLANAELHAEARN.

Y Clerc i gysylltu eto gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau. 

9.374. CEISIADAU CYNLLUNIO.

  1. Plas yr Eifl, Trefor, Caernarfon.

Rhyddhau amodau 3 (cytuno llechi), 4 (cytuno gorffeniad allanol) a

6 (cytuno manylion lliniaru ar gyfer wenoliaid) ar ganiatad rhif C16/0608/37/LL

Trafodwyd y mater gan yr Aelodau.

Penderfynwyd – Amod 3 – bod angen iddynt ddefnyddio llechi cymraeg ar yr

adeilad.  Amod 4 – Cerrig lleol i’w defnyddio i orffeniad allanol yr adeilad.

9.375. GOHEBIAETH. 

Dim Gohebiaeth wedi ei dderbyn.

9.376.  CEISIADAU ARIANNOL. 

Dim Cais Ariannol wedi ei dderbyn.

9.377.  ADRODDIAD ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2016 / 2017. 

Derbyniwyd adroddiad gan yr archwilwyr am faterion ariannol y Cyngor   Cymuned am y flwyddyn 1af Ebrill 2016 i 31ain Mawrth 2017 fel a ganlyn :

  1. Cod Ymddygiad.

             Cyngor Cymuned heb gofnodi derbyn y cod ymddygiad yn ystod y flwyddyn sy’n     cael ei  harchwilio.

Y  Clerc wedi wedi eu hysbysu ar y ffurflenni, bod  y Cyngor Cymuned yn           derbyn y Cod Ymddygiad mewn cyfarfod yn dilyn etholiad.

Cyngor Cymuned wedi derbyn Cod Ymddygiad am 2017/18. 

  1. Cofrestr Buddiannau Aelodau.

            Cyngor Cymuned ddim yn cadw cofrestr o fuddiannau’r aelodau gan fod            disgwyl i gynghorwyr ddatgan unrhyw fuddiannau fesul cyfarfod.

            Y Clerc wedi wedi eu hysbysu ar y ffurflenni, bod y Cynghorwryr yn llenwi         ffurflenni Buddiannau Aelodaur mewn cyfarfod yn dilyn etholiad.

Ffurflenni wedi eu llenwi am 2017/18

  1. Gwefan Cyngor Cymuned.

Nid yw’r Cyngor Cymuned yn gweithredu gwefan.

            Y Clerc wedi eu hysbysu ar y furflenni bod y Cyngor Cymuned yn defnyddio       Llanaelhaearn.com fel gwefan.a’u bod ar hyn o bryd yn rhoi manylion y Cyngor / Aelodau ar y wefan.

Manylion am 2017/18 ar y wefan diolch i’r Cynghorydd Lynda M. Cox. Penderfynwyd gan fod y Clerc wedi anfon y manylion iddynt gyda’r ffurflenni, y dylem adael iddynt wybod hyn.  Penderfynwyd hefyd tynnu eu sylw fod y Clerc wedi derbyn ebost cymraeg ganddynt, ond pan wnaeth gysylltu gyda’r un oedd  wedi ei anfon, nid oedd yn deall nag yn siarad cymraeg.

9.378.  SEFYLLFA PARCIO YN NHREFOR.

Cynghorydd Iwan Taylor wedi derbyn cwynion bod ceir yn parcio yn Ffordd yr Eifl o’r Siop i fyny tuag at Bwlcyn ac hefyd ger Bwlcyn a bod y bysiau a cherbydau mawr yn methu pasio.Trafodwyd y mater a phenderfynwyd i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd i ofyn am eu  sylwadau ynglyn a’r mater, ac hefyd i gael cyfarfod gyda rhai o’r  Swyddogion ynglyn a trio cael safle parcio yn Nhrefor.

9.379.  GWAITH BARBIO YN NHREFOR.

Trafodwyd bod angen gwneud gwaith barbio ar yr Hen Lon ac hefyd a’r Lon        Newydd i Drefor.

Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglyn a hyn.

9.380.  CYFRIFIADUR NEWYDD I’R CLERC.

Y Clerc wedi derbyn prisiau gan Ashley Hughes Nefyn fel a ganlyn :

Lenovo V110 Laptop                                     269.00  +  TAW  =  £322.80

HP 250 G6 17 Laptop 1WY37EA                 559.00  +  TAW  =  £670.80

Penderfynwyd prynu yr un Lenovo am £322.80 yn cynnwys TAW.

9.381 CYLLID

Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

            Derbyniadau.

Dim Arian wedi ei dderbyn i mewn.

            Taliadau.

  1. Cyngor Gwynedd (Costau Etholiad Mai 2017) ………………………     762.53
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Hydref £300.00 – HMRC £2.20) ………297.80
  3. Ashley Hughes, Nefyn (Printer, Inc, Papur ac Amlenni) ……………   268.25
  4. H.M.R.C. (Gorffennaf /Awst /Medi) …………………………………..                             6.60

9.382   DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nos Lun, Tachwedd 6ed  2017 am 7.00 y.h.

Yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.383   DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD TACHWEDD  2017

            (Dydd Gwener, Hydref  27ain 2017). 

Daeth y cyfarfod i ben 9.00 y.h.

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR

NOS LUN, Gorffennaf 3ydd 2017 am 7.30 y.h.               

            YN BRESENNOL.

 Cynghorwyr Lynda M. Cox; Meirwen Cullen; Jina Gwyrfai; Helen Pritchard;

Trystan Humphreys; Aled Jones; Llion Jones;  Llyr ap Rhisiart

a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

  Cynghorydd Sioned A.Branniff; Iwan Taylor a John Pritchard

9.349. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau a’r Aelodau newydd i’r cyfarfod gan y Cadeirydd                          Cynghorydd Trystan Humphreys.

9.350.  DATGAN DIDDORDEB.

NEB

9.351. COFNODION CYFARFOD Mai 8fed 2017

Cynigwyd cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd  Llyr ap Rhisiart

ac eilwyd gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

Cadeirydd wedi arwyddo y cofnodion.

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.243.  ESTYNIAD MYNWENT NEWYDD LLANAELHAEARN.

Trefnu i gyfarfod gyda Mr Gareth Williams, Gydrhos ynglyn a’r gwaith ychwanegol  Penderfynwyd i beidio a gwario dim mwy na £1,000 ar y gwaith ychwanegol. Cynghorydd Llyr ap Rhisiart i gysylltu gyda Mr Gareth Williams ynglyn a pryd i gyfarfod.

9.256.  GOLEUADAU FFORDD PENLON TREFOR.

Copi o ddeiseb wedi ei rhoi i bob Aelod o’r Cyngor Cymuned.  Pawb i gael           cymaint ac y gallent o enwau arnynt.  Derbynir rhain yn ôl yng nghyfarfod mis Medi o’r Cyngor Cymuned.

9.278.  RHEOLAETH TRAETH TREFOR.

Y Clerc i gysylltu gyda Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol, Cyngor Gwynedd

ynglyn a’r materion canlynol :

  1. Warden a’r y Traeth yn Nhrefor.
  2. Gofyn iddo hefyd a fuasai yn bosibl cael polisi bod cwn i fod a’r denyn a’r y Traeth
  3. Paham mai Cyngor Gwynedd sydd yn cael arian y lansio, er mai y Cyngor Cymuned sydd yn ariannu y Warden a.y.y.b.

9.288.  PROJECT CYMUNEDOL – DEFIBILLATOR I’R PLWYF.

Y Clerc a’r Cynghorydd Lynda M. Cox wedi llenwi y ffurflenni  i chwilio am grantiau.

Perchnogion y siop yn Nhrefor yn fodlon i  un o’r Defibillators gael eu gosod tu   allan  i’r siop.

9.311.  CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Adroddodd y Clerc bod y cyfrifon wedi eu hanfon yn awr i’r Archwilwyr.

9.315.  WAL GYNNAL YN NEW STREET TREFOR.

Dal i ddisgwyl gair gan Gyngor Gwynedd ynglyn a’r cyfarfod nesaf.

MATERION YN CODI O’R COFNODION. 

9.327.  LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF

  1. LLWYBR HENDRE FAWR, TREFOR.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd.  Mae y Swyddog am fynd i’r safle i weld beth sydd angen ei wneud er mwyn cael rhoi arwydd newydd yno.

  1. LLWYBR MOELFRE BACH I CWM CORYN, LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu a’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd.  Maent yn dal i ddisgwyl cyfarfod gyda Mr Williams Ellis ynglyn a’r llwybr yma meddai.

9.342.  GOSOD MAINC GOFFA YN LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu’r a’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau.

9.343.  CYNLLUN DATBLYGU LLEOL.

Y Clerc wedi anfon llythyr i Mr Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd gyda sylwadau ein bod yn gwrthod cynigion fyddai yn achosi niwed sylweddol i         gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.

9.345.  WAL RHWNG GLANRHYD A BRYN ARLAIS YN LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ym Mhwllheli i ofyn am eu sylwadau.

9.352. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Dim cais Cynllunio wedi ei dderbyn.

9.353. GOHEBIAETH. 

Dim Gohebiaeth wedi ei dderbyn.

9.354.  CEISIADAU ARIANNOL.

Derbyniwyd gair o ddiolch oddiwrth y canlynol :

  1. Y Ganolfan / Caeau Chwarae Trefor
  2. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn
  3. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn
  4. Pwyllgor Cae Chwarae Llanaelhaearn
  5. Pwyllgor Llywio Canolfan Y Babell, Llanaelhaearn
  6. Cylch Meithrin yrEifl, Trefor
  7. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru
  8. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor
  9. O Ddrws i Ddrws, Nefyn
  10. Clwb Ffermwyr Ifanc Godre’r Eifl

9.355.  CYFETHOL CYNGHORYDD.

Mrs Gwyneth Jones wedi ei chyfethol yn Gynghorydd Cymuned yn dilyn ymddiswyddiad  Cynghorydd Merfyn Williams.  Bydd Mrs Gwyneth Jones yn

mynychu cyfarfod mis Medi.

9.356. CYLLID. 

Cadarnhawyd y talidau canlynol :-

Derbyniadau.

Dim arian wedi ei dderbyn i mewn. 

            Taliadau.

  1. Dylan Ll. Jones, Llithfaen (Wal Mynwent Trefor) …………………… 550.00
  2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Gorffennaf£300.00 – HMRC £2.20) …….. 297.80
  3. H.M.R.C. (Ebrill, Mai a Mehefin) …………………………………………    6.40

9.357.  DYDDIAD CYFARFOD NESAF.

Nos Lun, Medi 4yd 2017 am  7.30 y.h.

yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn.

9.358.  DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEDI 2017

            (Dydd Gwener, Awst 25ain 2017).