Ganwyd a magwyd ef yn Llanaelhaearn, yn un o deulu dawnus Uwchlawffynnon. Ar ol gadael ysgol fach y pentref aeth i ysgol sir Pwllheli lle y dysgodd i siarad Saesneg. Ennilliodd ysgoloriaeth i goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle y graddiodd mewn Economeg (anrhydedd dosbarth cyntaf). Ar ol ymladd gyda’r Royal Welsh Fusiliers yn y rhyfel byd cyntaf aeth i goleg Peterhouse, Caergrawnt, lle daeth yn Gymrawd Anrhydeddus yn 1956.
Yn 1920 aeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a chael ei alw i’r Bar gan yr ‘Inner Temple’ yn 1922 fei wnaed yn ‘bencher’ yn 1952 a chymryd y sidan yn 1955.
Priododd a Haf merch Syr O. M. Edwards yn 1923. Ni fu ganddynt blant. Buont yn ymgartrefu yn ei chartref hi yn Llanuwchlyn pan oeddent yng Nghymru.
Bu yn ddarlithydd yn y Gyfraith yn y ‘London School of Economics’ rhwng 1924 a 1930 cyn mynd yn ‘Professor of English Law’ yn 1930, yno adeiladodd adran Gyfraith uwch ei safon na’r un yn y wlad. Un o’i gampau academaidd pennaf oedd creu’Institute’ Astudiaethau Cyfreithio Uwch a ddaeth yn ganolbwynt rhyngwladol i ymchwil cyfreithiol. Bu yn gyfarwyddwr y sefydliad hwn o 1947 i 1959
Campwaith pwysig arall efallai y pwysicaf oedd cadeirio pwyllgor i bennu statws gyfreithiol i’r Iaith Gymrag, i roi statws gyfartal trwy gyfraith gwlad i’r Gymraeg a’r Saesnaeg yng Nghymru a Mynwy
Bu yn Ganhellor ym Mhrifysgol Llundain a llywydd Coleg Prifysgol Aberystwyth ynghyd a chyhoeddi llyfrau a dogfennau cyfreithiol pwysig
Ar ol ymddeol yn 1973 dychwelodd i Gymru i fyw. Bu farw yn 1973.