Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn

 

 

Eisteddfod 2017

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn nos Sadwrn, Tachwedd 25ain am 5 yr hwyr.
Derbynir rhoddion a.y.y.b tuag at costau yr Eisteddfod yn ddiolchgar gan Mary C Jones.
Bydd y rhaglenni ar gael erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mon eleni.

 

Eisteddfod 2012

 

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn eleni yng Nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn, Prynhawn a Nos Sadwrn Tachwedd 24ain 2012.

Rhoddir y Gadair yn rhodd i’r Eisteddfod gan Deulu Isallt, Llanaelhaearn, er cof am eu Rhieni Morfudd a Bobi Jones.

Cenir Can y Gadeiriol gan Mr Dafydd Roberts, Tan yr Hafod, Llithfaen, a chennir y Corn Gwlad gan Rhys Evans, Y Ffôr a Gruffydd Davies, Chwilog.

Y Beirniaid eleni yw Cerdd a Cherdd Dant – Mr Geraint Roberts, Prestatyn; Llefaru – Mrs Angharad Llwyd, Bethesda; Llenyddiaeth – Miss Karen Owen, Penygroes a Celf a Chrefft ac Arlunio – Mrs Gwenda Williams, Llithfaen.

Y Cyfeilydd yw H. Alan Roberts, Borth y Gest, Porthmadog.

Rhoddir 4 Tlws fel a ganlyn :

Tlws Y Plant yn rhoddiedig gan Deulu Penllechog, Llanaelhaearn i’r Plentyn mwyaf addawol yng nghyfarof y prynhawn

Tlws yr Ifanc yn rhoddedig gan W.A a Sally Evans, Y Ffôr i’r perfformiwr mwyaf addawol dan 25 oed.

Tlws Llen yr Ifanc yn rhoddedig gan Mrs Gwyneth Jones, Mr Ioan Jones a Mrs Tanwen Lloyd, Caernarfon i’r Llenor neu’r Bardd mwyaf addawol dan 25 oed.

Tlws Coffa Elfyn (i’w dal am flwyddyn) yn rhoddedig gan Gweno a Emyr Parry, Caernarfon i’r Offerynnwr mwyaf addawol yr Eisteddfod.

Mae 2 Gwpan wedi eu derbyn gan Mrs Rose Williams, Pwllheli i’w dal am flwyddyn yn yr Adrannau Arlunio, Gwaith Llaw, Gwau, Gwnio a Chrosio. Bydd un gwpan yn Adran y Plant a’r Gwpan arall yn Adran yr Oedolion.

Diolchir hefyd i’r rhai ohonch sydd wedi cyfrannu rhoddion a chwpannau yn yr Adrannau Canu, Llefaru a Cherdd Dant.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r Trefnydd, Mary C. Jones, Merbwll Penlon Trefor (01286 660768).

 

 

Penblwydd Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn yn 20oed

Fe ddaethom yma i ddathlu

Penblwydd arbennig iawn,

Mae’n Steddfod ni’n bodoli

Ers ugain mlynedd lawn.

Cychwynwyd fel ‘Yr Antur’

Mewn ffydd a hyder, do,

I gynnal ein Diwylliant

A’n hiaith o fewn ein bro.

****************

Difater yw’r mwyafrif,

Mae felly ym mhob man.

Ond ‘chydig brwd sy’n gweithio

I’w chadw yn y Llan.

I Misus Jones o’r Tegfan

Sy’n selog wrth y llyw

Mae’r diolch am y llwyddiant,

A’r rhai fu iddi’n griw.

****************

Caf fi fel dynes ddiarth

Sydd newydd ddod i’m swydd

Ers tair neu bedair blynedd

Roi clod ar ben eich blwydd.

I Sydna, Mai a Gwenno

Fu am flynyddoedd maith

Yn swydd yr Ysgrifennydd

Mawr ddiolch am eich gwaith.

****************

A diolch i Mai hithau

Am aros yn y swydd,

Braf ydyw cael eich canmol

I gyd ar ddydd Penblwydd.

****************

Rhaid cofio’n siwr am Mary,

A’i gwaith yn cadw’r pwrs

A hel yr hysbysebion,

A’r Celf a Chrefft wrth sgwrs.

Nid yw hynny’n ddim ond hanner

Y gwaith mae Mary’n wneud,

‘Ry’m ni’n ei gwerthfawrogi,

A dyma’r siawns i ddweud

****************

Rhaid diolch am gyfraniad

Megan, Lilian, Mair

Sali, Gwenno, Sydna,

Mae pawb yn haeddu gair

O glod am eu ffyddlondeb

A’u parodrwydd hwy bob un

I weithio dros ein ‘Steddfod,

A hynny’n bur gytun.

****************

Ac wrth i mi ddymnuo

Dyfodol hir i’n Gwyl,

Diolchwn i’r dynion hwythau

Am uno yn yr hwyl,

A rhoddi pob cefnogaeth

I’r merched ym mhob modd,

Os daliwn i gyd ati

Cawn ‘Steddfod wrth ein bodd.

****************

Diolch dros y Merched

Wrth orffen hyn o gan

Am gael pwyllgora’n Nhegfan

Wrth danllwyth mawr o dan,

A gwn fod gwres y croeso

A gawson gennych chwi

Yn adlewyrch’n sicr

Ar barhad ein ;Steddfod ni.

****************

Morfudd Lloyd Jones