2022

17/11/22

Gwyl Cymru-Cwpan y Byd

Gem ar y scrin fawr  yn y ganolfan 21/11/22

15/11/22

 Y Clwb Cinio-Mary a’r Parch Rosie Dymond yn mwynhau sgwrs

Disco Dolig

13/12/22 yn y ganolfan mynediad am ddim, raffyl, lluniaeth ar gael a fferis Dolig ayb.

11/11/22

Rygbi

Cymru vs Ariannin ar y scrin fawr yn y ganolfan 5:00yh nos yfory. Bwyd ar gael hanner amser.

Cyfarfod Blynyddol Antur Aelhaearn 25/11/22 yn y Ganolfan am 7:00.

Agored i aelodau yn unig/

8/11/22

Gwasanaeth Sul y Cofio
13/11/22 wrth y Gofeb am 10:45.Casgliad tuag at gadw’r safle
 
7/11/22
 

11/10/22

 

8/10/22

Cor Mamas Bol

Cynhelir yr ail gyfarfod yn ty Capel Cwm Coryn 21/10/22 am 7:00yh. Paned ar gadel. Cysylltwch os am ymuno

6/10/22

Mae Antur Aelhaearn wrth cyd weithio gyda plwyf Beuno Sant uwchgwyrfai wrth ein bodd i gyhoeddi ein llwyddiant diweddar i ddod a perllan cymunedol flaengar, gynhyrchiol i mynwent  Eglwys St Aelhaearn, Llanaelhaearn. Rydym ni ond un o’r sefydliadau Cymraeg a ddweiswyd i dderbyn cymhorth gan y cynllun ardderchog hwn, rhan o’r rhaglen Mannau Gwyrdd Gwydn.

Gyda chefnogaeth Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bydd ein llwyddiant yn ein gallu i ymuno a mudiadau tyfu, gyda 1,000 o goed ffrwythau a chnau wedi eu plannu ledled Cymru fel rhan o’r cynllun. Mae’r mudian yn anelu at ddos a newid sylfaenol i gynhyrchu, storio a prosesu ffrwythau a chynhyrchion ffrwythau a reolir gan gymunedau yng Nghymru. Bydd ein ymglymiad yn rhoi mynediad i fwyd sy’n llesol i’r amgylchedd ac o fudd i fusnesau lleol.

5/10/22

4/10/22

Cylch Drymio yn y ganolfan heno am 7:00

2/10/22

DISCO HALLOWEEN

30/10/22 yn y ganolfan am 5:30

29/9/22

26/9/22

22/9/22

Mi fyddwn yn cynnal gweithdy yn arbrofi gyda gwlân yn Ffiws Llanaelhaearn ar ddydd Iau y 13eg o Hydref. Mae hwn yn gyfle i gael cyflwyniad i offer uwch – dechnoleg ffiws ac arborfi gyda gwahanol dechnegau o ddefnyddio gwlân. Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle

https://www.eventbrite.co.uk/e/415445638087

21/9/22

Mel Beti-cynyrch Pantri Beti gan Antur Aelhaearn

14/9/22

Mel cyntaf

12/9/22

7/9/22

6/9/22

Mae nionod yn awr ar werth £1 am 3 mawr neu 4 llai

 

30/8/22

Bydd Helene yn casglu hadau a hau ail wanwyn ar gyfer llysiau gaeaf yn y Buddha Bowl dydd sadwrn 11am gardd gymunedol newydd.

28/8/22

Diolch i bawb a ddaeth i’r Gardderchog a diolch i Dyfed a Gwenan am agor y caffi

Enillwyr y Raffyls/Raffle Winners
Mary
Freda
Mari
Alys
Elfed
Lynda
Megan
Bethan
Debby
Cath
Harri
Daniel

19/8/22

Diolch i bawb ac yn arbennig i Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts am dod ir neuadd am de pnawn heddiw i gofio 50 mlynedd ers y brotest i gadw’r ysgol yn agored yma yn Llanelhaearn. Mae’r ysgol bellach wedi cau ond mai’n bwysig ei bod yn aros yn mherchnogaeth y gymuned

 

 

15/8/22

14/8/22

Parti yn y Parc

 

13/8/22

 

31/7/22

 

25/7/22

 

22/7/22

Mai’n 50 mlynedd ers yr ymgyrch gyntaf i achub ysgol Llanaelhaearn ac egin datblygu’r Antur. I nodi’r achlysur rydym wedi fframio’r faner a ddefnyddiwyd yn y brotest yng Nghaernarfon. Bydd y faner yn cael ei dadorchuddio ‘n swyddogol ar y 19eg o Awst. Mae’r ysgol bellch wedi cau i ddisgyblion ond rydym yn awyddus iddi aros mewn defnydd a bod o ddefnydd ir ir gymuned. Ein gobaith yw sefydlu unedau ysbaid i ofalwyr yn yr hen ysgol a defnyddio’r gegin ar gyfer cynlluniau bwyd

21/7/22

Llongyfarchiadau Yvonne barod rwan i ddysgu rhai yn y gymuned i ddefnyddio ipads ayb

 

20/7/22

Yn y ganolfan heno am 6:00

 

16/7/22

Ar Werth tatw o’r ardd gymunedol 75c y kg cysylltwch efo Mari ne Lynda

 

13/7/22

Chris Flameblaster Roberts wrth ei waith

11/7/22

 

10/7/22

Sesiwn coginio arbennig gyda’r cogydd EPIC @FLAMEBASTER canolfan y Babell 7pm Nos Fercher 13eg. Bydd pryd o fwyd wedi ei baratoi mewn slow cookers a chyfle i ddysgu y rysáit.

 

9/7/22

Mae’r tap wrth yr eglwys ar gyfer yr eglwys a’r fynwent un UNIG

7/7/22

Planhigion ar werth yn Gardderchog 28/8/22

 

24/6/22

25/6/22 11:00
Clwb Garddio

21/6/22

Anrheg gan ladies y clwb cinio i Mary a Lynda yn y cinio olaf
Diolch pawb
 

Mae’r llwybr bach ar gau oherwydd haid o wenyn

20/6/22

13/6/22

Bydd y CAB yn dod i ganolfan y Babell Llanaelhaearn ar y 7fed o Orffennaf rhwng 6pm a 7pm. Yn y cyfamser os oes yna wirfoddolwyr sydd eisiau rhoi o’i amser i helpu cysylltwch a’r CAB

11/6/22

Y gwaith o dorri’r coed Ynn wedi dechrau fe fydd y gweddill yn cael eu torri ddiwedd Awst

 

10/6/22

11/6/22 11:00-1:00
Clwb Garddio Hyn ac Iau

7/6/22

Clwb yr Eifl yn y Ganolfan am 2:00

Fe fydd yr Heddlu yn rhoi cyngor ar sut i gadwn’n saff. Croeso i bawb.

2/6/22

4/6/22 11:00
Clwb garddio hyn a iau

28/5/22

Gwaith ar yr ardd newydd yn dod yn ei flaen

26/5/22

Ffiws Llanaelhaearn ar agor heddiw 10 tan 3 yn Graen a Gwneud.
Dewch draw I ddysgu am yr holl gelfi sydd gennym.

20/5/22

Clwb Garddio hyn a iau
21/5/22 am 11:00

17/5/22

Mae’r dail salad yn y Buddah Bowl ar safle’r Antur yn barod i’w bwyta ewch yno i’w torri dim codi y gwraidd jyst tynnu o’r gwaelod

Os oes digon o ddiddordeb fe fydd yr isod yn dechrau

15/5/22

Diolch i Paul a Bea Kelsall am eu gwaith yn edrych ar ol y gwenyn ac yn hyfforddi y Grwp Gwenyn, a Paul Ireland am nol haid o wenyn o Landecwyn

11/5/22

Clwb yr Eifl
11/5/22 2:00
Cerddoriaeth efo Mandy Morfudd am ddim

Cwrs Hylendid Bwyd 14/5/22
Wedi ei ohirio oherwydd Covid

14/5/22 11:00
Clwb Garddio Hyn ac Iau

10/5/22

14/5/21
Cwrs Hylendid Bwyd
Yn y Ganolfan 9:00 – 4:00 am Ddim enwau i Lynda plis.

7/5/22

Aelodau o gangen Llanaelhaearn o Ferched y Wawr yn plannu rhosyn er cof am Beti Hughes. Roedd Beti hefyd yn drysorydd Antur Aelhaearn

Ch i dde

Cian Ireland Antur Aelhaearn, Lynda Cox Llywydd cangen Llanaelhaearn, Lilian Hughes ysg, Gill Barratt Trys, Anwen Jones aelod, Dewi Hughes gwr Beti, Llyr ap Rhisiart cadair Antur Aelhaearn

6/5/22

Etholwyd Jina Gwyrfai (Plaid Cymru) fel cynghorydd dros EtholaethYr Eifl

3/5/22

Gwynedd Digidol

Clwb yr Eifl
11/5/22         2:00
Cerddoriaeth efo Mandy Morfudd am ddim

FARESHARE
4/5/22
9:00yh/pm
Wythnos yma yn unig oherwydd yr etholiad
 
Cambrian Credit Union
Dewch i ymweld â ni yn @AnturAelhaearn Canolfan y Babell, Llanaelhaearn, LL54 5AL o 10am tan 12pm  i weld os allwn ni helpu gyda chynilion, benthyciadau neu efallai cwestiynau cyffredinol amdanom ni a beth rydym yn ei wneud.
#Llanaelhaearn #creditunions Cyngor Gwynedd CouncilCAB Gwynedd Gwynedd-Ni Cymuned Llanaelhaearn Community

Diolch Bryn Meddyg am godi £125 at ein gardd gymunedol 

Cydweithio traws blaid yn y clwb cinio Cian Ireland Llafur a Lois Fychan Llais Gwynedd

 

30/4/22

Gweithio at y tipi i’r bins a pys

28/4/22

30/4/22 am 11:00

Clwb Garddio Hyn ac Iau

 

27/4/22

Gethin yn gweithio ar y gasibo

26/4/22

Gwaith o adnewyddu’r offer bron wedi gorffen

 

21/4/22

Criw Codi eto

Coedlan Carl y gwaith ffensio yn dechrau

 

19/4/22

Helpu yn y clwb cinio

16/4/22

Mae gofalu am ein hunain yn bwysig. gall y sesiwn yma fod o ddefnydd.

Disco Pasg diolch i Kelly ag Yvonne

 

15/4/22

16/4/22 am 11:00

Clwb garddio Hyn ac Iau

11/4/22

Mae Gwynedd digidol yn hyfforddi pencampwyr digidol yn Llanaelhaearn!! Bydd Yvonne a Liam ar gael i gefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau digidol megis defnyddio e bost, cyfryngau cymdeithasol a defnyddio gwefannau. Os yr ydych am dderbyn cefnogaeth cysylltwch a Yvonne i archebu amser yn y ganolfan i ddefnyddio un or 5 Ipad sydd ar gael i ddysgu sgiliau newydd

9/4/22

 

Creu lle i’r gasibo

Criw Codi Sbwriel

8/4/22

‘Rydym yn casglu arian ar gyfer Gardd Gymunedol/Dementia Llanaelhaearn, trwy gynnig y raffl wych yma (y fasged ar nwyddau yn unig!!!!!). Mae tocynnau ar gael o Gartref Gofal Bryn Meddyg am £1 yr un

 

6/4/22

Coed ffrwythau bach

5/4/22

9/4/22 11:00
Criw Codi Sbwriel
Oedolion a plant cychwyn o’r ardd

4/4/22

Mae’n ddrwg gennym ddweud ond o 1/4/22 fe fydd pris llogi’r ganolfan yn codi i £10 yr awr. Mae hyn oherwydd y codiad sylweddol ym mhris trydan ac olew

3/4/22

Gwasanaeth yn St Beuno, Clynnog i ardal weinidogaeth Beuno Sant Uwchgwyrfai gyda Archesgob Cymru Andrew John

31/3/22

Y ty gwydr

16/4/22 yn y ganolfan

DISCO PASG plant am ddim oedolion 50c

Cwn Poeth ag ati a Raffyld ar gael

 

2/3/22

 

19/3/22

Rhei o’r Clwb Garddio yn brysur yn yr ardd newydd.  Diolch i bawb a ddaeth i helpu a diolch i Harri a Hannah am helpu Helene i blannu tatws

18/3/22

Coedlan Cymunedol Llanaelhaearn ar y ffordd

Mae Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974) wedi derbyn grant gwerth £174,000 ar gyfer creu coedlan gymunedol yng nghanol y pentref. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan gynllun Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd hyn yn ein galluogi i greu coedlan gymunedol newydd ar ddwy acer o dir amaethyddol ger adeilad grŵp cymunedol Antur Aelhaearn. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn mynd at i blannu cyfuniad o 1,000 o goed cynhenid a 200 o goed perllan. Bydd y goedlan yn creu adnodd ar gyfer trigolion lleol, lle i fyfyrio, atyniad ar gyfer ymwelwyr, ac yn cynnig cyfleoedd addysgiadol i alluogi pobl leol i ddysgu am hen grefftau gyda’r nod, hefyd, o greu gwaith lleol cynaliadwy.
Gyda bryn gaer Oes Haearn Tre’r Ceiri gerllaw, byddwn yn plannu coed brodorol oedd yn bwysig i’r Celtiaid sef y dderwen, criafolen, helyg, coed cnau, afal a ffrwythau eraill Cymreig. Bydd prif fynediad i’r goedlan yn arwain trwy dwnnel o helyg byw, gyda boardwalk a llwybr ar ffurf patrwm Celtaidd yn ymlwybro trwy’r goedlan. Bob hyn a hyn ar hyd y llwybr lleolir cerfluniau gan artistiaid lleol o anifeiliaid coll oes y Celtaidd a mytholeg y Mabinogion. I gyd-fynd a’r cerfluniau gosodir blychau gwybodaeth clywadwy wedi eu pweru gydag egni llaw fydd yn adrodd hanes yr anifeiliaid.
Dywedodd Llŷr ap Rhisiart, Cadeirydd Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)
“Rydym yn hynod falch o dderbyn y gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Edrychwn ymlaen at ddechrau gwireddu’r freuddwyd o weld coedlan yn y gymuned. Gwyddom am fuddion mawr cysylltu â byd natur a’r amgylchedd naturiol a byddwn yn gallu gwneud hynny maes o law ar stepen y drws. Bydd creu’r goedlan yn waddol ac etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol. Bydd hefyd yn gyfraniad pentref Llanaelhaearn i daclo effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i weld mwy o goedlannau a choedwigoedd yn ôl yng Nghymru.”
Diwedd 2021 derbyniom y newydd trist iawn am farwolaeth sylfaenydd Antur Aelhaearn sef y Meddyg Carl Clowes. Fel teyrnged a choffadwriaeth arbennig iddo rwy’n hynod o falch o gyhoeddi mai enw swyddogol y datblygiad newydd hwn fydd ‘Coedlan Carl’.”
Mae’r cynllun Coetiroedd Cymunedol yn rhan o fenter unigryw Coedwig Genedlaethol Cymru o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac o dan reolaeth o ansawdd uchel.

16/3/22

Lynda a Mari yn derbyn gwobr gan Social Farms and Gardens ar ran Antur Aelhaearn am eu gwaith ar y cynllun Gardd Pontio’r Cenedlaethau

15/3/22

Clwn Garddio yn ail gychwyn Dydd Sadwrn 19/3/22 11:00-1:00
Byddwn yn plannu tatws clirio a twtio’r ardd a plannu planhigion mewn potiau yn yr ardd gymunedol newydd. Croeso i bawb dewch draw am banad

Paul a Cian efo’r mainc ar safle’r ardd newydd. Diolch o Cadw Cymru Daclus am bob dim

12/3/22

Antur Aelhaearn
Mae covid dal yma a mae’n bwysig i ni gario ymlaen gyda profi. Bydd profion ar gael pob dydd Mawrth 12-1:30pm a Nos Iau rhwng 6-7pm Neuadd y Babell Llanaelhaearn.

8/3/22

Clwb Cinio

5/3/22

Gweithio ar safle gardd newydd

2/3/22

Te Pnawn efo John ac Alun. Diolch hogiau pawb wedi mwynhau

27/2/22

 

26/2/22

Yn yr ardd

24/2/22

Clwb Cinio 1/3/22
12:00 yn y ganolfan
Cinio ar gyfer 25 enwau isod neu ffonio 07787953887

Sesiwn crefft i blant

24/2/22 7-9
Fareshare Canolfan y Babell

21/2/22

Cymerwch ofal wrth pasio tai voelas mae llechi wedi disgyn o’r to a rhai eraill i weld yn rhydd

14/2/22

24/2/22 2:00-4:00
Crefftau i Blant am DDIM

21/2/22 2:00-4:00
Canolfan y Babell Community Centre
Gweithdy Crefft i Oedolion am ddim
Free Craft Workshop for Adults
Enwau i Lynda

12/2/22

Cwrs Cymorth Cyntaf i bawb sydd wedi cofrestru 9-4

7/2/22

Te Prynhawn
Efo John ac Alun
2/3/22 yn y ganolfan
I rhai tros 50 am ddim
Lle i 30 yn unig cysylltwch efo Lynda neu trw’r dudalen yma

6/2/22

Rydym yn falch o gyhoeddi fod Antur Aelhaearn wedi derbyn grant o £5,000 o bunnoedd trwy gronfa y Loteri er mwyn datblygu siop ir pentref. Hoffai’r Antur ddiolch i Dr Arfon a phawb yn y feddygfa yn gael stafell i ni gael gwneud siop. Mae hanfodol rwan ein bod yn cael gwirfoddolwyr i redeg y siop. Os yr ydych am wirfoddoli yn y siop rhowch eich enw isod ac ymuno gyda ni yn y cyfarfod yn ganolfan y Babell 7pm nos Iau y 10/02/22 am 7yh

.

Chwith i dde Dr Arfon Hughes, Helene Rudlin, Mari Ireland a Lynda Cox

 

2/2/22

Paul yn symud coed ar gyfer adeiladu’r gasibo

31/1/22

Safle Newydd-estyniad i’r ardd gymunedol

Amserlen y ganolfan

Scor ar gyfer Fareshare

26/1/22

Fareshare 27/1/22 yn y ganolfan 6:00-7:00

 

25/1/22

24/1/22

Wedi cael cais yn gofyn yn gardig iawn i bobl a PEIDIO a cerdded eu cwn ar dir ffermwyr gyda defaid. Mae amser wyna ar y ffordd ac mae baw ci yn medru cario salwch ac mae cwn yn cynhyrfu’r defaid

 

23/1/22

Cwrs Cymorth Cyntaf 29/1/22
Mae dau le wedi dod yn rhydd os oes gan rhywun ddiddordeb. Y cwrs am ddim

20/1/22

Bryn Meddyg

Swyddi ar gael :
Gofalwr/wraig – 2 shift nos yr wythnos (8yh – 8yb) £9.50ya. Cymwysterau ddim yn hanfodol ond gellir ei dderbyn trwyddom ni.
Glanhawraig – 3 bore’r wythnos £9ya (dros dro oherwydd salwch : o leaiaf 3 mis)
Gadewch neges trwy messenger neu ffoniwch ni ar 01758 750 693.

 

19/1/22

Fareshare 20/1/22
Canolfan y Babell Community Centre 6:00-7:00

Llefydd Kick Boxing yn llawn
Kick Boxing places are now full

17/1/22

8/2/22 2:00
Canolfan y Babell
Yoga Cadair i rhai tros 50 am ddim. Lle i 8 cynta i’r felin

12/1/22

Kick Boxing
21/1 22 4:00-4:45
Yn y Ganolfan i blant o 4 i fyny. Am ddim

Fareshare
13/1/22 6:00-7:00
Canolfan y Babell

 

6/1/22

Fareshare
6/1/22 6:00-7:00
Canolfan y Babell

 

5/1/22

Mae’r Dawnsio i Blant wedi ei ohorio tan Chwefror yn dilyn y sefyllfa Omicron

Newyddion trist iawn am fawolaeth Iwan Gwyn, Planwydd gynt yn Ghana. Meddwl am y teulu oll

3/1/22

Plannu 5 o goed afalau yn yr ardd. Diolch Cadw Cymru Daclus