2019

2019

16/7/19

Taith Gerdded Ysgol Llanaelhaearn

Pawb wedi mwynhau’r daith gerdded heddiw. Go dda chi blantos. Rydym yn byw mewn lle hardd iawn

15/7/19

Ddrwg iawn oedd clywed y newyddion trist am marwolaeth Gwenfron yn ddiweddar meddwl am Nicola,  Eurwen a’r teulu oll

Plygu’r Ffynnon yn y ganolfan nos Iau 18/7/19 am 6:00. Ydi  mae ein twrn ni wedi cyrraedd eto.

12/7/19

Bryn Meddyg

Diolch i pawb a ddaru rannu ein pôst a chymeryd diddordeb yn ein cwest ddiweddar o lenwi ein swyddi gwag. Mae un swydd ar ol sef ar fore sadwrn a sul i helpu yn y gegin o 7.30yb i 1yp.
Os oes diddordeb gyda chi, plis cysylltch a ni ar 01758 750 693 neu yrru neges preifat drwy messenger.

Fe fydd copiau yn mynd I bob ty reit fuan. Cofiwch rhoid eich barn.

8/7/19

Enillydd Clwb 100 Cae Chwarae-Iola Bron Miod

4/7/19

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Diolch yn fawr i gwmni D.V. Owen and Sons Roofing Contractor am rannu’r llun yma o’r gwaith ym sydd yn digwydd yn ein tai yn Llanaelhaearn ar hyn o bryd. Falch o weld y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda. Tywydd a golygfa bendigedig

3/7/19

Oes gan rhywun ddarnau o ply spar plis isho gwneud posteri cysylltwch a Lynda, Kelly neu Kelsie. Diolch

2/7/19

Mae rhaglenni yr Eisteddfod yn barod, a byddant yn eich siop leol yn fuan.
Mae hefyd ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Os ydych angen i Mary bostio rhaglen i chwi, cysylltwch a .
hi hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst yn mis Awst.
Model o Gadair yn rhoddedig gan Ysgol Gynradd Llanaelhaearn a rhodd o £50 o gronfa’r Eisteddfod.
Mae cystadleuaeth newydd am eleni – Creu Logo i’r Eisteddfod, a bydd hawl gan y Pwyllgor i’w ddefnyddio o 2020 ymlaen.

1/7/19

Mae Bryn Meddyg yn chwilio am staff newydd i ymuno a’r tim. Mae sawl shifftiau ac oriau gwahanol ar gael. Gyrrwch neges ar FB am fwy o fanylion, trefnu i gael sgwrs anffurfiol neu am ffurflen gais.

26/6/19

Chwilio am rhywun i wneud gwaith trwshio ar yr offer yn y cae chwarae

19/6/19

Diolch i Alan a Kelsie am dorri y gwellt o gwmpas y swings yn y cae chwarae. Mae’r pwyllgor yn chwilio am wirfoddolwyr eraill i dorri y rhan gwaelod

18/6/19

Bryn Meddyg

Swydd nos ar gael ymhen mis, 2/3 noson yr wythnos 24/36 oriau yr wythnos. Cysylltwch os oes diddordeb 01758750693. Diolch

11/6/19

Enillwyr pel fonws y cae chwarae
Mai Rhif 2-Einir Ellis
Mehefin Rhif 43-Llyr Humphreys

10/6/19

Bydd Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn yn cael ei chynnal nos Sadwrn, Tachwedd 23ain 2019, yng Nghanolfan Y Babell, Llanaelhaearn am 6 y.h.
Y Pwyllgor yn falch o unrhyw rodd tuag at gostau yr Eisteddfod.
Am fwy o fanylion cysylltwch a Mary C Jones 01286 660768

5/6/19

Yn y 1970au fe gwfiodd y pentrefwyr I gadw ysgol Llanaelhaearn ar agor. Rhai lluniau o’r orymdaith fuddugolaethus yng Nghaernarfon

30/5/19

Mae o wedi dod i sylw Pwyllgor y Ganolfan fod rhywun yn rhoi bagiau ysbwriel yn y bin brown. Mae’r Pwyllgor yn gofyn a fuasai’r person cyfrifol yn ei symud. Diolch

28/5/19

Mae Bryn Meddyg yn chwilio am aelodau newydd o staff i ymuno â’r tîm. Mae amryw o sifftiau ar gael, dydd a nos, rhwng 30 a 40 awr yr wythnos. Anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad os hoffech gael ffurflen gais atoch. Cysylltywch a hwy am fwy o fanylion

22/5/19

Plant yr Ysgol yn mwynhau story arall gan tim Agor y Llyfr, byddant yn ymweld a’r ysgol bob bore Mercher.

13/5/19

Newyddion trist fod Arwyn wedi ein gadael meddwl am y teulu oll.

8/5/18

Fe fydd Cwmni Drama Llwyndyrus yn cyflwyno “Helynt Mewn Ysgol” yn y Ganolfan 15/5/19 am 8:00. Mynediad £3. Elw at y Ganolfan.

27/4/19

Diolch i Storm Hannah un o’r coed yn y cae chwarae wedi disgyn. Diolch i Menna am y llun

25/4/19

Cofiwch am y Bingo Pasg heno mae’r elw yn mynd at gadw’r ganolfan yn agored

23/4/19

Caren Humphreys

Pobl Llanaelhaearn! Gwiliwch allam am ddynes yn ei 50au! Mae hi wedi bod yn fy nhy I , i cwestiynnu y plant heb fy canied-tad! Fel fedrwch fentro mi gafodd hi marching orders!!

Newyddion trist/Sad news
Oes na rhywun wedi colli cath ginger yn anffodus ma hi wedi cael ei thrawo gan gar ac mae hi ar y llwybr ger Glanllyn

22/4/19

Enillydd yr hamper Pasg oedd Dave Sivyer

16/4/19

Enillydd Clwb 100 Cae Chwarae oedd rhif 23 Sian Maes Glas

12/4/19

Diolch I bawb a ddaeth I gefnogi apel Dr James, Uganda. Enillwyr y raffl oedd Freda Hughes, Bethan Pritchard ac Ann Gordon

10/4/19

Fideo ar gyfer prosiect Ysgolion Creadigol gan Ysgol Llanaelhaearn. Da iawn blant da chi yn ser.

Llongyfarchiadau mawr I blant a staff Ysgol Llanaelhaearn ar CD wych. Da iawn blant mae hi werth chweil copiau ar gael yn yr ysgol am gyfranaid. Mae’n ddigon o ryfeddod

7/4/19

Paned a Sgwrs yn y Ganolfan 11/4/19 rhwng 10:00 a 12:00.

Elw at Apel Dr James, Uganda.

Meddyg ifanc yng Ngogledd Uganda sydd yn cael ei noddi gan Esgobaeth Bangor i astudio i fod yn feddyg plant, mae eisioes yn feddyg. Arol gorffen ei gwrs fe fydd yn gweithio trwy Ogledd Uganda.

3/4/19

Nos Sul 14/4/19 yn Eglwys St Aelhaearn

Cyngerdd i godi arian at apel Dr James Uganda

Mynediad am ddim ond gwneir casgliad

30/3/19

Mae’n edrych fel bo Renault Clio lliw glas rhif DV57ZHP wedi cael ei adael ym maes parcio’r fynwent. A fuasai’r perchenog yn ei symud oddi yno diolch

17/3/19

Raffl/Raffle Cae Chwarae Llanaelhaearn Playing Field
£1 y strip

10/3/19

Enillydd Clwb 100 Cae Chware oedd 31-Mary Penlon

3/3/19

Mae Bryn Meddyg yn chwilio am aelod o staff i wneud 2 shift nos yr wythnos, 24 awr yr wythnos. Gyrrwch negas am fwy wybodaeth neu ffoniwch 01758750693 am fwy o wybodaeth

28/2/19

B I N G O
Yn y ganolfan am 8:00y.h.

Rhywun wedi colli ci du a gwyn efo collar rhaff goch efo’r vet ar y funud warden ci mynd a fo fory

25/3/19

Swydd: Mae Bryn Meddyg yn chwilio am aelod newydd o staff i weithio dwy shifft (deuddeg awr) nos y mis a shifftiau ychwanegol fel “cover”.
Gyrrwch neges ar FB i mi neu cysylltwch ac unai Iona neu Caren ar 01758 750 693.

Trist i ddweud fod rhai o’r coed a planwyd gan blant yr ysgol wedi cael eu codi a’i taflyd yn y cae brynhawn ddoe(dydd Sul ) Maent wedi ei hail blanu. Mae’r coed yma er cof am ddiwedd y Rhyfel Byd cyntaf ac I gofio am y rhai o’r pentref yma a gollodd eu bywydau. Mae’r cwyn wedi mynd at yr heddlu

22/2/19

Rhai o ddisgyblion yr ysgol yn plannu coed a gafwyd gan yr Ymddiriedolaeth Goedwigedd er cof am 100 ers ddiwedd y Rhyfel Cyntaf

19/2/19

Pwysig
Fe fydd y fan post yn aros yn y maes parcio ger yr ysgol, gwaelod Maes Glas o hyn ymlaen

2/2/19

Enillydd Clwb 100 y Cae Chwarae Alwen Bryn Meddyg

1/2/19

BECWS GLANRHYD LLANAELHAIARN angen person i baratoi archebion a’i dosbarthu. Oriau rhan amser – 6 diwrnod yr wythnos o 03:30 – 07:30. Trwydded yrru lân yn hanfodol. Cysylltwch â Eirwyn
01758 750214

31/1/19

Gwellhad buan i Nigel sydd yn yr ysbyty yn dilyn damwain

Gobeithio fod Mrs Davies yn teimlo’n well ar ol cael peglin newydd

B I N G O

Yn y Ganolfan am 8:00

*******************************************************************************

Diolch I Ifan Garej am ddod a llefrith o gwmpas yn y ffashiwn dywydd.

Newyddion da, Mae difibrilator y pentref wedi ei leoli wrth ddrws Bryn Meddyg diwedd Chwefror. Fe fydd y Cyngor Cymuned yn trefnnu cwrs ar sut I ddefnyddio yr uned. Enwau i Mary Jones y clarc 01286 660768 neu Lynda Cox 01758 750474.

Dewch yn llu llawer o bethau diddorol ar werth fel te yn Caffi Ni

Sul y Cofio

Bu gwasanaeth ger y Gofeb ar fore Sul 12/11/17.Yn arwain y gwasanaeth roedd y Canon Peter James. Gosodwyd torchau ar ran y Pwyllgor gan Dafydd John Parry a gan Teuluoedd Thomas Roberts, Thomas Richard Evans a Thomas Arthur Evans, William Watkinson. HOffa’r Pwyllgor ddiolch I Canon Peter James, Gareth Cox am dwtio y fangre ar gyyfer y gwasanarth a Dafydd John Parry am werthu papiau fel arfer.

29/10/17  6:00 – 8:00

Canolfan y Babell Community Centre

Parti I blant y pentref am fwy o fanylion cysylltwch a Kelly

27/10/17   8:00yh

Canolfan y Babell Community Centre

Clwb 100 Cae Chwarae

Enillydd mis Medi oedd Cadi Gwilym

Pel Fonws yr Ysgol

Enillwyr Mis Gorffennaf-David James Halliday, Yvonne Williams, Emyr Griffiths(ddwywaith) a beti Hughes.

Enillwyr mis Awst-Lilian Hughes, Kelsey Jones a Mr a Mrs Daly.

Clwb 100 Cae Chwarae

Enillydd mis Awst-Tracey Bennett, Bryn Meddyg.

Gwnaed elw o £101.26 yn y Te Pnawn er budd Macmillan. Diolch I bawb a ddaeth i gefnogi

Dewch draw am baned,cacen a sgwrs!

Tymor Newydd

Croeso yn ol i ddisgyblion yr ysgol ar ol eu gwyliau a croeso cynnes iawn i’r disgyblion newydd a’r prifathro.

Cylch o Dan, Mon

Llongyfarchiadau i Gordon Hughes ar gwblhau y ras yma o amgylch Mon.

Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

Mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn wedi derbyn cwynion fod plant yn reidio beics tros y beddau ym mynwent y cyngor. Os oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth am hyn cysylltwch a Chlerc y Cyngor Cymuned neu unrhyw Aelod o`r Cyngor Cymuned. Mae y Cyngor Cymuned wedi cysylltu a`r Heddlu ynglyn a`r mater.

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn gyda teulu y diweddar Ron Foster Evans, Bryn Arlais.

Gordon Hughes

Llongyfarchiadau i Gordon Hughes ar ddod yn 17fed yn ei ras 200 milltir

Cinio

Ar ddydd Iau fe fydd Anti Mandi yn paratoi cinio dydd Sul i plant yr ysgol, mae croeso i bensiynwyr y pentref archebu pryd blasus o fwyd a mwynhau cwmpeini y disgyblion. Y gost fydd £3 y pen. Mae angen gadael i Mrs Lowri Lloyd wybod erbyn dydd Mercher rhif ffon 01758 750263/

Cae Chwarae

Bydd criw o wirfoddolwyr yn dod at eu gilydd i dorri’r gwellt yn y cae chware nos Fawrth 11/7 am 5:30. Dowch draw I helpu bydd y pwyllgor yn hynod o falch

Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn nos Sadwrn, Tachwedd 25ain am 5 yr hwyr.
Derbynir rhoddion a.y.y.b tuag at costau yr Eisteddfod yn ddiolchgar gan Mary C Jones.
Bydd y rhaglenni ar gael erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mon eleni.

Etholiad

Llongyfarchiadau i’r Cyng Aled Jones am ddal ei sedd yn yr etholiad.

Anrhydedd

Mae Mary Jones, Trefor, yn derbyn yr anrhydedd oherwydd ei gwaith yn trefnu Eisteddfod Aelhaearn dros y blynyddoedd, gan gadw’r Eisteddfod yn hyfyw a llwyddiannus. Yn ddi-os, byddai dyfodol yr eisteddfod leol hon wedi bod mewn perygl heb gefnogaeth a gwaith gwirfoddol Mary Jones. Mae eisoes wedi’i anrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad, ac mae’n briodol ei bod hi’n cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwaith hefyd. Mae hefyd wedi gweithredu fel Clerc Cyngor Cymuned Llanaelhaearn ers ugain mlynedd, gan weithio’n ddiwyd a chaled er budd y gymuned.

Llongyfarchiadau Mary braf gweld cydnbyddiaeth am dy holl waith-cael dy dderbyn i’r Orsedd

************************************************************************************************

Glasfryn 001

Plant i gyd wedi mwynhau Plas Menai, pawb wedi blino’n cynnwys Miss Jones, Mr Pritchard ac anti Siriol! Rhaid mynd i’r gwely yn gynt Mr Pritchard.

Enillwyr Pêl Fonws Mis Mawrth-
Heather Jones
Carys Jones
Alys Hedd
Ian Williams

Enillwyr mis Ebrill-
Einir Ellis
Carys Roberts
Lowri Lloyd x2

Bryn Meddyg

Staff: Rydym yn chwilio i gyflogi aelod newydd o staff fel glanhawr, i weithio ar ddydd Sadwrn a Sul ( 7.30-1.00 ). Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Llongyfarchiadau anferthol i Tomos Huw ar ei lwyddiant yn sioe Nefyn ddoe ac am gipio’r teitl ‘ pencampwr yn adran y plant’ am addurno ei gacen. Gwych!!

Llyfrau raffl yr haf yn cael eu gwerthu’n dda, diolch i bawb am eich cefnogaeth hyd yma. Mae 50 llyfryn ar ôl gan Caren Humphreys eisiau eu gwerthu.

29/4/16 3:00
Ysgol Llanaelhaearn School
Sel Cecs. Dewch yn llu Elw at yr Ysgol

Diolch i Lance am gyflwyniad diogelwch tân heddiw yn yr Ysgol.  Plant wedi dysgu ddiffodd offer trydanol a bod angen gwneud yn siŵr fod larwm tân yn gweithio yn y cartref. PWYSIG!

Plantos yr Urdd wedi casglu sbwriel yn y parc a cherdded am daith fach o amgylch y pentref. Tywydd grêt!. Da iawn chi blant

Llongyfarchiadau i James a Aga Tegfan ar enedigaeth Astrid

Llongyfarchiadau i Becky a Daniel Glan Gors ar enedigaeth eu merch argol dos na lot o fabis dwch

Rhywun wedi bod yn malu bin gwyrdd y ganolfan fe fydd y cwyn yn mynd i’r heddlu

Prynhawn difyr-llwyddodd disgyblion yr ysgol i gerdded/rhedeg 2 filltir tuag at Sports Relief! Gwych blantos!

Enillydd Clwb 100 Cae Chwarae am y mis ydi Eirwen Owen, Nefyn

Newyddion trist , Gwenda un o genod y Llan wedi ein gadael meddwl amdan Robert, Iona, Carys, Owen a’r teulu oll

Dymuniadau da i Richie Japheth Jnr sydd yn yr ysbyty brysia wella

Llinos Meleri Vaughan Williams to Dylan Fundraising ( Epilepsy Awareness)
Mi fydd Epilepsy Action Cymru yn y canolfan Llanaelhaearn ar y 10fed o chwefror rhwng 18.00 tan 21.00 dewch draw am llawer o gwybodaeth a cefnogaeth

Enillydd Clwb Cant y Cae Chwarae am mis Ionawr ydi Alwen Davies

Fe fydd Cyfeillion yr Ysgol yn gwerthu cacennau yn yr ysgol am 3 o’r gloch prynhawn yfory-29ain o Ionawr.

Pob cydymdeimlad i Jane 7 Maes Glas ar farwolaeth ei thad

Gobeithio y bydd Anti Lilian (Lilian Garej) yn teimlo’n well yn fuan

Ar werth cabinet siop efo golau ynddo! £50 ono , elw i gyd tuag at ysgol Llanaelhaearn

Llongyfarchiadau i Kelvin a Susan Glanllyn ar enedigaeth efeilliaid

Iona Evans o Drefor sydd wedi enill Clwb 100 y Cae Chwarae am Chwefror

Enillwyr pêl fonws yr ysgol mis Ionawr a clwb 100! Llongyfarchiadau!!
Trystan Humphreys
Meira Thomas
Lowri Lloyd
Gwynfor Jones

Llongyfarchiadau i Aled a Nicola ar enedigaeth eu merch fach

Cwyn fod rhai yn dringo tros y giatiau rhwng y Babell a’r ganolfan. Mae gan Pwyllgor y Ganolfan bolisi o basio bob cwyn o’r math yma yn syth at yr Heddlu

Llongyfarchiadau i Natasha a’i gwr ar enedigaeth ei merch fach

Llongyfarchiadau i Michael a Tillana ar enedigaeth eu mab

Ar werth pnawn fory am 3:00 yn yr ysgol-stondin cecs, dowch yn llu

Yn anffodus oherwydd fod y boiler wedi torri ni ftdd y B I N G O ymlaen heno 25/2/16

Diolch i Ysgol Llanaelhaearn am wahodd pensiynwyr y pentref i ddathlu Dydd Gwyl Dewi gyda Lobsgows a chan. Pawb wedi mwynhau

Llongyfarchiadau i Nina a Nathan ar enedigaeth eu merch fach

Penblwydd Hapus i Dewi Llechdara sydd newydd dathlu penblwydd special

Penblwydd Hapus i Mary clarc y Cyngor Cymuned sydd yn dathlu un spesial heddiw

***************************************************************************************************

Nodyn bach trist eto RIP Dr Gwenda siwr fod rhai yn yr ardal yn ei chofio yn feddyg teulu ym Mhwlllheli./

Penblwydd Hapus i un arall o hen hogia’r Llan Gwilym Cors Ceiliau wedi dathlu ei ben blwydd yn 94 yr wythnos yma

Penblwydd Hapus i Emrys Bryn Meddyg gynt sy’n dathlu ei benblwydd yn 80. Er symud i Pwllheli mae Emrys yn dal i weithio er lles ein pentref.

Mae yna ychydig o rifau ar ol i’r Clwb 100 er budd y cae chwarae cysylltwch a Caren, Ann neu Anwen a diolch i’r dair am eu gwaith.

Ar y Sul cyntaf o Hydref bu gwasanaeth Diolchgarwch yn Sant Aelhaearn. Yn cymeryd y gwasanaeth roedd y ficer y Parch J Lloyd Jones. Yn cymeryd rhan roedd Helen a Lisa Williams Ellis, Ifan Pritchard, Ellis Williams a Martha Nel. Canwyd emyn dymhorol gan Catrin Evans. Yr ystlystwyr oedd Ceri Williams, Gwilym Ellis a Tomos Wyn Jones. Yr organyddes oedd Sianelen Pleming.

Yn y gwasanaeth Saesneg am 5:00 y darllenydd oedd Mike Atkin. Canwyd emyn dymhorol gan Vincent Mears gyda’i fab Huw ar y gitar. Chwarewyd y Delyn gan Anna Lewis a’r ystlyswraig oedd Ivy Atkin. Y ficer oedd yn gwasanaethu.

Newyddion trist fod Mrs Anna Jones wedi ein gadael meddwl amdan y teulu oll. Roedd Mrs Jones yn aelod selog yn St Aelhaearn a bu yn gofalu am lieiniau yr allor am flynyddoedd. Roedd Mrs Jones newydd ddathlu ei phenblwydd yn 95.

Newyddion da mae’r boiler yn GWEITHIO, mae’r ganolfan nol mewn busnes

Cydymdeimlo efo Ann Roberts a’r teulu ar farwolaeth. Fe fu Gareth yn chwarae yr organ yn y gwasanaethau Saesneg yn St Aelhaearn hyd new i’w iechyd waethygu. Roedd cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn ei fywyd.

Dyma rhai lluniau o’r Diwrnod Hwyl

hwyl 2Hwyl 3

hwyl 5hwyl 4

Diwrnod Hwyl i godi arian at gostau rhedeg y cae chwarae

hwyl

Diolch i Dafydd Myrddin am drefnnu y gemau ac i bawb am gyfranu at y bwyd. Diwrnod bendigedig o braf a’r plant wedi mwynhau.

Bu aelodau o Plwyf Beuno Sant Uwchgwyrfai ar bererindod i Enlli. Diolchgar oeddynt fod y mor yn dawel ac roedd pawb wedi mwynhau. Ar ol amser i grwydro’r Ynys bu gwasanaeth byr. Gwnaed y trefnaidau gan y ficer y Parch J Lloyd Jones.

Mae’r gwaith o adnewyddu’r boiler yn mynd yn ei flaen, mae’r plymar yn gobeithio gorffen dydd Mercher os fydd y partiau wedi dod. Ddrwg gennym am unrhyw drafferth.

Mae Pwyllgor y Cae Chwarae am ddechrau clwb 100 i godi arian tuag at costau rhedeg y gost fydd un talaid o £12 am y flwyddyn. Tynnir rhif bob mis. Gallwch rhoi enwau i Caren, ann neu Anwen.

Mae’r gwaith o adnewyddu yr offer yn y cae chwarae wedi ei wneud gan gwmni Playquest.

Mae angen gwneud ychydig o waith yn y cae chwarae-rhoi stwff gwarchod coed ar yr offer/meinciau a codi ysbwriel. Fe fydd diwrnod yn cael ei drefnnu yn fuan. A diolch i Kelsie sydd wedi bod yno yn barod yn codi ysbwriel.

Cofiwch am yr Helfa Drysor heddiw am 3:00 o maes parcio Antur/Meddygfa Elw at costau rhedeg y cae chwarae. Diolch I Ffion a Llyr Moelfre Mawr am drefnnu.

Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn 24.11.15

steddfod

Penblwydd Hapus hwyr i Mrs Marian Willers sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 95./

Newyddion trist heddiw fod Ann Hughes Station Bakery Cricieth wedi ein gadael. Meddwl am Medwyn, Richard, Bleddyn, Nia a’r teulu oll

Diwrnod pwysig yn hanes yr ysgol fory, Croeso mawr i Gethin y prifathro newydd ac i Lisa yr athrawes newydd

Ddoe roedd angladd un o hen genod y Llan Dot Bryn Iddon, cofio am Catherine a’r teulu oll

Llongyfarchiadau i Einir Garej a Wil ar enedigaeth Alys Hedd ac i Nain a Taid Garej a Anti Nia

Mae Mary Jones wedi derbyn tystysgrif gan eisteddfodau cymru am roi 40 o flynyddoedd o wasanaeth i Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn

Mary

Diolch i Gareth, Kelly a Kim am sandio’r byrddau yn y cae chwarae i gael gwared o’r graffiti

Mae Pwyllgor y Cae Chwarae yn chwilio am rhywun I sandio’r ddau fwrdd picnic yn dilyn y fandaliaeth/

Mwy o fandaliaeth yn y cae chwarae mae gwirfoddolwyr wedi treulio amser yn trwshio’r ffens a’r meinciau

Dyma’r diwrnod i ffarwelio gyda Sianelen Pleming sydd yn ymddeol fel pennaeth ein hysgol ac efo 3 disgybl sydd ar ddechrau taithy newydd sef mynd i Glan y Mor. Cyflwynwyd anrheg i Mrs Pleming gan Enir Ellis caderiydd y corff llywodraethol.

gadael 3

einir gadael 2

Llywodraethwyr/staff yr ysgol wedi mwynhau y cinio dydd Sul yn Caffi Meinir Nant Gwrtheyrn I ffarwelio a Mrs Plemming a Mrs Harris a diolch i Bethan am y gacen

cacen

Ar nodyn mwy hapus mae Ms Lisa Jones wedi ei phenodi fel athrawes i’r plant hyn i ddechrau ym mis Medi ac yn bennaeth ar ein hysgol bydd Mr Gethin Thomos, prifathro Ysgol Pentreuchaf. Fe fydd Mr Thomos yn treulio 2 ddiwrnod yma ac am y 3 arall fe fydd Ms Jones fel dirprwy iddo. Dechrau cyfnod newydd yn hanes ein hysgola pob dymuniad da i’r ddau

Helo pawb! Plis dewch i cefnogi plant Ysgol Llanaelhaearn i codi arian at elusen Hawl i Fyw , ag yr ysgol, mi fydda ni ar y maes yn Pwllheli fory. Yn gwerthu amryw o bethau a caceni cartref!!

LLongyfarchiadau i Cyfeillion ysgol Llanaelhaearn am Ffair Haf wych

Bagiau du yn llawn ysbwriel wedi eu taflu o flaen eglwys St Aelhaearn rhywun di feddwl hunanol heb feddwl am y broblem os byddai angladd yno a heb feddwl am y bobl sydd yn mynd i’r fynwent na’r bobl sydd yn parcio eu ceir yma. Cwynion yn mynd i’r cyngor a wedyn fel mae’r dweud yn saesneg name and shame.

Nel adra’n saff warden ci wedi mynd a hi i Dolgellau sut aeth hi i Ffor yn ddirgelwch

Ar Goll Llanaelhaearn ci defaid ast du a gwyn tipyn o frown ar ei choesau dau golar am ei gwddw

Penblwydd Hapus i Eurwen Davies 2 Maes Glas,  sydd yn dathlu un go arbennig heddiw

Diolch i Ian Rynys am drwsio ffens y cae pel droed gobeithio na fydd neb yn dringo drosto rwan

Heddiw bu aelodau o’r gangen leol o Ferched y Wawr ym Mhlas Glyn y Weddw yn gweld yr arddangosfa Patagonia a hefyd yn cael cinio. Pawb wedi cael gwledd a wedi mwynhau

LLYFR NEWYDD (ar gael 15 o Fai 2015)
CAP GWLÂN A’R ORIAU MÂN – Ifan Garej Ceiri a’i fusnes cymunedol. Golygydd Rhian Jones.
‘Pe bai popeth yn hawdd ym myd busnes, byddai gan bawb ei fusnes ei hun!’
Mae i ambell ardal gymeriad unigryw – person sy’n adnabod pawb a phopeth ac yn ymroi’n hamddenol braf i wneud unrhyw ddyletswydd ddaw i’w ran. Yma yn Llŷn ac Eifionydd, un o’r rheini ydi Ifan Lodge, perchennog Garej Ceiri, Llanaelhaearn.

Noson lansio Nos Wener, 15 Mai 2015, am 7 o’r gloch yng Nghapel Pencaenewydd. Adloniant gan Gôr Meibion Dwyfor, lluniaeth ysgafn. CROESO I BAWB. Dewch yn llu I brynnu llyfr Yncl Ifan.

llyfr ifan

Sbwriel wedi ei daflyd yn y cae chwarae eto gan bobl hunanol

Newyddion trist wedi cyrraedd y Llan fod Menna Cors Celia gynt wedi ein gadael. Pob cydymdeilad a’r teulu oll

Pob cydymdeimlad a Gill Barratt ar farwolaeth ei mham

Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Ysgol Llanaelhaearn am ddod yn fuddugol gyda eu baner Cymreictod yn Parêd Dewi Sant Llyn ac Eifionydd heddiw!!! Da iawn chi

banner

Pob lwc i Sharon a’r hogia yn eu cartref newydd

Mae Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn am dderbyn £112.14 gan Daily Post. Casglwyd 8,625 o`r `Wish Tokens`. Diolch I bawb am eich cefnogaeth.

Newyddion trist eto heddiw fod un o hogia’r Llan wedi ein gadael. Gwilym Jones neu Gwilym Glanrhyd fel oedd bawb yn ei adnabod roedd Gwilym yn ei 90au ac yn byw ym Mhlas Gwyn, Pentrefelin gyda Jean ei wraig, Anfon bob cydymdeimlad iddi hi a’r teulu oll. Roedd Gwilym wedi chware rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol y pentref ar hyd ei oes.

Cwynion wedi dod fod rhywun wedi taflu hen fatras arall ar ben y llwybr bach. Mae’r Cyngor wedi gaddo ddod i’w nol ond mae na un eisioes. Plis peidiwch a tafle ysbwriel yn fama mae plant yn defnyddio’r llwybr yma i fynd i’r ysgol.

Mae grwp Gwyrdd Ysgol Llanaelhaearn yn casglu poteli CLIR 2ltr diodydd ysgafn/dwr i adeiadu ty gwydr. Poteli gwag i’r ysgol plis neu unrhyw riant. Mae eisiau 1,500 I gwblhau yr adeilad felly daliwch ati.

Wel am sioc bore ma clywed fod Ken Cowboi (Allen) wedi’n gadael. Roedd ken yn un o gymeriadau’r Llan. Cofio am Janice, Shirley, Michael a Rebecca

Newyddion trist mae un o drigolion hynaf y pentref wedi ein gadael. Roedd Tom Hughes wedi ymgartrefu ym mryn Meddyg ers llawer dydd siwr fod babwb yn meddwl am Rose a Emrys a’r teulu oll.

Fe fydd Merched y Wawr yn ail gychwyn ar nos Fercher 14/1 am 7:00 yn y Ganolfan

Newyddion trist amser i ffarwelio a un o hen hogia’r llan. RIP Bryn, cydymdeimlo a Iwan, Meirion, Sian a’r teulu oll

Blwyddyn Newydd Dda i bobl LLan