Eglwys St. Aelhaearn

 

 

 

  

 

 

Mae’r Eglwys yng nghanol y pentref, ac yn adeilad sy’n cynnwys Corff, Cysegr ac esgyll Gogleddol a Deheuol. Perthyn corf yr Eglwys i’r ddeuddegfed ganrif neu i ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, yr Esgyll i’r unfed ganrif ar bymtheg neu i ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg.

Diweddar ydywr gagnell (wedi ei hymestyn yn 1892 pan aethpwyd ati i adnewyddu’r holl adeilad). Un o nodweddion amlycaf y gangell ydyw’r hen ffenestr dwyreinniol, ac o ddiddordeb hefyd ydyw’r ffenestr atgywiriedig yn yr asgell ogleddol. Ym mur dehau corf yr Eglwys ceir hefyd ffenestr a berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg ond sydd wedi ei hatgywirio gryn dipyn.

Yn yr un mur ceir drws o’r ddeuddegfed ganrif neu drydedd ganrif ar ddeg a gaewyd yn 1930. Ym mur gorllewinol hefyd mae drws a berthyn mae’n debyg i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’r clochdy hefyd a diddordeb ac yn dyddio mae’n debyg a dyddiad y gloch sef 1749.

Modern yw’r nenfwd er bod ynddo dri darn o goed a berthyn i gyfnod y canol oesoedd. Ar y gloch ceir enwau Griffith Jones a Robert Pritchard, Wardeiniaid 1749.

Ar y wal ceir carreg a ddarganfyddwyd yn 1865 mewn cae o’r enw Gardd Sant (Erw Sant); mae’n dyddio o’r bumed/chweched ganrif ac arni y geiriau Rhufeinig – “yma y gorwedd Aliortus, gwr o Elfed”.

Ceir llechen goffa i’r parch John Evans, Bryn Bychan a fu farw yn 1724. Ganwyd ef yn Llanaemon, death yn Esgob Bangor yn 1702. Er cof amdano yn yr Eglwys hon, rhoddwyd yn y Cysegr ac yn y seddau cor, bedair cadair a llun o feitr yr Esgob arnynt. Ceir hefyd ar y wal tabled lechen i gofio am Catherine, merch hynaf Richard Glyn, Elernion a fu farw yn 1702. Y seddau (box pews) yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif/dechrau’r bedwared ganrif ar bymtheg.

 

Mae cadeiriau y Wardeiniaid yn dyddio’n ol bron dri chan mlynedd, mae’r pulpud o’r ddeunawfed ganrif, ceir sgrin hyfryd o dderw, rhoddwyd yr allor er cof am Garfield Kiff, mab Dr Donald a Mrs Barbara Kiff (cyn feddyg y pentref), a’r lamp gysegr i gofio am Elizabeth Evans.

Disgybl i Beuno oedd Aelhaearn, sefydlodd ei Eglwys yma yn y pumed/chweched ganrif. Mae’r Eglwys ar ffordd y Pererinion drwy Lyn i Enlli, a byddant yn ymweld a St Aelhaearn ar ol galw yn Eglwys St Beuno, Clynnog. Mae plwyf Llanaelhaearn yn ran o Esgobaeth Bangor.

 

 

I drefnu am agor yr Eglwys cysylltwch ac ysgrifennydd yr Eglwys:- Lynda M. Cox 07787953887 neu 01758 750474.

Yr eglwys o’r awyr tua 1996