Erthygl o wefan Cyfeillion y Ddaear Cymry o Rhagfyr 2010.
Adroddiad newydd sy’n chwalu’r mythau sy’n rhwystro’r ffynhonnell hon o ynni glân yng Nghymru.
Ynni gwynt yw un o’r mathau o ynni mwyaf glân, diogel a chost-effeithiol sydd ar gael.
Eto, mae tyrbinau gwynt yn destun gwrthwynebiad gan leiafrif swnllyd sy’n codi pob math o ddadleuon yn eu herbyn. Nid yw’r dadleuon hyn yn fawr mwy na mythau.
O ystyried y brys cynyddol i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rhaid i benderfyniadau ar dyrbinau gwynt posibl yng Nghymru gael eu gwneud ar sail ffeithiau a thrafodaeth wybodus, nid myth a chamwybodaeth.
Mae’r adroddiad newydd hwn yn mynd i’r afael â’r 20 dadl a glywir amlaf yn erbyn pŵer gwynt. Mae’r rhain yn cynnwys:
MYTH: Nid yw ynni gwynt yn cynhyrchu llawer o bŵer
Ym mis Mai 2008 roedd 1,988 o dyrbinau gwynt yn y DU yn cynhyrchu’r trydan oedd ei angen ar gyfer 1,379,127 o gartrefi
MYTH: Mae ffermydd gwynt yn amhoblogaidd
Mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy wedi asesu dros 50 o arolygon barn cyhoeddus a gynhaliwyd ers 1991 a chanfod bod 80% o bobl o blaid ffermydd gwynt a 20% yn erbyn
MYTH: Mae tyrbinau i’w gweld ym mhob ardal wledig
O ganlyniad i bolisi cynllunio TAN 8, caiff ffermydd gwynt yng Nghymru yn y dyfodol eu cyfyngu’n bennaf i ardaloedd sy’n cynrychioli tua pedwar y cant o arwynebedd tir Cymru
MYTH: Mae ffermydd gwynt yn niweidiol i brisiau eiddo
Canfu adroddiad gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a Phrifysgol Oxford Brookes (Mai 2007) nad oedd perthynas glir rhwng pris eiddo ac agosrwydd ffermydd gwynt
Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF)
(Ymddiheuriadau, nid yw’r adroddiad ar gael yn Gymraeg eto)