2020

30/12/20

 

25/12/20

Nadolig Llawen

 

24/12/20

Noswyl y Nadolig

 

22/12/20

 

20/12/20

http://www.facebook.com/esgobaethbangor/linc i wasanaeth angladd y Parch Lloyd Jones fory am 10:00/

19/12/20

Newyddion trist iawn fod Mavis wedi marw ar ol gwaeledd byr. Roedd Mavis yn un o hoelion wyth y gymuned, yn fodlon bob amser i helpu unrhyw fudiad pentrefol. Fe fydd colled ar ei hol

Mae Antur Aelhaearn wedi bod yn rhannu anrhegion i blant y pentref

 

Cartref Bryn Meddyg

18/12/20

Oes gan rhywun hen fagasins plis

Helpars bach Sion Corn wedi bod yn lapio anrhgegion yn barod i ddosbarthu i blant y pentref yfory

 

17/12/20

Y pridd i gyd wrdi symud a’r pryfaid genwair i mewn. Chwilio am wirfoddolwyr ar ol y Nadolig i roi y ty gwydr i fyny

8/12/20

Newyddion trist i Blwyf Beuno Sant Uwchgwyrfai, daeth Lloyd yma i’r plwyf ar adeg anodd iawn pan oedd y plwyf ifanc yma yn cael ei sefydlu. Fe fydd colled ar ei ol

Yn annisgwyl yn ei gartref yng Nghlynnog-fawr, yn 54 mlwydd oed. Mab y diweddar David a Moreen Jones, Maesteg, gŵr annwyl i Casi a thad arbennig iawn i Dafydd a Tomos; brawd ffyddlon i Howard, brawd-yng-nghyfraith hoffus i Alison, mab-yng-nghyfraith addfwyn i Sara a Ned a nai ac ewythr hoff. Mae’r hiraeth yn fawr ond gwyddom ei fod yn ddiogel gyda Duw ac y cawn gwrdd eto. Angladd fore Llun, 21 Rhagfyr. Cynhelir gwasanaeth i ddiolch am ei fywyd (drwy wahoddiad yn unig oherwydd y cyfyngiadau cyfredol) am 10.00 y bore yn Eglwys Beuno Sant Clynnog-fawr. Bydd modd dilyn y gwasanaeth drwy we-ddarllediad byw, a bydd y manylion yn dilyn. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Blodau’r teulu yn unig, ond derbynir yn ddiolchgar eich rhoddion er cof am Lloyd tuag at brosiectau mewn dwy gymuned oedd yn agos at ei galon, sef Antur Waunfawr ac Ysgol Gynradd Llandwrog, trwy law Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280

7/12/20

 

6/12/20

Plannu Clychau’r Gog

 

5/12/20

 

1.12.20

Y goeden Nadolig diolch i Gyngor Cymuned Llanaelhaearn ac AnturAelhaearnan ac i Iolo am ei nhol.Diolch i Llyr ,Alan, Trystan ac i Euros am osod y goleuadau eraill at ddiwedd yr wythnos

29/11/20

Plannu Eirlysiau

 

27/11/20

LLenwi’r gwlau efo pridd a compost

 

25/11/20

Paul a Bea yn plannu dros 100 o goed

 

22/11/20

Yn yr Ardd paratoi y gwely i Enfys blannu’r planhigyn cyntaf

17/11/20

Plannu tywyrch yn yr ardd yn y glaw

 

15/11/20

Dewch i ddsygu mwy am geir trydan a sut y mae cymunedau yn cael budd ohonynt. Croeso i bawb

8/11/20

Sul y Cofio

 

4/11/20

Yn yr Ardd

2/11/20

Sul y Cofio

Rheolau ar gyfer Gwasanaeth Sul y Cofio 8/11/20
1. Pawb i wisgo masg
2. Pawb i gadw pellter
3. Neb ond Canon Peter Jones i fod o fewn y safle
4. Pawb i osod eu torchau wrth y wal yn ymyl y giat. Fe fyddant yn cael eu symud yn dilyn y gwasanaeth.
Fe fydd jel dwylo ar gael
Gwneir casgliad at yr achos

Yn yr Ardd

1/11/20

Diolch i Kelly a Hari am fynd a feris o gwmpas i’r plant a diolch i bawb am gyfrannu at yr achos. Yn anffodus bu rhaid gohirio ein taith Calan Gaeaf

30/10/20

Ma Kelly yn gwneud bagiau fferis i’r plant os da chi yn gwybod am blant sa’n hoffi bag gadewch iddi wybod

26/10/20

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gyngor Cymuned Llanaelhaearn ynglyn a’r argyfwng tai

25/10/20

Gwasanaethau St Aelhaearn ar Zoom yn ystod y clo tan

 

24/10/20

Y car trydan wedi cyrraedd

 

23/10/20

Bryn Meddyg
‘Rydym yn chwilio yn chwilio am aelod newydd o staff i weithio dwy shifft nos (24 awr) yr wythnos ac ambell i oriau dros gyfnod gwyliau.
Am sgwrs ffoniwch 01758750693 neu gyrrwch neges.

19/10/20

Neges gan Gyngor Cymuned Llanaelhaearn

Rydym yn agored i dderbyn ceisiadau ariannol at weithgareddau cymunedol erbyn 31ain o Hydref 2020.
Gofynion yw eich bod yn gweithredu oddi fewn y plwyf lleol a rhaid cynnwys mantolen

Mae na blant wedi bod yn yr ardd tros y penwythnos ac wrdi taflyd compost allan or gwlau. Mae lluniau gennym ac os fydd hyn yn digwydd eto fe fydd yr heddlu yn cael gwybod

13/10/20

https://www.facebook.com/ArloesiGwyneddWledig/videos/342662846951858

12/10/20

Chwilio am bobl i helpu symud sleepers yn y ganolfan 6 nos fory

Meddwl am gael Halloween Walk i’r plant dim pawb ar un waith lawr y llwybr bach, trw coed gwaelod cae chwarae, allan trwy ganolfan a tu allan i’r giat bwr efo bagiau efo fferis gafewch i ni wybod be da chi feddwl

Mae Parc Glasfryn wedi cyhoeddi eu bod yn cau tan 2010. Mwy o fanylion ar eu gwefan

8/10/20

Neges fod ci yn rhydd yn y pentref yn ymyl y rowndabowt

6/10/20

Gwaith yn ail ddechrau ar yr ardd

5/10/20

Mae Celt a Liam wedi colli deryn bach gwyrdd tebyg i parot bach.

4/10/20

Oes na rhywun ar gael dydd Mawrth i helpu yn yr ardd

Diolchgarwch 2020

 

 

3/10/20

Annog pobol Gwynedd i ddilyn y rheolau ynglyn a Covid-19

https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Newyddion/Datganiadau-ir-wasg/Hydref-2020/Annog-pobl-Gwynedd-i-weithredu-rwan-er-mwyn-osgoi-cyfyngiadau-lleol.aspx?fbclid=IwAR0kzZi-Nq-fuRT0ryInvugBPo9Ok1MeZsvtc2tvj2gBRSIf3PruFeyipGk

2/10/20

Neges fod ci yn rhydd yn y pentref

https://scontent.flhr2-1.fna.fbcdn.net/v/t1.15752-9/fr/cp0/e15/q65/120706010_806349286817081_8788029592847593619_n.jpg?_nc_cat=103&_nc_sid=b96e70&efg=eyJpIjoibyJ9&_nc_ohc=Dzv0sa4of_oAX8SGVrc&_nc_ad=z-m&_nc_cid=0&_nc_ht=scontent.flhr2-1.fna&tp=14&_nc_rmd=260&oh=bc374e9c45c1a9091e643e0340519d89&oe=5F9DDFDB

30/9/20

 

29/9/20

Enillwyr Raffyl Macmillan Winners
£20 Cigoedd y Llain Rachel Treherne
£10 Spar Lynda Cox
£10 Caffi Ni Mavis Griffiths
£10Asda Rachel Treherne
Dioch i bawb am gefnogi ein raffyl Macmillan llwyddwyd i godi £118.

28/9/20

Mae hon yn ffilm o ddyddiau cynnar Antur Aelhaearn. Mae hi bellach yn gofnod hanesyddol o sut yr oedd pethau ond yn cynnig gobaith hefyd y gall cymunedau ganfod yr atebion hyd yn oed yn ystod cyfnodau anodd. Cliciwch y Linc i wylio’r rhaglen

https://www.youtube.com/watch?v=SYb3EH8WJz4&t=8s

23/9/20

Y gwobrau ar gyfer Raffyl Macmillan. Diolch i bawb am helpu

 

21/9/20

Bryn Meddyg

Swydd ar gael. Oriau amrywiol..yn cynnwys cymorth yn y cegin a gofalu am ein trigolion. 16 awr ac fwy ar adegau. Plis ffoniwch neu cysylltwch am fwy o fanylion. Diolch.

Oes gan rhywun hen frics angen nhw i fynd i waelod y bocys plannu yn yr ardd gymunedol

18/9/20

Wythnos nesaf byddwn yn cynnal raffyl i godi arian at Macmillan yn anffodus ni fydd yn bosib cael Bore Coffi yn y ganolafn . Mwy o fanylion i ddilyn

15/9/20



Falch o gael croeshawu crwi 

Heno S4C

 ir Antur heddiw i gynnal cyfweliad gyda Tomos am ei swydd “Byw a Bod”. Diolch i Dyfed a Gwenan o gwmni Graen am ddefnyddio’r gweithdy. Mae’r Antur yn edrych ymlaen ir datblygiad sydd ganddynt ar gyfer yr adeilad. Mwy o wybodaeth i ddilyn.

Arloesi Gwynedd Wledig

 

 

1/9/20

 Fel rhan o’r prosiect Byw a Bod efo’r Antur Aelhaearn, rydym yn ymchwil yn yr posibilrwydd o gael car berchen cymunedol yn Llanaelhaearn.

 

28/8/20

Mae yna 3 cwyn y mis yma am ddifrod i flodau ag ati yn y fynwent os fyddwch yn gweld llanast yno plis tynwch luniau er mwyn cadw tystiolaeth

19/8/20

Neges gan Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

Mae yna ysbwriel yn cael ei adael o gwmpas ein hardal.

COFIWCH- codwch eich sbwriel!
Rhaid gwarchod ein hardal brydferth
 
Antur Aelhaearn

https://www.facebook.com/Anturaelhaearn/videos/340269757116571

 
Derbyniwyd neges bod yna blant wedi difetha blodau beddi yn fynwent Aelhaearn – Amharchus ac annerbyniol. Os oes gan rhywun uwybodaeth am hyn i adael CCLlan wybod os gwelwch yn dda.

17/8/20

Bryn Meddyg

Staff: ‘Rydym yn chwilio am aelod newydd i gynorthwyo yn y gegin. Cysylltwch am fwy o fanylion.

14/8/20

Rhwng 18-25 blwydd oed ac yn byw yn Llanaelhaearn neu Trefor? Ymunwch a ni yn ein sesiwn alw cyntaf dydd Llun nesaf, rhwng 3pm-8pm! Cyfle i gael rhannu barn a helpu gwella ein cymuned ar gyfer bobl ifanc lleol. Fe welwn ni chi yno!

 

11/8/20

Ydych chi rhwng 18-25 oed ac yn byw (neu wedi byw) yn Llanaelhaearn neu Trefor?? Os ydych, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am eich cymuned trwy lenwi’r holiadur hwn (Dim ond tua 5 munud y bydd yn ei gymryd) Antur Aelhaearn

 

5/8/20

Mae gan Antur Aelhaearn dudalen ar Facebook. Cofiwch alw heibio

3/8/20

Cae Chwarae

2/8/20

St Aelhaearn y drefn newydd

1/8/20

Mae Antur Aelhaearn yn falch i gyhoddi fod Cian Ireland a Tomos Williams wedi eu penodi yn swyddogion Byw a Bod i’r Gymuned.

17/7/20

17/7/20

Heddiw mae Ysgol Llanaelhaearn yn cau y drws am y tro olaf. Diwrnod trist iawn yn hanes y pentref. Diolch i’r staff i gyd ac i’r rhieni am aros tan y diwedd. Diolch hefyd i’r llywodraethwyr a fu’n cwffio i drio achub yr ysgol Braf gweld y plantos yn mynd i Chwilog efo’i gilydd

13/7/20

I Ddathlu hanes ein ysgol sydd yn awr ar gau.

10/7/20

Oherwydd amgylchiadau coronafirus cofid-19 mae pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn wedi penderfynu gohirio yr Eisteddfod am eleni.Gobeithio gwelwn chi yno mis Tachwedd 2021

2/7/20

Swydd nos a dydd ar gael ym Mryn Meddyg, Cysylltwch am fwy o fanylion


1/7/20

Wedi cael cwynion fod plant yn reidio beics yn y mynwentydd fe fydd yr heddlu yn cael gwybod

22/6/20

Trist oedd clywed am farwolaeth Marilyn Hughes meddwl am y teulu

Gwasanaeth St Aelhaearn 14.6.20

12/6/20

Plis neith y person a aeth a 3 coedyn 3×2 o’r ardd dementia ddwad a nhw yn eu hol

11/6/20

Plis neith pwy bynnag sydd yn yfad yn y cae chwarae fynd a’i rybish adra yn lle eu gadael ar y cae

Blast from the past fel dywed y sais

5/6/20

Diwrnod trist heddiw ffarwelio a Nesta Penrhiwroen un o genod Llan

25/5/20

Diolch i Alwena am yr isod
Ychydig bach o hwyl! Mae cerrig wedi cael ei addurno wedi eu cuddio ogwmpas llanaelhaearn pam cewch hyd i un tynnwch ei lun a’i rhoi ar y grŵp yma yna cuddiwch nhw yn rhywle gwahanol – hwyl i oedolion a phlant wrth fynd am dro ogwmpas llanaelhaearn Cofiwch gasglu carreg, addurnwch eich hun a cuddiwch yn rhywle!!

25/5/20

Nos Iau mae’r clap ola i ddiolch i’r NHS a gweithwyr allweddol felly rydym am gyfarfod a cadw pellter wrth sgwrs yn iard/maes parcio yr ysgol i ganu Calon Lan. Dewch yn llu efo copi o Calon Lan

21/5/20

Bryn Meddyg
STAFF: ‘Rydym yn chwilio am aelod newydd o staff – oriau amrywiol ar gael. Gyrrwch neges ar messenger i gael ffurflen gais neu am unrhyw ymholiadau. Diolch

Gwasanaeth 17/5 St Aelhaearn

15/5/20

Mae Nicola Pacey a’i chriw yn gwnio sgrybs ayb ac yn chwilio am hen sheets/curtains/gorchydd dwfe cotwm. Os oes gennych rhyw ddefnydd addas cysylltwch gyda Lynda os gwelech yn dda

12/5/20

Arwydd Maes Parcio y fynwent wedi ei osod gan y Cyngor Cymuned

11/5/20

Dyma lythyr agored gan Gyngor Cymuned Llanaelhaearn yn dilyn pryderon COVID-19 – rydym wedi ei anfon i unigolion sydd yn y Llywodraeth a rhai o Blaid Cymru.

Gwasanaeth 10/5 St Aelhaearn

8/5/20

Penwythnos dathlu diwrnod VE

Gwasanaeth 3/5 St Aelhaearn

Gwasanaeth 26/4/ St Aelhaearn

25/4/20

Siwr fod ni i gyd yn meddwl am Daniel Stutterford heddiw ar ol colli ei dad.

Mae Celt a Liam wedi colli bwji glas. Cysylltwch oes ddaw o i’r golwg

25/4/20


Mae Antur Aelhaearn wedi prynnu 2 printer 3D a dyma nhw wedi cyrraedd Dafydd Brown er mwyn iddo gynhyrchu mwy o fasgiau. Da iawn chdi Dafydd.

Antur Aelhaearn yn gweithio i gefnogi’r gymuned

Gwasanaeth 19/4 St Aelahaearn

14/4/20
Mae Kelly ac Yvonne yn hel sebon/bybl bath/crim dwylo at staff Bryn Beryl sydd yn symud oddi cartref I ddiogelu eu teuluoedd. Mae na focs tu allan i 6 Ty’n y Ffridd

Hefyd maent wedi bod yn hel i brynnu crim dwylo i staff cartref Bryn Meddyg ac mae 22 wedi cyrraedd heddiw

Gwasanaeth 12/4 St Aelhaearn Sul y Pasg

11/4 Dydd Sadwrn y Pasg


10/4/20

Mae’ ganolfan wedi rhoi menthyg 2 injian wnio i ferched sydd yn gwneud masgiau. Rhywbeth bach i helpu

Rhai o’r arwyddion o gwmpas y pentref

7/4/20

Llongyfarchiadau i Megan Felin am ddod yn hen nain. gor wyres ar y 1af a gor wyr ar yr 2ail

5/4/2

Fe fydd y Cyngor Cymuned yn cyfarfod drwy cyfrwng Zoom yn ystod yr argyfwng. Mae’n bwysig eu bod yn cadw mewn cysylltiad a’r gymuned a’i gilydd.

4/4/20

Dyma amserleni dros dro y byddwn yn ei weitherdu o 6.4.20 ar wasanaethau 12, 14, 17/18 a 23 (Llun – Sadwrn) Dim gwasanaeth ar y Sul a Gwyl y Banc.
Taer erfynir arnoch i’w defnyddio ond ar gyfer trafeilio angenrheidiol yn unol a chanllawiau’r Llywodraeth.
Hyderwn y byddwch yn cadw pellter digwyliedig ac yn parchu ein gyrrwyr yn ystod y cyfnod anodd yma.
Diolch am eich cefnogaeth a chadwch yn saff.

4/4/20

Mae rhywun wedi tynnu yr arwydd yma i lawr. Mae o wedi ei roi i fyny am reswm

4/4/20

A fysa yn bosib cael unrhyw wybodaeth am ymwelwyr sydd wedi tori canllawiau y Llywodraeth ac yn aros mewn tai haf yn ardal Trefor, Llanaelhaearn a Llithfaen yrru yr wybodaeth ymlaen drwy ebost i’r cynghorydd lleol aledwynjones@gwynedd.llyw.cymru

3/4/20

Diolch i bawb a ddaeth allan neithiwr i ddiolch i BAWB sydd yn gofalu amdanom

31/3/20

Oes gan rhywun darn o ford i ni gael rhywun i baentio arwydd daw eto haul i roid yn y pentref plis

29/3/20

Mae aelodau St Aelhaearn yn cyfarfod drwy gyfrwng Zoom yn ystod yr argyfwng. Dyma wasanaeth 29/3

Oherwydd yr amgylchiadau yn ddiweddar gyda Covid-19, ac pobl yn gorfod hynysu. Nid ydi hyn yn gyfnod hawdd i lawer o bobl, a felly mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn yn arwain Cynllun Cyfaill o fewn Llanaelhaearn a Threfor. Fydda i ar gael i ffonio bob dydd rhwng 9 y.b a
1 y.p a Ceri Pollard ar gael i ffonio rhwng 1 y.p a 4 y.p. Da ni wedi cael dipyn o bobl yn gwirfoddoli i fynd i nôl negas a presgripsiwn pobl y ddau bentref, ac fysan ni’n licio diolch yn fawr iawn i’r rheini sydd wedi bod mwy na bodlon i roi ei enwau i lawr, da ni’n ddiolchgar ofnadwy Hefyd byswn yn licio diolch i’r Cyngor Cymuned am ddod fyny gyda’r syniad gwych yma, ac am drefnu! Mae adeg fel hyn yn adeg i ni gyd ddod at ein gilydd. Cadwch yn saff bawb ac edrychwch ar ôl eich gilydd

29/3/20

Diolch i bawb sydd wedi bod yn mynd a’r pamffled o gwmpas y plwyf

NEGES BWYSIG

28/3/20

27/3/20

O bore fory fe fydd caeau chwarae y pentref ar gau i’r cyhoedd oherwydd Covid 19
Fe fydd y llwybrau yn agored

27/3/20

Mae rhywun wedi mynd a scrin nadu gwynt oddiar car Carwyn os oes rhywun yn gwybod rhywbeth neu efo cctv plis cysylltwc

25/3/20

Mae pamffled y Cyngor Cymuned yn egluro am yr hwb gwirfoddoli yn barod. Fe fyddwn yn chwilio am rai yn fodlon mynd a nhw drw drysau

25/3/20

PWYSIG I BAWB: Mae rhai o drigolion Trefor wedi gweld rhywun yn edrych i fewn trwy eu ffenestri ty yn hwyr yn nos. Ar adegau fel hyn mae pawb angen bod yn wyliadwrus.
Cadwch yn saff

24/3/20

❗❗PWYSIG /IMPORTANT❗❗ YPDÊT!

Mae’r Cyngor Cymuned wrthi yn galed yn sefydlu Cynllun Cyfaill ar gyfer trigolion bregus yn Llanaelhaearn a Trefor.
Cyn bo hir fydd cyfarwyddiadau yn dod i chi!

Yn y cyfamser oes modd i chi gysylltu dros y tudalen yma os ydych yn iach ac fodlon gwirfoddoli i helpu pobl ein cymuned

20/3/20

Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

**Neges Pwysig / Important Message **
(Llanaelhaearn + Trefor) Mae’r Cyngor Cymuned yn ceisio cynllunio system i helpu’r bobl sydd wedi hunan-ynysu a phobl dros 70 oed.
The Community Council are currently planning a system to help people who have self- isolated and people over 70 years old. Mi fyddwn angen gymaint o wirfoddolwyr a syn bosib! Gwyliwch allan am ragor o fanylion
We need volunteers to step forward!
We will keep you posted regarding any updates:

Am fwy o fanylion ynglyn a gwirfoddoli ewch wefan Mantell Gwynedd

For more details on how to volunteer visit Mantell Gwynedd’s website

https://www.mantellgwynedd.com/gwirfoddoli.html

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx…

Diolch! / Thank you! 😊👍

20/3/20 COVID-19

Neges gan y Cyngor Cymuned ynglyn a gwirfoddoli/helpu ar ei ffordd

NEGES PWYSIG
Dwi angen eich help! / I need your help!

Oes modd i drigolion Llanaelhaearn a Trefor i ddilyn y tudalen yma plîs?
Gallwch wneud hyn yn hawdd wrth ‘Chwilio’ am Cyngor Cymuned Llanaelhaearn a chliciwch ‘hoffi’.

17/3/20

Datganiad Bugeiliol Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru

Addoliad Cyhoeddus a Chynulliadau

Ni ddylai unrhyw wasanaethau eglwysig na chynulliadau addoli cyhoeddus ddigwydd mwyach. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau dydd Sul rheolaidd a gwasanaethau yn ystod yr wythnos, yn ogystal â gwasanaethau achlysurol (ac eithrio fel y nodir isod). Ni ddylid cynnal grwpiau astudio na digwyddiadau plwyfol eraill sy’n dod â phobl ynghyd mwyach. Rydym yn disgwyl gwybodaeth bellach gan y llywodraeth, a fydd yn ein helpu ni oll i fesur a myfyrio ar ddifrifoldeb ac ystod tebygol yr ymatal hwn. Fodd bynnag, o ystyried y wybodaeth sydd ar gael inni ar hyn o bryd, ymatal rhag addoli ar y cyd a chynulliadau eraill yw’r ffordd ddoeth o weithredu.

Bydd arweiniad pellach ar Gyfarfodydd Festri yn dilyn cyn gynted â phosibl, ond ni ddylent cael eu cynnal am y tro.

 Bedydd

Bedydd yw arwydd gobeithiol yr Eglwys o sêl genedigaeth newydd yng Nghrist. Mae’n hanfodol bod bedydd yn parhau i gael ei gynnig i bawb. O ystyried y canllawiau ar ymatal rhag addoli ar y cyd, ni fydd bedyddiadau bellach yn cael eu cynnal yng nghyd-destun addoli rheolaidd. Dylai bedyddiadau cael eu cynnal ym mhresenoldeb dim mwy na deg o bobl (y gweinidog, yr ymgeisydd a hyd at wyth arall gan gynnwys rhieni / gwarcheidwaid a rhieni bedydd).

Ar gyfer bedydd babanod mae’n well bod yr ymgeisydd yn cael ei ddal gan ei riant / gwarcheidwad yn hytrach na’r gweinidog. Os oes un ar gael, dylid defnyddio cragen fedydd i arllwys dŵr. Ni ddylid defnyddio bedydd trochiad.

Priodasau

Oni bai bod y llywodraeth yn newid y gyfraith, erys hawl cyfraith gwlad plwyfolion a’r rhai sydd â chysylltiad cymwys i briodi mewn eglwys blwyf. Fodd bynnag, mae rhyddid, yn gyfreithiol, i’r gweinidog benderfynu ar y dyddiad, yr amser a threfniadau eraill. Dylid gohirio priodasau a drefnwyd tan 31 Gorffennaf 2020 ac ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd eisoes. Dylai cyplau sydd â dyddiad priodas diweddarach fod yn rhydd i ganslo / aildrefnu heb gosb ariannol.

Os oes rhaid cynnal priodas am resymau bugeiliol dybryd, dylid ei gweinyddu gydag uchafswm o ddeg person yn bresennol (y cwpl, y gweinidog, dau dyst a hyd at bump arall).

Yn absenoldeb prif wasanaeth ar y Sul, ni ellir galw gostegion priodas. Byddai angen i unrhyw briodasau y mae’n rhaid iddynt cael eu cynnal (ac nad yw gostegion wedi’u cwblhau eisoes) ddigwydd trwy Drwydded Gyffredin.

Efallai y bydd rhai cyplau angen llythyr gan y plwyf (er enghraifft y rhai ag yswiriant priodas) yn eu hysbysu na all eu priodas ‘fel y’i threfnwyd’ ddigwydd ar yr adeg hon.

Angladdau

Mae ein canllawiau sy’n ymwneud ag ymatal rhag addoli ar y cyd yn berthnasol i angladdau yn yr eglwys.

Gall clerigion barhau i gymryd gwasanaeth angladd ar lan y bedd (yn unol â’u dyletswydd cyfraith gwlad i gladdu meirw eu plwyf) a mewn amlosgfeydd (gan gadw at ganllawiau awdurdod yr amlosgfa).

Unwaith y bydd y sefyllfa ehangach yn ei gwneud hi’n ddiogel i wneud hynny, dylid cynnig cyfleoedd i’r rhai sy’n galaru gofio eu hanwyliaid yn yr eglwys yn y dyfodol.

17/3/20 COVID-19

Sesiynnau ieuenctid wedi gohirio am rwan

Oherwydd COVID 19 mae Bingo yn y ganolfan wedi ei ohirio am rwan

Oherwydd pryderon am COVID-19 mae’r Noson Goffi yn y Ganolfan Trefor wedi ei ohirio am y tro

FIRWS CORONA COVID-19 15/3/20

Negas gan Pwyllgor Apel Eisteddfod 2021Apel Llanaelhaearn a Trefor
Holl gyfarfodydd a gweithgareddau y Pwyllgor Lleol wedi eu gohirio hyd nes gweld be fydd yn datblygu

Ysgol Llanaelhaearn yn dathlu Gwyl Dewi am y tro olaf. Da iawn blant ser bob un

28/2/20

Canolfan y Babell am 8:00yh


26/2/20

Oes gan rhywun hen luniau o ysgol Llan fe fydd arddangosfa yn ystod yr Haf i ddathlu hanes Ysgol Llanaelhaearn

20/2/20

Diwrnod trist iawn heddiw gyda’r newyddion fod ein hysgol yn cau. Mae’r llywodraethwyr/staff a’r rhieni wedi cwffio bob cam o’r ffordd i gadw’r ysgol yn agored

3/2/20


Newyddion trist Donald (Person) Roberts wedi ein gadael un o hogia Llan

Canolfan y Babell

20/2/2020 Diwrnod Hwyl i’r Planr

Cyfle i chware gema a crefftio

Y criw yn hel syniadau

Yn y Ganolfan 30/1/2020 am 8:00yh

Newyddion trist heddiw fod Mai Williams wedi ein gadael. Roedd Mai yn un o genod Llan,  meddwl am y teulu ol. Fe fydd yr angladd yn Sant Aelhaearn  dydd Sadwrn 25ed Ionawr am 1:00

Becws Glanrhyd

BECWS GLANRHYD LLANAELHAEARN angen person i baratoi archebion a’u dosbarthu. Oriau rhan amser – 3 diwrnod yr wythnos o 01:30 – 08:00. Trwydded yrru lân yn hanfodol. Cysylltwch â Eirwyn
01758 750214

 

Cyngor Cymuned


Lynda Cox cadeirydd Cyngor Cymuned Llanaelhaearn yn cyflwyno watch i Mary Jones y clarc ar ei ymddeoliad, ar ol 25 o flynyddoedd o wasanaeth










M

Y criw yn cyfarfod i hel syniadau