JOHN BAUM
1942 O Lanaelhaearn, Pen Llyn. Ganwyd yn Rugby, Sir Warwick.
1960-64 Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade, Brifysgol Llundain.
Gwobr lluniadu y flwyddyn gyntaf. Gwobr David Sylvester.
1965-89 Darlithiodd yng Ngholeg Gelf a Dylunio Rhanbarthol / Polytechnic, Lerpwl
.
1989-94 Pennaeth Adran Gelf a Dylunio, Coleg Menai, Bangor.
Yn byw ar Ynys Mon.
ARDDANGOSFEYDD a CHOMISIYNNAU
1964 Oriel I.C.A., Llundain. “The Young Contemporaries”.
1965 Oriel “Y Gegin”, Cricieth.
Y Ganolfan Gwyddeleg , Academi y Celfyddydau Lerpwl .
1966 Theatr “Everyman”, Lerpwl.
1967-76 Oriel y Walker, Lerpwl. Arddangosfa Flynyddig, Academi y Celfyddydau Lerpwl. 1969 Coleg Crist, Lerpwl.
1970 Oriel Theatr “Neptune”, Lerpwl. “Realist Painting”.
1971 Oriel Bluecoat, Lerpwl.
Cyngor y Celfyddydau Cymru. Arddangosfa “Now”(gwahoddiad).
1972 Cyngor y Celfyddydau Cymru. Arddangosfa “Every Picture Tells…”(gwahoddiad). Oriel Portal / Ibis, Llundain.
Oriel y Walker, Lerpwl. John Moores 8.
Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Hwlffordd. (Gwobr Gyntaf).
1973 Academi Frenhinol y Cambria, Conwy.
Oriel y Walker. Academi y Celfyddydau, Lerpwl. Arddangosfa “Communications”. 1974 Oriel Nicholas Treadwell, Llundain .
Oriel y Walker, Lerpwl. John Moores 9 .
Oriel Ibis , Llundain .
Grosvenor House Llundain , Arddangosfa Sponsors Diwydiannol .
1975 Canolfan y Celfyddydau , Sunderland . “Five Realist Painters” (gwahoddiad).
Gorllewin yr Almaen . Dusseldorf Arts Fair.
Biennale de Paris (Cyngor y Celfyddydau Cymru).
Oriel Dinas, Rochdale . “Reality, Fantasy and Illusion” (gwahoddiad). Amgueddfa Gasnewydd . “Four Liverpool Painters”.
1976 Oriel y Walker, Lerpwl. “The Face of Merseyside”.
1977 Oriel y Walker, Lerpwl. “Real Life”(gwahoddiad).
Cyngor y Celfyddydau Cymru, Dolgellau. “Artistiaid wrth eu Gwaith”(gwahoddiad). Oriel Allerton, Lerpwl.
Holiday Inn, Lerpwl. Arddangosfa Liverpool F.C.
1978 Kraft Sunrose, U.K. Comisiwn.
Rowntree Mackintosh, “Yorkie Bar”. Comisiwn.
J.Walter Thompson, “Rolex”. Comisiwn.
Colgate Ram Golf. Comisiwn.
1979 Warner Bros, (Lorimar), U.D.A. Comisiwn.
1980, 82 & 84 Royds, Manceinion. Comisiynnau.
1983 Automobile Association. Comisiwn.
1984 Prifysgol Lerpwl, Cronfa’r Senedd.
Polytechnic, Lerpwl. Portread Rector, Dr.D.G.Bulmer. Comisiwn.
1986 Richard Sloggett, BFCS Productions. Portread comisiwn.
1987 Prifysgol Lerpwl.
1994 Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Cyngor y Celfyddydau Cymru.
1998 & 1999 Oriel Ogilvy and Estill, Conwy.
2002 Oriel Bruton Street, Llundain.
2005 Oriel Mon, Llangefni.
Pat Naish, Cwm Pennant. Comisiwn.
2005-6 Academi Frenhinol Gymreig / Aelod / Arddangosfeydd.
GWAITH mewn rhai CRONFEYDD PREIFAT a CHYHOEDDUS
Yr Arglwydd Gowrie; Dr. Christian Thomasini, Paris; Oriel y Walker, Lerpwl; Cyngor y Celfyddydau Cymru; Amgueddfa Casnewydd; Prifysgol, Lerpwl.
CYLCHGRONNAU
1974 Arts Review gan Julian Lacey.
1976 The Sunday Times Magazine. “The New British Realists” gan Edward Lucie Smith. 1977 Y Faner; Michigan Arts Magazine, U.D.A.
1978 Y Genhinen ; 1987 Barn
Rhaglenni niferus ar y radio a theledu, yn enwedig ” Croma” a “Y Sioe Gelf” ar S4C.
Yn bresennol fe’i cynrhychiolir gan Oriel Bruton Street, Llundain.
JOHN BAUM
Datganiad / Cymhelliant
Yn y cyffredin ceir yr anghredadwy, yr anhygoel a’r syfrdanol. Mae harddwch yn y pobdydd, a ddaw yn dragwyddol unwaith y caiff ei gydnabod.
Mae’r ffigyrau yn y darluniau yn rhei adnabythus. Mae’r sefyllfa dros dro. Pan welaf y pobl, efallai ar y traeth, o fewn amser, yn hwyrach, fe aent gartref, unai ar ben eu hunain neu hefo’u gilydd. Ond yr eiliad ei gwelaf, ‘rydym i gyd yn ran o’r un lle a’r un digwyddiad. Felly, mae’r ffigyrau yn rhan hanfodol o’r lluniau, ac mae’r cydbwysedd rhwng y lluniau a’u gilydd, a rhwng y ffigyrau a’r amgylchfyd yn hanfodol. Ac er weithiau, i’r ffigyrau fod yn rhan o’r amgylchedd neu ddim, mae, yna berthynas rhwng y ffigyrau a’u gilydd a, neu hefo’r amgylchfyd.
Mae’r pynciau yn nodweddol oherwydd eu bod wedi eu dewis ac wedi eu gweld fel rhan o’r cyfansoddiad, sydd ei hun wedi ei drefnu a’i weithio arno am gryn amser. Er i’r lluniadu fod yn or-bwysig, hefyd y fframwaith iorweddol a fertigol, y llinellau a’r agweddau eang, y chwedl a’r elfennau haniaethol, y digwyddiadau a’r persbectif, y positif a’r negyddol, y golau a’r lliw.
Mesurir y lluniau, ond weithiau ceir damweiniau a gyfrannir at y cwbl, a chydnabod a rhoi harnais ar y damweiniau hyn sydd hefyd yn ran o’r gwaith. Nid ydynt yn symbolaidd. Nid ydynt chwaith yn lefydd lle y rhof fynegiant i fy emosiynnau – ond hytrach, lle y delir fy emosiynnau hyd y dont allan fel datganiadau wedi eu tymheru gan y gelf, sydd yn gofyn i’w barchu am fod iddo fodolaeth ei hun, yn hwn y mae emosiwn yn rhan.
Drwy hyn, daw y cyffredin yn fwy llym, ond dylai gonestrwydd ysbryd dynol ymddangos. Dymunaf i’m gwaith ddyrchafu ysbryd ddynol, ddifyrru, syfrdannu, hysbysu ac efallai greu digwyddiadau digri a doniol. Dylai’r lluniau anadlu, fel nad ydynt mewn unryw ffordd yn glostroffobig. Mae’r safbwynt felly yn or bwysig.
Credaf fod gennyf ddyletswydd i’r gwyliwr i roi fframwaith a ffurf i’r gwaith a ddywed mai dyma’r ffurf a’r ddonfed yr wyf arni. Ni ddymunaf amharchu dealldwriaeth y gwyliwr o’r lluniau – fe’i barchai, ond ni rof iddo/iddi yn anghenreidiol beth a ddisgwylir.
Mae yna wirioneddau sylfaenol i beth a welwn, ond gall natur gwirionedd fod yn gyffrous. Gobeithiaf fod yna ddal gwynt ar weld y cyfarwydd mewn mynegiad anferth, lliwgardd o’r cyffredin.
Awst 1999
“The Sunday Times Magazine, October 14, 1973” – Bu i’w lun o Gors y Geiliau a enilliodd y
wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1972