Gwasanaethau Garawys a Pasg 2012

Gwasanaethau i ddod yn Eglwys St Aelhaearn, Garawys a’r Pasg 2012

  • Dydd Mercher 14/3/12 Cymun Bendigaid am 10:00
  • Dydd Mercher 28/3/12 Cymun Bedigaid am 10:00
  • Dydd Gwener 30/3/12 Cymun y Pasg i Gartref Henoed Bryn Meddyg
  • Dydd Sul 1/4/12-Sul y Blodau Gwasanaeth Teuluol yn Gymraeg am 10:00
  • Dydd Gwener y Groglith 6/4/12 Gwasanaeth y Cyn Gymun am 10:00 yn Gymraeg
  • Prynhawb Gwener y Groglith-addurno’r eglwys gogyfer a’r Pasg
  • Dydd Sul y Pasg 7/4/12 Cymun Bendigaid Cymraeg am 10:00
  • Nos Sul y Pasg am 5:00 Cymun Bendigaid Saesneg

 

Cyrsiau i ddod yn y Neuadd

[google-map-v3 width=”600″ height=”400″ zoom=”17″ maptype=”SATELLITE” mapalign=”center” directionhint=”false” language=”default” addmarkermashupbubble=”false” addmarkermashupbubble=”false” addmarkerlist=”52.975554,-4.402787{}1-default.png” maptypecontrol=”true” pancontrol=”true” zoomcontrol=”true” scalecontrol=”true” streetviewcontrol=”true” scrollwheelcontrol=”false” bubbleautopan=”true” showbike=”false” showtraffic=”false” showpanoramio=”false”]

  • Sgiliau Cyfrifiadurol – Dechreuwyr, Defnyddio y we, Prosesu Geiriau, Taflenni, Diogelwch rhag feirws, Rheoli delweddau digidol, Rhwydweithio Cymdeithasol a mwy.
  • Paentio dyfrlliw i bawb
  • Crefft – Gwneud cardiau
  • Ffotograffiaeth
  • Modelu
  • Cynnal a chadw modur
  • Gitar i ddechreuwyr
  • Mandolin i ddechreuwyr

Cyrsiau gan Mr Dorling, Cae Wrach

Melin wynt: nodiadau o’r cyfarfod cyhoeddus

Cwestiynau a sylwadau yn y Cyfarfod cyhoeddus, Chwefror 17 2012

  • Pellter o dai a sŵn
  • Pa mor effeithlon ydyn nhw – erthygl diweddar yn y Daily Post yn dweud ‘dydyn nhw ddim?
  • Potensial ar gyfer paneli PV – defnyddio’r arian i roi rhai ar bob tŷ yn lle ei wario ar dyrbein gwynt
  • Effaith ar dwristiaeth
  • Perthynas efo Glasfryn – angen siarad efo nhw
  • Copi o’r briff ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb i fod ar gael i bawb
  • Cael safle we ar gyfer y prosiect ar gyfer newyddion, ac i bobl roi sylwadau a holi cwestiynau
  • ‘Subterranean vibrations’ – cryndod trwy’r ddaear hyd at 1/2 cilomedr i ffwrdd (yn gwneud i organau mewnol y corff grynu)
  • Potensial geothermal
  • Cyfle cael canolfan ddehongli Tre’r Ceiri a nodweddion eraill yr ardal
  • Ystyried cael tyrbein llai er mwyn cael llai o wrthwynebiad yn lleol
  • Pleidlais gymunedol rwan (gwrthodwyd o’r gadair oherwydd does dim digon o ffeithiau ar gael eto i fedru penderfynu)
  • Effaith ar werth eiddo
  • Sŵn cynyddol o’r ffordd fawr yn fwy o broblem na sŵn tyrbein
  • Angen cyfathrebu gwell am y cynllun
  • ‘Dydy’r tyrbein ddim yn wyrdd – yn cymryd mwy o ynni i’w wneud/adeiladu
  • Mi ddylai’r pwyllgor wedi bod yn 50/50 dros ac yn erbyn
  • Effaith coed ar dyrbeini
  • Pryder y bydd caniatau un tyrbein yn agor y drws i ragor
  • Pa ganran o’r incwm bydd ar gael i’r gymuned?
  • Pwy fydd piau’r tyrbein?

Dogfennau o diddordeb