Cwestiynau a sylwadau yn y Cyfarfod cyhoeddus, Chwefror 17 2012
- Pellter o dai a sŵn
- Pa mor effeithlon ydyn nhw – erthygl diweddar yn y Daily Post yn dweud ‘dydyn nhw ddim?
- Potensial ar gyfer paneli PV – defnyddio’r arian i roi rhai ar bob tŷ yn lle ei wario ar dyrbein gwynt
- Effaith ar dwristiaeth
- Perthynas efo Glasfryn – angen siarad efo nhw
- Copi o’r briff ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb i fod ar gael i bawb
- Cael safle we ar gyfer y prosiect ar gyfer newyddion, ac i bobl roi sylwadau a holi cwestiynau
- ‘Subterranean vibrations’ – cryndod trwy’r ddaear hyd at 1/2 cilomedr i ffwrdd (yn gwneud i organau mewnol y corff grynu)
- Potensial geothermal
- Cyfle cael canolfan ddehongli Tre’r Ceiri a nodweddion eraill yr ardal
- Ystyried cael tyrbein llai er mwyn cael llai o wrthwynebiad yn lleol
- Pleidlais gymunedol rwan (gwrthodwyd o’r gadair oherwydd does dim digon o ffeithiau ar gael eto i fedru penderfynu)
- Effaith ar werth eiddo
- Sŵn cynyddol o’r ffordd fawr yn fwy o broblem na sŵn tyrbein
- Angen cyfathrebu gwell am y cynllun
- ‘Dydy’r tyrbein ddim yn wyrdd – yn cymryd mwy o ynni i’w wneud/adeiladu
- Mi ddylai’r pwyllgor wedi bod yn 50/50 dros ac yn erbyn
- Effaith coed ar dyrbeini
- Pryder y bydd caniatau un tyrbein yn agor y drws i ragor
- Pa ganran o’r incwm bydd ar gael i’r gymuned?
- Pwy fydd piau’r tyrbein?
Dogfennau o diddordeb