Ti a Fi
Bydd y grwp yn cyfarfod bob dydd Iau am 1:00 y.p. yn y Ganolfan. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Caren ar 01758 750142.
Webb Ivory/Canolfan
Diolch i bawb am archebu nwyddau Nadolig y llynedd, fe wnaed elw o £200 tuag at costau rhedeg y ganolfan. Fe fydd llyfr Webb Ivory gyda nwyddau Nadolig eleni ar gael yn yr wythnosau nesaf.
Dosbarthiadau
Fe fydd dosbarth cyfrifadur/ffotograddiaeth digidol yn dechrau yn y ganolfan 9/9/08 rhwng 6:30 a 9:00.
Fe fydd dosbarth clustogwaith yn dechrau yn y ganolfan 22/9/08 rhwng 10:00 a 1:00.
Merched y Wawr
Mae'r tymor newydd ar ddechrau, am y mis yma yn unig mae'r gangen yn cyfarfod nos Fercher 10/9/08 yn y ganolfan am 7:00. Croeso i aelodau newydd.
Ysgol Llanaelhaearn
Ar Hydref 5 daeth yr amser i blant yr ysgol ffarwelio â Anti Gwenda (Mrs Gwenda Williams), a fu yn gofalu amdanynt ar amser cinio am ddeuddeg mlynedd. Canwyd cân wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr achlysur a chyflwynwyd iddi anrheg, cerdyn a thusw o flodau gan y tri disgybl hynaf sef Liam, Daniel a Jordan. Diolchodd cadeirydd y Llywodraethwyr, Mrs Beti Huws i Mrs Williams am ei gwasanaeth gofalus ar hyd y blynyddoedd a’i hymroddiad er lles y blant. Dymunwyd yn dda iddi hefyd ar ddathlu penblwydd arbennig ac ar ei hymddeoliad. Bu plant hynaf yr ysgol yn brysur yn gwneud lluniau i gydfynd â stori Rhys a Meinir er mwyn ei rhoi ar safle BBC ar y wê. Cafwyd hefyd brynhawn difyr yng nghwmni Michael Harvey y storiwr yn gwrando ac yn creu storiau. Un o uchafbwyntiau y mis oedd cydweithio ag Ysgol Abererch mewn gweithdy dawns yn Ysgol Glan y Môr yng nghwmni Maria Hayes a Paul Williams. Gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei arddangos maes o law yng Nghanolfan Hamdden Pwllheli. Ar ymweliad ag Amgueddfa Bangor mae’r plant hynaf wedi cydweithio gyda Karen Owen i greu cerdd ar y thema caethwasiaeth. Casglwyd £30 ar gyfer `Hadau i Affrica`. Mae’r ysgol wedi efeillio ag ysgol yng Nghenia. Cafodd y plant hynaf sgwrs ar ddefnyddio beiciau yn ddiogel ac edrych ar ôl eu beiciau. Bu Elin Daly yng nghyfarfod cyntaf Sgwad Sgwennu Gwynedd. Llongyfyrchiadau mawr iddi hi.
Merched y Wawr
Bu’r marched ar wibdaith yn ddiweddar i Felin Uchaf yn Llyn a cafwyd swper gwerth chweil yn Aberdaron I ddilyn. Diocl i Ifan am fod yn yrrwr bws mor hwyliog. Fe fydd y gangen yn dechrau cyfarfod ar y dydd Gwener cyntaf ym mis Medi am 7:00 yn y Ganolfan. Croeso i aelodau newydd.
Cronfa Mynwent St Aelhaearn
Cafwyd ymateb dda i’r apêl am roddion tuag at cynnal a chadw’r fynwent. Mae warden yr eglwys, Mrs Rose Williams wedi casglu £240 gan deulu a ffrindiau. Diolchir iddi am ei gwaith ac i’r rhai a gyfranodd. Gellir cyfrannu trwy law Mrs Edwina Hughes, 11 Sea View, Trefor neu Mrs Rose Williams, Maes Môr, Pwllheli. Mae llawer wedi son am y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i dacluso’r fynwent a diolchir i Andrew Atkin ac Arwel Jones am eu gwaith.
Chwarae Têg
Bydd bore o weithgareddau hwyliog yn y Ganolfan, Trefor ar ddydd Sadwrn, Mehefin 30 i bobl ifanc 11-18 oed yng gnhwmni Dafydd Iwan a Mei Mac. Byddant yn trafod `Pwy ydym ni?`. Yn y prynhawn, bydd taith gerdded i ben Tre Ceiri gydag Alun Williams, arweinydd mynydda. Bydd cyfle i fwynhau picnic Masnach Dêg yno hefyd. Enwau cyn gynteg ag sy’n bosib i Llinos, 01286 660118. Croese i bobl ifanc o Lanaelhaearn.
St Aelhaearn
Bellach mae’r manylion am y noson goffi wedi ei dosbarthu. Fe fydd hon ar nos Iau 14 o fehefin qm 6:30 yn y ganolfan. Gellir rhoi gwobrau at y Tombola i Lynda Cox neu Valerie Massey ac unrhyw cyfraniadau eraill yn nwyddau neu arian i Joan Jones.
Marwolaeth: Dylan Morus Roberts
Syfrdanwyd a brawychwyd pentref ac ardal Llanaelhaearn ddydd Llun , Fai 7 pan fu farw Dylan yn dawel ond yn hollol ddirybudd yn ei gartref yn lanc ifanc deunaw oed.
Mab annwyl i Ken a Gwenllian Roberts, 1 Cae Llyn, Llanaelhaearn oedd Dylan a brawd hoff i Glesni, Llinos a Carwyn, ac wyr i Mr a Mrs Griffiths, Mynydd Nefyn, a bydd bwlch enfawr ar ei ol ar yr aelwyd, lle yr oedd yn aelod o deulu clos a hapus. Trwy gydol ei oes fer, bu yn ddisgibyl yn ysgol gynradd y pentref ac yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac wedyn am ychydig nes i epilepsy ei wneud yn rhy annodd iddo ddal ati. Roedd yn gwrtais, cyfeillgar a phoblogaidd ac ni fu erioed yn creu helynt yn y pentref. Un o’i ddiddordebau pennaf, roedd chwarae pŵl, ac yn wir fe roedd Dylan yn aelod brwd o dim pŵl y Reifals, lle y dewiswyd i fod yn aelod gorau’r flwyddyn am eleni, a derbyniwyd cwpan arian am ei orchest. Roedd yn mwynhau pêldroed ac yn dilyn clwb peldroed Lerpwl. Mwynha yn fawr gwrando ar gerddoriaeth.
Ar ddydd Sadwrn 12 Mai gwelwyd eglwys hynafol St Aelhaearn yn orlawn o deulu,ffrindiau a chymdogion o Lanaelhaearn ar ardaleodd cyfagos wedi dod i dalu’r gymwynas olaf iddo. Yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth oedd y Canon Idris Thomos ac ewythr Dylan y Parch. Geraint Roberts ac fe fu i ewythr arall sef Mr Evie Roberts cymeryd rhan hefyd. Yr organyddes oedd Mrs Sianelen Pleming. Ar ddiwedd y gwasanaeth chwrewyd darn o gerddoriaeth fodern a oedd Dylan yn ei hoffi yn fawr. Darllenwyd llythyr byr a theimladwy dros ben i Dylan gan Glesni, Llinos a Carwyn, i ffarwelio a’u brawd – dros dro. Yn cludo’r elor o’r ty roedd cefnder a pump o’i ffrindiau Trystan, Robin, Huw, Martin, Gareth a Terry. Ac I’r fynwent, ewyrthod a chefndryd sef:- David Roberts, Richard Williams, Eurwyn Griffiths, Dewi Roberts, Berwyn a Gavin.
Trefnwyd yr angladd gam Mr I. M. Hughes Garej Ceiri. Estynwn ein cydymdeimlad dwysaf i Ken, Gwenllians, Glesni, Llions Carwyn, Nain a Taid Dylan a’r teulu oll yn eu profedigaeth a’u tristwch mawr o golli Dylan.
Marwolaeth: Mrs Nancy Jones
Dydd Sadwrn 29 fed Ebrill bu angladd y diweddar Mrs Nancy Jones, Crossing, Ffordd Abererch, Pwllheli yn eglwys St Aelhaearn. Fu farw Mrs Jones yn dawel ym Mryn Beryl ar 8 Ebrill yn 72. Merch oedd y diweddar Alun ac Annie Roberts, Bryn Iddon. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu’r gymwynas olaf iddi, arwydd yn wir ô’i phoblogrwydd nid yn unig ym Mhwllheli ond yn yr ardaloedd cyfagos hefyd.
Yn arwain y gwasanaeth roedd y Canon Idris Thomos gyda chymorth gan y Parch. John Gareth Parry, Penmaenmawr( Pwllheli gynt a ffrind teuluol. Yr organydd oedd Mrs Sianelen Pleming. Talwyd teyrnged i Nancy gan Canon Idris Thomos ac aelodau ô’r teulu yn gynwys ei gweddw sef Evan John. Cydymdeimlwyd gyda’r teulu oll yn ystod y gwasanaeth.
Diolchwyd i Mr a Mrs Emrys Williams am eu gwaith yn yr eglwys yn ystod y gwasanaeth. Fe’i rhoddwyd i orffwys yn y fynwent newydd. Yr ymgymerwr oedd Mr Ifan Hughes, Ceiri Garej, Llanaelhaearn.
Merched y Wawr
Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill o Ferched y Wawr nos Wener, 13 Ebrill yn y Ganolfan a mwynhawyd orig ddifyr ac addysgiadol yn gwylio Rose Williams a June Baglin yn gosod blodau. Llywyddwyd y cyfarfod gan Valerie Massey, a diolchodd î’r ddwy ar ran y gangen. Rhoddwyd y te gan Sally Evans a Gillian Barrett.
Capel y Babell
Cynhelir oedfa yng Nghanolfan y Babell ar Sul olaf y mis, sef 29 Ebrill am 2:00 ô’r gloch y prynhawn. Y pregethwr fydd Mr Evie Roberts. Croeso cynnes i bawb.
Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn 2007
Mae'r pentref unwaith eto eleni am geisio yn y gystadlaeath yma. Y flwyddyn diewthaf daeth Llanaelhaearn yn yr 8 cyntaf drwy gymru gyfan.
Croesfan
Mae’r pentref unwaith eto am geisio am groesfan, er mwyn i bawb groesi y A499 yn saf. Mae’r gwaith o adnewyddu y briffordd brysur yma eisioes wedi dechrau, ac mae llwer un yn poeni am gyflymdra trafnidiaeth wedi ei gorffen. Ers llawer dydd bellach mae cynydd wedi bod mewn y nifer y cerbydau yn ei defnyddio, yn enwdig rhwng y Pasg a’r Diolchgarwch. Os ydych am gefnogi ein ymgyrch yna ysgrifennwch at ein haelod lleol ar Gyngor Gwynedd. William Arthur Evans, Clegyr, Llanaelhaern, Caernarfon. Ychwanegwyd 10 Ebrill 2007
Adeiladu ar dir Bryn Hyfryd
Bellach mae’r gwaith o adeiladu pump ty forddiadwy ar dir Bryn Hyfryd wedi ei ddechrau. Da oedd clywed fod pedwar o’r tai wedi eu gwerthu. Mwy o plant i’r ysgol yw’r gobaith. Ychwanegwyd 28 Mawrth 2007
Merched y Wawr
Aeth y gangen i ymuno a changen Pencaenewydd yn Glasfryn i ddathlu Gwyl Dewi. Mwynhawyd pryd o fwyd a sgwrsio cyn mynd ati i chwarae bowlio deg, a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny.
Ffarwelio
Dymunwn bob hapusrwydd yn eu cartref newydd yn Edern i Rhys a Glenys Williams, Glasfryn ac Ellis a Noa, eu plant. Bydd chwith ar eu holau yn y Llan. Rhoddwn groeso hefyd i Mr a Mrs Griffith sydd wedi symud i mewn i Glasfryn erbyn hyn
Eisteddfod Aelhaearn
Gwnaed apel ym mhwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn am gefnogaeth arianol i’r eisteddfod, sydd yn ddibynnol ar roddion i’w chynnal. Gwnaed apel arbennig am addewid o Gadair (neu fodel o gadair) i’r eisteddfod sydd i’w chynnal Tachwedd 23 yng Nghanolfan y Babell.
Ysgol
Llongyfyrchiadau i Mrs Sianelen Pleming, staff a phlant yr ysgol ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Cylch Llyn. Mwynhawyd prynhawn difyr yng Nghanolfan y Babell ar ddydd Gwyl Dewi yn gwrando ar blant yr ysgol yn adrodd, canu a chwarae offerynnau yr oeddynt wedi bod yn eu dysgu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Cafwyd paned a chacennau blasushefyd wedi eu paratoi gan rieni y plant. Diolch i Mrs Sianelen Pleming a’r staff am eu holl waith called.
Llongyfyrchiadau
I Llinos Pritchard Llechdara Uchaf am ei llwyddiant hithau yn Eisteddfod Cylch yr Urdd, a’n dymuniadau gorau iddi yn ye Eisteddfod Sir. I Caren a Trystan Humphries, Cysgod y Bryn ar enedigaeth ei merch Cari yn ddiweddar
Cyfarchion
Anfonwn ein cofion at Mrs Pheobe Roberts, Bryn Neuadd a dymuno gwellhad buan iddi ar ol damwain yn ddiweddar. Hefyd at Mrs Winnie Hughes Glandwr , gobeithio y bydd yn ol adref wedi gwella yn fuan. Ac i Mrs Jean Jones Glanrhyd, gobeithio ei bod yn teimlo yn well ar ol spel yn yr ysbyty yn ddiweddar.