Hen Newyddion

2014

Plas Heli Academi Hwylio Cenedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau

National Sailing Academy and Event Centre

At sylw: Trigolion Pen Llŷn

18/9/14

Annwyl gyfeillion,

Ymgynghoriad Cyhoeddus: Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Plas Heli sy’n gyfrifol am Academi Hwylio Cenedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau newydd sbon Pwllheli. Cyn iddo agor yn 2015 rydym yn awyddus i gasglu barn trigolion Pen Llŷn am anghenion a darpariaeth y dyfodol sy’n cynnwys darparu cyfleoedd awyr agored ychwanegol a gwneud y defnydd cymunedol gorau o’r Ganolfan Ddigwyddiadau. Fe’ch gwahoddir felly i alw i fewn am sgwrs anffurfiol i un o dair sesiwn ‘Plas Heli’n Holi’ a gynhelir yn y lleoliadau canlynol ar ddydd Sadwrn 18fed Hydref 2014 sef:

  • Canolfan Hamdden Pwllheli rhwng 10am a 12pm,
  • Congl Meinciau, Botwnnog rhwng 1.30pm a 3.30pm ac
  • Y Ganolfan, Nefyn rhwng 4.30pm a 6.30pm. Yn ogystal mae cyfle hefyd i chi lenwi holiadur byr ar lein. Yr oll sydd angen ei wneud yw teipio’r cyfeiriad isod yn y golofn cyfeiriad ar y we er mwyn mynd yn syth i fewn i holiadur dwyieithog. https://www.surveymonkey.com/s/MFSPS8MY dyddiad olaf ar gyfer llenwi holiadur yw dydd Gwener 10fed Hydref 2014. Rwy’n mawr obeithio y manteisiwch ar y cyfle hwn i greu darpariaeth a digwyddiadau cymunedol sy’n adlewyrchu dymuniadau a diddordebau trigolion lleol. Bydd yn adnodd newydd gwerth chweil, gadewch i ni felly wneud y defnyddiau gorau posibl ohono o ran gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau cymunedol, treftadaeth ac amgylchedd byw a chyrchfan i ymwelwyr lleol ac eangach.Gan ddiolch yn fawr i chi ymlaen llaw am bob cymorth.Yn gywir,Dylan Bryn Roberts
  • Dylan Bryn Roberts Cyfarwyddwr Gweithredol/ Executive Director Gweriniaith: Gwasanaethau Cynllunio Ieithyddol a Chymunedol/ Welsh Language & Community Planning Services Ffôn: 07989 393 445

Rhai o Luniau o Dathlu’r Deugain gan Antur Aelhaearn IMG_0040 IMG_0044 IMG_0057 IMG_0047 ****************************************************************************** Gwersi Clustogwaith yn dechrau yn y ganolfan 29/9/14 am 9:30 tiwtor Jean Knowles ********************************************************************** Llongyfarchiadau i Nia Evans Clegyr gynt a Mike Downey ar eu priodas ddoe, pob dymuniad da am y dyfodol *********************************************************************** Ar 17fed Awst bedyddwyd Isla Gwen Atkin merch fach Beverly Atkin a Gary Owens. Y rhieni bedydd oedd Chris Holt, Dafydd Atkin a Fallon Williams. Bedyddwyd Isla gyda dwr o ffynnon Aelhaearn gan y ficer y Parch Lloyd Jones. Yr organyddes oedd Sianelen Pleming. ************************************************************************** Cylch Ti a Fi Llanaelhaearn Helo bawb!gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliaur ‘ha!Ti a Fi yn ail ddechra Dydd Iau y 4ydd o Fedi am 2-3.15. Croeso cynnes i bawb ************************************************************************ Trist clywed am farwolaeth un o hen genod y Llan, E lizabeth Rogers neu Beti Cox fel y roedd pawb yn ei hadnabod. Bu’r angladd yma yn St Aelhaearn a death teulu a ffrindiau ynghyd i dalu’r cymwnas olaf. Rhoddwyd beti o orffwys yn y fynwent. Yn cynnal y gwasanaeth roedd y Canon Peter James, yr organyddes oedd Lisbeth James. Trefnwyd yr angladd gan Ifan Hughes, Garej Ceiri. *********************************************************************** Er cof am y rhai o’r gymuned yma a gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Lt Col Thomas Richard Evans DSO RW Fus Pte Thomas Roberts Welsh Guards Pte Richard Evans RW Fus Pte Thomas Bowen Hughes RW Fus Pte Edward John Turner RW Fus Pte Thomas Ellis Jones RW Fus Gosodwyd torch o liliau gwynion er cof gan bwyllgor y Gofeb I goffau 100 ers dechrau y Rhyfel Byd Cyntaf. **********************************************************************

ANTUR AELHAEARN Dathlu’r DeugainArddangosfa Hanes yr Antur 1/9/14-5/9/14 Agored 6:00 – 8:00 Canolfan y BabellNos Iau 4/9/14 Agoriad Swyddogol 7:30 Canolfan y Babell Darlith gan Shan Ashton, Prifysgol Bangor Agorir gan y Tad Thomas Anerchiad gan y Meddyg Carl Clowes Dydd Sadwrn 6/9/14 Prynhawn Hwyl i’r Plant Cae Chwarae 2:00 – 5:00 Dydd Sul 7/9/14 – 7:30 Cyngerdd y Dathlu Eglwys St Aelhaearn Mynediad £3 Meinir Gwilym, Seimon Menai ac Ann Hafod Ticedi ar gael Garej Ceiri a Lynda Cox

****************************************************************************** Sioc i bawb i glywed am y drychineb pnawn heddiw. Newyddion trist iawn am farwolaeth Eifion Morgan, meddwl am y teulu oll yn yr adeg trist iawn yma ******************************************************************************* Fe fydd siop elusen gan yr eglwys ym Mhwllheli yr ail wythnos yn Awst. Rydym fel arfer yn derbyn bric a brac/dillad mewn cyflwr da/llyfrau ayb. Cysylltwch a Rose, Lis neu Lynda ****************************************************************************** Trist i glywed y newyddion fod Josie Nixon wedi marw ar ol gwaeledd reit hir, Cydymdeimladau dwys i Christine a’r teulu oll ****************************************************************************** Dymuniadau da i Twm, Jac, Lucy, Jake a Wil sydd yn gadel ein hysgol heddiw ac yn symud ymlaen i addysg uwchradd ac hefyd i David a Chloe sydd yn ymfudo i Sbaen i fyw gyda’i rhieni, Shaun a Lavinia gobeithio y byddwch yn hapus yn eich cartref newydd ******************************************************************************** Fe fydd y Ffynnon yn cael ei blygu yn y ganolfan nos Iau am 6 dowch yn llu i helpu ******************************************************************************** Braf gweld cymaint o bobl wedi troi allan i gefnogi ein hysgol. Diolch i bawb am eu gwaith called. Yr Eifl oedd y ty buddigol yn y mabolgampau a llongyfarchiadau i Eban am enill y fedal am gasglu y mwyaf o bwyntiau yn ystod y rasus. ******************************************************************************** Byddwn yn cynnal noson i ddathlu llwyddiant y Rali ac i ddiolch i bawb a fu o gymorth yn y paratoi ac ar ddiwrnod y Rali ar y 4ydd o Orffennaf yn sied Bryn Bychan. Cyngerdd am 6.30pm a gemau a barbeciw i ddilyn. £6 i oedolion a £2 i blant, elw yn mynd tuag at yr Ambiwlans Awyr a Festri Capel Pencae…soniwch wrth bawb a dewch yn llu!!! ******************************************************************************* Llongyfarchiadau i Ifan Bronmiod a Gemma sy’n priodi heddiw. joiwch eich diwrnod. ******************************************************************************* Dydd Sul 29/6/14 Gwasanaeth i’r plwyf cyfan yn eglwys Llandwrog am 10:00 felly dim gwasanaeth yma yn St Aelhaearn ******************************************************************************* Newyddion trist heddiw wrth glywed am farwolaeth Emyr Parri Tegfan gynt. Bob cydymdeilad a Gwenno ****************************************************************************** Pob lwc i Alan a Kelsey sy’n priodi heddiw mwynhewch eich diwrnod ****************************************************************************** Llongyfarchiadau i Aga a James Tegfan ar eu priodas ******************************************************************************* Bu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn treulio diwrnod yn ysgol Glan y Mor i gael rhagflas o’r tymor i ddod ******************************************************************************* Llongyfarchiadau i CFFI Clwb Ffermwyr Ifanc Llangybi ar rali lwyddiaus yn Bryn Bychan a HWRE mawr am ennill y rali hefyd. Da iawn i chi gyd Einir Williams Bethan Mair Hughes ******************************************************************************* Pawb yn anfon dymuniadau da i Teresa yn dilyn y tan yn ei chartref. ******************************************************************************** Penblwydd Hapus i Tom Hughes ar ddathlu ei benblwydd yn 95, mae yn un o drigolion hynaf y pentref ********************************************************************************* Cydymdeimlwn a Noel, Gareth, Delyth, Anwen a’r teulu oll, Gydrhos ar golli Glenys. Bu’r angladd yn eglwys St Aelhaearn. ********************************************************************************** Gwobr Llongyfarchiadau i Dr. Carl Clowes am enill gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (Alumni) Prifysgol Manceinion 2014 . Yn y gwobru ym Manceinion bu Emrys a Rose Williams ac Edward Cox i gynrychioli Antur Aelhaearn. 1456784_743692432327971_5724944132793331453_n[1] Emrys Williams, Carl Clowes, Dierdre chwaer Carl Rose Williams a Dorothi Clowes. 1231200_743881442309070_7473903791058304232_n[1] Carl Clowes gyda rhai o aelodau senedd Antur Aelhaearn Trystan Humphreys, Llyr ap Rhisiart, Carl Clowes, Lynda Cox, Emrys Williams *********************************************************************************** Priodas Llongyfarchiadau i Alwena a Gareth, 2, Llain Fain ar eu priodas yn ddiweddar. *********************************************************************************** Cae Chwarae Ym mis Ebrill bu bore coffi i godi arian tuag at costau rhedeg y cae. Gwnaed elw o £210 a diolch i bawb am eu cefnogaeth. Mae’r llwybr newydd drwy waelod y cae wedi ei orffen, cafwyd grant gan Gyngor Gwynedd i dalu am y gwaith. ************************************************************************************* Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol am fis Ebrill oedd Rhys Williams a Sianelen Pleming. ************************************************************************************ Merched y Wawr Bu’r gangen leol yn gwledda yng nghaffi Taro Deg, Pwllheli yn ddiweddar i ddod a’r tymor i ben. Y swyddogion am y flwyddyn fydd Llywydd: Lynda Cox, Ysgrifennydd: Lilian Hughes, Trysorydd: Gillian Barett. Mae’r tim bowlio deg yn mynd i Landudno ar 13ydd mMehefin i gynrychioli’r rhanbarth. Pob lwc i chi ferched. ********************************************************************************* Baw Ci Llawer yn y pentref yn cwyno am y baw ci sydd DDIM yn cael ei godi o gwmpas y pentref.Plis neith y person sy’n cyfrifol ei godi a’i roi yn y bin. Diolch ******************************************************************************** Ffarwelio Pob dymuniad da i Maggi, Nunez Jordan a Kion yn eu cartref newydd yn Wrecsam. ******************************************************************************** Canolfan y Babell Balch iawn o gadarnhau fod tystysgrif a siec am £145.83 wedi ein cyrraedd heddiw gan Daily Post Wish. Diolch yn fawr iawn i pawb unwaith eto am ein cefnogi 2013 Antur Aelhaearn 20/12/13 Canolfan y Babell Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i drafod y cyfrifon am 6:30 gyda’r Cyfarfod Blynyddol i ddilyn am 7:30 Yn agored i aelodau o Antur Aelhaearn ************************************************************************* Jamie Mae’r sedd yma er cof am Jamie Capon wedi ei gosod yn y cae chwarae gan Lesley Roberts, mam Jamie a rhai o’i ffrindiau. Diolch i Ray Jones am y llun. **************************************************************************************************** Sul y Cofio Fe fydd y gwasanaeth wrth y gofeb am 10:00 dydd Sul 10/11/13 ac nid am 10:45. ***************************************************************************************************** nel 001 ***************************************************************************************************** Babi Newydd LLongyfarchiadau i Dafydd a Hefina Parry, 3 Cae Llyn ar ddod yn daid a nain am y tro cyntaf. A llongyfarchiadau mawr hefyd i Caren a Christopher ar enedigaeth eu merch fach, Leila. ***************************************************************************************************** Priodas Yn ddiweddar bu priodas Glesni, merch Ken a Gwenllian Roberts, 1, Cae Llyn. Y priodfab oedd Byron Wright a bu’r gwasaaneth priodas o dan y ddear yn Ogofau Chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog gyda’r wledd briodas yn Nant Gwrtheyrn. Bydd Mr a Mrs Wright yn ymgartrefu yn Burton, Derby. *************************************************************************************************** Camp Gillian Ar fore Sul ddechrau Hydref fe fu Gillian Barrett, Tyddyn Drain yn abseilio i lawr Twr Marcwis Ynys Mon er mwyn codi arian at Ty Gobaith yng Ngymru. Da iawn Gill. *************************************************************************************************** Penblwydd Mae Alwen Davies, Bryn Meddyg wedi dathlu penblwydd arbennig yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr iddi. *************************************************************************************************** Merched y Wawr Ar 2 Hydref dechreuwyd ar y tymor newydd gyda noson i wledda a chymdeithasu. Mae’r merched yn cyfarfod yng nghanolfan y Babell ar y nos Fercher cyntaf yn y mis ac fe fydd croeso cynnes i aelodau newydd. ***************************************************************************************************** Ti a Fi Mae’r grwp yn cyfarfod yng nghanolfan y Babell ar fore Iau rhwng 10:00 a 11:30 fe fydd croeso cynnes i aelodau newydd. Am fwy o fanylion cysylltwch a Fallon Cwm. ***************************************************************************************************** Canolfan y Babell Mae Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn(Canolfan y Babell) wedi bod yn ffodus iawn ac wedi cael ei dewis i dderbyn rhodd ariannol gan y Daily post. Mae angen casglu tocynnau “Wish Daily Post 2013” a fydd yn cael eu hargraffu yn y papur rhwng 8fed Hydref a 7 fed Rhagfyr. Mae bocs ar gael yn y ganolfan neu Garej Ceiri i chi i bostio eich tocynnau ******************************************************************************************************* Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol mis Medi oedd Ken Roberts, Alwen Davies, Dafydd Parry ac Euros Hughes. *********************************************************************************************************. Gwasanaeth Diolchgarwch Fe fydd Ysgol Llanaelhaearn yn cynnal eu Gwasanaeth Diolchgarwch yn St Aelhaearn am 2:00 dydd Gwener 25/10/13. Croeso cynnes i bawb ymuno yn y dathlu. dosbarth 001 gordon Mae Gordon yn brysur hel arian at yr achosion daa uchod. Pob lwc iddo ar ei daith Jamie Capon Newyddion trist a ddaeth i’r pentref o glywed am farwolaeth sydyn Jamie ag yntau dim on yn 16 oed. Daeth tyrfa fawr ynghyd i amlosgfa Bangor ar achlysur ei angladd. Bu rhai o’i ffrindiau ar ben Mynydd Ceiri yr wythnos diwethaf yn gosod ei lwch. Cydymdeimlwn yn fawr a’i deulu. Dathlu Penblwydd Llongyfarchiadau i Gwilym Jones neu Gwilyn Glanrhyd fel yr adnabyddir ef, ar ddathlu ei benblwydd yn 90 yn ddiweddar. Dathlu Penblwydd Llongyfarchiadau i Graham Massey ar ddathlu penblwydd arbennig yn ddiweddar. ******************************************************************************************************** Merched y Wawr Daeth y tymor i ben gyda trip i Blas Glyn y Weddw, Ar ol cinio blasus bu’r marched yn edrych ar y gwaith arlunio o amgylch y plas. Yn fodus cafwyd diwrnod bendigedig o haul poeth a braf oedd cael eistedd y tu allan i edrych ar y mor. Diolch i Lilian am drefnnu ******************************************************************************************************** Cyfarfod Cenhadol Bu’r cyfarfod yn y Babell nos Fawrth 11fed Fehefin. Y llywydd oedd Mrs Enid Roberts, Pwllheli a cafwyd anerchiad diddorol gan Mrs Glenys Jones, Penlan ar y Weinidogaeth Iachau. Yr oedd yno hefyd fwrdd gwerthu tuag at waith y genhadaeth. Diolchodd Mrs Margaret Jones, Abererch i swyddogion y Babell a’r marched am y lluniaeth a’r croeso. ****************************************************************************************************** Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol am fis Mai oedd: Mrs Janice Allen, Mr a Mrs Daley ac Einir Ellis. ****************************************************************************************************** Y Ffynnon Fe fydd trigolion y pentref yn plygu Y Ffynnon am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. Dowch yn llu i Ganolfan y Babell erbyn 6 o’r gloch ar nos Iau 18fed Gorffennaf. ****************************************************************************************************** Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol am Mawrth ac Ebrill oedd: Dylan Jones, Beti Hughes a Sydna Ellis y tri o Lanaelhaearn, Rhys Williams, Edern a David Jones Pwllheli. Os ydych am brynnu pel yna cysylltwch a Lilian Garej Ceiri. **************************************************************************************************** Merched y Wawr Bu’r merched yn crafu eu pennau wrth gymeryd rhan mewn cwis a baratowyd gan Gillan, un o’r aelodau. Diolchwyd iddi gan Anwen. Daw’r tymor i ben ddiwedd mis Mehefin pryd y bydd yr aelodau yn mynd am drip i Blas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Bydd y tymor newydd yn cychwyn ar 2ail o Hydref. Bydd croeso cynnes i aelodau newydd a chyn aelodau *************************************************************************************************** Penblwydd Llongyfarchiadau i Mrs Mai Williams sr ddathlu ei phenblwydd yn 80 yn ddiweddar *************************************************************************************************** Sant Aelhaearn Dydd Sul 5ed o Fai am 10:00 CYmun Bendigaid yn gwasanaethu Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John ac hefyd yn y gwasanaeth Saesneg am 5:00 ************************************************************************************************** Cydymdeimlad Bu farw Mrs Margaret Griffith, Uwchlaw’r Ffynnon yn ddiweddar yng nghartref preswyl Gwynfa, Bontnewydd, yn 81 oed. Anfonwn ein cydymdeimlad at Gwyn, Ken, Nerys a’r teulu oll. **************************************************************************************************** Merched y Wawr I gyfarfod mis Mawrth daeth Dawn Thomas o Fantell Gwynedd i son am y cynllun Ffrindiau. Os oes ganddoch ddiddordeb ymuno mae gan Lilian Garej Ceiri ffurflenni neu mae mwy o wybodaeth ar gael gan Mantell Gwynedd. ***************************************************************************************************** Cae Chwarae Cynhelir cyfarfod yn y ganolfan nos Fercher 24ydd Ebrill i drafod y cae chwarae. Dowch yn llu. ************************************************************************************************* Cylch Ti a Fi Wel, gobeithio fod pawb wedi cael pasg hapus a heb fwyta gormod o wya pasg yn de. Yn anffodus bydd raid i ni ganslo Ti a Fi am wythnos yma, felly ail ddechrau yn ol pnawn Iau 18 Ebrill am 1.15 o’r gloch. Diolch. ************************************************************************************************************************************* Merched y Wawr Yn ystod y tymor yma roedd y gangen leol yn dathlu ei phenblwydd yn ddeugain oed a croesawyd i’r cyfarfod rhai o’r cyn-aelodau, ynghyd a thair o swyddogion y mudiad, sef Mrs Christine Jones, llywydd y rhanbarth, Mrs Ffreda Williams, y swyddog datblygu a Mrs Meryl Davies, yr is-lywydd cenedlaethol. Croesawyd pawb i’r dathliad gan Mrs Lynda Cox, llywydd y gangen. Roedd gwledd o lobsgows a phwdin wedi ei baratoi gan yr aelodau a torrwyd y gacen penblwydd gan Mrs Sali Evans yr unig un sy’n aelod ers y dechrau. Cafwyd adloninat hwyliog a graenus gan Glwb Ffermwyr Ieuanc Llangybi, ac roedd pawb wedi ei fwynhau yn fawr, diolchwyd iddynt gan Mrs Valerie Massey. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 10fed Ebrill pan disgwylir Mrs Dawn Thomas o Mantell Gwynedd i son am Cynllun Ffrindiau. Croeso cynnes i unrhyw un i Ganolfan y Babell am saith o’r gloch. ************************************************************************************************* Llongyfarchiadau I Elin Daly, Coach House ar ennill Tlws yr Ifanc yn eisteddfod Chwilog ************************************************************************************************* Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol ym mis Chweror oedd: Gwen Thomas, Trefor, Trystan Humphreys, Llanaelhaearn, Mrs Tula Davies, Nefyn a Mrs Beti Hughes, Llanaelhaearn. ************************************************************************************************* B I N G O 28/3/13 am 8:00 Canolfan y Babell ***************************************************************************************************** Tai ar Osod Fflat 2 Hen Ysgol, Trefor I’w gosod gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd Fflat llawr cyntaf 1 llofft X 2 berson.Gwresogir gan storage heaters, lle parcio y tu allan neu mewn maes parcio gerllaw. Warden ar y safle yn ddyddiol, ystafell gymunedol ac ystafell golchi ar gael. Rhent yn £75.17 yr wythnos. Dim yn addas ar gyfer person anabl neu rhywun sy’n cael trafferth i fynd i fyny ac i lawr grisiau. Cysylltwch a Susan Ellis Roberts Swyddog Tai Cymdeithas Tai Eryri Ty Silyn Y Sgwar Penygroes LL54 6LY 01286 889256 ************************************************************************************************* Ty ar osod yn Llanaelhaearm Ty 2 lofft os oes gennych ddiddordeb ffoniwch 01286 882056 ************************************************************************************************* Mae Bingo’r Pasg wedi ei ohirio tan 9fed Fai oherwydd gwrthdaro efo Bingo Cae Chwarae Edern. Felly Bingo Gwanwyn amdani. Yr amser ac yn yr un lle. ************************************************************************************************* Bingo Pasg 28/3/13 Yn y ganolfan Drysau’n agor am 7:00 Mynediad 50c Elw at y Ganolfan ************************************************************************************************* Bank Bwyd Pwllheli Mae banc bwyd wedi ei sefydlu ym Mhwllheli, dilynwch y linc isod am fwy o fanylion. Fe fydd bocs yn y caffi yn fuan er mwyn i bobl gyfrannu. http://stpeterspwllheli.com/foodbank/ Mewn Ysbyty Dymunir gwellhad buan i Gareth Roberts sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar ac hefid i Josie Nixon sydd yn dal yn Ysbyty Bryn Beryl. ******************************************************************************** Merched y Wawr Daeth Mrs Beti Jones, Pontllyfni i’r cyfarfod cyntaf ar 9fed Ionawr i arddangos a son am ei gwiath gwnio. Mae beti yn enwog drwy’r ardal am ei gwaith gwnio cywrain. Fe’i croesawyd a diolchwyd iddi gan y llywydd, Lynda Cox. Merched y te oedd Gillian Barrett a Lilian Hughes. Enillwyd y raffl gan Annwen Jones. Y mis nesaf daw Iwan Hughes, Llanbedrog i son am Blas Glyn y Weddw. Ym mis Mawrth bydd y gangen y dathlu ei phenblwydd yn 40 ***************************************************************************** Newyddion pwysig wedi ei dderbyn heddiw. Mae Esgob Andrew yn falch i gyhoeddi bod y Parchedig Lloyd Jones wedi’i apwyntio i fod yn Ficer Ardal Gweinidogaethu Beuno Sant Uwch Gwyrfai (sef yr ardal o gwmpas Clynnog, Llanaelhaearn, Penygroes a Llanwnda / Llandwrog). Bydd Lloyd yn gorffen yn y Felinheli a’r cylch ar Sul y Pasg cyn iddo fo a’i deulu symud i fyw yng Nghlynnog. Bydd Lloyd yn cymryd cyfnod sabothol cyn iddo gael ei drwyddedi ar nos Iau 11 Gorffennaf, am 7yh yn Eglwys Beuno Sant, Clynnog. ********************************************************************************* Gwasanaeth Noswyl y Nadolig

Bu parti canu yr eglwys yn canu carolau tra roedd y gyneulleidfa yn ymgynyll. Yr organyddes oedd Sianelen Pleming, yn cymeryd rhan oedd Mike Atkin, Bethan Jones Parry, Lynda Cox, Christine Jenkins. Yn cynorthwyo gyda’r cymun roedd Emrys Williams a’r casglwyr oedd Ceri Williams a James Evans. Trefnwyd seremoni goleuo canwyllau’r adfent gan Mrs Rose Williams. Yn gofalu am y cwbwl ac yn cymeryd y gwasanaeth roedd y Canon Peter James
Merch
Llongyfarchiadau i Gareth a Bethan, Gydros ar enedigaeth eu merch fach Catrin. Chwaer i Iolo.

Pel Fonws Enillwyr mis Rhagfyr oedd:- Carys Humphreys, Lilian Hughes, Carys Roberts, Paul a Beti Hughes. Gwasanaeth Bu gwasanaeth Nadolig Capel y Babell yn y ganolfan ar brynhawn Sul 23ydd Rhagfyr. Yn cymeryd rhan oedd:- Marth Nel, owi, Cadi, Llyr, Twm, Elin ac Einir. Cyn troi am adref cafodd bawb baned a mins pei. Cristingyl Bu’r gwasaneth hyfryd yma yn yr eglwys fore Sul 23ydd Rhagfyr. Roedd y cyfan wedi ei drefnnu gan y Canon Peter James. Yn goleuo canwyllau’r Adfent oedd:- Marth Nel a Iago Hedd, Cari a Llyr Humphreys, Alys ac Enlli Atkin, Monti a Leila Parry Ellis. Y darllenwyr oedd Lisbeth James a Megan Jenkins. Canwyd carol gan Llinos Pritchard. Y casglwyr oedd Ifan Pritchard ac Ellis Williams , a’r organyddes oedd Sianelen Pleming. Fe roedd aelodau o ysgol Sul Llithfaen yn bresennol. Diolchwyd i’r merched am baratoi y cristinglau. Aelwyd Gwrtheyrn Yn anffodus oherwydd gwaeledd bu’n rhaid gohirio gwasanaeth Nadolig y gangen a oedd i fod ar nos Fercher 19fed o Ragfyr yn yr eglwys. Gwasanaeth Bu gwasanaeth Nadolig yr ysgol yn yr eglwys, nos Sul 16ed o Ragfyr. Daeth cyneulleidfa dda ynghyd i wylio’r plant, ac roedd pawb wedi mwynhau y cyfan yn fawr. Rhaid diolch i’r athrawon, cymorthyddion ac wrth sgwrs y plant am eu holl waith. Dychwel Adref Da gweld Gethin Price wedi dod adref o’r ysbyty ac yn gwella bob dydd. Pel Fonws Enillwyr mis Tachwedd oedd Alan Davies, Ken Allen, Sydna Ellis a Janice Allen. Y pedwar o Lanaelhaearn. Pen Blwydd Bu Ken Roberts, 1 Cae Llyn yn dathlu penblwydd arbennig ar ddechrau’r mis. Llwyddiant Llongyfarchiadau i Llinos Pritchard, Llechdara uchaf ar ennill cwpan Evelyn ac Arwyn yn eisteddfod Ysgol Dyffryn Nantlle. Dyfarnwyd hi yn y disgybl mwyaf addawol yn yr eisteddfod. Fe fydd Llinos yn dathlu ei phenblwydd yn 18 yn ystod Gwyl Nadolig. Dyddiad Lwcus Enillydd y twrci oedd Ms Fallon Williams, Fferm Cwm, Clynnogfawr. Gwnaed elw o £150 i’r ganolfan, fe fydd rhan o’r arian yn mynd tuag at “docking Station”/chwarewr CD. Diolch i Einir Ellis am drefnnu Cyfle i ennill twrci Prynwch ddyddiad o’r dyddiadur lwcus am £1 am gyfle i ennill twrci. Fe fydd yn cael ei dynnu yn y Bingo Nadolig ar 29/11/12 Bingo Nadolig Yn y Ganolfan 29/11/12 Drysau’n agor am 7:00 gem i ddechrau am 8:00 Elw at y Ganolfan Ffair Nadolig Yn y Ganolfan 27/11/12 Elw at yr ysgol Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn Yn y Ganolfan 24/11/12 Sesiwn prynhawn i ddechrau am 1:00 Sesiwn yr hwyr i ddechrau am 6:00 Damwain

Yn y dyddiau nesaf fe fydd Joanne yn dod o amgylch y pentref yn casglu arian i helpu Wyn a Cheryl Price gyda costau teithio ayb yn dilyn damwain Gethin os oes rhywun am gyfrannu fe fedrwch hefyd ei adael yn garej Ceiri. Mae’r cyfan yn cael ei drefnnu gan Shoned Owen, Y Ffor
Dwi’n siwr fod pawb yma yn y Llan y anfon eu dymuniadau da i Gethin ac yn dymuno gwellhad buan iddo heb anghofio am ei rieni Wyn a Cheryl. Mae Gethin yr ysbyty yn Stoke.

Diolchgarwch Llongyfarchiadau i blant yr ysgol am wasanaeth Diolchgarwch mor raenus, roedd bawb wedi mwynhau yn fawr. Diolch hefyd i’r athrawon a’r cynorthwywyr am eu gwaith caled yn poaratoi y cyfan. Cwmni Drama’r Llan Fe fydd y cyfarfod nesaf ar nos Sul 11fed Tachwedd yn y Ganolfan am 7:30. Mae drama wedi ei dewis ac wrthi yn cael ei chyfiaethu. Sul y Cofio Fe fydd y gwasanaeth o flaen y Gofeb am 10:45 dydd Sul 11fed Tachwedd. Croeso i bawb. Pel Fonws Enillwyr pel fonws yr ysgol mis Medi oedd: Bethan Pritchard a Ken Roberts, Llanaelhaearn a Gwen Thomas, Trefor. Merched y Wawr Mae’r gangen yn dathlu ei phenblwydd yn 40 y tymor yma. Bwriedir mynd allan i wledda ar 5ed Rhagfyr ac mae croeso i cyn aelodau ymuno yn y wledd. Cysylltwch a Lilian Garej Ceiri am fwy o fanylion. Yng nghyfarfod cyntaf y tymor croesawyd dwy aelod newydd, fe fydd y cyfarfod nesaf ar 7fed Tachwedd yn y Ganolfan am 7:00 pryd y bydd Mrs Beti Jones, Pontllyfni yn arddangos ei gwaith llaw. Parti Calan Gaeaf

PARTI NOSON CALAN GAEAF / HALLOWEEN PARTY YN GANOLFAN Y BABELL NOS LUN 29 HYDREF 6 TAN 7.30 O’R GLOCH. Ticedi £2.50 y plentyn yn cynwys cwn poeth a dsigo. Bydd Dewi Wyn yn tynnu llunniau hefyd. Ticedi ar werth wrth giat yr ysgol am 3:00.

Cwmni Drama Llan Fe fydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 24ydd Hydref am 7:00 yn y ganolfan. Croeso cynnes i aelodau newydd, mae angen help y to ol i’r llwyfan hefyd. Am fyw o wybodaeth cysyltwch a Gwenan Griffiths 01758750651 Bryn Meddyg Bu’r Canon Peter James yng nghartref Bryn Meddyg yn ddiweddar yn dosbarthu’r cymun. Yn cymeryd rhan oedd Lisbeth James a Sarah Roberts. Drama

‎7.30pm Dydd Llun 15/10/2012 bydd cyfarfod yn y Ganolfan i weld a oes diddordeb mewn cychwyn cwmni/gwyl ddrama Gymraeg yn y pentra. Falch iawn o gael eich cwmni. Edrych am rai i fod ar y llwyfan ac tu ol i’r llenni. Dowch yn llu.

Diolchgarwch Bu gwasanaeth Cymraeg y Diolchgarwch yn eglwys Sant Aelhaearn fore Sul 7fed Hydref am 10:30. Yn dilyn y digwyddiad trist ym Machynlleth nid oedd Esgob Bangor yn gallu a bod yn bresennol. Anfonodd Esgob Andy ei ymddiheuriadau ac mae’n gobeithio dod yma atom yn fuan. Yn gwasanaethu roedd y Canon Peter James. Yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth oedd, Gareth Owen, Christine Jenkins a Kathryn Ellis. Canodd Martha Nell unawd. Yr organyddes oedd Sianelen Pleming. Yn helpu gyda’r Cymun roedd Emrys Williams. Y casglwyr oedd Gwilym Ellis a Keri Williams. Diolchodd Canon James i ferched yr eglwys am eu gwaith yn addurno yr eglwys gogyfer a’r Diolchgarwch. Bydd yr holl gynyrch yn cael eu dosbarthu i Gartref Bryn Meddyg, Tan y Marian, Canolfan y Gwistyl ac Ysgol Hafod Lon. Bu gwasanaeth Saesneg y Diolchgarwch ar nos Sul y 7fed Hydref yn eglwys Sant Aelhaearn am 5:30. Yn gwasanaethu roedd yr Hybarch Paul Davies, Archddeacon Bangor, gyda’r Canon Peter James yn cynorthwyo. Yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth roedd James Evans a Mike Atkin gyda VIncent Mears yn canu unawd. Yr organyddes oedd Sianelen Pleming a’r casglwr oedd Daphne Parker. Plwyf Newydd Ar 1af o Hydref fe ddaw y plwyf eglwysig newydd i rym sef Plwyf Beuno Sant Uwch Gwyrfai fe fydd Sant Aelhaearn yn un o 4 o eglwysi yn y grwp gyda eglwys Sant Beuno fel y fam eglwys a hwb y plwyf Antur Aelhaearn Bu cyfarfod blynyddol yr Antur yng nghanolfan y Babell ar nos Fercher 26ed o Fedi. Yn bresennol roedd Llyr ap Rhisiart(cadeirydd), Lynda Cox(Ysgrifennydd) a John Pritchard(Trysorydd dros dro) ynghyd a 32 o aelodau. Traddodwyd yr adroddiad blynyddol gan y cadeirydd. Bydd cyfarfod arbennig yn cael ei drefnnu ymhen rhyw chwech wythnos i dderbyn y cyfrifon gan nad oeddynt wedi cyrraedd gan y cyfrifydd. Yn dilyn argymhelliad y Senedd i’r cyfarfod pleidleisiodd y mwyafrif i weithredu Rheol 14 a diarddel dau aelod o Aelodaeth Antur Aelhaearn. Dyma’r tro cyntaf yn hanes yr Antur i’r rheol yma ddod i rym. Pleidleiswyd i gymeradwyo dau gymal yn newid tipyn ar rheolau 28 a 42. Ail etholwyd y senedd presennol fel ag y mae. Diolchwyd i’r senedd o’r llawr am eu gwaith yn ystod y flwyddyn a aeth heibio gan gofio fod y gwaith i gyd yn wirfoddol. Tros Llanaelhaearn. Priodasau LLongyfarchiadau i Carys a Gwynfor ac Enir a Williams ar eu priodasau yn ddiweddar Marwolaeth Trist iawn cofnodi marwolaeth Mrs Nel Jones 6, Erw Sant neu Anti Nel fel bydda pobl yn ei galw. Roedd Nel yn hynod boblogaidd yn yr ardal a daeth cyneulleidfa gref i eglwys St Aelhaearn brynhawn Llun 10fed o Fedi i dalu’r gymwynas olaf iddi. Yn gwasanaethu roedd y Canon Idris Thomas ac wrth yr organ Mrs Sianelen Pleming. Yn trefnu’r cwbwl oedd Mr H Jones, Pontllyfni. Fe fydd colled ar ol Nel yn y pentref a chydymdeilir a’r teulu oll. Eisteddfod 2012 Eisteddfod Aelhaearn. Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn eleni yng Nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn, Prynhawn a Nos Sadwrn Tachwedd 24ain 2012. Rhoddir y Gadair yn rhodd i’r Eisteddfod gan Deulu Isallt, Llanaelhaearn, er cof am eu Rhieni Morfudd a Bobi Jones. Cenir Can y Gadeiriol gan Mr Dafydd Roberts, Tan yr Hafod, Llithfaen, a chennir y Corn Gwlad gan Rhys Evans, Y Ffôr a Gruffydd Davies, Chwilog. Y Beirniaid eleni yw Cerdd a Cherdd Dant – Mr Geraint Roberts, Prestatyn; Llefaru – Mrs Angharad Llwyd, Bethesda; Llenyddiaeth – Miss Karen Owen, Penygroes a Celf a Chrefft ac Arlunio – Mrs Gwenda Williams, Llithfaen. Y Cyfeilydd yw H. Alan Roberts, Borth y Gest, Porthmadog. Rhoddir 4 Tlws fel a ganlyn : Tlws Y Plant yn rhoddiedig gan Deulu Penllechog, Llanaelhaearn i’r Plentyn mwyaf addawol yng nghyfarof y prynhawn Tlws yr Ifanc yn rhoddedig gan W.A a Sally Evans, Y Ffôr i’r perfformiwr mwyaf addawol dan 25 oed. Tlws Llen yr Ifanc yn rhoddedig gan Mrs Gwyneth Jones, Mr Ioan Jones a Mrs Tanwen Lloyd, Caernarfon i’r Llenor neu’r Bardd mwyaf addawol dan 25 oed. Tlws Coffa Elfyn (i’w dal am flwyddyn) yn rhoddedig gan Gweno a Emyr Parry, Caernarfon i’r Offerynnwr mwyaf addawol yr Eisteddfod. Mae 2 Gwpan wedi eu derbyn gan Mrs Rose Williams, Pwllheli i’w dal am flwyddyn yn yr Adrannau Arlunio, Gwaith Llaw, Gwau, Gwnio a Chrosio. Bydd un gwpan yn Adran y Plant a’r Gwpan arall yn Adran yr Oedolion. Diolchir hefyd i’r rhai ohonch sydd wedi cyfrannu rhoddion a chwpannau yn yr Adrannau Canu, Llefaru a Cherdd Dant. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r Trefnydd, Mary C. Jones, Merbwll Penlon Trefor (01286 660768). Cyfarfod Blynyddol Antur Aelhaearn Nos Fercher 26/9/12 am 7:00 Canolfan y Babell Agored i Aelodau Antur Aelhaearn Cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg LLawdriniaeth Dwi’n siwr fod ffrindiau Mrs Beti Hughes, Llechdara yn dymuno gwellhad buan iddi ar ol cael penglin newydd. Gobeithiwn ei gweld yn llamu o gwmpas y Llan fel oen bach cyn bo hir. Sesiwn Galw Mewn Dydd Mawrth 17/7 yn y Ganolfan cyfle i fynegi eich barn am gynllun arfaethedig Capel y Babell. Cewch ddychwelyd eich holiaduron. Rhwng 3:00 a 8:00. Arddangosfa Dydd Sadwrn 21/7 am 2:30 agorir yr arddangosfa Achub Ysgol y Llan gan Carl Clowes yn y Ganolfan, bydd yr arddangosfa yn agored tan 4:30 ac yna bob gyda’r nos Llun -Gwener 6:00 tan 8:00 am weddill yr wythnos. Mynediad am ddim ond fe fydd blwch rhoddion wrth y drws. Cylch Ti a Fi Ar 3ydd Fai aeth y rhieni a’r plant ar daith gerdded i godi arian tuag at gronfa’r cylch. Cerddwyd tua tair milltir a codwyd dros £100. Diolch i bawb am noddi. Cae Chwarae Cafodd y Pwyllgor gyfraniad hael o arian tuag at dalu costau yswiriant am y cae gan ddau gwmni lleol yn ddiweddar. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i David a Maggie (Bryn Llan) K2 Synergie, Pwllheli ac i Shaun a Lavinia(Tan y Ceiri) Cwmni Bwyd o’r Mor Llyn am eu cyfraniad. Pel Fonws yr Ysgol Enillwyr mis Ebrill oedd- Carys Roberts, Nefyn, Margaret Roberts, Pwllheli, Ceiri Thomas, Llanaelhaearn a David James Halliday, Pwllheli Llongyfarchiadau Da iawn i Cadi Ellis, Moelfre Bach ar ei llwyddiant yn rownd cyn-derfynol COGURDD. Bu i Cadi gael profiad gwych sef coginio yng Ngholeg Llandrillo gyda Dudley. “Race at your Place” Ar yr 19fed Mai bu llawer o’r pentrefwyr yn cymeryd rhan yn y ras yma sydd yn rhan o “Race for Life”, ond mae’r ras yma yn cael ei gwneud yn lleol. Da iawn chi i gyd am fentro. Llythyr holiadur i drigolion Llanaelhaearn-am adeilad Capel y Babell CRYFDER AR Y CYD Hanes Mentrau Cydweithredol yr Eifl Tafarn y Fic, Siop Pen y Groes, Llithfaen, Canolfan Nant Gwrtheyrn, Antur Aelhaearn a Garej Clynnog. Pris £5 Copiau ar werth gan Llen Llyn (gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru)

Te i Ddathlu Eisteddfod yr Urdd 2012 Eryri a’r Cylch
Pnawn iau 31 Mai yn Ganolfan Y Babell am 3.30 tan 4.30 o’r gloch bydd Pwyllgor Apel yr urdd yn cynnal Te Bach i’r plant i ddathlu bod yr Eisteddfod wedi cyrraedd. £2.50 ydi tocyn a byddant ar gael yng ngiat yr ysgol o heddiw ymlaen. Os oes rhywun eisiau cyfranu unrhywbeth at y bwyd yna byddwn yn ddiolchgar dros ben. Diolch yn fawr.

Cydymdeimlad Cydymdeimlwn yn fawr gyda Tony a Julie 12, Maes Glas ar golli mab bychan yn ddiweddar. Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru Casglwyd £258.11 er cof am Mrs Mair Jones, Gerallt tuag at cronfa Ambilwans Awyr Gogledd Cymru. Dathlu Y flwyddyn yma mae 40 o flynyddoedd ers i bentref Llanaelhaearn ennill y frwydyr i gadw’r ysgol ar agor. Fe fydd dathliadau yn ystod mis Gorffennaf. Neges gan Gwynfor Jones I rhieni plant Ysgol Llanaelhaearn 7 oed neu yn hyn rydwi yn ail dechrau y pel-droed ar pnawn dydd mercher 16/5/12/ am 3-30 dibynnu ar y tywydd de. Paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri a’r Cylch 2012 Da iawn hogiau wedi gwneud job dda! “Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol 7.30, Nos Fercher, 6ed Mehefin – Neuadd Goffa Pen-y-Groes Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Pengwern Cymunedol, Saith Seren, Dyffryn Nantlle 20/20, Antur Stiniog, Antur Ogwen Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ar y pwnc: ” Cryfder ar y Cyd” sy`n olrhain hanes pump o fentrau cydweithredol ym Mro`r Eifl. Gwasanaeth Fe fydd gwasanaeth gan Gapel y Babell yn y ganolfan 13/5/12 am 2:00. Croeso cynnes i bawb Etholiad Canlyniadau etholiad 3/5/12 Richard Japheth Annibynnol 32 Llywarch Bowen Jones Llais Gwynedd 353 Morgan Jones-Parry Annibynnol 238 Osian Williams Plaid Cymru 85

Cofiwch ein bod yn gwneud ein taith gerdded flynyddol i godi arian i’r cylch yfory dydd Iau 3ydd o Fai (os fydd y tywydd yn caniatau). Pawb i gyfarfod yn y cae chwarae am 10 o’r gloch.

Hyfforddiant Sesiynau Hyfforddiant Cylchol yn y Ganolfan pob nos Fawrth rhwng 8 a 9 o’r gloch gyda Hyfforddwr newydd, Dafydd Myrddin Hughes. Dewch am sesiwn ymarfer corff egniol a hwyliog!

Eisteddfod yr Urdd Bu cyfarfod neithiwr 30/4/12 i drafod gosod fflagiau/baneri i groesawu’r eisteddfod i’r ardal. Am fwy o fanylion cysylltwch a Nia neu Einir Garij. A499 Mae’r gwaith o ailwynebu’r ffordd a’r gwaith ar y croesfannau i ddechrau ar y 14ydd o Fai Adre’n Ol Da clywed for Elan Moelfre Fawr ar ei ffordd gartref ar ol llaw driniaeth yn ysbyty Alder Hey, Lerpwl. Marwolaeth Trist iawn ydyw nodi marwolaeth Mrs Mair Jones, Gerallt bu hi farw ddydd Sadwrn yn ysbyty Bryn Beryl ac mae’r angladd am 12:00 yn yr Eglwys ddydd Gwener 27fed Ebrill ac wedyn lluniaeth ysgafn yn y ganolfan. Roedd Mair yn enedigol o’r pentref ac yn un o deulu’r felin. Babi Newydd Llongyfarchiadau i deulu 3 Rhes Ceiri ar enedigaeth eu mab bychan, brawb bach i Ffion. Triathlon Pwllheli Yn ddiweddar bu rhai o’r pentref yn cymeryd rhan yn Nhriathlon Pwllheli, sef Shaun Mitchell, Tan y Ceiri a thim o Garej Ceiri sef Ifan(Beicio), Einir(rhedeg) a Louise(nofio). Llongyfarchiadau mawr iddynt. Llongyfarchiadau Mae Cadi Ellis,Moelfre Bach wedi pasio ei arholid gradd 2 am chware’r ffliiwt. Da iawn chdi Cadi. Cylch Ti a Fi Bellach mae Cylch Ti a Fi wedi ail ddechrau, buont yn brysur cyn y Pasg gyda gwahanol weithgareddau ac wedi bod am dro i weld wyn bach a ceffylau, cawsant parti gyda cacen Pasg arbennig. Ar ol gwyliau’r Sulgwyn fe fydd Gwenda o Chwarae a Iaith yn dod i gynnal gweithgareddau gyda’r plant a’u rhieni. Merched y Wawr Dymunir yn dda i dair o aelodau’r gangen leol o Ferched y Wawr a fydd yn derbyn llawdriniaeth yn ystod mis Ebrill, sef Ann, Annwen a Beti. Hefyd dymunwn wellhad buan i Ann Roberts sydd wedi derbyn triniaeth ar ei llaw ac i Sali Evans. Enillwyr Pel Fonws mis Mawrth oedd Cledwyn Thomas, Trefor, Einir Ellis, Llanaelhaearn Rhys Williams Siop Edern(ddwywaith) Mannau Croesi Newydd Fe roeddd y syrfewyr yma ddoe ac fe fydd y gwaith yn dechrau ar ol i’r gwaith o ail wynebu’r ffordd gael ei wneud. Mae’r Cyngor yn disgwyl i glywed gan Dwr Cymru a BT cyn dechrau ar y gwaith. Cylch Ti a Fi Llanaelhaearn Bydd y Cylch yn ail ddechrau fore Iau nesaf (19 Ebrill) am 9.30 o’r gloch. CROESO mawr i aelodau newydd ymuno gyda ni. Ar fore Iau 3 Mai byddwn yn cynnal taith gerdded i godi arian i gronfa y Cylch – os yr hoffech ein noddi yna gallwch ddod i Garej Ceiri i wneud hynny, rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am bob nodd – fel y gwyddoch mae’n costio arian i redeg bob dim, felly rydym yn gwneud y gorau gallwn i godi ychydig o arian yn flynyddol i gadw y cylch i fynd ETHOLIADAU CYNGOR SIR 3 MAI Mae pedwar ymgeisydd. Richard Japheth Annibynnol Llywarch Bowen Jones Llais Gwynedd Morgan Jones-Parry Annibynnol Osian Williams Plaid Cymru Mae tymor Merched y Wawr wedi dod i ben, fe fydd y grwp yn cychwyn ar dymor y Gaeaf ynm mis Hydref. Dymunir yn dda i Mrs Ann Shevlock a Miss Anwen Jones sydd yn mynd i’r ysbyty am law driniaeth, ac i Mrs Beti Hughes sydd yn disgwyl am benglin newydd. Mae Mrs Mair Jones, Gerallt yn ysbyty Bryn Beryl ac rydym yn anfon ein dymuniadau gorau iddi. Croesfan

Daeth newyddion da i ran yn pentref yn ddiweddar gyda’r newydd fod Cyngor Gwynedd am osod tair man croesi. Fel yr ydych yn gwybod fe fu ymgyrch yma ers tair blynedd bellach am groesfan. Ac yn mis Rhagfyr y llynedd fe fu protest pryd y caewyd yr A499. Rhaid diolch i’r Cynghorydd Gareth Roberts, Aberdaron am gael y maen i’r wal ac hefyd i Aled Davies pennaeth yr adran yn y Cyngor. Ac yn olaf da iawn i gymuned Llanaelhaearn am dynnu gyda’n gilydd.Heddiw cawsom fwy o wybodaeth am y cynllun mannau croesi, mae’r Cyngor wedi penderfynnu gosod un yn nes at gartref henoed Bryn Meddyg hefyd. Newyddion da yn wir.Canlyniadau Gwaith llaw Eisteddfod yr Urdd (Llyn)Lluniadu 2d Blwyddyn 6 – 1af – Christopher EvansGwaith Grwp Creadigol 2d Blwyddyn 2 ac iau – 2ail – Caleb, Nathan, Medi, Tomos Huw, Lois, Gwion, Mari a CariSesiynau Pump FXSesiynau Pump FX am cael eu cynnal yn y Ganolfan bob yn ail nos Iau gan gychwyn ar 19/04/2012 o 8.15yp tan 9.15yp. Cost y sesiwn fydd £4.00. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau cysylltwch â Caroline Moncrieff ar 07980538811Llongyfarchiadau i John a Gwenan, Isallt ar enedigaeth ei merch fach Ela Morfudd

Ysgol Llanaelhaearn Mae’r ysgol yn cymeryd rhan yn ymgyrch Bwyd Cydweithredol. Am £3 cewch archebu bag o lysiau/ffrwythau neu salad. Rhaid i’r archeb a’r arian fod yn llaw’r ysgol erbyn bore Iau ac yna y cyfan i’w casglu rhwng 3:00 a 3:30 ar ddydd Gwener. Mae benthyg y bagiau i’w cael am ddim. Felly dowch yn llu i gefnogi’r disgyblion. Y newydd da yr wythnos yma ydyw gweld y maes parcio wedi ei orffen, bu disgwyl mawr amdano a braf fydd gweld yr holl geir yn gallu parcio a’r plant yn medru croesi i’r ysgol yn saff. Ffitrwydd Os oes rhai o’r pobl ifanc yn eu harddegau gyda diddordeb mewn cael sesiynnau ffitrwydd o dan arweiniad Caroline Moncrieff, yna cysylltwch a Ms Hefina Evans 01758750661 a fydd yn gasglu enwa