Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

Mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn yn cynwys dwy ward, sef Trefor a Llanaelhaearn. Mae deuddeg o gynghorwyr yn cael eu hethol bob pedair blynedd. Pedwar cynghorydd yn cynrychioli Ward Llanaelhaearn ac wyth cynghorydd yn cynrychioli Ward Trefor. Caiff yr aelod lleol ar Gyngor Gwynedd fynychu’r cyfarfodydd yn rhinwedd ei swydd,( os na fydd yn aelod etholedig o’r Cyngor Cymuned) ond ni fydd ganddo bleidlais. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd i wrando yn unig ar y trafodaethau. Cynhelir y Cyngor ar y Llun cyntaf ym mhob mis, ag eithrio mis Awst, yng nghanolfan Trefor ar mis wedyn yng nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn. Bydd cadeirydd newydd yn cael ei ethol bob blwyddyn.

Cod Ymddygiad

RHEOLAU SEFYDLOG CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN.

Mabwysiadwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 12fed Gorffennaf 2010.

1. Fod y Cyngor yn cyfarfod yn fisol, oddigerth i fis Awst, a bod dyddiad y cyfarfod i ddisgyn ar y Nos Lun gyntaf yn y mis; dechreuir am hanner awr wedi saith yn brydlon ac ni ddylai’r cyfarfod barhau’n hwyrach na dwy awr

2. Mae’r cyfarfodydd yn gyhoeddus, yn agored i’r trigolion a’r wasg, ond cedwir yr hawl i’w droi’n gyfarfod cudd ar fater arbennig.

3. Fod y Cwrdd Plwyf neu’r Cyfarfod Blynyddol i’w gynnal yn ystod mis Mai neu Fehefin.

4. Etholir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd am y flwyddyn yn y Cwrdd Plwyf gan yr aelodau.  Ni ddisgwylir i unrhyw Gyngorydd fod yn y Gadair am gyfnod o fwy na dwy flynedd, onibai      nad oes unrhyw aelod arall yn fodlon bod yn Gadeirydd.

5. Rhaid cael pump (5)  yn cynnwys y  Cadeirydd yn bresennol,  sef cworwm, cyn y gellir gweithredu gyfarfod  o’r Cyngor.

6. Gwenyddir yn yr iaith Gymraeg – bydd y trafodaethau, cynigion, llythyrau, cofnodion a’r pwyllgorau i gyd yng Nghymraeg. Pan fo un o drigolion Saesnig y plwyf yn bresennol, ar wahoddiad y Cyngor, i drafod unrhyw fater yna cynhelir y drafodaeth yn Saesneg ond troi’r i’r Gymraeg pan yn trafod y mater tu mewn i’r Cyngor.  Yn yr un modd ysgrifennir yn Saesneg lle bo’r angen.

7. Ni chaniateir i unrhyw aelod o’r Cyngor, os oes ganddo ddiddordeb ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw gontract, contract fwriedig neu fater arall, fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor, gymeryd rhan yn y drafodaeth na’r pleidleisio a rhaid iddo ddatgan ei ddiddordeb. Cofnodir hyn.

8. Bydd gweithgareddau o unrhyw bwyllgor neu ddirpwyaeth o’r Cyngor i’w hystyried yn gyfrinachol, hyd nes y cyflwynir y materion yn swyddogol i’r Cyngor.

9. Rhaid i bob cwyn a gyflwynir i’r Cyngor fod yn ysgrifennedig, ac wedi ei arwyddo gan y cwynydd.  Os y codir cwyn gan un o’r aelodau yn llafar mewn cyfarfod,  yna cofnodir enw y Cynghorydd.

10. Ni dderbynir unrhyw berson i drafod cais cynllunio ar noson cyfarfod neu bwyllgor o’r Cyngor, ond mae hawl i unrhyw berson fod yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

11. Fod bob cais am gymorth ariannol i gynnwys mantolen y flwyddyn o’r gymdeithas neu’r corff sy’n gwneud y cais

12. Bydd rheolau trafodaeth yn seiliedig ar y rheolau cyffelyb gan Gymdeithas y Cynghorau Lleol ar drafodaeth.  Gwelir rhain yn y llyfr melyn, tudalen 16 – 17.

13. Dangosir pleidlais trwy godi llaw, neu a ballot, os y dymunir hyn gan fwyafrif y Cyngor.   Ni fydd hawl gan y Cadeirydd i bleidleisio oddigerth i ddefnyddio ei bleidlais gadeiryddol (casting vote) mewn achos lle mae’r pleidleisio’n gyfartal, os y dymuna.

14. Rhaid ufuddhau i awdurd y cadeirydd ar drefn a rheolaeth pob cyfarfod yn unol a llyfryn melyn Cymdeithas y Cynghorau lleol, tudalen2.

15. Ni ddylai’r cadeirydd adael i fater sydd wedi  ei benderfynnu gael ei ail-adrodd  yr un cyfarfod

16. Ni cheir ail-godi mater sydd wedi ei benderfynnu, na cheisio diddymu penderfyniad blaenorol am gyfnod o chwe mis.  Nid yw hyn yn cyfeirio at adroddiad neu argymhelliad pwyllgor.

17. Rhybudd o Gynigiad.  Bydd yn ofynnol rhoddi rhybudd o gynigiad naill a’i  yn y cyfarfod blaenorol, neu mewn ysgrifen i’r clerc o leiaf ddeg diwrnod cyn dyddiad cyfarfod, fel ag y bydd  yn ymddangos ar raglen y cyfarfod nesaf

18. Bydd aelod o’r Cyngor a fydd yn colli chwech cyfarfod o’r Cyngor yn olynol, (heb reswm digonol e.e. Salwch), yn colli ei  sedd o dan Ddeddf Llywodraeth leol 1972 Rhan 85 (Para 1).

Gorffenaf 2017

Ein cynrychiolydd ar Gyngor Gwyned

Cynghorydd Aled Wyn Jones – Plaid Cymru

Llwyni’r Wyn, Trefor, Caernarfon LL54 5LB

Cynghorydd.AledWynJones@gwynedd.llyw.cymru-01286 660662/07778164157

Cwyn

Mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn wedi derbyn cwynion fod plant yn reidio beics tros y beddau ym mynwent y cyngor. Os oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth am hyn cysylltwch a Chlerc y Cyngor Cymuned neu unrhyw Aelod o`r Cyngor Cymuned. Mae y Cyngor Cymuned wedi cysylltu a`r Heddlu ynglyn a`r mater.

 

   

 

Clarc y Cyngor Mary C Jones yn ei gwisg, wedi ei hurddo am ei gwaith yn y gymuned.

Cadeirydd

Cynghorydd Trystan Humphreys

Is-Gadeirydd

Cynghorydd Meirwen CUllen

Clarc

Miss Mary C Jones, Merbwll, Penlon, Trefor, Caernarfon.

01286 660768

Aelodau

Ward Llanaelhaearn

  • Lynda M Cox             Annibynnol

8 Maes Glas, Llanaelhaearn, Caernarfon. LL54 5AR

lynda.cox@llanaelhaearn.com– 01758 750474/07787953887

  • Trystan Humphreys

Cysgod y Bryn, Llanaelhaearn. Caernarfon. LL54 5AG

trystanhumph@gmail.com – 01758 750142/07881901180

 

  • Llyr ap Rhisiart

Moelfre Mawr, Llanaelhaearn Caernarfon LL54 5BE

moelfremawr@gmail.com-01758 750546/07920700292

 

  • John Pritchard

Llechdara Uchaf, Llanaelhaearn, Caernarfon. LL54 5BH

jop.consulting@btinternet.com-01758 750157/07801901211

 

Ward Trefor

  • Meirwen Cullen

Hengwm, Trefor, Caernarfon. LL54 5LW

01286 660219/07880961367

 

  • Gwyneth Jones

14, New Street, Trefor, Caernarfon. LL54 5HE

 

  • Iwan Taylor

Llwyn Aethnen, Trefor, Caernarfon LL54 5LE

iwanwtaylor@gmail.com-01286 660943/07747505438

 

  • Sioned Owen- Braniff

34, Eifl Road, Trefor, Caernarfon. LL54 5LW

sionedann@hotmail.co.uk-07772321992

 

  • Aled Wyn Jones

Llwyni’r Wyn, Trefor, Caernarfon. LL54 5LB

aledwynjones@gwynedd.llyw.cymru-01286 660662/07778164157

 

  • Llion Jones

9, Maes Gwydir, Trefor, Caernarfon. LL54 5LA

llionmeilir@hotmail.co.uk

07584036443

  • Jina Gwyrfai

Hyfrydle, Trefor, Caernarfon.LL54 5HN.

jinageraint@gmail.com

01286 660546/

  • Helen Pritchard

Gerllan, Trefor, Caernarfon. LL54 5HN

helenpritch@btinternet.com

07713584371

Maes Parcio newydd ar gyfer Mynwent y Cyngor yn Llanaelhaearn,  Haf 2017

 

 

*********************************************************************

Cadeirydd

Cynghorydd Meirwen Cullen

Clarc

Miss M. C. Jones
Merbwll, Penlon, Trefor, Caernarfon.
01286 660768

Mae Cyngor Cymuned Llanaelhaearn yn cynwys dwy ward, sef Trefor a Llanaelhaearn. Mae deuddeg o gynghorwyr yn cael eu hethol bob pedair blynedd. Caiff yr aelod lleol ar Gyngor Gwynedd fynychu’r cyfarfodydd yn rhinwedd ei swydd ond ni fydd ganddo bleidlais. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd i wrando yn unig ar y trafodaethau. Cynhelir y Cyngor ar y Llun cyntaf ym mhob mis, ag eithrio mis Awst, yng nghanolfan Trefor ar mis wedyn yng nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn. Bydd cadeirydd newydd yn cael ei ethol bob blwyddyn.

Aelodau

Ward Llanaelhaearn

  • Lynda M. Cox
  • William O Ellis
  • Llyr ap Rhisiart
  • Richard Japheth

Ward Trefor

  • R. Trefor Davies
  • Meirwen Cullen
  • Gwyneth Jones
  • Beti E Hughes
  • Merfyn Williams
  • Mari W Evans
  • Sioned A Owen
  • Osian Williams

 

 

OFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YN Y GANOLFAN, TREFOR

NOS LUN, Gorffennaf 9fed 2012 am 7.30 y.h.

YN BRESENNOL.

Cynghorwyr Meirwen Cullen; Gwyneth Jones; Lynda M. Cox; Richard Japheth;

R. Trefor Davies; Osian Williams; Sioned A. Owen; Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr Beti E. Hughes; William O. Ellis; Llyr ap Rhisiart; Merfyn Williams a Mari Evans.

8.669. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd Cynghorydd Gwyneth Jones.

Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Beti Hughes yn dilyn ei llawdriniaeth.

8.670. DATGAN DIDDORDEB.

Cynghorydd Lynda M. Cox a’r Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones yn eitem 8.672 (2)(Cais Cynllunio).

8.671. COFNODION CYFARFOD Mehefin 11eg 2012

Cynigwyd y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Richard Japheth.

ac eilwyd gan y Cynghorydd R. Trefor Davies.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

8.531.CROESFAN LLANAELHAEAR

Cynghorwyr yn bryderus iawn bod pobl a phlant yn dal i groesi’r ddfforf ger y Caffi a bod gor-yrru am y ddau ben i’r pentref. Cynghorwyr yn siomedig nad oes croesfan yn cael ei gosod ger Carej Ceiri ar hyn o bryd. Swyddogion Cyngor Gwynedd am gael arolwg pellach o gyflymder ceir, bydd hyn yn cynnwys mesuryddion ddau ben y pentref ac yn y canol er deall effaith y gwelliannau a’r cyflymder presennol.

Cynghorwyr yn bryderus hefod bod ceir a loriau yn dal i cael eu parcio ger Garej Ceiri gan wneud y ffordd yn gul.Penderfynwyd i gael trafodaeth gyda’r Heddlu.

8.532.ESTYNIAD MYNWENT LLANAELHAEARN.

Cynghorwyr R. Trefor Davies; Mari Evans; Sioned Owen a’r Clerc Mary C.Jones wedi cyfarfod a’r contractiwr ynglyn a chynlluniau yr estyniad i’r Fynwent.

8.634. A499 ABERDESACH I LLANAELHAEARN.

Arwyddion newydd Trefor wedi eu gosod ger y 2 Penlon. Hefyd mae Cyngor Gwynedd wedi archebu meinciau i’w gosod ar Penlon newydd, ar y ffordd i lawr i Drefor o Penlon newydd ac hefyd un i’w gosod yng ngwaelod Allt y Llan.

8.663.LLYGOD MAWR YN Y PLWYF.

Y Clerc wedi derbyn llythyr oddiwrth John Reynolds o’r Swyddfa yn Nolgellau yn hysbysu y buasai y swyddog difa pla yn ymweld ar ardaloedd hyn yn y dyfodol agos. Adroddodd y Cynghorydd Lynda M. Cox eu bod hwy wedi cysylltu a Rentokil rhag ofn bod llygod o amgylch Canolfan y Babell. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

8.647. CONTRACT BARA YSGOLION

Y Clerc ei bod wedi derbyn ebost oddiwrth Morwena Edwards, Pennaeth Darparu a Hamdden, Cyngor Gwynedd ac hefyd Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, ynglyn a’r uchod. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr

8.662. CERRIG TO Y RIVALS YN LLANAELHAEARN.

Derbyniwyd gwybodaeth bod y gwaith a’r y tô wedi ei gwblhau. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

8.672. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Ni dderbyniwyd cais cynllunio y mis yma.

1. Tir yng nghefn Tyddyn Drain, ger Ty Saron, Llanaelhaearn.

Cais i gadw newid defnydd o iard a sied amaethyddol i storio a parcio cerbydau

Nid oedd gan yr Aelodau unrhyw wrthwynebiad i’r cais.

2. Cae rhif 6645, Moelfre Bach, Llanaelhaearn.

Gwybodaeth ychwanegol ynglyn a Caniatad dros dro ar gyfer lleoli mast 40 medr

i fesur gwynt.

Barn yr Aelodau oedd nad oeddynt wedi cael digon o amser i ddarllen y wybodaeth ychwanegol yn drylwyr, ac hefyd nad oedd y wybodaeth yn dangos yn ddigon eglur.

Sylwadau yr Aelodau oedd i Gyngor Gwynedd ystyried gohirio gwneud penderfyniad ar y cais a chael arddangosfa o’r prosiect ynghyd a chyfarfod cyhoeddus ym mhentref Llanaelhaearn. Buasai cyfarfod cyhoeddus gyda’r Heddlu yn bresennol yn rhoi cyfle i drigolion y Plwyf roi eu penderfyniad ar y cais a hwyrach cael holiadur i ofyn eu barn.Yr Aelod Lleol, Cynghorydd Llywarch B. Jones a’r Cynghorydd Lynda M. Cox wedi datgan diddordeb yn y cais ac wedi mynd allan o’r ystafell.

 

8.673. GOHEBIAETH.

 

1. DAFYDD WYN WILLIAMS,

UWCH REOLWR – TRAFNIDIAETH A GOFAL STRYD

ADRAN RHEOLEIDDIO, SWYDDFA’R CYNGOR, CAERNARFON

 

Derbyniwyd llythyr gan Dafydd W. Williams parthed Gwasanaethau Bwl Lleol a Chludiant Dysgwyr Dwyfor. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

 

2. WALIS GEORGE – YSGRIFENNYDD

CYMDEITHAS TAI ERYRI, TY SILYN, PENYGROES, CAERNARFON.

 

Derbyniwyd gwahoddiad i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, nos Fercher 18 o Orffennaf 2012 am 6.00 y.h. Yn dilyn trafodaeth nid oedd neb am fynychu y cyfarfod.

8.674. CEISIADAU ARIANNOL.

 

Dim un cais wedi ei dderbyn y mis yma.

Derbyniwyd gair o ddiolch oddiwrth y canlynol :

 

1. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn. 2. Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn.

3. Y Ganolfan, Trefor.

4. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn.

5. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor.

6. Crwp Mynediad Dwyfor.

7. Clwb yr Hendre, Trefor

8.675. CYLLID.

Derbyniadau.

1. Pritchard &GriffithsCyf., Tremadog

(Claddu M.S.Williams) ……….. 185.00

2. H.J.Jones, Pontllyfni (Claddu J.M.Evans) ………………….. 185.00

Taliadau.

1. Steven W. Lewis (Torri Mynwentydd, rhan 1) ……………. 2,180.00

2. Cyngor Gwynedd (Torri Cae Chwarae Trefor – £218.58)

(Torri Cae Chwarae Llanaelhaearn – £83.94) …. 302.52

1. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Gorffennaf ) ………………………. 240.00

2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Awst) ………………………………. 240.00

3. H.M.R.C. (P.A.Y.E.Cyflog Clerc Gorffennaf) …………………. 60.00

4. H.M.R.C. (P.A.Y.E.Cyflog Clerc Awst) ………………………… 60.00

8.676. DYDDIAD CYFARFOD NESAF.

Nos Lun, Medi 3ydd 2012 am 7.30 y.h.

yng Nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn.

8.677. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEDI 2012

(Dydd Gwener 24ain Awst 2012).

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Mehefin 11eg 2012 am 7.30 y.h.

YN BRESENNOL

Cynghorwyr Meirwen Cullen; Gwyneth Jones; Richard Japheth; R. Trefor Davies;

Llyr ap Rhisiart; Merfyn Williams; Osian Williams; Sioned A. Owen; Mari W. Evans;

Aelod Lleol cynghorydd Llywarch B. Jones a’r Clerc Mary C. Jones.

YMDDIHEURIADAU.

Cynghorwyr Lynda M.Cox; Beti E. Hughes a William O. Ellis.

8.652. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Croesawyd yr Aelodau newydd.

Llongyfarchwyd pawb o’r Plwyf ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Eryri yn Glynllifon.

Cydymdeimlwyd a Theulu y diweddar E.W.Pritchard, Morfa Nefyn.

8.653. DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD.

Cadeirydd – Cynghorydd Llyr ap Rhisiart, Llanaelhaearn.

Is-Gadeirydd – Cynghorydd Gwyneth Jones, Trefor.

8.654. ARWYDDO DATGANIAD DERBYN SWYDD.

Bu i’r Aelodau newydd arwyddo datganiad derbyn swydd, a chaniatawyd i’r Clerc ymweld a’r Cynghorydd Beti E. Hughes i arwyddo eu ddatganiad, gan ei bod ar hyn o bryd yn disgwyl mynd i’r ysbyty am law driniaeth.

8.655. DATGAN DIDDORDEB.

Neb

8.656. COFNODION CYFARFOD Mai 14eg 2012

Cynigwyd y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Richard Japheth.

ac eilwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Jones.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

8.531.CROESFAN LLANAELHAEARN

Y Cynghorwyr o’r farn bod y croesfannau sydd wedi eu gosod yn Llanaelhaearn yn berygl a bod yn rhaid pwyso arnynt i orffen y gwaith. ‘Roeddynt wedi addo croesfan ger Garej Ceiri. Y Clerc i gysylltu a’r Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd, ac hefyd yr Aelod Lleol i edrych i mewn i sawl croesfan oedd i’w osod

8.532.ESTYNIAD MYNWENT LLANAELHAEARN.

YN GAEEDIG. (Nid yw’r cofnod yma yn mynd i’r Wasg).

Y Clerc wedi agor y tendrau gyda Mr Clive Moore, Pensaer.

Trafodwyd y prisiau a dderbyniwyd a phenderfynwyd i ddewis H.E.P Groundworks, Trefor House, 17, High St, Talsarnau, Gwynedd.

Y Clerc i gysylltu a H.E.P. Groundworks a gofyn iddo gyfarfod ac aelodau Pwyllgor Mynwentydd.

Cysylltu a Un Llais Cymru i wneud ymholiadau ynglyn a benthyg arian.

Cysylltu a Tai Eryri, Penygroes a Tai Cymunedol ynglyn a gofyn am gyfraniad tuag at wneud y maes parcio.

Llythyr i Atkin Groundworks, Llanarmon a Dragon Civil Engineering, Y Ffôr, yn diolch iddynt am eu diddordeb i wneud y gwaith, ond nad oedd eu tendr yn llwyddianus.

Gofyn i’r Esgobaeth am rodd o werthu Eglwys Trefor tuag at waith y Fynwent Newydd.

8.634. A499 ABERDESACH I LLANAELHAEARN.

Cynghorydd R. Trefor Davies wedi cyfarfod a Mr Gareth Roberts oGyngor Gwynedd, ynglyn a’r arwyddion ac hefyd y posibilrwydd o osod un golau ar y ddau Benlon. Yr Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones wedi cyfarfod a Mr Dafydd W.Williams, Mr Williams o’r farn nad oedd yr Adran am osod goleuadau am eu bod yn mynd i ymharu a’r drigolion Ynys Môn, ac hefyd yn amharu ar ystlumod a bod y safle yn yr A.H.N.E. Y Clerc I gysylltu a’r Adran yn Cyngor Gwynedd ynglyn a hyn

8.635. MATERION Y CYMUNED.

Baw Cwn o amgylch y Pentref

Y Clerc i gysylltu gyda’r Adran a gofyn am finiau baw cwn i’w gosod yn Llanaelhaearn a Threfor a hefyd gofyn i’r Swyddog Cwn fynd o amgylch y Plwyf yn rheolaidd am tua 2 wythnos.

Yr Hen Sentar, Trefor.

Y Clerc i gysylltu a’r Adran Gynllunio a gofyn iddynt pwy yw perchennog y safle, yna anfon llythyr i’r perchennog ynglyn a chyflwr yr adeilad.

8.645(3) UN LLAIS CYMRU, RHYDAMAN, SIR GAERFYRDDIN.

Penderfynwyd i’r Clerc Mary C. Jones a’r Cynghorydd Gwyneth Jones gynrychioli’r Cyngor yng nghyfarfodydd chwarterol y Pwyllgor Ardal.

8.647. CONTRACT BARA YSGOLION

Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon ebost i Morwena Edwards, Pennaeth Darparu a Hamdden, Cyngor Gwynedd ac hefyd Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, ynglyn a’r uchod, ond nid oedd wedi derbyn unrhyw ymateb ganddynt. Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Clerc gysylltu eto gyda hwy ynglyn a’r mater.

8.648. DYFODOL Y CEI YN NHREFOR.

Adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones ei fod wedi cyfarfod a Alys Jones a Bleddyn Jones, Swyddogion Cyngor Gwynedd ar y traeth yn Nhrefor, brynhawn dydd Mawrth 22ain Mai 2012. Adroddodd hefyd bod Pwyllgor y Cei wedi cysylltu gyda’r National Trust ynglyn a’r Cei. Yr Aelod Lleol am edrych i mewn i’r mater ymhellach. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

8.657. CEISIADAU CYNLLUNIO.

Ni dderbyniwyd cais cynllunio y mis yma.

8.658. GOHEBIAETH.

 

1. A.ROBERTS, PEIRIANNYDD ARDAL DWYFOR

PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL,

SWYDDFA ARDAL DWYFOR, PWLLHELI

Derbyniwyd er gwybodaeth ganddo raglen waith Cyfadran yr Amgylchedd am fis Mehefin 2012 fel a ganlyn :

Llwybr 11 Gwaith atal llifogydd ar y weill, rhan o waith wedi ei wneud ond angen cwblhau.

Llwybr 5 a 19 Tre’r Ceiri Gwaith i uwchraddio llwybr 5 a chdoi arwyddion newydd ar 19 ar y cyd a tim AHNE

Eglurodd y Cynghorydd Merfyn Williams ei fod ef a’r Aelod Lleol wedi cerdded y llwybrau uchod ac nad oedd perchennog y tir ger llwybr 5 o Uwchlaw’r Ffynnon i Merbwll yn fodlon cael llwybr cyhoeddus ar y tir. Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran a gofyn am copiau o’r mapiau

8.659. CEISIADAU ARIANNOL.

 

Derbyniwyd 20 cais ariannol a phenderfynwyd fel a ganlyn :

 

1. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn. 300.00

2. Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn. 200.00

3. Y Ganolfan, Trefor. 200.00

4. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn. 200.00

5. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor. 100.00

6. Crwp Mynediad Dwyfor. 100.00

7. Clwb yr Hendre, Trefor 50.00

8.660. CYFRIFON Y CYNGOR CYMUNED.

Adroddodd y Clerc bod y cyfrifon wedi cael eu archwilio gan Mr John Roberts, yr Archwiliwr Mewnol a’u bod yn awr yn barod i’w anfon i’r archwilwyr yng Nghaer

Cymerdwywyd y cyfrifon gan y Cynghorwryr, ac arwyddwyd y ffurflenni gan y Cadeirydd a’r Clerc

 

8.661. PWYLLGORAU’R CYNGOR CYMUNED AM 2012 / 2013.

MYNWENTYDD.

Cynghorwyr Richard Japheth; R. Trefor Davies; Meirwen Cullen;

Sioned A. Owen a Mari W. Ellis.

LLWYBRAU CYHOEDDUS.

Cynghorwyr Merfyn Williams; Lynda M. Cox; Gwyneth Jones; Llyr ap Rhisiart

a Osian Williams

8.662. CERRIG TO Y RIVALS YN LLANAELHAEARN.

Cynghorydd Richard Japheth yn bryderus iawn bod cerrig a’r ymyl tô caffi’r Rivals yn edrych yn beryglus iawn ac yn rhydd. Gallai achosi damwain ddifrifol os y buasent yn digwydd syrthio gan eu bod uwchben y fynedfa ac hefyd uwchben y palmant. Y Clerc i gysylltu a’r Perchennog. Cynghorydd R. Trefor Davies am gael gair a’r perchennog hefyd.

8.663. LLYGOD MAWR YN Y PLWYF.

Codwyd y mater gan y Cynghorydd Richard Japheth gan ei fod wedi gweld llygod mawr yn croesi y ffordd ger rhesdai Mount Pleasant / Canolfan y Babell, ac hefyd ger ei gartref yn ymyl Tai Cyngor Cae Llyn yn Llanaelhaearn.

Cynghorwyr Ward Trefor yn adrodd bod llygod mawr hefyd yng nghefn New Street ac hefyd tu ôl i’r gysgodfan bws.

Y Clerc i gysylltu a’r Adran yng Ngyngor Gwynedd.

8.664. STAD BRON HENDRE, TREFOR.

Eglurodd y Cynghorydd Merfyn Williams fod y lori sydd yn casglu ysbwriel ar fore Gwener yn methu mynd a’r lori at y tai yng ngwaelod y stad, mae hyn meddai am fod rhieni sydd yn dod a’u plant i’r Ysgol Gynradd yn parcio eu ceir ar y ffordd, yn lle defnyddio y maes parcio sydd wedi ei leoli ar y stad. Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i’r Clerc gysylltu a’r Adran a gofyn iddynt a fuasai yn bosibl iddynt godi ysbwriel y stad a’r amser gwahanol, fel na fuasent yng nghyffiniau y stad pan fydd y rhieni yn mynd a’r plant i’r ysgol.

Angen gwybodaeth hefyd pwy sydd yn gyfrifol am y maes parcio, a gaiff lori barcio yno.

Cwch wedi ei lleoli ger 13 Bron Hendre. Arogl pysgod yng nghefn yr eiddo. Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran Iechyd ynglyn a’r mater.

8.665. WAL LLWYBR NEW ST. TREFOR.

Cynghorydd Llyr ap Rhisiart yn bryderus iawn am y bylchau yn y wal rhwng yr afon a New Street. Gellir mynd trwy’r bylchau i lawr y stepai tuag at yr afon. Erbyn hyn mae gwellt a chwyn wedi tyfu ar y stepiau ac maent yn berygl i unrhyw un syrthio trwyddynt i’r afon. Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a’r Adran a gofyn iddynt am eu sylwadau ar y mater.

8.666. CYLLID.

Derbyniadau.

Dim wedi ei dderbyn i mewn.

Taliadau.

 

1. Dylan Ll. Jones, Llithfaen (Wal Mynwent Trefor) ………………. 300.00

2 Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mehefin) …………………………….. 240.00

3 P.A.Y.E (Cyflog Clerc Mehefin) ………………………………. 60.00

Rhoddion Ariannol 2012.

 

1. Cronfa Mynwent Eglwys Llanaelhaearn ………………………… 300.00

2. Pwyllgor Llywio Llanaelhaearn ………………………………….. 200.00

3. Y Ganolfan, Trefor …………………………………………………….. 200.00

4. Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn ……………………………………. 200.00

5. Cymdeithas Cylch yr Eifl, Trefor ………………………….. 100.00

6. Crwp Mynediad Dwyfor …………………………………………….. 100.00

7. Clwb yr Hendre, Trefor ………………………………………………. 50.00

8.667. DYDDIAD CYFARFOD NESAF.

Nos Lun, Gorffennaf 9fed 2012 am 7.30 y.h.

yn Y Ganolfan, Trefor.

8.668. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD GORFFENNAF 2012

(Dydd Gwener 29ain Mehefin 2012).

 

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyngor Cymuned nos Lun Mai 14 yn y Ganolfan, Trefor. Croesawyd yr aelodau gan y Cadeirydd y Cynghorydd Meirwen Cullen. Yn bresennol oedd Cynghorwyr(Llanaelhaearn) Lynda M Cox, Richard Japheth a Llyr ap Rhisiart. Cynghorwyr(Trefor) Meirwen Cullen, Merfyn Williams a Gwyneth Jones. Croeshawyd hefyd yr Aelod Lleol newydd y Cynghorydd Llywarch Bowen Jones, Trefor. Gan fod 5 sedd yn wag yn ward Trefor, derbyniwyd 7 enw a diddordeb i fod yn aelodau o’r Cyngor-R Trefor Davies, Mari W Evans, Sioned A Owen a Bryn Roberts(Trefor) Beti E Hughes, Caryl A Jones a Osian Williams(Llanaelhaearn). Bu i’r aelodau gyfethol 5 Aelod newydd R Trefor Davies, Mari W Evans, Sioned A Jones(Trefor) Beti E Hughes a Osian Williams(Llanaelhaearn). Byddant yn bresennol yng nghyfarfod mis Mehefin o’r Cyngor Cymuned.

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN, Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Mai 14eg 2012 am 7.30 y.h.

YN BRESENNOL.

 

Cynghorwyr Meirwen Cullen; Lynda M.Cox; Gwyneth Jones; Richard Japheth;

Llyr ap Rhisiart; Merfyn Williams; Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones

a’r Clerc Mary C. Jones.

 

YN ABSENNOL.

 

Cynghorydd William O. Ellis.

 

8.638. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

 

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Croesawyd yr Aelod Lleol newydd Cynghorydd Llywarch Jones, Trefor.

Diolchwyd i D.E.Ellis, 21, Bron Hendre, Trefor am ei wasanaeth fel Cynghorydd

ar Ward Trefor o’r Cyngor Cymuned am flynyddoedd.

Croesawyd Cynghorydd Merfyn Wiliams yn ôl ar ôl gwaeledd, a llongyfarchwyd ef a’i briod am ddod yn hen daid a nain.

 

8.639. DEWIS CADEIRYDD / IS-GADEIRYDD.

 

Gan nad oedd yr Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2011/12 ddim yn bresennol penderfynwyd gohirio dewis Cadeirydd / Is-Gadeirydd hyd gyfarfod Mehefin

o’r Cyngor Cymuned

 

8.640. CYFETHOL AELODAU – WARD TREFOR.

 

Y Clerc wedi derbyn saith (7) enw a diddordeb i fod yn Aelodau o’r Cyngor Cymuned – R.Trefor Davies; Mari W. Evans; Sioned A. Owen a Bryn Roberts (Trefor), Beti E. Hughes; Caryl A. Jones a Osian Williams (Llanaelhaearn). Bu i’r Aelodau gyfethol pump (5) Aelod newydd R.Trefor Davies; Mari W. Evans a Sioned A. Owen (Trefor), Beti E. Hughes a Osian Williams (Llanaelhaearn).

Y Clerc i gysylltu a’r saith, a diolch i’r ddau na fu yn llwyddianus am eu diddordeb. Bydd y pump (5) aelod newydd yn bresennol yng nghyfarfod mis Mehefin o’r Cyngor Cymuned.

 

8.641. ARWYDDO DATGANIAD DERBYN SWYDD.

 

Bu i’r Aelodau oedd yn bresennol arwyddo datganiad derbyn swydd, a chaniatawyd i’r Cynghorydd William O. Ellis arwyddo ei ddatganiad yng nghyfarfod mis Mehefin o’r Cyngor Cymuned.

 

8.642. DATGAN DIDDORDEB.

Neb

8.643. COFNODION CYFARFOD Ebrill 2ail 2012

Cynigwyd y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Richard Japheth.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

8.531.CROESFAN LLANAELHAEARN

Y Clerc wedi derbyn llythyr oddiwrth A.Roberts, Peiriannydd Ardal Dwyfor, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyngor Gwynedd ym Mhwllheli yn hysbysu ailwynebu ffordd a chroesfanau yn cychwyn oddeutu 14 Mai 2012 am gyfnod o dair wythnos. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

8.532.ESTYNIAD MYNWENT LLANAELHAEARN.

Y Clerc wedi derbyn ebost gan Clive Moore yn dilyn ei gyfarfod gyda Cynghorydd R.Trefor Davies ac wedi gwneud newidiadau i’r cynllun. Clive Moore wedi anfon manylion diwygiedig allan eto i’r contractwyr i ofyn am brisiau. Dyddiad cau dydd Llun 21 Mai 2012.

Y Clerc i gysylltu gyda Clive Moore ynglyn ac agor y prisiau.

 

8.634. A499 ABERDESACH I LLANAELHAEARN.

 

Eglurodd y Clerc fod Cynghorydd R. Trefor Davies wedi cyfarfod a Swyddogion o Gyngor Gwynedd cyn dyddiad yr etholiad i drafod eto yr arwyddion ar y ddau Benlon. Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i osod arwyddion mwy o faint ar y ddau Benlon ac y byddant yn cael eu gosod ddiwedd Gorffennaf / ddechrau Awst. Maent hefyd am edrych i mewn i’r posibilrwydd o osod un golau ar y ddau Benlon. Derbyniwyd y wybodaeth gan y Cynghorwyr.

8.644. CEISIADAU CYNLLUNIO.

1. Plot ger Glanllyn, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Diddymu cytundeb 106 sy’n cyfyngu defnydd yr eiddo / plot i berson lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad

2. 8, Lime Street, Trefor, Caernarfon.

Tocio a theneuo coedan mewn ardal cadwraeth.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad, ond bod yn rhaid ei thorri ym ystod

mis Awst am fod adar yn nythu ynddi.

3. Fron Dirion, Trefor, Caernarfon.

Newidiadau a gosod insiwleiddio a rendro allanol.

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad, ond i’r adeiladwyr edrych allan am

adar tô yn nythu.

8.645. GOHEBIAETH.

 

1. Mrs DWYNWEN WILLIAMS, RHYD, TREFOR, CAERNARFON

Derbyniwyd llythyr gan Mrs Williams ynglyn a materion yn y gymuned :

a. Diffyg arwyddion ar y ddau Benlon.

b. Baw cwn o amgylch y Bentref.

c. Cyflwr adfail yr hen sentar (Camau Eithin oedd yr hen enw).

d. Wal Mynwent Trefor.

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd i’r Clerc anfon llythyr i Mrs Dwynwen Williams

a. Bod arwyddion y ddau Benlon wedi ei cytuno gyda Cyngor Gwynedd, a’u bod yn edrych i mewn i’r posibilrwydd o osod golau.

b. Anfon copi o’r llythyr i’r swyddog cwn yng Nghyngor Gwynedd ym Mhwllheli.

c. Anfon copi o’r llythyr i swyddogion cynllunio yng Ngyngor Gwynedd ym Mhwllheli I ofyn am eu sylwadau ar y safle.

d. Pris wedi ei dderbyn gan Dylan Jones, Llithfaen i wneud y gwaith. Clerc i gysylltu eto gydag ef ynglyn a dyddiad dechrau.

8.645. GOHEBIAETH (Parhad)

2. Mr JIM JONES,

WESTHOLME, MOORE ROAD, BELLERBY, LEYBURN,

W. YORKSHIRE.

Derbyniwyd llythyr ganddo yn dilyn galwad ffôn yn gofyn os buasai gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad iddo osod Carreg Goffa ar ochr yr Eifl (yng nghyffiniau Gallt y Ceiriolg) lle bu i’r awyren Halifax JO417 daro yn erbyn y mynydd a lladdwydd y rhai oedd yn trafeilio ynddi ar y 3ydd o Fedi 1944. Mae a’r hyn o bryd yn trefnu gyda’r perchennog tir. Nid oedd gan Aelodau’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad. Y Clerc i gysylltu a Mr Jim Jones.

3. LYN CADWALLADER, PRIF WEITHREDWR

UN LLAIS CYMRU, RHYDAMAN, SIR GAERFYRDDIN.

Derbyniwyd llythyr ganddo i’r Cyngor Cymuned enwebu Cynghorydd i gynrychioli’r Cyngor yng nghyfarfodydd chwarterol y Pwyllgor Ardal. Penderfynwyd gan mai y Cadeirydd oedd wedi ei phenodi y flwyddyn ddiwethaf, y buasem yn trafod y llythyr yng nghyfarfod mis Mehefin ar ôl dewis Cadeirydd / Is-Gadeirydd.

8.646. CEISIADAU ARIANNOL.

Penderfynwyd trafod y ceisiadau ariannol ym mis Mehefin.

8.647. CONTRACT BARA YSGOLION

 

Codwyd y mater gan y Cynghorydd Lynda M. Cox gan fod Becws Glanrhyd yn Llanaelhaearn wedi colli contractau o gyflenwi bara i ysgolion yn Llyn gan gynnwys ysgol Gynradd Llanaelhaearn. Penderfynwyd i’r Clerc gysylltu a Morwena Edwards, Pennaeth Darparu a Hamdden, Cyngor Gwynedd ac hefyd Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd. Gofynnwyd hefyd i’r Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones gysylltu a’r ddwy hefyd ar ein rhan.

 

8.648. DYFODOL Y CEI YN NHREFOR.

 

Codwyd y mater gan y Cynghorydd Richard Japheth gan ei bod yn amser ymwelwyr i’r ardal ac i draeth Trefor a bod cyflwr y cei wedi dirywio yn ystod y gaeaf diwethaf. Wrth drafod y mater adroddodd yr Aelod Lleol Cynghorydd Llywarch B. Jones ei fod yn cyfarfod a Alys Jones a Bleddyn Jones, Swyddogion Cyngor Gwynedd ar y traeth yn Nhrefor, brynhawn dydd Mawrth 22ain Mai 2012. Bydd yr Aelod Lleol yn adrodd yn ôl i gyfarfod mis Mehefin o’r Cyngor Cymuned.

 

8.649. CYLLID.

 

Derbyniadau.

 

1. Cyngor Gwynedd (Praesept a Grant rhan 1) 6,560.00

2. Mr H.J.Jones, Pontllyfni (Claddu B.W.Jones) ………….. 185.00

3. I.M.Hughes, Llanaelhaearn (Claddu M.Jones) ……….. 65.00

 

Taliadau.

 

1. Clive Moore (Pensaer), Pwllheli………………………….. 1,554.14

2. Zurich Municipal Insurance ………………………. 699.53

3 Mary C. Jones (Cyflog Clerc Mai) ………………………. 240.00

4. P.A.Y.E (Cyflog Clerc Mai) ……………………………… . 60.00

8.650. DYDDIAD CYFARFOD NESAF.

Nos Lun, Mehefin 11eg 2012 am 7.30 y.h.

yng Nghanolfan y Babell, Llanaelhaearn.

8.651. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD MEHEFIN 2012

(Dydd Gwener 1af o Fehefin 2012).

 

 

 

COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANAELHAEARN

A GYNHALIWYD YNG NGHANOLFAN, Y BABELL, LLANAELHAEARN.

NOS LUN, Ebrill 12fed 2012 am 7.30 y.h.

YN BRESENNOL.

 

Cynghorwyr Meirwen Cullen; Lynda M.Cox; Gwyneth Jones; Richard Japheth;

R. Trefor Davies; Llyr ap Rhisiart a’r Clerc Mary C. Jones.

 

YMDDIHEURIADAU.

 

Cynghorwyr Merfyn Williams a Beti E.Hughes.

 

YN ABSENNOL.

 

Cynghorwyr David E. Ellis a William O. Ellis.

 

8.626. HYSBYSIADAU Y CADEIRYDD.

 

Croesawyd yr Aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd Cynghorydd Meirwen Cullen.

Y Cadeirydd o’r farn bod cyfarfod a gynhaliwyd nos Fercher 28ain Mawrth, ynglyn a chroesfan Llanaelhaearn ddim i fod yn gyfarfod agored yn ôl beth a drafodwyd gan yr Aelodau y mis Mawrth (cyf 8.531). ‘Roedd yn siomedig iawn na chafodd rhai o’r Cynghorwyr ddatgan eu barn.

 

8.627. DATGAN DIDDORDEB.

Cynghorwyr Lynda M. Cox a Llyr ap Rhisiart yn eitem 8.629 (Cais Cynllunio).

 

8.628. COFNODION CYFARFOD Mawrth 12fed 2012

 

Cynigwyd y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Lynda M. Cox

ac eilwyd gan y Cynghorydd Richard Japheth.

MATERION YN CODI O’R COFNODION.

 

8.531.CROESFAN LLANAELHAEARN

 

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Babell, nos Fercher 28ain Mawrth 2012, daeth Swyddogion Cyngor Gwynedd, 2 Gynghorydd Cymuned ac aelodau o’r cyhoedd i benderfyniad i gario ymlaen a chael gosod dwy (2) groesfan anffurfiol gyda ynys ynghanol y ffordd ger y Caffi a ger Antur Aelhaearn, gan edrych i mewn i’r posibiliadau i osod un croesfan arall ger Garej Ceiri.

 

Yng nghyfarfod mis Mawrth o’r Cyngor Cymuned penderfynwyd nad oedd y cyfarfod yr oeddem yn ei drefnu gyda’r Cynghorydd Gareth Roberts, Aberdaron i fod yn gyfarfod agored (gweler cyf 8.531 Mawrth 2012).

‘Roedd yr Aelodau yn siomedig iawn na chawsant ddatgan eu barn am y groesfan yng nghyfarfod nos Fercher.

 

Adroddodd y Cynghorydd R. Trefor Davies ei fod yn sefyll i gael gwell croesfan i Lanaelhaearn, ac os y clywai bod celwydd yn cael ei ddweud am unrhyw Gynghorydd, byddai ef ei hun yn codi yr achos gyda’r Ombudsman.

8.532. ESTYNIAD MYNWENT LLANAELHAEARN.

 

Y Clerc wedi derbyn tri (3) pris i wneud y gwaith o greu estyniad newydd i’r Fynwent. Y Tendrau i gael eu agor gan y Clerc a Mr Clive Moore y Pensaer.

yn ei swyddfa ym Mhwllheli. Tri aelod o’r Cyngor Cymuned – Cynghorwyr R.Trefor Davies; Gwyneth Jones a Meirwen Cullen i gyfarfod a Clive Moore a’r Clerc nos Lun 23 Ebrill 2012 i drafod y prisiau a.y.y.b cyn eu trafod yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned.

Cynghorydd Llyr ap Rhisiart yn llawn gefnogi cynllun y Fynwent newydd.

 

8.629. CEISIADAU CYNLLUNIO.

 

1. 5, Ty’n Ffridd, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Codi estyniad cefn deulawr yn lle’r estyniad presennol a newidiadau i flaen yr eiddo

 

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.

 

2. Tir rhan o Cefn Buarddau, Trefor, Caernarfon.

Cadw defnydd y safle fel storfa a iard adeiladwr.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfyniad y Cynghorwyr oedd eu bod yn cefnogi y cais,

ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.

 

3. Cae rhif 6645 Moelfre Bach, Llanaelhaearn, Caernarfon.

Caniatad dros dro ar gyfer lleoli mast 40 medr i fesur gwyned.

Yn anffodus, dim ond tri (3) Aelod oedd yn bresennol ac felly ni allem drafod y cais. Cynghorwyr Lynda M. Cox a Llys ap Rhisiart wedi datgan diddordeb ac wedi gadael yr ystaffell.

 

8.630. GOHEBIAETH.

 

1. LYN CADWALADR, PRIF WEITHREDWR.

UN LLAIS CYMRU

24, STRYD Y COLEG, RHYDAMAN, CAERFYRDDIN.

 

Derbyniwyd ffurflen i ail-ymaelodi gyda Un Llais Cymru.

Penderfynwyd yn dilyn trafodaeth i ymaelodi am y flwyddyn 2012 / 2013.

Tal Aelodaeth yn £141.00 yn seiliedig ar 552 o anheddau trethadwy yn ôl 25.6p

yr annedd.

 

 

2. PWYLLGOR APEL TREFOR EISTEDDFOD YR URDD ERYRI 2012

 

Derbyniwyd llythyr oddiwrth Llinos yn hysbysu ei bod ar ddeall bod y Cyngor Cymuned yn ystyried archebu bumtings ar gyfer cyfnod yr Eisteddfod. ‘Roeddynt yn awyddus i weld y buntings yn y pentref erbyn y carnifa ar 14 Ebrill. Eglurwyd yn y cyfarfod fod y Cyngor Cymuned wedi archebu rhai ond nid oeddent wedi cyrraedd.

 

3. RAYMOND HARVEY, SWYDDOG COFRESTRU,

CYNGOR GWYNEDD, CAERNARFON.

 

Y Clerc wedi derbyn ebost oddiwrth Raymond Harvey i atgoffa bod cyfnod derbyn enwebiadau ar gyfer cynghorau cymuned yn cau am hanner dydd dydd Mercher 4ydd Ebrill. Derbyniwyd y wybodaeth gan yr Aelodau.

 

 

8.631. CEISIADAU ARIANNOL.

 

Dim un cais wedi ei dderbyn y mis yma

 

8.632.TRAFOD TENDRAUYN GAEEDIG.

 

TENDRAU LLWYBRAU CYHOEDDUS Y PLWYF.

(1af Ebrill 2012 i 31ain Mawrth 2013)(Blwyddyn).

 

J.A Pozzi, Ger Llwyn, Rhydyclafdy, Pwllheli, Gwynedd.

 

TENDRAU WAL MYNWENT TREFOR.

 

Dylan Jones, Pengwen, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd.

 

8.633.LLWYBR CYMUNEDOL LLANAELHAEARN.

 

Eglurodd y Cynghorydd Lynda M. Cox ei bod o’r farn bod Cyngor Gwynedd wedi gwerthu darn o’r llwybr wrth werthu’r hen doiledau cyhoeddus. ‘Roedd hi am gysylltu a’r Adran yng Nghyngor Gwynedd. Y Clerc i gysylltu a’r Adran ynglyn a chofrestru y llwybr yn llwybr cyhoeddus.

 

8.634.A499 ABERDESACH I LLANAELHAEARN.

 

Y Clerc wedi derbyn ebost oddiwrth Mr Geraint Jones, Prif Beiriannydd, Ymgynghoriaeth Gwynedd, Cyngor Gwynedd yn cadarnhau manylion a drafodwyd gyda’r Clerc a’r Cynghorydd Richard Japheth. Manylion fel a ganlyn :

1. Gosod tair (3) mainc – 1 dros y ffordd i Penlon Newydd a rhoi bwlch

yn y ffens i fynd ato.

1 i lawr lôn newydd i Trefor.

1 wrth y cylchfan newydd ger Llanaelhaearn.

2. Rhoid plas cefndir llwyd ar arwyddion Trefor i’w gwneud yn fwy gweladwy.

3. Codi ffens ochr y ffordd i’r draen ger Penlon newydd Trefor.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd ein bod wedi colli 3 mainc ond dim ond yn cael 3 yn ôl. Bod angen gwella arwyddion gan fod yr arwyddion ger Tir Du ac Elernion yn dangos Trefor yn llawer mwy na rhai sydd ar y ddau gyffordd i’r pentref. Bod yr arwydd beics yn cuddio arwydd Trefor ger Penlon newydd a bod angen cefndir lliw ar yr arwyddion a’r print yn frasach.

8.635. CYLLID.

 

Derbyniadau.

 

 

Taliadau.

 

1. Cyngor Gwynedd (Treth Mynwent, Trefor) …………………………. 424.88

2. Mary C. Jones (Cyflog Clerc Ebrill) …………………………………… 240.00

3. Un Llais Cymru (Aelodaeth 2012/13) ………………………………… 141.00

4. Dwr Cymru (Mynwent Trefor) ………………………………………….. 125.56

5. P.A.Y.E (Cyflog Clerc Ebrill) …………………………………………… 60.00

 

8.636. DYDDIAD CYFARFOD NESAF.

Nos Lun, Mai 14eg 2012 am 7.30 y.h.

yn Y Ganolfan, Trefor.

 

8.637. DYDDIAD CAU RHAGLEN CYFARFOD EBRILL 2012

(Dydd Gwener 4ydd Mai 2012).