{"id":4389,"date":"2022-03-28T17:34:51","date_gmt":"2022-03-28T16:34:51","guid":{"rendered":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/?page_id=4389"},"modified":"2022-03-28T18:32:10","modified_gmt":"2022-03-28T17:32:10","slug":"coedlen-carl","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/coedlen-carl\/","title":{"rendered":"Coedlan Carl"},"content":{"rendered":"\n<p><a href=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/carl.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone  wp-image-4436\" src=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/carl-300x265.jpg\" alt=\"\" width=\"468\" height=\"416\" \/><\/a><\/p>\n<p>Y Meddyg Carl Clowes<\/p>\n\n\n\n<p>\u00a0<\/p>\n<p><strong>18\/3\/22<\/strong><\/p>\n<p><strong>Coedlan cymunedol Llanaelhaearn ar ei ffordd!<\/strong><\/p>\n<p>Mae Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974) wedi derbyn grant gwerth \u00a3174,000 ar gyfer creu coedlan gymunedol yng nghanol y pentref. Mae\u2019r prosiect yn cael ei ariannu gan gynllun Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru sydd yn cael ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.<\/p>\n<p>Bydd hyn yn ein galluogi i greu coedlan gymunedol newydd ar ddwy acer o dir amaethyddol ger adeilad gr\u0175p cymunedol Antur Aelhaearn. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn mynd at i blannu cyfuniad o 1,000 o goed cynhenid a 200 o goed perllan. Bydd y goedlan yn creu adnodd ar gyfer trigolion lleol, lle i fyfyrio, atyniad ar gyfer ymwelwyr, ac yn cynnig cyfleoedd addysgiadol i alluogi pobl leol i ddysgu am hen grefftau gyda\u2019r nod, hefyd, o greu gwaith lleol cynaliadwy.<\/p>\n<p>Gyda bryn gaer Oes Haearn Tre\u2019r Ceiri gerllaw, byddwn yn plannu coed brodorol oedd yn bwysig i\u2019r Celtiaid sef y dderwen, criafolen, helyg, coed cnau, afal a ffrwythau eraill Cymreig. Bydd prif fynediad i\u2019r goedlan yn arwain trwy dwnnel o helyg byw, gyda <em>boardwalk<\/em> a llwybr\u00a0\u00a0 ar ffurf patrwm Celtaidd yn ymlwybro trwy\u2019r goedlan. Bob hyn a hyn ar hyd y llwybr lleolir cerfluniau gan artistiaid lleol o anifeiliaid coll oes y Celtaidd a mytholeg y Mabinogion. I gyd-fynd a\u2019r cerfluniau gosodir blychau gwybodaeth clywadwy wedi eu pweru gydag egni llaw fydd yn adrodd hanes yr anifeiliaid.<\/p>\n<p>Dywedodd Ll\u0177r ap Rhisiart, Cadeirydd Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)<\/p>\n<p>\u201cRydym yn hynod falch o dderbyn y gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Edrychwn ymlaen at ddechrau gwireddu\u2019r freuddwyd o weld coedlan yn y gymuned. Gwyddom am fuddion mawr cysylltu \u00e2 byd natur a\u2019r amgylchedd naturiol a byddwn yn gallu gwneud hynny maes o law ar stepen y drws. Bydd creu\u2019r goedlan yn waddol ac etifeddiaeth i genedlaethau\u2019r dyfodol. Bydd hefyd yn gyfraniad pentref Llanaelhaearn i daclo effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i weld mwy o goedlannau a choedwigoedd yn \u00f4l yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Diwedd 2021 derbyniom y newydd trist iawn am farwolaeth sylfaenydd Antur Aelhaearn sef y Meddyg Carl Clowes. Fel teyrnged a choffadwriaeth arbennig iddo rwy\u2019n hynod o falch o gyhoeddi mai enw swyddogol y datblygiad newydd hwn fydd \u2018Coedlan Carl\u2019.&#8221;<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun Coetiroedd Cymunedol yn rhan o fenter unigryw Coedwig Genedlaethol Cymru o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy\u2019n hygyrch i\u2019r cyhoedd ac o dan reolaeth o ansawdd uchel.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-4389","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4389","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4389"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4389\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4439,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4389\/revisions\/4439"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4389"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}