{"id":358,"date":"2012-03-04T20:17:38","date_gmt":"2012-03-04T20:17:38","guid":{"rendered":"http:\/\/www.llanaelhaearn.com\/?page_id=358"},"modified":"2014-12-29T12:55:05","modified_gmt":"2014-12-29T12:55:05","slug":"morfudd-jones","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/pobl\/morfudd-jones\/","title":{"rendered":"Morfudd Jones"},"content":{"rendered":"<p>Bu i&#8217;r pentref golli un o&#8217;i chonolfaeni wedi marwolaeth Morfudd Jones. Bu i Morfudd fod yn weithgar iawn yn ei chymuned dros y blynyddoedd ac yr ydym i gyd yn ddiolchgar iawn iddi am ei gwaith. Dyma enghreifftiau o&#8217;i gwaith wrth iddi ddisgrifio &#8216;Llanhuar&#8217;:<\/p>\n<h2 dir=\"ltr\" style=\"text-align: left;\" align=\"center\">Llanhuar<\/h2>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Felly fydd y bobl leol yn galw\u2019r pentref. Ardal o ffermydd a tyddynod bychain gyda ychydig o dir oedd Llanaelhaearn tan ddyfodiad y chwareli. Roedd teulu Lynda yr ysgrifennydd y Pwyllgor Llywio yn byw ym Mhen Bwlch tyddyn ar odre Gyrn Ddu ond mae\u2019n debyg i rai o\u2019r meibion a\u2019r marched symyd i lawr i waelod y pentref i fyw ac i weithio yn y chwarel.(erbyn tua 1850) gannwyd nain Lynda yn 1896 a bryd hynny roedd y teulu yn byw yn 5 Ty\u2019n y Ffridd ac hefyd 4 Ty\u2019n y Ffridd.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Wrth edrych ar censws 1901 mae patrwm newydd yn ymddangos, mae bob pen teulu bron yn y pentref ei hun yn chwarelwyr. Pan oedd Edith nain Lynda wedi cyrraed oed i briodi cyrfarfu hi a bachgen o\u2019r enw Robert Williams, brodor o Laniestyn ym Mhen Llyn a ddaeth i weithio i\u2019r chwarel.Adeiladwyd mwy o dai Rhes Tan y Fynwent, Erw Sant Rhes Ceiri yna yn y 1930 Cae Llyn ac yn y 1940 Maes Glas.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Buom yn siarad ac amryw o bobol yn eu plith Mair Jones Gerallt bu ei thad, ewythyr a\u2019i brodyr yn chwarelwyr er yn ddiddorol iawn ym Melin Penllechog y trigai ei thaid a\u2019i nhain. Mae Mair yn cofio ei thad yn cerdded i\u2019r gwaith yng nghanol bob tywydd. Mae hi\u2019n cofio y ddamwain pan fu farw tad Hedd Wyn (nid y bardd), roedd hi tua 7 oed ar y pryd, ac mae\u2019n dal i gofio\u2019r corff yn cyrraedd y ty wedi ei guddio a tarpwlin. Roedd gan lawer o\u2019r chwarelwyr erddi bychain yma ac acw (rhyw fath o allotments) a \u2018r arferiad oedd i blannu tatws yn ystod y Pasg. Un o ffrindiau Mair oedd Jane Williams 6 Rhes Ceiri, aeth tad Jane sef Cemlyn Williams i Padstow i weithio am gyfnod mae Gwilym Owen yn son am hyn yn ei lyfr (gweler Llanaelhaearn a\u2019r Llyfrau).<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Mae Gareth Cox, gwr Lynda yn cofio ei fam yn dweud sut y bu i\u2019w thad fynd i Penrhyn i weithio ar un adeg pan oedd gwaith yn brin yn y Gwaith Mawr. Roedd yn aros yna yn ystod yr wythnos a dod adref ar y penwythnos. Os fyddai\u2019r tywydd yn rhy ddrwg iddynt weithio yna nid oedd tal i\u2019w gael.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Symudodd tad Ron Foster Evans i Lerpwl i weithio fel trwsiwr setts ar y lon. Byddai Ron yn dod i aros at ei daid Huw Meinar adeg gwyliau\u2019r ysgol a bu yn evacuee yma yn ystod y rhyfel. Mae\u2019n cofio sut oedd ei ewythyr Sam yn fachgen 14 wedi dechrau gweithio yn chwarel Tan y Graig, un diwrnod death y newydd i\u2019r bonc fod y Titanic wedi mynd i lawr.Bu Ron mewn datlith am y chwarel sbel yn ol a cafodd wybodaeth yno na wnaeth Chwarel yr Eifl yr un ddime goch allan o\u2019r gwaith a dyna pam yr oedd y Cwmni yn rhoi tystysgrifau am weithio yno am hiramser yn lle watch aur.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Roedd Lynda yn ddisgybl yn yr ysgol yn y pentref rhwng 1958 a1964 ac mai hi yn cofio clywed corn y gwaith yn chwythu hefyd y swn pan oeddynt yn chwythu yn y chwarel rhyw fath o &#8220;thud&#8221; mawr yn hytrach na &#8220;bang&#8221;.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Yn olaf aethom i siarad a Robin Williams Gyrn Goch neu Robin Band fel mae pawb yn ei adnabod. Gannwyd Robin yn Llanaelhaearn ac roedd yn gweithio yn y chwarel. Mae wedi rhoi i ni restr o enwau o ddynion a oedd yn gweithio gydag ef yn ystod y 1940 ar 1950.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Nid oedd pentref Trefor yn bod cyn dyfodiad y chwareli, adeiladwyd y pentref fell le i\u2019r gweithwyr fyw ac yn sgil hynny death eglwys St Sior y capeli-Gosen(methodistiaiad), Maes y Neuadd (annibynnwyr) a Bethania (baptistiaid). Pan ddaeth y gweithwyr o Loegar yma i fyw fel y Coxs, Sharpes, Langs, Japheths, Baums, Mclellands daethant gyda hwy ei traddodiad o fandiau pres. Cychwynwyd band, Band Llanaelhaearn a byddai\u2019r band yn mynd i dafarn y Waterloo ar ol ymarfer ond newidwyd enw\u2019r band i Fand Trefor ac felly mae hyd heddiw sef Seindorf Trefor. Mae gan blant Lynda gysylltiadau a\u2019r band yn mynd yn ol i ddechrau\u2019r ganrif ddiwethaf pan oedd Tommi Meinar perthynas i\u2019w tad Gareth yn chwarae yn y band a buont hwythau yn y band am flynyddoedd.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Morfudd Lloyd Jones<\/p>\n<h2 dir=\"ltr\" style=\"text-align: left;\" align=\"center\">Llanaelhaearn<\/h2>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Dywedodd archeolegydd wrthyf ychydig yn ol mai Llanaelhaearn oedd y safle cymunedol sefydlog cyntaf ym Mhrydain gyfan. Sefydlwyd y Gymuned yma wrth droed yr Eifl ynghanol mynyddoedd o garreg ithfaen caled. Amgylchynwyd y pentref gan bump o chwareli ar un adeg, pan oedd y chwareli yn eu bri yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Deuai dynion yma i weithio o bob man a dod a\u2019u teuluoedd yma gyda nhw i fyw, a deil yr enwau o hyd fel Cox, Baum, Japheth yn enwau teuluol amryw o Gymry glan sydd yn byw yn yr ardal. Heblaw am y Gwaith Mawr fel y gelwid y chwarel rhwng Llanaelhaearn a Trefor, roedd chwareli llai fel Caer Nant (Nant Gwrtheyrn Llithfaen), Carreg Llam (Llithfaen), ar un ochor i Llanhuar a Tan y Graig, Tyddyn Hywel a\u2019r Black Sod ar yr ochor arall, gyda cannoedd o ddynion yn gweithio ynddynt. Yn wir byddai bywydau pob teulu yn y pentref yn troi o gwmpas yr hyn a ddygwyddai yn y chwarel, gan fod y corn gwaith yn taranu tros y fro ar yr un adeg bob dydd a byddai\u2019r plant yn gwybod yn union pryd i roi gorau i\u2019w chwarae a rhedeg adref am eu bwyd. Byddai y merchaid hefyd ac athrawon yr ysgol yn gwybod pan gannai corn hanner dydd ei bod yn amser cinio. Yn wir roedd pawb ar wahan i\u2019r meddyg, y siopwyr, y gof, y publican a\u2019r ffermwyr yn yr ardal yn gweithio yn y chwarel, ac yr oedd eu bywoliaeth hwythau i raddau helaeth yn ddibynnol ar y Gwaith Mawr, heb anghofio am y gweinidog a\u2019r ficer. Ar y Sul a nosweithiau yr wythnos y byddai Capel a\u2019r dafarn yn brysur (ar un adeg tua 1890 roedd wyth ia wyth tafarn yn y pentref a\u2019r mwy poblogaidd oedd y Waterloo a oedd ar y ffordd allan o\u2019r pentref wrth Tyddyn Drain) gan y byddai oedfaon a chyfarfodydd yn cael eu cynnal sawl noswaith ar ol diwrnod caled o waith.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Byddai cymdogaeth glos a phawb yn adnabod eu gilydd yn y pentref yr adeg honno, ac er fod llawer o ddieithriaid wedi symud yma i fyw ers hynny deil disgunyddion y chwarelwyr yn y pentref o hyd a chofiant am hanesion am berthnasau a ffrindiau a gafodd ei lladd wrth eu gwaith. Un o\u2019r rhain oedd Robin Jones a gafodd ei ladd pan yn gweithio shift yn lle ei frawd er mwyn iddo gael mynd ar drip yr ysgol Sul gyda\u2019i wraig a\u2019i blant. Cofiant hefyd am Robert Roberts yn cael ei gario adref o\u2019r chwarel ar elor , dim ond pump oed oedd ei fab Hedd Wyn ar y pryd. Bu tad, taid a hen daid Lynda (ein hysgrifennyddes ar yCyngor Plwyfol Eglwysig) a fy nhad yng nghyfraith innau a\u2019i ewythyr yn chwarelwyr a chofiwm amdanynt yn cerdded filltiroedd i\u2019r gwaith drwy bob tywydd a sachau am eu pennau weithiau pan fyddai\u2019n glawio, am gyflog bycham iawn. Er eu tlodi fe lwyddon nhw i godi Capel y Babell, Capel Cwm Coryn a Capel Saron o\u2019u harian prin ac mae darn o dy dros ffordd i gapel y Babell wedi ei adeiadu o weddill y cerrig ithfaen oedd dros ben ar ol codi\u2019r Capel. Gwelir amryw o olion y defnydd a waned o gerrig y chwarel o amgylch y pentref hyd heddiw<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Pan ddaeth gwaith pennaf y chwareli i ben ym mhumpdegau y ganrif ddiwethaf. Bu son am gau yr ysgol hefyd o achos fod teuluoedd yn symud oddiyma i chwilio am waith. Aeth tri teulu o stad Maes Glas sef Bert Cox, Jim Kelly a Ned Owen, tua\u2019r un amser-stad o dim ond dwsin o dai. Yn y 1970au o dan arweiniad y Meddyg Carl Clowes bu ymgyrch frwd i gadw\u2019r ysgol yn agored yn llwyddiant ag aed ati i greu gwaith i bobol leol trwy ddechrau Antur Aelhaearn-sef menter busnes gydweithredol, ac mae\u2019r adeilad hwnnw wedi cael ei gymeyd drosodd bellach gan Gyngor Sir Gwynedd i hyfforddi pobol ifanc i wneud gwaith coed a metel a dysgu trin cyfrifiaduron.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Mae St Aelhaearn yn bwysig iawn i ni yn yr ardal, hon yw unig le swyddogol i gynnal gwasanaethau ar y Sul, ac yn fuan yr unig eglwys yn y plwwyf lle y gellid cynnal phriodasau a chrebrynnau. Daw pobol i addoli o ardal eang ac mae cynulleidfa dda yn bresennol bob Sul. Mae cryn dipyn ddefnydd ar gerrig o\u2019r chwarel wedi ei wneud o gwmpas yr eglwys.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Pwysig iawn yw gallu symud ymalen gyda\u2019r gwaith mwenol i sicrhau dyfodol ein heglwys. Daw llawer o ymwelwyr i weld carreg Aliortus ac yn wir yr eglwys gyfan.<\/p>\n<p dir=\"ltr\" align=\"left\">Morfudd Lloyd Jones<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu i&#8217;r pentref golli un o&#8217;i chonolfaeni wedi marwolaeth Morfudd Jones. Bu i Morfudd fod yn weithgar iawn yn ei chymuned dros y blynyddoedd ac yr ydym i gyd yn ddiolchgar iawn iddi am ei gwaith. Dyma enghreifftiau o&#8217;i gwaith &hellip; <a href=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/pobl\/morfudd-jones\/\">Parhau i ddarllen <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":164,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"sidebar-page.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-358","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/358","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=358"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/358\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1448,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/358\/revisions\/1448"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/164"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=358"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}