{"id":247,"date":"2012-02-25T19:33:21","date_gmt":"2012-02-25T19:33:21","guid":{"rendered":"http:\/\/dev.llanaelhaearn.com\/?page_id=247"},"modified":"2017-08-02T15:41:35","modified_gmt":"2017-08-02T14:41:35","slug":"hanes-yr-antur","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/llefydd\/antur-aelhaearn\/hanes-yr-antur\/","title":{"rendered":"Hanes yr Antur"},"content":{"rendered":"<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ganwyd Antur Aelhaearn allan \u00f4\u2019r frwydr i gadw Ysgol Gynradd Llanaelhaearn yn agored. Ym mis Medi 1970 daeth Carl Clowes yn feddyg teulu ifanc i&#8217;r pentref. Ar yr un pryd roedd pentrefi cefn gwlad yn wynebu yr un problemau, sef lleihad yn nifer disgyblion mewn ysgolion cynradd am fod rhy ychydig o bobl ifanc yn ymgartrefu yn yr ardaloedd. Gallai dau reswm fod yn gyfrifol am hyn:-<\/p>\n<ol>\n<li>Dim sicrwydd o waith neu yrfa leol<\/li>\n<li>Cyflenwad annigonol o dai<\/li>\n<\/ol>\n<p>Gorymdeithio trwy Caernarfon\u00a0i ddathlu y fuddigoliaeth<\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html -->\u00a0\u00a0 <!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><a href=\"http:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1616\" src=\"http:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2-300x189.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"189\" srcset=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2-300x189.jpg 300w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2-768x483.jpg 768w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2-477x300.jpg 477w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/Ysgol-2.jpg 960w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a>\u00a0<!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><a href=\"http:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1617\" src=\"http:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3-300x194.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"194\" srcset=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3-300x194.jpg 300w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3-768x497.jpg 768w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3-464x300.jpg 464w, https:\/\/llanaelhaearn.com\/wp-content\/uploads\/2012\/02\/ysgol-3.jpg 960w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><\/p>\n<p><!-- x-tinymce\/html --><!-- x-tinymce\/html --><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wedi ystyried hyn sylweddolwyd mai brwydr fechan a enillwyd drwy gadw\u2019r ysgol yn agored. Penderfynwyd sefydlu cymdeithas newydd i gymeryd yr awennau oddi ar y Gymdeithas Rieni ac i gario ei hymdrechion ymlaen. Enw\u2019r gymdeithas newydd oedd Cymdeithas y Pentrefwyr. Ei hamcen oedd i gesio datrys y problemau a wynebai\u2019r pentref ac yn fwy na dim ceisio sicrhau fod yr ardal yn fwy deiniadol i bobl ifanc aros a setlo yno. Rhai o\u2019r problemau yn wynebu\u2019r Gymdeithas newydd oedd tai Haf, rheolau\u2019r Pwyllgor Cynllunio a derbyniad teledu. Ia, roedd y pethau y ceisiwyd eu gwneud fel Cymdeithas y Pentrefwyr yn amrywol iawn. Yn ystod y cyfnod yma buddugoliaeth arall oedd llwyddo i gael rheithor newydd i eglwys hynafol Sant Aelhaearn. Tua diwedd 1974 roedd rheithor y plwyf, y Parchedig William Roberts, yn ymddeol. Rhaid cyfaddef nad oedd llawer o obaith cael rheithor newydd gan fod y plwyf yn denau ei phoblogaeth, y plwyf yn anghysbell ac, yn bwysicaf efallai, bod prinder offeiriaid yn gyffredinol. Aeth rhai o\u2019r plwyfolion i Fangor i roi yr achos gerbron yr Archddeacon ond ni ddeath hyn a llawer o obaith. Ysgrifennodd Carl Clowes at Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Gwilym O. Williams, gan bwysleisio\u2019r angen am gydbwysedd mewn unrhyw ddatblygiadau yn y gymdeithas. Yna yn gwbl annisgwyl death y newydd fod curad ifanc o Gaernarfon \u00e2 diddordeb mewn dod i\u2019r plwyf i wasanaethu. Bu cryn bwysau arno i aros yng Nghaernarfon a dringo\u2019r ysgol arferol yn lle dianc i blwyf diarffordd yng nghefn gwlad,(yr un pwysau proffesiynol a fu ar Carl Clowes cyn iddo ddod i bractis Llanaelhaearn). Er gwaethaf unrhyw bwysau daeth y Parchedig Idris Thomas, a oedd yn enedigol o Ddinorwig. yn offeriad i blwyf Llanaelhaearn yn Haf 1975. Yn wir cafwyd blas ar ei frwdfrydedd yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y plwyf pan drefnodd \u0175yl bentref yn seiliedig ar yr Eisteddfod a oedd eisioes ar y gorwel. Mae hyn yn enghraifft ymarferol o bwysigrwydd cadw ein swyddi allweddol yn y gymdeithas wledig. Yn anffodus ar yr un adeg death y newydd fod Capel y Babell yn colli y Parchedig Goronwy Prys Owen gan ei fod wedi derbyn gofalaeth yng Nghaernarfon. Yna cafwyd newydd tristach fyth \u2013 nid oedd gan aelodau Capel y Babell y modd araianol i benodi olynydd iddo. Ym 1973 rhaid oedd rhoi sylw unwaith eto i broblemau\u2019r ysgol. Dros cyfnod o flynyddoedd roedd ysgol Llanaelhaearn wedi wynebu nid yn unig leihad yn nifer ei disgyblion ond hefyd ddirywiad enbyd yng nghyflwr yr adeilad. Ni wariwyd nemor ddim ar baent ers blynyddoedd. Roedd T\u0177\u2019r Ysgol nid yn unig yn wag ond mewn cyflwr drwg. Cyfyngwyd ar ddalgylch yr ysgol ers rhai blynyddoedd a gyrrwyd disgyblion yn byw ar ymylon y dalgylch i ysgolion cyfagos. Gohirwyd hysbysebu swydd y prifathro sawl tro yn y gorffennol a rhoddwyd swydd i un a oedd i ymddeol mewn byr amser. Hynny yw, roedd cynllwyn a chynlluniau ar y gweill i gau\u2019r ysgol a hynny lawer blwyddyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad cyhoeddus. Ar ymddeoliad Miss Williams, y brifathrawes, yn 1974 ni fwriedid hysbysebu\u2019r swydd. Mynnai Cymdeithas y Pentrefwyr y dylid ei hysbysebu. Rhoddwyd dau reswm iddynt pam na ellid gwneud hynny.<\/p>\n<ol>\n<li>Roedd Mehefin (fel ag yr oedd erbyn hynny) yn rhy hwyr i hysbysebu am rywun i ddechrau y mis Medi dilynol, ac roedd gan y Pwyllgor Addysg rywun mewn golwg ar gyfer y swydd, beth bynnag. \u2013 Awgrym Cymdeithas Rhieni i\u2019r Pwyllgor Addysg oedd i lenwi\u2019r swydd dros dro, hyd nes y gallai unrhyw ddarpar-brifathro ddechrau ar y gwaith.<\/li>\n<li>Ni allai ysgol fechan fel hon, a chyn lleied o ddisgyblion, ennyn digon o ddiddordeb ymhlith ymgeiswyr. Credai\u2019r Gymdeithas Rieni yn wahanol a llwyddwyd i beri iddynt hysbysebu\u2019r swydd, ar \u00f4l cyn berswadio. Ymgeisiodd tri deg chwech am y swydd a phenodwyd John Roberts yn brifathro Ysgol Llanaelhaearn.<\/li>\n<\/ol>\n<h3>Poblogaeth y Plwyf<\/h3>\n<p>Rhwng 1961 a 1971 bu lleihad difrifol ym mhobolgaeth y plwyf.<\/p>\n<ul>\n<li>1921 &#8211; 1,543<\/li>\n<li>1931 &#8211; 1,654<\/li>\n<li>1951 &#8211; 1,323<\/li>\n<li>1961 &#8211; 1,242<\/li>\n<li>1971 &#8211; 1,059<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae dirywiad o\u2019r fath yn effeithio ar wasanaethau\u2019r ardal, fel cynnal siopau, y gwasanaeth bysiau, a\u2019r orsedd heddlu leol, y meddyg, gweinyddes, rheithor a gweinidog. Dibynna\u2019r rhain i gyd yn y pen draw ar boblogaeth, a rhaid cynnal honno ar lefel arbennig i\u2019w cyfiawnhau. Yn gynnar yn 1973 teimla rhai o\u2019r pentref nad oedd y Cymdeithas Pentrefwyr yn gwneud llawer o wahaniaeth i wir broblemau\u2019r pentref,(er iddynt lythyru\u2019n aml ar awdurdoau lleol) sef tai a gwaith. Pryd hynny nid oedd y Cyngor plwyf yn ystyried y pethau hyn yn rhan o\u2019i cyfrifoldeb chwaith. Tua\u2019r un adeg dechreuodd un neu ddau feddwl y buasent yn medru gwneud mwy i helpu eu hunain. Rhaid oedd cyd-weithio i ddatrys y problemau. Ond sut i ddechrau dyna oedd y cwestiwn. Ym 1970 bu i Carl Clowes ymweld \u00e2 Beanntrai yng nghorllewin Corc yn Iwerddon, a chan bod ganddo ddiddordeb erioed yn niwylliant y wlad honno, treuliodd ddiwrnod ar \u00d2ilean Cleire, ynys tua wyth milltir o Faltimor yn ne orllewin Corc. Yno roedd yr ynyswyr yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu eu hunain, fel gwerthu cynnyrch yr ynys. Efallai fod gwers yma i ardalwyr Llanaelhaearn. Ysgrifennodd Carl Clowes at Gael Linn yn Nulyn i holi pwy oedd yn gyfrifol am y datblygiad yno ac fe\u2019i rhoddwyd mewn cysylltiad \u00e2\u2019r Tad Tomas O\u2019Murchu ar yr ynys. Ar \u00f4l peth lythyru bu i ddau o Lanaelhaearn ymweld \u00e2\u2019r ynys, sef Carl Clowes ac Emrys Williams, cyn G\u0175yl y Pasg 1973. Buont yno am wythnos. Heb os cawsont eu hysbrydoli gan eu harosiad ar yr ynys, ac wedi gweld beth a allai cydweithredu ei wneud. Daethant yn \u00f4l a chynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn yr hen Neuadd Goffa ar \u00f4l G\u0175yl y Pasg 1973. Hysbyswyd y cyfarfod yn eang o gwmpas yr ardal. Amcan y cyfarfod oedd trafod y ffordd ymlaen i sicrhau dyfodol y pentref. Dewiswyd wyth o bobl i fod ar y Pwyllgor Llywio, a\u2019u bryd ar ystyried beth oedd y posibiliadau yn Llanaelhaearn. Cadawyd pethau yn hollol benagored yn nwylo\u2019r Pwyllgor. Aelodau\u2019r Pwyllgor cyntaf yna oedd, dan gadairyddiaeth y parchedig Goronwy Prys Owen, Emrys Williams, William Arthur Evans, |Gwenno Mai Jones, Joan Jones, Nyrs Laura Toffarides, William Knights a\u2019r Meddyg Carl Clowes. Cysylltiwyd yn gyntaf a Chymdeithas trefnu gwledig Cymru (y W. A. O. S. ) yn Aberystwyth, mudiad oedd yn rhoi cymorth i gymdeithasau cydweithreidiol amaethyddol yng Ngymru. Bu cyfarfod gyda swyddogion y Gymdeithas yngh\u0177d \u00e2 chyfrifydd lleol i drafod syniadau y Pwyllgor Llywio ymhellach. Aeth naw mis heibio cyn dod o hyd i gyfansoddiad oedd yn dderbyniol i gyfraith gwlad. Felly, ar Ionawr 1af 1974 fe\u2019u cofrestrwyd fel Cymdeithas Gyfeillgar Gyfyngedig yn unol a Deddf Cymdeithasau Diwydiannol a darbodus 1965. Ganwyd Antur Aelhaearn \u2013 Mudiad annibynnol ac amhlediol. Cofrestrwyd ei amcanion yn ffurfiol fel a ganlyn.<\/p>\n<ol>\n<li>I sicrhau a hyrwyddo bodolaeth Llanaelhaearn a\u2019i gyffiniau fel cymuned, ac yn arbennig i atal a gwrthdroi y duedd tuag at ddiboblogi.<\/li>\n<li>I ddarparu cyflogaeth yn yr ardal, ac i\u2019r diben hwn, i sefydlu neu ddenu unrhyw ddiwydiant, masnach neu fusnesion a oedd yn gydnaws \u00e2 chymeriad yr ardal.<\/li>\n<li>I ddarparu tai, cyfleusterau neu wasanaethau, pan fyddai eu hangen, a fyddai o fudd i\u2019r gymdeithas.<\/li>\n<li>Pan fyddai angen hwyluso\u2019r ffordd i gyflawni\u2019r uchod, i ddarparu unrhyw wasanaeth, masnach neu fusnes priodol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Aethwyd i bob t\u0177 ar y Gofrestr Etholaeth Llanaelhaearn i ennyn cefnogaeth, a rhanwyd pamffledi. Erbyn diwedd Chwefror 1974 roedd wyth deg o aelodau a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn festri Capel y Babell gyda\u2019r Br I. B. Griffith, Caernarfon wedi\u2019i wahodd i fod yn siaradwr gwadd. Gan ddyfynnu\u2019r adnod \u201c Yr oedd gan y bobl galon i weithio\u201d rhoddodd I. B. gychwyn swyddogol i Antur Aelhaearn. Roedd yna cryn cwestiynu y noson honno, ond bellach, nid oedd troi yn \u00f4l!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Ganwyd Antur Aelhaearn allan \u00f4\u2019r frwydr i gadw Ysgol Gynradd Llanaelhaearn yn agored. Ym mis Medi 1970 daeth Carl Clowes yn feddyg teulu ifanc i&#8217;r pentref. Ar yr un pryd roedd pentrefi cefn gwlad yn wynebu yr un problemau, &hellip; <a href=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/llefydd\/antur-aelhaearn\/hanes-yr-antur\/\">Parhau i ddarllen <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":244,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"sidebar-page.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-247","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=247"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1795,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/247\/revisions\/1795"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/244"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=247"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}