{"id":1959,"date":"2017-09-05T13:08:12","date_gmt":"2017-09-05T12:08:12","guid":{"rendered":"http:\/\/llanaelhaearn.com\/?page_id=1959\/"},"modified":"2017-09-05T13:37:35","modified_gmt":"2017-09-05T12:37:35","slug":"polisiau-y-cyngor","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/cyngor-cymuned-llanaelhaearn\/polisiau-y-cyngor\/","title":{"rendered":"Polisiau y Cyngor"},"content":{"rendered":"<p><strong>Polisi Iaith Cyngor Cymuned Llanaelhaearn<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li><strong><u> Amcanion sylfaenol <\/u><u>y Cyngor yw<\/u><\/strong><u><strong>\u00a0<\/strong><\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>1.1 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Hyrwyddo&#8217;r defnydd o Gymraeg ym mywyd ardal y Cyngor gan fad yn angor i&#8217;r iaith yn ei hadfywiad ledled Cymru.<\/p>\n<p>1.2 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Hyrwyddo&#8217;r defnydd o&#8217;r iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus eraill sy&#8217;n ymwneud a&#8217;r Cyngor a chefnogi a hyrwyddo defnyddio&#8217;r Gymraeg gan gyrff a busnesau sy&#8217;n darparu gwasanaethau i&#8217;r cyhoedd yn ardal y Cyngor Cymuned.<\/p>\n<p>1.3 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Sefydlu&#8217;r Gymraeg fel iaith swyddogol gweinyddiad mewnol y Cyngor.<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><strong> <u>Cyfarfodydd y Cyngor<\/u><\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd y Cyngor yn trafod materion yn ei gyfarfodydd trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Gall person nad ydyw yn siarad<\/p>\n<p>Cymraeg annerch y Cyngor yn y Saesneg, and bydd disgwyl iddynt ddarparu gwasanaeth cyfieithydd (ar eu cost euhunain) pe dymunant wrando ar drafodaethau&#8217;r Cyngor.<\/p>\n<p>Pe byddai ymwelwyr swyddogol i&#8217;r Cyngor yn cynrychioli corff neu fudiad yng Nghymru sydd a pholisi iaith gyfredol, yn yGymraeg y cynhelir y drafodaeth. Dylai&#8217;r Clerc hysbysu&#8217;r ymwelwyr o bolisi&#8217;r Cyngor ymlaen llaw. Petai&#8217;r corff yn dewisanfon cynrychiolydd nad yw&#8217;n siarad Cymraeg, cyfrifoldeb y Corff hwnnw yw sicrhau fad offer cyfieithu ar gael i&#8217;w ddefnyddio.<\/p>\n<p>Yn y Gymraeg y cedwir pob cofnod o drafodaeth y Cyngor. Ond os yw etholwr yn gofyn am gopi o&#8217;r cofnodion yn yr iaithSaesneg, yna gellir cyfieithu&#8217;r cofnod sydd dan sylw yn unig. Ni fydd y Cyngor yn darparu fersiynau Saesneg o&#8217;r cofnodionllawn. Petai aelodau di-Gymraeg yn cael eu hethol byddai&#8217;r sefyllfa&#8217;n cael ei esbonio iddynt.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><strong> Gohebiaeth ysgrifenedig<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>3.1 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Gall unrhyw un ohebu a&#8217;r Cyngor naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu&#8217;r Saesneg ac atebir pob gohebiaeth bersonol yn yr iaith y mae&#8217;n cael ei hanfon.<\/p>\n<p>3.2 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Bydd unrhyw ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbynnir oddi wrth gyrff stadudol yng Nghymru yn cael ei gydnabod ynGymraeg gan y Clerc gyda&#8217;r troad, neu mar fuan ag sy&#8217;n ymarferol, yn gofyn am fersiwn Gymraeg neu ddwyieithog o&#8217;r cyfryw lythyr ar fryder<\/p>\n<p>3.3 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Dylai pob gohebiaeth agoriadol fod yn Gymraeg. Dylid ysgrifennu at bob corff cyhoeddus, pob cyngor a chorff enwebedigsydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth Brydeinig trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>3.4 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Dymuniad y Cyngor yw gohebu yn Gymraeg ag unrhyw sefydliad arall neu unrhyw gwmni sydd a phencadlys yng Nghymru. Bydd y Cyngor yn ceisio gohebu a hwy yn Gymraeg cyn defnyddio\u2019r Saesneg. Nodir dymuniad y Cyngor i ohebu yn Gymraeg ar unrhyw ohebiaeth Saesneg.<\/p>\n<p>3.5\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Pan fyddwn yn defnyddio dwy neu ragor o ieithoedd, bydd blaenoriaeth bendant i&#8217;r Gymraeg. Os oes amheuaeth ynghylchcyfieithiad cymerir y fersiwn Cymraeg fel yr un cywir.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><strong> <u>Cyfarfodydd cyhoeddus<\/u><\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mewn cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan y Cyngor gall unrhyw un siarad naill ai yn y Cymraeg neu yn y Saesneg yn ol eu dymuniad. Ni fydd y Cyngor wedi darparu unrhyw wasanaeth cyfieithu os na chafwyd rhybudd priodol o leiaf wythnos cyny cyfarfod.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><strong> <u>Hysbysiadau cyhoeddus ac yn y Wasg<\/u><\/strong><strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Os bydd y Cyngor yn hysbysebu yn y wasg, bydd yr hysbysebion naill ai yn Gymraeg neu yn ddwyieithog, gydablaenoriaeth bendant i&#8217;r Gymraeg.<\/p>\n<ol start=\"6\">\n<li><strong> <u>Arwyddion a phosteri<\/u><\/strong><strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>6.1 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Bydd pob arwydd a godir gan y Cyngor, neu ar ei ran, naill ai yn Gymraeg neu&#8217;n ddwyieithog. Pan ymddengys y Gymraega&#8217;r Saesneg ynghyd byddant yn gyfartal o ran ffurf a bydd y Gymraeg naill ai uwchben y Saesneg neu os ydyw&#8217;r ddwy iaithyn gyfochrog, ar y chwith.<\/p>\n<p>6.2 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Bydd Posteri yn hysbysebu Cyfarfodydd Cyhoeddus ar ran y Cyngor i&#8217;w llunio yn Gymraeg, gyda thalfyriad o&#8217;r cynnwys yny Saesneg.<\/p>\n<ol start=\"7\">\n<li>Byddai&#8217;n ddymunol i unrhyw gytundeb ar ran y Cyngor fod yn y Gymraeg.<\/li>\n<li>Os bydd y Cyngor yn cyflogi unrhyw weithiwr, bydd y Gymraeg yn gymhwyster manteisiol.<\/li>\n<li>Bydd y Cyngor yn ddieithriad yn rhoi ystyriaeth i effeithiau ieithyddol a diwylliannol ar unrhyw gais cynllunio.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mabwysiadwyd yn llawn: 4ydd Medi 2017 . Bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn, neu ynghynt na hynny yn sgil rheoliadau newydd neu newid mewn deddfwriaeth. Bydd angen mwyafrif o ddeuparth o&#8217;r holl Gynghorwyr i newid y polisi<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Polisi Cyfryngau Cymdeithasol<\/strong>\u00a0 <strong>Cyngor Cymuned Llanaelhaearn<\/strong><\/p>\n<p><strong>Cyflwyniad<\/strong><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Mae chwyldro yn digwydd yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu. Mae\u2019r byd yn profi\u2019r newid mwyaf erioed yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei chreu a\u2019i pherchnogi, ynghyd \u00e2 pha mor gyflym y gellir ei rhannu. Mae hyn yn newid y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a hyd yn oed sut rydym yn siarad a meddwl.<\/p>\n<p>Mae cyfryngau cymdeithasol yn derm cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer nifer o arfau aml-gyfryngol ar-lein a ddefnyddir i greu cynnwys a chyfathrebu dwyffordd. Gellir cael mynediad atynt o\u2019ch ff\u00f4n clyfar, cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu deledu clyfar. Mae\u2019r holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim a gellir eu trefnu\u2019n gyflym a rhwydd o dudalen Rhyngrwyd.<\/p>\n<p><b><strong>Datganiad polisi <\/strong><\/b><\/p>\n<ul>\n<li><b>Pwrpas y polisi hwn yw helpu gweithwyr ac aelodau etholedig i wneud penderfyniadau priodol ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol megis gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, fforymau, byrddau negeseuon, blogiau neu sylwadau ar we-erthyglau, megis Twitter, Facebook a LinkedIn.<\/b><\/li>\n<li><b>Mae\u2019r polisi hwn yn amlinellu\u2019r safonau y mae\u2019r Cyngor yn disgwyl i weithwyr ac aelodau etholedig eu cadw wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, o dan ba amgylchiadau y caiff eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol ei fonitro a\u2019r camau a gymerir os gwelir fod amodau\u2019r polisi wedi cael eu torri.<\/b>\u00a0<strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<li><b><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p><b><strong>Cwmpas y polisi <\/strong><\/b><\/p>\n<ul>\n<li><b>Mae disgwyl i bob gweithiwr ac aelod etholedig gydymffurfio \u00e2\u2019r polisi hwn yn ddiwah\u00e2n i warchod preifatrwydd, cyfrinachedd a buddiannau\u2019r Cyngor.<\/b><\/li>\n<li><b>Os yw gweithwyr yn torri amodau\u2019r polisi hwn gellir ymdrin \u00e2 hynny o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu ac mewn achosion difrifol gallai gael ei ystyried yn gamymddwyn difrifol yn arwain at ddiswyddiad diannod.<\/b><\/li>\n<li><b>Os yw aelodau etholedig yn torri amodau\u2019r polisi hwn ymdrinnir \u00e2 hynny yn unol \u00e2\u2019r Cod Ymddygiad.<\/b><\/li>\n<li><b><strong>Cyfrifoldeb am weithredu\u2019r polisi<\/strong><\/b><\/li>\n<li><b>Gan y Cyngor y mae\u2019r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau gweithrediad effeithiol y polisi hwn.<\/b><b>Mae\u2019r Clerc yn gyfrifol am fonitro ac adolygu gweithrediad y polisi hwn ac am wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i leihau\u2019r risgiau i\u2019n gwaith.<\/b><\/li>\n<li><b>Dylai pob gweithiwr ac aelod etholedig sicrhau eu bod yn cymryd yr amser i ddarllen a deall y polisi hwn. Dylai unrhyw enghreifftiau o dorri amodau\u2019r polisi hwn gael eu hysbysu i Glerc neu Gadeirydd y Cyngor.<\/b><\/li>\n<li>Dylai cwestiynau am gynnwys neu weithredu\u2019r polisi hwn gael eu cyfeirio at y Clerc. \u00a0<strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<li><b><b>\u00a0<strong>Defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn enw\u2019r cyngor<\/strong><\/b><\/b>\n<ol>\n<li>Caniateir i\u2019r holl staff\/y Clerc (dile\u00ebr yn \u00f4l y gofyn) ac aelodau etholedig bostio deunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol yn enw\u2019r Cyngor ac ar ei ran yn unol \u00e2 rheolau a chwmpas y polisi hwn.<\/li>\n<li>Os nad ydych yn sicr a yw eich sylwadau yn briodol peidiwch \u00e2\u2019u postio cyn gwirio hynny gyda\u2019r Clerc\/Cadeirydd.<\/li>\n<li>\u00a0<strong>\u00a0<\/strong><b><b><strong>Defnyddio cyfryngau cymdeithasol<\/strong><\/b><\/b>\n<ol>\n<li>Mae\u2019r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y rhyngrwyd wrth ddylanwadu ar y ffordd y mae\u2019r cyhoedd yn meddwl am y Cyngor a\u2019r gefnogaeth a\u2019r gwasanaethau mae\u2019n eu darparu i\u2019r gymuned. Mae\u2019n cydnabod hefyd pa mor bwysig ydyw fod ein gweithwyr ac aelodau etholedig yn ymuno yn hynny o beth ac yn helpu meithrin sgwrs gymunedol a\u2019r cyfeiriad a gymer trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.\u00a0<strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<li>Cyn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar unrhyw fater allai effeithio buddiannau\u2019r Cyngor mae\u2019n bwysig eich bod wedi darllen a deall y polisi hwn<\/li>\n<li>a<\/li>\n<li>Bod gweithwyr wedi cael caniat\u00e2d ysgrifenedig ymlaen llaw i wneud hynny gan y Clerc<\/li>\n<\/ol>\n<\/li>\n<\/ol>\n<\/li>\n<li><b><\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Rheolau ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol<\/strong><\/p>\n<p>Pryd bynnag y caniateir ichi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unol \u00e2\u2019r polisi hwn, mae\u2019n rhaid ichi gadw at y rheolau cyffredinol canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><b>\u00a0Peidiwch ag uwchlwytho, postio na danfon ymlaen ddolen at unrhyw gynnwys anweddus, ffiaidd, wahaniaethol, aflonyddus, bychanol neu ddifenwol.<\/b><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>\u00a0Dylai unrhyw weithiwr\/aelod etholedig sy\u2019n teimlo y cawsant eu haflonyddu neu fwl\u00efo, neu a dramgwyddwyd gan ddeunydd a bostiwyd neu a uwch lwythwyd gan gydweithiwr ar wefan cyfryngau cymdeithasol, roi gwybod i\u2019r Clerc\/Cadeirydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Peidiwch byth \u00e2 datgelu gwybodaeth fasnachol sensitif, bersonol, breifat neu gyfrinachol. Os nad ydych yn si\u0175r a yw\u2019r wybodaeth yr hoffech ei rhannu yn perthyn i un o\u2019r categor\u00efau hyn, dylech drafod hynny gyda\u2019r Clerc\/Cadeirydd..<\/p>\n<ul>\n<li><b>Peidiwch \u00e2 llwytho, postio na danfon ymlaen unrhyw gynnwys sy\u2019n eiddo i drydydd parti onid oes gennych gydsyniad y trydydd parti dan sylw.<\/b><\/li>\n<li>\u00a0Cyn ichi gynnwys dolen i wefan trydydd parti, gwiriwch fod amodau a thelerau\u2019r wefan honno yn caniat\u00e1u ichi wneud dolen iddi.<\/li>\n<li>\u00a0Wrth ddefnyddio unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol, mae\u2019n rhaid ichi ddarllen a chydymffurfio ag amodau ei ddefnyddio.<\/li>\n<li>Byddwch yn onest ac agored, ond byddwch yn ystyriol o\u2019r effaith y gallai eich cyfraniadau ei chael ar ganfyddiadau pobl o\u2019r Cyngor.<strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<li><b>\u00a0Rydych yn bersonol gyfrifol am gynnwys a gyhoeddwch ar declynnau <\/b>cyfryngau cymdeithasol.<\/li>\n<li><b>Peidiwch \u00e2 dwys\u00e1u trafodaethau tanbaid, ceisiwch fod yn gymodlon <\/b><\/li>\n<li>barchus a chyfeiriwch at ffeithiau er mwyn gwneud y trafod yn llai blin a<b>\u00a0chywiro anwireddau.<\/b><\/li>\n<li><b>Peidiwch \u00e2 thrafod cydweithwyr heb gael eu cydsyniad ymlaen llaw.<\/b><\/li>\n<li>Dylech bob tro ystyried preifatrwydd pobl eraill a pheidiwch a thrafod materion allai fod yn ymfflamychol e.e. gwleidyddiaeth a chrefydd. Cofiwch, er ei body n dderbyniol gwneud pwyntiau gwleidyddol neu ganfasio am bleidleisiau trwy eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hunain, na fydd hynny\u2019n dderbyniol os ydych yn cynnig barn ar ran y Cyngor<\/li>\n<li>\u00a0Peidiwch \u00e2 chyhoeddi eich manylion cyswllt os all pobl nad oeddech yn\u00a0bwriadu iddynt eu gweld gael gafael arnynt a gwneud defnydd helaeth ohonynt, a pheidiwch byth a chyhoeddi manylion cyswllt unrhyw un arall..<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Monitro\u2019r defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Dylai gweithwyr ac aelodau etholedig fod yn ymwybodol y gall unrhyw ddefnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol (os ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion y Cyngor ai peidio) gael ei fonitro a, phan ddarganfyddir enghreifftiau o dorri\u2019r polisi hwn, y gellir cymryd camau yn erbyn gweithwyr o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu a chynghorwyr o dan y Cod Ymddygiad.<\/li>\n<li>Mewn rhai amgylchiadau, gall camddefnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol, fod yn drosedd droseddol neu gall roi bod i rwymedigaeth gyfreithiol yn eich erbyn chi a\u2019r Cyngor.<\/li>\n<li>Yn benodol, mae\u2019n debyg y bydd achos difrifol o uwch lwytho, postio, danfon ymlaen neu bostio dolen at unrhyw un o\u2019r mathau canlynol o ddeunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol, boed yn broffesiynol neu\u2019n bersonol, yn gyfystyr \u00e2 chamymddwyn difrifol\/torri amodau\u2019r Cod Ymddygiad (nid yw\u2019r rhestr hon yn hollgynhwysol):-<strong>\u00a0<\/strong><\/li>\n<li>deunydd pornograffig (hynny yw, ysgrifennu, lluniau, ffilmiau a chlipiau fideo o natur amlwg rywiol neu rywiol gynhyrfol);<\/li>\n<li>datganiad anwir neu ddifenwol am unrhyw berson neu sefydliad;<\/li>\n<li>deunydd sy\u2019n dramgwyddus, ffiaidd, troseddol, gwahaniaethol, bychanol neu allai beri embaras i\u2019r Cyngor, ein cynghorwyr neu ein gweithwyr;<\/li>\n<li>gwybodaeth gyfrinachol am y Cyngor neu unrhyw un arall;<\/li>\n<li>unrhyw ddatganiad arall sy\u2019n debygol o greu unrhyw gyfrifoldeb (boed droseddol neu sifil, boed ichi neu\u2019r sefydliad); neu<\/li>\n<li>ddeunydd sy\u2019n torri hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill, neu sy\u2019n tarfu ar breifatrwydd unrhyw berson.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Eir i\u2019r afael ag unrhyw weithredu o\u2019r fath o dan y Weithdrefn Ddisgyblu\/Cod Ymddygiad.<\/p>\n<p>Pan ddarganfyddir tystiolaeth o gamddefnyddio gall y Cyngor gynnal ymchwiliad manylach fyddai\u2019n cynnwys archwilio a datgelu cofnodion monitro i\u2019r sawl a enwebwyd i gynnal yr ymchwiliad ac unrhyw dystion neu reolwyr sy\u2019n rhan o\u2019r ymchwiliad. Os oes angen, gellir rhoi gwybodaeth o\u2019r fath i\u2019r heddlu fel rhan o ymchwiliad troseddol.<\/p>\n<p><i>Os sylwch fod unrhyw ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gan weithwyr eraill\/aelodau etholedig yn torri\u2019r polisi hwn dylech roi gwybod i\u2019r Clerc\/Cadeirydd <em>yn unol \u00e2 Pholisi Chwythu\u2019r Chwiban y Cyngor.<\/em><\/i><\/p>\n<p><b><strong>Monitro ac adolygu\u2019r polisi<\/strong><\/b><\/p>\n<p><b>Bydd y Cyngor yn gyfrifol am adolygu\u2019r polisi hwn bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion cymdeithasol ac yn adlewyrchu arfer gorau.Mabwysiadwyd yn llawn 4 Medi 2017.\u00a0\u00a0\u00a0<\/b><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Polisi Iaith Cyngor Cymuned Llanaelhaearn Amcanion sylfaenol y Cyngor yw\u00a0 1.1 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Hyrwyddo&#8217;r defnydd o Gymraeg ym mywyd ardal y Cyngor gan fad yn angor i&#8217;r iaith yn ei hadfywiad ledled Cymru. 1.2 \u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Hyrwyddo&#8217;r defnydd o&#8217;r iaith Gymraeg gan &hellip; <a href=\"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/cyngor-cymuned-llanaelhaearn\/polisiau-y-cyngor\/\">Parhau i ddarllen <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":277,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1959","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1959","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1959"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1959\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1965,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1959\/revisions\/1965"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/277"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanaelhaearn.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1959"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}